# Rwsia

# Rwsia


Samuel Jones

Pan ymwelais â Rwsia am y tro cyntaf yn 2013, roedd newidiadau mawr ar droed. Y flwyddyn honno y dechreuodd y Cremlin hyrwyddo’n agored ideoleg geidwadol, Gristnogol ac wrth-Ewropeaidd a fyddai, cyn hir, yn lledu fel pla drwy’r Gorllewin. Tan hynny, credwn mai…

# Rwsia


Ned Thomas

Meta-stori sydd gen i, sef hanes y ffordd yr adroddir y stori: stori Gareth Jones yn Rwsia ac Wcráin. Bydd llawer wedi clywed, yn fras o leiaf, am y newyddiadurwr ifanc a mentrus o Gymro a fu’n llygad-dyst i newyn mawr Sofietaidd…

# Rwsia


Ned Thomas

'Mae gen i dri chartref,' meddai Sfetlana Aliecsiefits yn ei darlith adeg derbyn Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 2015, 'tir Belarws, sef tir fy nhad, lle bûm yn byw gydol fy oes; yr Wcráin, gwlad fy mam, lle'm ganwyd, a'r diwylliant mawr Rwsiaidd, na fedraf ddychmygu…

# Rwsia


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

# Rwsia


David Elwyn Lewis

Ar fore gwlyb a thywyll ddiwedd mis Hydref ym 1964 eisteddai'r bachgen 10 oed mewn caffi di-nod nepell o Orsaf Fictoria, Llundain. Arhosai'n eiddgar gyda'i rieni am frecwast; wedi taith dros nos o Gymru roedd y bachgen yn flinedig ac anniddig. Nid dyma'r…

# Rwsia


Wiliam Owen Roberts

Yn aml iawn, dw i’n edrych ar wledydd eraill fel Catalwnia, Slofenia neu wledydd y Baltig ac yn gofyn i mi fy hun: pam nad oes yna fwy o’r ysbryd herfeiddiol yna yng Nghymru heddiw? Mae hyd yn oed yr Alban yn bell ar…

# Rwsia


Anton Tshechof

Mae pobl ddiwylliedig yn parchu personoliaeth person ac felly maent yn garedig bob amser. Os ydynt wedi cwblhau rhyw waith gwerth chweil nid ydynt yn strytian fel petaent wedi cyflawni gwyrthiau. Nid ydynt yn yfed fodca o geg y botel ddydd a nos.

# Rwsia


Anton Tshechof, cyf. W J Rees

Ac yntau'n eistedd wrth ochr gwraig ifanc a edrychai mor brydferth yng nglas y dydd [...] meddyliodd Gwrof fod popeth yn y byd, o’i ystyried, yn hanfodol hardd; popeth ar wahân i'r hyn a feddyliwn ac a wnawn pan anghofiwn am amcanion uwch ein…

# Rwsia


Sam Jones

Ni fûm erioed mewn dinas sy’n dathlu ei hetifeddiaeth lenyddol gymaint â Sant Peterbwrg. Yn yr ardal o gwmpas Sgwâr Senaia, ble mae 'Trosedd a Chosb' wedi’i lleoli, mae yna ddelw o Dostoiefsci a’r geiriau Cartref Rascolnicoff yn troi ffuglen yn realiti.