Cyfweld

‘Dim byd hyll, dim byd ffals’

Holi Ariane Mnouchkine

Amser darllen: 20 munud

31·03·2025

Ariane Mnouchkine (Llun: Archif y Théâtre du Soleil)
 

Mae Ariane Mnouchkine (1939–) yn un o ffigurau mwyaf eiconig y theatr yn fyd-eang. Yn sefydlydd y Théâtre du Soleil, ar gyrion Paris, sydd wedi ei chartrefu, yn addas iawn, mewn hen ffatri arfau, mae hi’n parhau wrth y llyw drigain mlynedd yn ddiweddarach, a hithau bellach yn ei hwythdegau. Bu ymrwymiad y theatr hon i egwyddorion yn amlwg ers y dechrau: cafwyd ympryd hir dros Bosnia ac yn erbyn methiant Ffrainc i ymyrryd yn y gyflafan yno; rhoddwyd llety i bron i bedwar cant o fewnfudwyr heb bapurau, yn bennaf o Mali; a’r llynedd, symudodd y theatr i’r Wcráin am gyfnod er mwyn gweithio gydag actorion ifanc. Mae’r creadigaethau theatrig sy’n dod yn fyw yn y Cartoucherie – gweithdy anferthol a threfnus y diwrnod rydw i’n ymweld – yn ddim llai nag epig ac yn ymdrin â delfrydau yn gymaint â chwestiynau brys, megis ymfudo. Fel yn y sioe, ‘Stop Olaf y Garafán’ (2003), oedd yn tynnu dros gant a hanner o gymeriadau ynghyd i ddramateiddio profiad ffoaduriaid. Afraid dweud nad oes ofn ei chysgod ar Mnouchkine. Ond nid ideoleg sydd dan sylw. Pan gyfeddiannwyd Crimea gan Rwsia yn 2014, ei hymateb oedd llwyfannu Macbeth. Ac meddai: ‘Er mwyn ymdeimlo â’r byd heddiw, ni ddylid gosod Das Kapital, y Coran na’r Beibl rhwng bywyd a dyn.’ Ac yn yr un modd, a hithau’n Iddewes, wrth gael ei holi y llynedd am ryfel Israel a Phalesteina, meddai, ‘A oes rhaid bod yn unllygeidiog er mwyn plesio tylwyth?’

Mae eistedd fan hyn yn eich cwmni, yng nghantîn y Théâtre du Soleil, yn gwneud i mi feddwl am rywbeth cofiadwy a ddwedsoch chi unwaith ynghylch y foment yr agorir drysau’r theatr – moment yr ydych yn bresennol iawn ynddi, rhaid nodi, achos rydw i wedi eich gweld yn rhwygo tocynnau â’ch dwylo eich hun fwy nag unwaith. I fynd yn ôl at y ddelwedd a arhosodd yn fy nghof, roeddech chi’n cyfleu’r darlun symetrig hwn: o’r actorion ar y naill law yn gwisgo eu masgiau a’r cyhoedd ar y llaw arall yn diosg eu masgiau hwythau, wrth gamu dros y trothwy. Ai dyna pam mae pryd o fwyd cyn dechrau pob pefformiad yn sylfaenol i’ch gweledigaeth, er mwyn ysgogi’r cyhoedd i wneud hyn, er mwyn eu cynorthwyo i baratoi at y foment theatrig?

Dyna pam rydym yn eu croesawu fel hyn, fel bod gan y cyhoedd yr amser sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd yma o ddifri. Mae theatr yn rhywbeth penodol iawn. Nid dod yma i brynu perfformiad y mae pobl. Tydyn nhw ddim yn teimlo fel cwsmeriaid o gwbl. Maen nhw’n dod i gymryd rhan mewn seremoni, sef y sioe. Ac er mwyn hynny, mae angen amser arnynt, y creaduriaid, amser i anadlu, i ddeall bod modd iddynt roi eu ffydd ynom, sy’n hynod bwysig, ac amser iddyn nhw sgwrsio ymysg ei gilydd. Wrth osod byrddau i’w rhannu, mae’n golygu eu bod, fan lleiaf, yn cyfarch ei gilydd. Mae’r awr, awr a hanner yma, cyn dechrau’r sioe, yn hynod bwysig. 

Dyma’r gwrthwyneb i’r hyn sy’n digwydd y tu allan i’ch theatr – mae pobl wedi mynd yn ddrwgdybus iawn o’i gilydd, a phrin bod gan ffrindiau hyd yn oed yr amser i rannu pryd o fwyd. Mae’r byd Gorllewinol wedi newid gymaint, hyd yn oed ers fy mhlentyndod i. Anaml y byddwn â digon o hyder yn ein gilydd i dynnu ein masgiau. Dwi’n cofio pan ddes i yma i’r theatr y tro diwethaf, i weld eich cynhyrchiad diweddaraf, ‘Yma Mae’r Dreigiau – y cyfnod cyntaf, 1917; roedd buddugoliaeth o fewn ein gafael (sioe fawr boblogaidd wedi ei hysbrydoli gan ffeithiau go-iawn)’, roedd y plant efo fi a dyma nhw’n dweud, ‘Bwyd go-iawn sydd fan hyn,’ Mae’n wir dweud mai bwyd y Théâtre du Soleil ydi fy hoff bryd bwyd. Ac mae’n cyd-fynd â’r sioe, er enghraifft bortsch gawson ni y tro diwethaf, bwyd Siapaneaidd y tro cyn hynny, adeg y sioe ‘Yr Ynys Aur’. Ac ar ben hynny, mae pob un ohonoch yn troi eich llaw at bob tasg yn ei thro, gan gynnwys gwasanaethu bwyd a glanhau’r tai bach.

Mae hynna’n wir, mai bwyd go-iawn sydd yma. A dyna pam mai bwydlen heb ddewis ydi hi. Byddai tu hwnt i’n gallu i gynnig dewis o brydau wedi eu paratoi’n dda. Ond nid hyn sy’n abnormal, yr hyn rydych yn ei ddisgrifio fel y realiti y tu allan i’r theatr sy’n abnormal. Rydw i’n dyfynnu Meyerhold bob amser: dylai fod modd i ni gerdded i mewn i theatr fel petaem yn camu i balas rhyfeddodau. Roedd Meyerhold yn feddyliwr mawr, nid dyn syrcas mohono. Y fo sy’n dweud hyn a dwi’n gwybod yn union beth sydd ganddo: dylai fod modd i ni gerdded i  mewn i theatr fel petaem yn cerdded i balas rhyfeddodau dyn. Yn sylfaenol, dylai roi i ni y teimlad, yr awydd am gymdeithas dyn.

Gallem feddwl mai iwtopia yw hyn.

Gallem, ond nid iwtopia mohono mewn gwirionedd oherwydd mae’n brofiad byw. Mae’n wir bod ein hymateb i’r cysyniad o iwtopia wedi mynd yn un amwys iawn oherwydd – Duw a’n gwaredo – mae wedi arwain at ganlyniadau drwg iawn. Ond yn sylfaenol, dyma’n union ydi iwtopia, delfryd nad ydi hi eto wedi ei gwireddu.

Felly nid yr ysbryd chwyldroadol sydd dan sylw? 

Na. Nid delfryd mo chwyldro. Mae chwyldro i fod yn gyfrwng i ymgyrraedd at rywbeth. Rhaid i chwyldro ddod i stop cyn iddo gamu i dir perffeithio hapusrwydd, meddai Camille Desmoulins. Dwi’n meddwl mai geiriau Camille Desmoulins ydi’r rheina. Fallai ddim. Does ots am y tro. Ond gwyddom yn rhy dda fod perffeithio hapusrwydd fel arfer yn perthyn i faes gormes. Felly, na, dim o hynna: rhaid bod â’r hyder i deimlo’n ffordd, i fynd yn ein blaenau’n araf bach. 

Bod â’r hyder i fynd gam wrth gam, felly, mewn ysbryd o gyfaddawd?

Fel y dywedodd Jaurès, chaiff dynoliaeth mo’i hachub gan oleuad sydyn. Dyma fo’r dyfyniad o’r ddrama [‘Yma Mae’r Dreigiau’]: ‘Ni all grymoedd daioni, grymoedd doethineb, goleuni a chyfiawnder wneud heb gymorth amser, oherwydd ni chaiff noson o gaethiwed ac anwybodaeth ei gwared gan oleuad llwyr a sydyn; caiff ei lleddfu yn unig, gan wawr ansicr sy’n torri’n gyfres araf.’

Mae’n gwneud i mi feddwl am heddiw, a’r ffaith ein bod bron iawn yn derbyn ein bod yn byw ar drothwy apocalyps. Mae’r apocalyps fel petai’n ffordd o ganiatáu popeth. 

Wyddoch chi beth ydi ystyr gwreiddiol apocalyps?

Gwn yn iawn, achos Groegwr ydi fy ngŵr.

Datguddiad ydi ystyr gwreiddiol apocalyps, ond rydym wedi mynd i’r arfer o’i ddehongli fel cataclysm. Nid dyna ydi apocalyps, mewn gwirionedd. Mae’n ddiwedd y byd ond mae’n ddiwedd sy’n datguddio. Ac yn anffodus, ar hyn o bryd, rydym ymhell o fod mewn byd apocalyptaidd yng ngwir ystyr y gair; rydym mewn byd trychinebus. Dyna sy’n ddychrynllyd a dwi ddim yn barod i’w dderbyn. 

Ond tybed a ydi gwleidyddion fel Trump yn defnyddio rhethreg yr apocalyps, nid yn ei ystyr gwreiddiol ond yn yr ystyr o dryblith, er mwyn... 

Tydi Trump ddim yn arfer unrhyw rethreg! Anhrefn ydi ei arf. Ignoramus gwyrdroedig ydi o, unigolyn hunan-ganolog, sy’n defnyddio tryblith er mwyn ei amcanion maffiaidd ei hun. Mae fel un o gymeriadau Coppola. Mae hynny i’w weld yn yr olygfa yna sydd wedi llorio’r byd yn gyfan, y cyfarfod efo Selensci. Roedd gan Trump o’i flaen wron, rhyfelwr go-iawn, gwladweinydd go-iawn, yn ei barlwr ffrynt. Nid Selensci a gafodd ei fychanu gan Trump ond hanner poblogaeth yr Unol Daleithiau, o weld eu harlywydd yn ymarweddu fel yna. Cymeriad o fyd Coppola, y parrain efo’i gynllwyniwr, Vance. Melltith. Wn i ddim pa dduw wnaeth orfodi’r olygfa annirnadwy hon arnom.

A’r cyfan ar hyn o bryd yn digwydd ar y fath gyflymder...

Wel, mi gawsom wyth mlynedd i baratoi hefyd. Mae’r ffaith i Trump allu dychwelyd ar ôl y cyfan a wnaeth, ar ôl digwyddiadau 6 Ionawr, wedi iddo fygwth democratiaeth America, dyna sydd nid yn unig yn anodd i’w dderbyn ond i’w ddirnad. Rhaid i ni ddeall sut y digwyddodd hynny i sicrhau na ddigwyddith eto. 

Ai dyna eich gwaith chi fel theatr? Ceisio deall y cwestiynau hyn?

Ie, dwi o’r farn bod theatr yn cynnwys popeth. Holl hanes y ddynoliaeth. Wedyn, rhaid dewis ar sail yr hyn sy’n teimlo’n iawn i ni. Ond ie, yn fy marn i, y ddynoliaeth, y byd, ydi theatr.
 

‘Yr Ynys Aur’ yn y Théâtre du Soleil, Tachwedd 2021 (Llun: Michele Laurent / Théâtre du Soleil)


Rydw i’n gallu gweld bod prydferthwch i chi yn sail i bopeth. Ac mae’r sioeau rydych yn eu creu yn greadigaethau esthetaidd rhyfeddol, a phob un elfen wedi ei gwneud â llaw, ac o ddim, gan gynnwys y gerddoriaeth.

Ydi, oherwydd pan fyddwn yn mynd gerbron y cyhoedd, nid dim ond siarad â phobl ddysgedig y byddwn. Rydym yn rhoi ein hunain gerbron pobl sy’n dod i’r theatr oherwydd eu bod yn mwynhau theatr. Ein gwaith ni ydi cyflwyno iddynt emosiynau treiddgar sy’n goleuo, nid rhai sy’n eu drysu. Er mwyn hynny, mae prydferthwch yn anhepgor. Am hagrwch, wel, rydw i’n ceisio ei osgoi, yn arbennig felly os mai hagrwch ei hun sydd dan sylw. Pan fyddwch yn adrodd stori am gymeriad y mae ei enaid yn hagr, rhaid i’r stori fedru cyffwrdd eneidiau normal, fel y rhai sydd yn y gynulleidfa fan hyn, a rhaid felly roi ffurf iddo. Ond nid trwy ychwanegu hagrwch at hagrwch y mae trin yr hyn sydd hyll. Mynegi fy marn ydw i, ac mae yna bobl sy’n meddwl ac yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr, ond nid dyna sydd o ddiddordeb i mi, nid dyna fy ffordd. Ar y pwnc hwn, rydw i’n mynd yn groes i lawer o artistiaid, sydd am ddangos hagrwch trwy gyfrwng hagrwch. Ond dwi o’r farn mai ychwanegu at yr aflwydd a wna hynny. Tydi o ddim yn cynnig ateb ymarferol i mi er mwyn brwydro’n erbyn hagrwch.

Ac felly, beth am y berthynas rhwng prydferthwch a pherffeithrwydd, a’r cysegredig hefyd? Mi wnaeth ‘Yr Ynys Aur’ y berthynas hon yn arbennig o fyw i mi.

Mae’n berthynas, ydi. Ac ydi, mae’r cysegredig yn bresennol. Mae yna elfen ohono yn codi mewn theatr ar ryw bwynt. Mae yna rywbeth cysegredig yn perthyn i gelfyddyd. Bodau dynol sy’n creu ydi artistiaid, sy’n derbyn neges o rywle. I rai, duw ydi o, i eraill, ysbryd, i eraill eto, cariad, cariad dynol, cariad at gyd-ddyn, tosturi. Does fawr o ots gen i o ble daw. Yr hyn sy’n bwysig i mi ydi yr hyn y llwyddir i’w greu efo hynna; hynny ydi, yr hyn a roddir i mi o safbwynt emosiwn adfywiol, emosiwn sy’n fy ngwneud yn fwy, yn ddynol mewn ffordd fwy dwys, i garu bywyd mewn ffordd fwy dwys, i garu pobl hefyd. 

Gras ydi o, fallai? Achos does dim modd jyst penderfynu heddiw, reit, dwi’n mynd i ddal prydferthwch...

Na, fedrwn ni ddim penderfynu ei ddal fel yna, ond rhaid chwilio amdano yr un fath, fel arall wnawn ni ddim dod o hyd iddo. Ydech, rydych yn gywir, yn enwedig wrth wneud y geste yma o afael mewn rhywbeth a’i wasgu. Rydw i’n aml yn dweud: Arhoswch, peidiwch â mygu’r deryn. Oherwydd mae modd lladd aderyn wrth ei ddal yn rhy dynn, ac mae fel yna hefyd efo prydferthwch, rydych yn llygad eich lle. Ni ddylid ei ddal yn rhy dynn, ond rhaid mynd ar ei ôl yr un fath. Fel mae’r hwn sydd mewn cariad yn mynd ar drywydd gwrthrych ei serch... mi welwch chi beth sydd gen i! Fy hun, dwi’n meddwl bod artistiaid yn hela prydferthwch. Ond, yn wir, wrth ei hela, rhaid iddynt fod yn ofalus i beidio â’i ddinistrio.

Mae hynna’n gwneud i mi feddwl am y plant yn dod adref o’r ysgol ac yn sôn fod yr athrawon llenyddiaeth yn aml yn gofyn iddyn nhw egluro beth ydi neges rhyw destun neu’i gilydd, beth mae’n ei olygu. A dwi’n dweud wrthyn nhw, wel does dim neges, petai yna neges, ni fyddai’n llenyddiaeth. 

Ofnadwy. Ond wedyn, rhaid bod yn barod hefyd yn y lle cyntaf i dderbyn yr hyn mae’r awdur yn ei adrodd. Rydw i wrthi’n darllen llyfr Philip Roth, The Plot Against America, ar hyn o bryd, sydd yn llyfr anhygoel ac yn hynod amserol, oherwydd ynddo rydym yn gweld hanes yr hyn sy’n digwydd heddiw. Ond yn wir, os dechreuwn ofyn beth ydi’r neges, wel, ie, y neges ydi nad ydi’r awdur yn cytuno efo’r hyn sydd ar waith. Ond wedyn, beth? Yr hyn sy’n anhygoel ydi’r ffaith ei fod yn adrodd hyn i gyd yn ei ffordd ddihafal ei hun. Rydw i’n cytuno efo chi, mae fel y sgwrs yma ges i ddoe, lle gofynnwyd i mi beth oedd y cysyniad y tu ôl i’n drama gyfredol, ‘Yma Mae’r Dreigiau’, a dyma fi’n ateb, yn ddigon swta: Drychwch, tydi cysyniad byth yn air dwi’n ei ddefnyddio, mae’n air rydw i’n dianc rhagddo, am y rheswm nad sioe gysyniadol mohoni o gwbl.  

Mae dylanwad theatrau’r Dwyrain yn gryf ar y Théâtre du Soleil ac rydw wedi eich clywed yn sôn am ddylanwad estheteg Siapaneaidd a theatrau India ac Asia yn ehangach ar eich gwaith. Mae’r cysyniad o ddilysrwydd yn reit wahanol yn y Dwyrain, dwi wedi sylwi. Yn yr ystyr ei fod yn rhywbeth sy’n dibynnu llai ar weledigaeth yr unigolyn. Y dasg, fel petai, ydi olrhain llinell sy’n bod yn barod, ac felly mae’r broses yr un mor bwysig â’r gwrthrych gorffenedig. Fel yr arfer yna yn Siapan o ddadadeiladu temlau er mwyn eu hailadeiladu o’r newydd.

Yn union, ac ydyn, maen nhw’n gwneud hynna efo’u temlau, mae’n anhygoel, eu hailadeiladu o’r newydd bob – wn i ddim – bob dau gant o flynyddoedd...

Mae’n gwneud i mi feddwl am fyd y theatr. Nid dim ond unwaith rydach chi’n bodoli ar y llwyfan. 

Na, rhaid ailddechrau bob nos. Ond, perthyn i foderniaeth y mae hynna hefyd, achos doedd y Groegwyr ond yn perfformio unwaith, neu fallai deirgwaith y flwyddyn. Dim mwy. Doedd o ddim yn waith masnachol iddyn nhw. Rhaid i ni ei wneud drosodd a throsodd oherwydd dyna sut rydym yn ennill ein bywoliaeth. Mae a wnelo â’r ffaith bod y theatr wedi troi yn broffesiwn.  

Ond a dweud y gwir, mae’n gwestiwn da. Achos rydym yn gofyn i ni’n hunain bob nos sut mae cadw’n fyw ysbryd y perfformiad cyntaf. Yn aml, mi fyddaf yn ailadrodd wrth yr actorion: I rywun, heno, mi fydd yn dro cyntaf mewn theatr, ac i rywun arall, mi fydd yn dro olaf, cofiwch hynna. Felly, mae yna rywbeth cysegredig ynghylch pob perfformiad. Pan ydw i’n gwybod fod yna gant o blant ysgol yn y gynulleidfa, wel mae hynny’n ychwanegu at yr elfen sanctaidd. Gwn mai ymenyddiau a chalonnau bregus sydd o’n blaenau ac mae’n rhaid i ni eu cyffwrdd â gras a thynerwch mawr.

Fel y gwelwch, mae’r actorion wrthi’n glanhau’r theatr ar hyn o bryd. Ar ddechrau’r Nātya Shāstra, y gyfrol ar y theatr yn India sydd yn rhan o’r Veda, dyna’n union sy’n cael ei ddisgrifio. Ceir deg tudalen yn egluro sut y dylai’r gofod gael ei dwtio, ei lanhau, ei eneintio â pherarogleuon, ei addurno, hyd yn oed – cyn dechrau meddwl am actio. Ac mae hynna’n rhan o’r traddodiad y mae cwmni theatrig yn ei greu. Mae gennym ni ddefodau bychain ac mae hynny’n ein cynorthwyo. Nid defodau crefyddol mohonyn nhw chwaith, ond maen nhw’n ddefodau. Maent yn ein cynorthwyo i gynnal y dirgelwch, yr undod yma sy’n perthyn i’r foment, sydd a wnelo â’r ffaith mai dyma’r tro cyntaf i ambell un, a’r tro olaf i ambell un arall. Felly, mae’n bwysig. 

Rhaid cofio bod y cyhoedd yn cyrraedd yma o leiaf awr cyn i’r perfformiad ddechrau, maen nhw’n treulio fan lleiaf bedair awr efo ni. Ambell dro, wyth awr, pan mae yna ddwy ran i sioe, hynny ydi, diwrnod cyfan. Ac ar ben hynny, mae’r amser mae’n ei gymryd i gyrraedd yma. Maen nhw’n cysegru 6 awr o’u bywydau er mwyn dod i’n gweld. Hanner diwrnod. Nid dim ond mater o dalu 25 ewro ydi o, maen nhw’n ymroi i ddod a threulio oriau o’u bywydau yn ein cwmni. Mae’n golygu eu bod yn chwilio am rywbeth, maen nhw’n disgwyl rhywbeth, nid dim ond dod i weld sioe. Maen nhw’n gobeithio am faeth, am nerth, am gael eu cydnabod fel bodau dynol, maen nhw’n disgwyl – wn i ddim – maen nhw’n disgwyl llawer o bethau. 

Gwn fod y byd i gyd yn chwythu trwy eich theatr, a’r actorion yn dod o bob cyfandir. Felly, does dim rhaid i chi boeni’n ormodol yr eiff y grŵp yn rhy homogenaidd?

Mae’r grŵp yn homogeneiddio, ond mae hynny’n beth cadarnhaol. Sut fedra i ddweud? Mae pob un yn cyrraedd â’i drysor ei hun. Ei gorff, ei gerddoriaeth, ei iaith, ei ddiwylliant, rhyfeloedd ei wlad, mae’r Affganiaid yn cyrraedd â’u rhyfeloedd, er enghraifft... Ond ar ryw bwynt, mae yna rywbeth sy’n tynnu’r rhain i gyd ynghyd a’r theatr ydi hynny. Iaith hefyd, sef y Ffrangeg. Mae’r holl unigolion hyn yn dysgu siarad Ffrangeg â’i gilydd ac yn cadw eu hieithoedd eu hunain ar gyfer eu bywydau preifat, ar gyfer canu, ar gyfer diwylliant. Ffrangeg ydi iaith y gwaith ac rydym yn creu theatr gyda’n gilydd ynddi. Dod yma oherwydd eu cariad at theatr y maent, nid am arian, oherwydd rydym yn cael ein talu’n wael iawn. Dyna sy’n dod â ni at ein gilydd, y gwaith.

Dydych chi byth yn wynebu’r broblem yna o...

Mae yna broblemau. Rydym yn bodoli ers trigain mlynedd. Ac mae yna 70 ohonom, fan lleiaf, felly mi fedrwch chi dychmygu’n iawn ein bod wedi gorfod wynebu problemau mawrion. Ond at ba broblem yn union yr oeddech yn cyfeirio?

Y peryg y byddwch yn dechrau meddwl i gyd yn yr un ffordd...

Na, ddim o gwbl. Wedi dweud hynny, fyddai dim lle yma i rywun sydd â daliadau eithafol, boed ar y dde neu’r chwith. Mae hynny’n wir. Ond mae’r gofod rhwng y ddau eithaf yn llydan.

Rydych hefyd wedi sôn am y ffaith mai gwaith actor ydi darganfod ‘y symptomau’. 

Mae hynny’n rhywbeth a ddysgais wrth wylio actorion Siapaneaidd ac Indiaidd. Hynny ydi, mi sylwais fod y celfyddydau traddodiadol hyn wedi creu math o ramadeg yr emosiynau, rhywbeth sy’n ddieithr i ni. Ar un olwg, rydym yn fwy rhydd, ond ar olwg arall, yn fwy mewn peryg o ddisgyn i dwll diddymdra. Ond wedi dweud hynny, ni ddylid ddogmateiddio na ffurfioli mynegiant emosiynau. Mae symptomau yn rhywbeth sy’n dod er ein gwaetha ni’n hunain. Mae’n symptom o salwch a’r salwch ydi angerdd, angerdd y corff. Dyna sut rydw i’n llwyddo i fynegi hyn wrth yr actorion: dy waith di ydi rhoi i mi symptomau Hamlet neu Macbeth. Beth ydi symptomau uchelgais? Symptomau trachwant, balchder, y symptomau corfforol, y symptomau lleisiol? Yn gyntaf, rhaid rhoi diagnosis i’r claf, er mwyn gweld beth yn union rydym yn ei chwarae. Ac yna, nid yw’n ddigon ei deimlo yn unig. Mae’n rhaid i ni gyfleu’r symptomau hyn i’r gynulleidfa fel eu bod yn eu hadnabod. 

Rydw i’n cofio hefyd i chi sôn yn rhywle faint o ddylanwad fu eich cyfnod yn Siapan, flynyddoedd yn ôl, a’r sylw a roddir gan y Siapaneaid i arferion a gestes bychain bob dydd. Eich cysyniad o amser hefyd, mae’n gofiadwy: na wnaiff amser fyth faddau i’r hyn a wneir yn ei absenoldeb.

Arferion bychain bob dydd, y ffordd y gwneir bywyd bob dydd yn ddefod... mae’n wir dweud mai dyna sy’n gwneud bywyd bob dydd yn hardd imi. Mae angen barddoniaeth arnom bob un, mae angen ffurf, ‘mise en forme’ arnom. Yn wir, yn Siapan, mae rhan fawr o fywyd bob dydd yn cael ei ffurfioli. A hynny weithiau’n ormod. Mae’n gallu bod yn ormesol. Mae yna adegau, er enghraifft pan nad ydi Siapanead yn llwyddo i ddarganfod ei anadl ei hun, lle gellir synhwyro eu bod wedi eu gwastrodi gan hyn. Ond ni ddylid caethiwo ein hunain i draddodiad neu ddefod. Dylid eu defnyddio fel offer esthetig, offer harddwch, offer harmoni. Rhaid eu defnyddio. Mae fel pob dogma, mae fel crefydd: gall elfen o gyfriniaeth fod yn rym rhyddfreiniol neu gall ddatblygu’n ddogma crefydd, dyna’r gwaethaf, y math gwaethaf o gaethiwed... yn arbennig ar gyfer merched. Ond siarad am offer ar gyfer gweithio a byw yr oeddem, ac yn f’achos i, mae rhai defodau yn fy nghynorthwyo i fyw.

Mae fel y ddefod o ddweud, helô, sut mae, sut ydych chi? Mae’n golygu ein bod yn llai tebygol o neidio am yddfau’n gilydd. Welwch chi beth sydd gen i? Fel arall, mi fyddem yn gleddyfwyr. Y cleddyfau fyddai’n siarad. Mae yna ddefodau: rydym yn gyrru ar y dde, yn dweud helô a hwyl fawr. Hyd yn oed pan nad oes gennym unrhyw deimladau tuag at ein gilydd, rydym yn dangos cwrteisi tuag at ein gilydd... Ydw, rydw i’n hoff o bwysleisio’r arwyddion bychain hyn sydd yn medru bod yn llawn hiwmor weithiau, ond sydd hefyd yn dod â rhywfaint o gyfaredd i’n bywyd bob dydd.

Pryd wnaethoch chi sylweddoli hyn?

O dipyn i beth, wrth eu rhoi ar waith, mi wnes sylweddoli ein bod yn parchu’r defodau hyn oherwydd bod eu hangen arnom. Nid penderfyniad ymwybodol mohono. Ar gyfer y sioe ‘Yr Ynys Aur’, roedd gennym y tu ôl i’r bar wraig Siapaneaidd, roeddem wedi gofyn iddi ymuno â ni y tu ôl i’r bar, cogyddes ardderchog, ardderchog iawn hefyd, i’n cynorthwyo i greu seigiau Siapaneaidd go-iawn. Roedd hi’n wirioneddol anhygoel. Mi arhosodd efo ni am dri i bedwar mis. Ac yn ystod y tri i bedwar mis hyn, roedd hi’n cynnal y bar mewn modd cyfareddol. A phan fyddwn i’n mynd i gyhoeddi wrth griw y bar: ‘Attention, mesdames et messieurs, mae’r theatr ar fin agor’, cyn mynd i agor y drws, un diwrnod, mi wnaethom roi bow i’n gilydd, jyst felna, criw y bar a finnau. Rydym wedi cadw’r arferiad hwn. Tydi’r wraig Siapaneaidd ddim yma mwyach, ond mae’r cyfarchiad bach yma wedi dod yn arferiad hynod bwysig. Felly, doedd o ddim yn rhywbeth a benderfynwyd, mi ddaeth yn reddfol. Dyma gelfyddyd cegin gwraig Siapaneaidd – a roddodd yr awydd i mi ei chyfarch fel hyn. Felly dyna wnes i, a’r bar yr un fath. A dyna ni. Mae’n gwneud lles.

Ydi, ydi wir. A’r darluniau ar y muriau fan hyn o gwmpas y bar a’r cantîn?

Shishis ydi’r rheina. Lluniau Hokusai. Roedd yn tynnu o leiaf un ohonyn nhw bob dydd, ond fel arfer pedwar neu bump, jyst er mwyn ymarfer ei law. Dreigiau bach llawn ewyllys da ydyn nhw. Ond os edrychwch yn ofalus, mi welwch chi mai dreigiau theatr ydyn nhw oherwydd mae yna ddyn y tu mewn i bob un. Mae modd gweld eu traed, traed yr actorion. Welwch chi? 

Gwelaf...

Ar gyfer y sioe flaenorol roedd y rheina. Ond mi wnes eu cadw oherwydd, wel, roedd gen i’r awydd i’w cadw nhw.

Mae gennych weledigaeth benodol iawn, y galw arbennig yma am brydferthwch...

Oes.

Sut rydych yn llwyddo i ddod â hynna’n fyw heb iddo droi’n ormes?

Cwestiwn da iawn. Rydych yn iawn i ofyn, ni ddylai ddatblygu’n ormes. Ond yr un pryd, tydw i ddim am ddefnyddio’r esgus o osgoi gormes i beidio â rhwystro pobl rhag gadael bagiau plastig yn eu hystafelloedd gwisgo ac o dan eu seti.

Na, wrth gwrs.

Ond, oes, mae yna adeg pan mae’n rhaid dweud: Mae’n iawn fel yna, mae’n ddigon da. ‘My house is clean enough to be healthy, dirty enough to be happy’ ydi’r ymadrodd...

Mae honna’n wers i mi! 

Yn union. Yn ddigon glân i fod yn iach, yn ddigon budr i fod yn hapus. Mae’n egwyddor hynod bwysig... pan mae plentyn yn gadael ei esgidiau ar lawr, mae modd gweld hynny yn nhermau llanast yn hytrach nag yn nhermau hapusrwydd. Ond tydi’r egwyddor hwn ddim yn gyfystyr â dweud na ddylid rhoi’r esgidiau i gadw, jyst na ddylid ei weld fel symbol o rywbeth nad ydyw; nid arwydd o ddiffyg parch mohono, jyst plentyn wedi gadael i’w esgidiau ddisgyn,
yn y fan a’r lle. 

Felly, mae’n fater o dderbyn croesddywediadau hefyd?

Ydi. Weithiau, ceir croesddywediadau y dylid gwneud defnydd ohonynt.

Dyna rydym yn ei gael mor anodd heddiw, byw croesddywediadau...

Mae hynny’n wir, oherwydd byddai’n well gennym pe na bai yna groesddywediadau. Hynny ydi, rydym yn symud yn agosach at dotalitariaeth, ac mae hynny’n ddychrynllyd. Mae pob syniad yn troi’n dotalitaraidd, mae pob ideoleg yn troi’n dotalitaraidd, mae pob crefydd yn troi’n dotalitaraidd. Felly, mae pob system â’r tueddiad yma i droi’n dotalitaraidd. Dyna rydym yn ei fyw ar hyn o bryd. 

Mi ddechreuon ni efo’r syniad o fasgiau’n cael eu diosg ...

... y cyhoedd yn eu diosg a’r actorion yn eu gwisgo!

Ond yn eich theatr chi, mae masgiau, colur, maent yn hynod bwysig. Yr un pryd, mae yna densiwn. Sut alla i ddweud, mae’n rhywbeth ffurfiol iawn ar un olwg, ond yr un pryd, mae’n fyw iawn.

Rydw i’n deall beth sydd gennych. Ffurf ydi’r enw ar hynna. Ac ni ddylai ffurf fod yn ddogmataidd, nac yn rhywbeth sy’n gwneud i bethau geulo. Mae’r theatr yn gelfyddyd amlochrog iawn... a dweud y gwir, er mwyn i unrhyw beth fod yn bosib o fewn ei hualau, mae’n ddigon jyst sicrhau ein bod yn gwneud theatr o safon. Gallwn fod â masg sy’n siarad ag actores sydd heb fasg, a’r masg yn chwarae rôl person a fu farw ganrif yn ôl, a hithau, mae hi yno ac rydym yn credu ynddi hi. Er mwyn hynny, mae’n ddigon ei fod wedi ei wneud yn dda. Dyna’r peth. Ac mae’r theatr yn caniatáu hynny, y rhyddid yna: gelli, gelli wneud hynna! Mi gymerodd gryn dipyn o amser i mi ddeall fy mod yn llawer mwy rhydd nag oeddwn i’n ei sylweddoli. Mi gymerodd amser i mi ddeall fod gen i’r hawl... 

Yr hawl i...

...i wneud pob un dim oni bai am yr hyn sy’n ffals neu’n hyll.

Mae hynna wedi ei grynhoi’n ardderchog!

Roedd gen i’r hawl i bopeth, oni bai am yr hawl i wneud pethau hyll, dweud celwydd a bod yn ffals, hyd yn oed os oes rhaid wrth ffurf; ond tydi ffurf ddim yn ffals; tydi masg ddim yn ffals. I’r gwrthwyneb, mae’n gwneud y gwir, realiti, yn fwy. Ond ar wahân i hynna, mae gennym yr hawl i wneud pob dim, o’r funud mae’n dod, o’r funud rydym yn ei ddarganfod.

Mae hynna’n hardd! Fel athroniaeth bywyd hefyd...

Fallai wir.

Dim byd hyll, dim byd ... 

... dim byd ffals.

Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands

Mi gymerodd gryn dipyn o amser i mi ddeall fy mod yn llawer mwy rhydd nag oeddwn i’n ei sylweddoli. Mi gymerodd amser i mi ddeall fod gen i’r hawl i wneud pob un dim oni bai am yr hyn sy’n ffals neu’n hyll

Pynciau:

#Rhifyn 26
#Theatr
#Gwleidyddiaeth
#Estheteg
#Sioned Puw Rowlands