Cyfweld

Dinasyddion moesol

Gwrando ar leisiau unigol

Jonathan Glover

Causing Death and Saving Lives

Penguin, 336tt, 1977

Jonathan Glover

Humanity: A Moral History of the Twentieth Century

Jonathan Cape, 480tt, 1999

Jonathan Glover

Alien Landscapes? Interpreting Disordered Minds

Harvard University Press, 448tt, 2014

Jonathan Glover

Amser darllen: 10 munud

04·08·2020

'Rhaid gwrando’n ofalus ar leisiau unigol pobl â diagnosis seiciatryddol.' (Llun: John Firth/BIPS)

 

Mae’r moesegwr Jonathan Glover yn adnabyddus am ei waith ym maes moeseg feddygol. Mae un o’i gyfrolau cynharaf, Causing Death and Saving Lives (1977), yn ôl mewn ffocws eto ers argyfwng Covid-19, ac yn gyfarwydd nid yn unig i fyfyrwyr ym maes meddygaeth ond hefyd i fyfyrwyr gwleidyddiaeth a llywodraethiant. Caiff ei gydnabod fel un o’r athronwyr sydd wedi ymdrechu’n gyson i bontio theori ac ymarfer, ac i ymateb i broblemau moesol heddiw.

Yn ei gyfrol Humanity: A Moral History of the Twentieth Century (1999) mae’n archwilio’r modd y gall traddodiadau moesol dyn, a gwaith cyson yn datblygu ein dychmyg moesol, fod o gymorth i’n rhwystro rhag trin eraill mewn modd didostur o hunanol. Yn 2006 cyhoeddodd Choosing Children: Genes, Disability, and Design, a’i gyfrol ddiweddaraf, wedi ei seilio ar gyfweliadau â chleifion yn Broadmoor, ydi Alien Landscapes? Interpreting Disordered Minds (2014). Ynddi mae’n gofyn a yw pobl sydd yn dioddef o’r hyn a elwir heddiw yn anhwylderau personoliaeth gwrth-gymdeithasol (anti-social personality disorders) mewn gwirionedd heb gydwybod ynteu ai mapio ar diriogaeth wahanol i eraill y mae eu byd moesol? Mae’n Athro yn y Ganolfan Cyfraith a Moeseg Feddygol yng Ngholeg King’s, Llundain.

✒︎

Ai’r angen am ‘gydnabyddiaeth’, gan hanes a chymuned, sydd yn y fantol mewn cymaint o wrthdaro diwylliannol, crefyddol ac ethnig?

Mae natur gwrthdaro’n amrywio’n fawr. Mae rhai mathau yn wrthdaro dros dir neu adnoddau naturiol, megis dŵr neu olew. Ond mae llawer unai’n seicolegol eu natur neu mae mater adnoddau a’r dimensiwn economaidd wedi eu gweu ynghyd ag ystyriaethau seicolegol. Rwyf yn cytuno bod gwrthdaro, pan fydd yn seciolegol ei natur, yn ymwneud â chydnabyddiaeth, yn aml iawn. Mae hyn i’w weld yn yr ymgyrch ddiweddar, Black Lives Matter. Wrth galon yr ymgyrch hon mae’r loes a’r dicter mae llawer o bobl dduon yn ei deimlo mewn byd lle gallant gael eu stopio gan yr heddlu a’u cam-drin mewn ffordd na fyddai’n digwydd i’r gwynion. Mae llofruddiaeth George Floyd, gan heddwas yn rhwystro ei anadl, yn un enghraifft, ond mae llawer mwy i hyn nag a welir ar yr wyneb. Yn y cyfnod ers llofruddiaeth George Floyd rydym wedi gweld nifer o achosion tebyg. Ac yn yr un modd, bu llawer o achosion cyn hyn, dim ond nad oeddent yn cael yr un sylw. Mae’r ymadrodd ‘Black Lives Matter’ yn mynegi’r hyn sydd yn y fantol: cydnabyddiaeth i bawb fel bodau dynol.
 

Jonathan Glover

 

Rwyf wrthi’n ysgrifennu llyfr am y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina. Mae elfennau eraill yn perthyn i’r gwrthdaro hwnnw hefyd: perchnogaeth tir, dŵr ac ati. Ond mae cydnabyddiaeth yn elfen ganolog. O ganlyniad i’r profiad Iddewig o wrth-Semitiaeth, a gwaeth, dros ganrifoedd, gofynnai Isaiah Berlin: Pam ddylsai’r Iddewon fod yr unig genedl heb eu gwlad eu hunain? Heddiw gallai’r Palesteiniaid ofyn yr un cwestiwn. Tu ôl i’r ddau gwestiwn mae’r loes na roddwyd i’w cais yr un gydnabyddiaeth ag i eraill. Yn achos llawer o wrthdaro, adlach dreisgar yw’r ymateb i’r clwyf, ac yna mae’r ochr arall yn ymateb yn yr un modd. Mae patrymau trais o’r math hwn yn haws i’w dechrau nag i roi terfyn arnynt.

Dibynnant yn aml ar gredoau ffug ynghylch y rhai a dargedir gan yr adlach. Er enghraifft, yn 2005, yn ei ymgyrch i fomio system trenau tanddaear Llundain eglurodd Muhammad Siddique Khan i bobl Prydain fod ein llywodraeth etholedig yn cyflawni anfadwaith yn fyd-eang yn erbyn Mwslemiaid. Dywedodd fod cefnogaeth pobl Prydain i’w llywodraeth yn eu gwneud yn uniongyrchol gyfrifol, a than y byddai’r llywodraeth yn rhoi’r gorau i fomio, i wenwyno â nwy, i garcharu ac i arteithio ei bobl, ni fyddai modd rhoi’r gorau i’r frwydr. Cyhoeddodd y byddai’r bomio yn rhoi blas iddynt o realiti’r sefyllfa. Roedd hyn mewn ymateb i Ryfel Irac (a oedd yn talu’r pwyth yn rhannol am 9/11, a hynny wedi ei seilio ar gredoau ffug. Dywedodd yr Arlywydd Bush yn dilyn dinistr 9/11: Fe’ch clywaf. Mae gweddill y byd yn eich clywed. Ac fe fydd y bobl sydd wedi dymchwel yr adeiladau hyn yn clywed gennym i gyd yn fuan.). Lladdodd bom Siddique Khan chwech o bobl yn ogystal ag ef ei hun. Ni holodd a fyddai rhai ohonynt yn Fwslemiaid Prydeinig. A sut wyddai y byddai’r chwech a laddwyd yn perthyn i’r lleiafrif Prydeinig a gefnogodd y rhyfel? A oedd y rhai a fu’n rhan o brotest fawr Llundain (y fwyaf erioed ym Mhrydain, ar y pryd) yn erbyn y rhyfel yn haeddu cael eu lladd? Ar stereoteipiau yr oedd adlach Siddique Khan wedi ei seilio, nid ar ystyriaeth ofalus.

Beth mae gwyddoniaeth wybyddol a niwrowyddoniaeth wedi ei ddangos am rôl disgwyliadau a stereoteipiau wrth asesu tystiolaeth? A ydym yn tanbrisio’r ffaith ei bod hi fwy neu lai’n amhosib osgoi stereoteipiau?

Ers Kant, mae gennym draddodiad cyfan o feddwl sydd yn ymwrthod â’r empeiriaeth syml sy’n datgan bod y meddwl yn derbyn yn oddefol argraffnod y byd. Fel y gwelodd Kant, mae’r meddwl yn gosod ei gysyniadau a’i gategorïau ar y byd. Bellach mae niwrowyddonwyr yn mapio mecanweithiau cymhleth y broses ddehongli sydd wrth wraidd ‘gweld’, mecanweithiau sy’n mynd o’r retina i’r cortecs gweledol. Mae arbrofion mewn seicoleg yn awgrymu ein bod yn dechrau â rhagdybiaethau canfyddiadol (perceptual hypotheses) ac yna’n eu mireinio wrth i fwy o wybodaeth ein cyrraedd. Mae hyn yn caniatáu i stereoteipiau siapio sut yr asesir tystiolaeth. Mewn un astudiaeth, er enghraifft, disgrifir person fel rhywun tawel a phwyllog. Gofynnwyd i bobl a oedd hi’n fwy tebygol mai ffermwr oedd y person hwn neu lyfrgellydd. Oherwydd bod y disgrifiad yn cydweddu â stereoteip y llyfrgellydd yn hytrach na’r ffermwr, atebodd y mwyafrif, ‘llyfrgellydd’. Mae’r ffaith fod cymaint mwy o bobl yn ffermio nag yn llyfrgellwyr yn gwneud ‘ffermwr tawel a phwyllog ei natur’ yn llawer mwy tebygol na ‘llyfrgellydd’. Ond gorchfygwyd y tebygolrwydd gan y stereoteip.

Dywedodd un o haneswyr celf mawr yr 20g, Ernst Gombrich, wrth ysgrifennu yn erbyn yr Argraffiadwyr, nad oes y fath beth â llygad diniwed. Gan ddefnyddio nifer o enghreifftiau, dadleuodd fod artistiaid yn y traddodiad cynrychiolaidd yn aml yn gweld yr hyn maent yn ei baentio trwy gyfrwng stereoteipiau, wedi eu ffurfio gan y gelfyddyd a ddaeth o’u blaenau. Dadleuodd eu bod yn gweithio trwy gyfrwng ‘sgema a chywiriad’: hynny yw, nid oes modd i’r artist ddechrau o ddim ond fe all feirniadu ei ragflaenwyr. Mewn gwrthdaro gwleidyddol neu genedlaethol, efallai nad oes modd gwared stereoteipiau o’n ffordd o feddwl, ond ni ddylsem fod yn gaeth iddynt. Rwyf yn hoff o syniad Gombrich o ‘sgema a chywiriad’, y gellid ei gymhwyso yn eang, tu hwnt i gelfyddyd.

A oes arnom angen prosiect addysgiadol ynghylch naratifau croes?

Byddai hwnnw’n gam gwerthfawr. Yn rhannol oherwydd y modd y mae stereoteipiau gelyniaethus yn cynnal ei gilydd. Yn rhan helaeth o’r gwrthdaro rhwng Israeliaid a Phalesteiniaid, mae’r ddwy ochr â straeon gwahanol am amcanion y llall. ‘Roeddem ni’ yn gweithredu i amddiffyn ein hunain yn unig, ac yn unol â chyfraith ryngwladol. ‘Roedden nhw’ yn gweithredu yn ôl cynllun o drais a hefyd yn targedu’n fwriadol ferched a phlant. Os bydd unrhyw un yn cwestiynu hyn (‘Pam nad ydych yn fwy agored i ystyried ochr arall y stori?’) mae’n ddigon hawdd rhagweld yr atebion: Does dim modd credu’r un gair ganddynt. Mae ganddyn nhw hanes o drais anghyfreithlon. Maent wedi ein casáu o’r dechrau. Mi wnânt unrhyw beth, waeth pa mor erchyll, i hyrwyddo eu nod o’n dinistrio.

Wrth gwrs, nid yw pawb sy’n Israeliaid na phawb sy’n Balesteiniaid mor ddiwyro â hyn. Ond mae’r deialog rwyf newydd ei ddychmygu yn un cyfarwydd. Mae’n dangos sut y mae’r naratifau unochrog a’r stereoteipiau gelyniaethus yn cynnal ei gilydd. Mae’r dehongliad o bob rhan unigol o’r naratif yn cynnal y stereoteip negatif o’r ochr arall. Ac mae’r stereoteip negatif yn cael ei ddefnyddio i gynnal y bennod nesaf yn y naratif unochrog.

Dim ond un enghraifft yw Israel-Palesteina. Os ydym am i blant y dyfodol dyfu mewn byd llai treisgar, gallasent fod ar eu hennill o gael y cyfle i ddysgu yn yr ysgol am stereoteipiau: y modd y rhwydir pobl i ladd ganddynt a sut y gellid rhyddhau rhywfaint ar eu gafael.

Oes yna ofod cynyddol anffodus yn agor yn y byd addysg rhwng y gwyddorau a’r dyniaethau? Ai prin y cysylltiadau heddiw rhwng y bywyd a astudir gan niwrowyddonwyr a’r bywyd a astudir gan nofelwyr, er enghraifft?

Mae gwyddonwyr yn gofyn cwestiynau nad yw nofelwyr, gwneuthurwyr ffilm a beirdd yn eu gofyn, ar y cyfan. Wrth ystyried y deddfau ffisegol sylfaenol sy’n gweithredu yn y bydysawd, esblygiad bywyd, neu sut mae’r ymennydd yn gweithio, maent yn tynnu ar ddulliau manwl o feddwl, arbrofi a dehongli a ddatblygwyd trwy gydol hanes eu gwyddorau. Canlyniad hynny ydi’r darlun o’r byd y mae’r rhan fwyaf o bobl addysgedig yn ei gymryd yn ganiataol. Mae’r darlun hwn yn ehangu’n aruthrol ymwybyddiaeth cynifer ohonom. Mae’n un o orchestion mwyaf y ddynoliaeth, hyd yn oed pe baem yn anwybyddu’r manteision meddygol a thechnolegol. Mae’r dulliau sy’n caniatáu i ni ddatblygu’r darlun (dehongliad dychmygus theorïau, mathemateg rymus, sgeptigiaeth ynghylch ‘synnwyr cyffredin’, pwyll mawr wrth ddehongli tystiolaeth) ymhlith rhai o gyfraniadau pwysicaf y ddynol ryw. Yn ystod argyfwng Covid-19, wrth glywed rhai gwleidyddion a gwyddonwyr yn siarad am y cyflwr, cefais f’atgoffa o faint y golled petaem yn colli’r llais gwyddonol hwn, er mor annhebygol yw hynny. Rhinweddau go wahanol sydd gan nofelwyr. Mae eu hamrywiaeth eang yn gwneud cyffredinoli’n amhosib. Ond un rhinwedd gyson yw’r diddordeb yn y profiad dynol goddrychol, unigol — y diddordeb yn yr hyn y byddwn i’n ei alw yn ‘deimlad pethau’ (‘the feel of things’). 

Pan oedd fy ngwraig mewn cynhadledd yn India bu’n sgwrsio â gwraig oedrannus yno a gofynnodd iddi beth oedd ei barn am y Raj Prydeinig. Atebodd y wraig drwy sôn am fanteision yr iaith Saesneg a chyfraniad y rheilffyrdd. Pwysodd fy ngwraig arni. Oedd pethau cystal ym mhob ystyr? Beth wnaeth ddirywio? Yr ateb oedd, ‘Roeddent yn ein trin ni fel anifeiliaid.’ 

Lleiafrif ohonom ym Mhrydain sydd ag atgofion uniongyrchol o’r Raj. Ond mae nofelau a ffilmiau yn gallu ein cynorthwyo i ddeall, ac o ganlyniad i hynny yn gallu agor ein byd, a’n cynorthwyo i symud y tu hwnt i ni ei hunain. Mae nofelau Paul Scott, The Raj Quartet, ac yna’r addasiad ar gyfer y teledu, The Jewel in the Crown, yn rhoi i ni bortread sensitif a chynnil o’r gweinyddwyr trefedigaethol Prydeinig, rhai ohonynt ag amcanion da, ac eraill ddim. Ond mae’r modd yr oedd y mwyafrif ohonynt yn ymwneud â’r Indiaid yn cyd-fynd â’r hyn ddywedodd y wraig o India. Mi fyddai’n golled fawr pe bai’r math hwn o ‘ymdeimlad emosiynol’ yn cael ei gyfyngu a phe baem heb y cyfle i gael ein hymestyn ganddo. Daw’r perygl nid yn gymaint o fyd gwyddoniaeth ond
o oruchafiaeth gwerthoedd economaidd cyfyng. 

Pa fath o lenyddiaeth sydd o bwys? Yn yr amseroedd sydd ohoni mae pwysau difrifol ar bobl i roi’r ‘prawf credo’ ar waith. Dylid gwrthsefyll hyn. Os mai dim ond darllen gwaith gan bobl sy’n cytuno â’n bydolwg y byddwn, yna adeiladu carchar a wnawn o’n credoau. Ers dod i’r casgliad yn fy arddegau nad oedd y rhesymau dros gredu mewn Duw yn f’argyhoeddi rwyf wedi bod yn anffyddiwr. (Yn dechnegol, amheuwr ydwyf: ni allaf brofi nad oes Duw; ni allaf ychwaith brofi nad oes tylwyth teg, ond mi fyddai’n hurt pe bawn i’n dweud fy mod yn amheuwr ynghylch hynny.) Cefais fy magu yn Gristion ac rwyf yn parhau i werthfawrogi beirdd sy’n derbyn neu wedi derbyn crefydd. Anaml y byddaf yn mynd i rywle heb gerddi George Herbert, Gerard Manley Hopkins, Four Quartets Eliot neu rywbeth gan R S Thomas yn gwmni.

Mae hyn yn f’atgoffa o’ch llyfr Alien Landscapes? Interpreting Disordered Minds lle roeddech yn trafod y teimlad greddfol sydd gennym ynghylch hygrededd syniad. Hefyd, cofiaf i chi sôn am eich ymrwymiad i wrando’n ofalus ar leisiau unigol pobl â diagnosis seiciatryddol.

Roeddwn yn meddwl am yr hyn y cyfeiriwn ato fel Capgras delusion, lle gall rhywun feddwl fod person yr un ffunud â’i gymar wedi cymryd ei le. Un eglurhad cyffredin am hyn yw: er ei bod yn amlwg iddo fod y person o’i flaen yn edrych ac yn swnio yn union fel ei gymar, gall fod methiant mewn system niwrolegol arall sy’n rhan o’r broses o adnabod rhywun, sef yr ymateb emosiynol iddynt. Ond tebyg bod yna rywbeth pellach ar goll hefyd: y teimlad greddfol sydd gennym, fel arfer, ar gyfer yr hyn sy’n gredadwy. Os caf fy ngadael yn oer wrth gyfarfod rhywun rwyf fel arfer yn teimlo’n gynnes tuag ato, gallwn feddwl fy mod dan y don neu’n bigog heddiw; y tro diwethaf i ni gwrdd, efallai i ni gael sgwrs annifyr, ac ati. Ni fyddaf felly’n cael fy nhemtio am eiliad gan y safbwynt ‘identical imposter’ oherwydd mae gen i’r reddf arferol ar gyfer teimlo’r hyn sy’n debyg o fod, teimlad nad oes gan y claf Capgras. Dibynna’r rhan fwyaf ohonom ar deimlad greddfol ynghylch yr hyn sy’n gredadwy. Nid yw hynny’n golygu fod greddf yn gyffredinol fwy dibynadwy na rheswm. Ond mae’r reddf arbennig hon yn debyg o wrthsefyll ei chwestiynu oherwydd, ar wahân i jôcs a chwaraeir gan efeilliaid unfath, mae’r dystiolaeth dros ‘identical imposters’ un ai’n rhy denau neu ddim yn bodoli o gwbl. Un rheswm dros wrando’n ofalus ar rywun sydd ag anhwylderau seiciatryddol yw y gall roi cliwiau i ni ynghylch yr hyn sy’n mynd o’i le. Ond hefyd oherwydd bod hynny’n golygu ei drin fel cyd-ddyn. 

Beth am hanes moesol y ddynoliaeth ugain mlynedd ers cyhoeddi Humanity?

Mae fy ymdeimlad o bwyll wedi cynyddu mwy na f’optimistiaeth. Mae’r gwledydd sy’n tra-arglwyddiaethu heddiw yn ddidostur. Rheolir Tsieina, â’i gwersylloedd crynhoi hunllefus i Fwslemiaid, gan system unbenaethol sy’n bygwth gwledydd eraill i dderbyn ei hamcanion ehangu. Rheolir Rwsia gan gangster a fu’n gweithio i’r KGB ac sy’n sicrhau llofruddiaethau dramor yn ogystal ag yn ei wlad ei hun. Wrth y llyw yn yr UD mae celwyddgi narsisaidd sy’n casáu rhyddfrydiaeth, yn derbyn hiliaeth ac am ddinistrio’r ymdrech wedi 1945 i ffurfio system o gydweithio rhyngwladol. Yna mae’r pandemig cyfredol. Ac wrth gwrs yr argyfwng hinsawdd. Mae’n foment dywyll yn ein hanes. Ond gwerth cofio bod modd i bethau newid er gwell. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth gan Steven Pinker yn The Better Angels of our Nature bod heddiw, i lawer, yn gyfnod gwell i fyw ynddo nag unrhyw gyfnod arall. Fel y dywedodd Gramsci, mae rhywfaint o besimistiaeth ddeallusol yn addas, ond mae yna le eto i ewyllys optimistaidd.

Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands.

Os mai dim ond darllen gwaith gan bobl sy’n cytuno â’n bydolwg y byddwn, yna adeiladu carchar a wnawn o’n credoau

Pynciau:

#Rhifyn 13
#Athroniaeth
#Moeseg
#Sioned Puw Rowlands