Cyfweld

Agor y Meddwl Cymreig

yng ngŵyl lenyddol Machynlleth

Simon Brooks, Elin Haf Gruffydd Jones, Huw L Williams
17·04·2023

Beth yw'r meddwl Cymreig? A oes perygl heddiw i ddealltwriaeth Gymraeg o'r byd gael ei cholli? Dau hanesydd syniadau fu'n trafod ein traddodiadau deallusol yng ngŵyl lenyddol Machynlleth fis Ebrill 2023.
 

*

Mae Simon Brooks yn hanesydd diwylliannol sydd yn arbenigo yn hanes syniadau y diwylliant Cymraeg. Mae ei gyfrolau'n cynnwys Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg (2015) a Hanes Cymry (2021), sef hanes amrywiaeth ethnig oddi mewn i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Ar hyn o bryd, mae'n llunio cyfrol am y gymdeithas Gymraeg ei hiaith yn Lloegr, gyda phwyslais ar yr ail genhedlaeth. Ef hefyd yw cadeirydd presennol Comisiwn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones wedi gweithio ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop ers tri degawd gan arbenigo ym maes y cyfryngau, y sectorau creadigol a diwylliannol, cyfieithu, polisi a chynllunio ieithyddol. Hi yw pennaeth Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Mae Huw L Williams yn Ddeon y Gymraeg ac yn Ddarllenydd mewn Athroniaeth a Darlithydd Cysylltiol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd i'r golofn 'Socrates ar y stryd' yng nghylchgrawn llyfrau Cymru, O'r Pedwar Gwynt. Mae â diddordeb arbennig mewn syniadaeth radical ac egalitaraidd, yn arbennig diwylliant ymgyrchu a phrotest. Mae ei waith ymchwil yn cwmpasu cyfiawnder byd-eang a damcaniaeth wleidyddol ryngwladol yn ogystal â hanes deallusol Cymru a'i thraddodiadau deallusol blaengar. 

Digwyddiad a drefnwyd gan Ŵyl Lenyddol Machynlleth ac a recordiwyd yn fyw ar ddydd Sadwrn, 1 Ebrill 2023 yn y Senedd-dy, Heol Maengwyn, Machynlleth. Trefnwyd mewn partneriaeth ag O'r Pedwar Gwynt a gyda chefnogaeth Gwasg Prifysgol Cymru.

Pynciau:

#Simon Brooks
#Huw L Williams
#Elin Haf Gruffydd Jones