Cyfweld

Hanfodion y Dolig

Awen Menai, Porthaethwy


Ruth Richards

Amser darllen: 4 munud

05·12·2017

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a chanhwyllau persawrus, sgarffiau, tlysau – pob math o betheuach sy'n debyg o apelio ar ddiwrnod dilewyrch at y sawl sydd dan bwysau tymhorol i wario ar anrhegion a mân foes bethau.

Ymddengys bod y gornel hon o Fôn yn cael cryn hwyl ar annog ymwelwyr a Monwysion fel ei gilydd i wario. Ceir dwy stryd fawr ffyniannus, yn llawn o siopau bach annibynnol. Lle perffaith – yn unol â'r ystrydeb – i wared rhag cynnwrf a dal ati; a beth well wedyn na photel o olew oglau da gyda phriciau ynddi i wasgaru'n obeithiol ryw chwa fach o foethusrwydd fforddiadwy?

Dwy dref fechan yn ne'r ynys yn anelu am yr un farchnad ydi'r rhain, ond gyda'r Borth yn llwyddo i wneud hynny, os nad yn gwbl Gymreigaidd, yna'n sicr gyda mwy o sylw i naws ei lleoliad a pharch tuag at y farchnad Gymreig. Mae hynny'n siwtio i'r dim y sawl a werthfawroga foesoldeb a moesgarwch gwasanaeth Cymraeg – yn enwedig wrth siopa am hanfodion dianghenraid.

Mae siop Awen Menai, sydd wedi ei lleoli'n glyd ar ganol Stryd Fawr y Borth, yn crisialu'r ddelwedd hon. Mae'n siop ddel, fel pin mewn papur ac yn llawn o gardiau cyfarch Cymraeg y byddech yn falch o'u fframio, heb sôn am eu gyrru; nwyddau gyda chynlluniau map Arolwg Ordnans o Fôn arnynt; tlysau, crochenwaith – a llyfrau, wrth gwrs, sy'n hanfodion angenrheidiol i lawer ac yn enwedig, mi dybiwn, i ddarllenwyr O'r Pedwar Gwynt.

Awen Menai

Mae'r perchennog Rhiannon Elis-Williams yn bendant ei barn mai siop lyfrau'n fwy na dim arall yw Awen Menai, gan gydnabod ar yr un pryd bod yr anrhegion a'r cardiau, nid yn unig yn cynnig ail fusnes, ond hefyd yn ffurfio cyflwyniad atyniadol i Gymru a'i diwylliant. Yn rhyfeddol, nid at ymwelwyr yn unig yr anelir hyn, ond at y sawl sy'n ddihyder eu Cymreictod yn ogystal. Datganiad ysgytiol sy'n dangos maint y gwaith a'r gofal sydd ei angen os am Gymreigio'r stryd fawr a'r byd adwerthu'n gyffredinol.

Fel y byddai rhywun yn disgwyl o ystyried ethos cynhwysol y busnes a'r detholiad gofalus o ddeunydd cyfrwng Saesneg am Gymru, mae cwsmeriaeth y siop yn eang a'r stoc yn apelio at eu cwsmeriaid craidd ac ymwelwyr fel ei gilydd. Dywed Rhiannon fod symud y siop i safle amlycach ar y stryd fawr wedi bod yn fanteisiol o safbwynt denu cwsmeriaid newydd. Bu'n gyfle hefyd i ail-gynllunio'r siop, yn unol â'i delfryd. Gŵr Rhiannon, Ioan, fu'n ymwneud â'r dylunio, a hithau wedyn yn gofalu am y manylion. Ac mae ôl llafur cariad y ddau i'w weld yn glir.

Fel llawer un sy'n dyheu am newid, bu'n freuddwyd gan Rhiannon gael siop ei hun. Dywed gyda gwên ei bod ers blynyddoedd wedi ffansïo ei hun fel Juliette Binoche yn y ffilm Chocolat; a phwy, mewn difri, a welodd y ffilm honno erioed heb feddwl yr un peth? Cyfuniad o hel meddyliau yn ystod seibiant mamolaeth a chydamseriad twt a'i pwniodd i wireddu ei breuddwyd. Digwydd pasio Awen Menai, a meddwl, tybed ...? Yna, gweld yn y papur bro bod y perchnogion blaenorol yn awyddus i werthu'r busnes ac ymddeol. Ac wrth wireddu ei dymuniad, fe sicrhaodd yn ogystal bod modd i bobl de Môn barhau i bicio i'r Borth am lyfrau Cymraeg.

Yn y Borth y magwyd Rhiannon ond, ers agor y siop, dywed ei bod hithau, ei gŵr Ioan a'u dwy ferch yn teimlo eu bod yn agosach nag erioed at galon y gymuned: bod y fenter wedi cadarnhau a sefydlogi eu gwreiddiau yn yr ardal. Mae hynny i'w ddisgwyl ar un wedd, ac eto mae'n dangos mor hawdd yw anghofio neu ddiystyru'r elfen foddhaol hon o redeg busnes teuluol. Mae'n atgoffa rhywun o werth creiddiol busnesau lleol o safbwynt magu cyswllt â'r cwsmeriaid – a thrwy estyniad, wrth gwrs, effaith gadarnhaol hynny ar naws y gwasanaeth.

Er y bod Rhiannon yn parhau i weithio'n rhan-amser fel cyfieithydd, mae'n amlwg bod Awen Menai'n llawer iawn mwy na difyrrwch iddi. Siarada'n angerddol a byrlymus am gynlluniau i adeiladu estyniad i'r siop ac am yr her o greu awydd am lyfrau Cymraeg ymysg plant wrth i gyllidebau ysgolion a llyfrgelloedd grebachu. Ymddiheura wrth basio 'am y golwg'. Pa olwg? yw'r ymateb amlwg, gan nad oes golwg siop lyfrau lychlyd a'i phentyrrau simsan o gyfrolau anhrefnus ar gyfyl Awen Menai.

Mae lle ac apêl i siop lyfrau flêr wrth gwrs, a chanlyniad digon tebyg a geir o siopa yn Awen Menai, sef gadael gyda mwy o helfa na'r bwriad. Fel gydag unrhyw siop lyfrau, mae yma gyfrolau i demtio rhywun i ychwanegu at y rhestr siopa, gyda'r bonws ychwanegol o allu croesi sawl anrheg arall oddi ar y rhestr dymhorol. 


Mae Ruth Richards yn Brif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith ac yn rhan o dîm golygu a chynhyrchu O'r Pedwar Gwynt. Gellir darllen pennod o'i nofel Pantywennol (Y Lolfa, 2016) yn y fan hon.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ruth Richards, Siop lyfrau, Môn

 


Ymddengys bod y gornel hon o Fôn yn cael cryn hwyl ar annog ymwelwyr a Monwysion fel ei gilydd i wario. Lle perffaith - yn unol â'r ystrydeb - i wared rhag cynnwrf a dal ati

Dyddiad cyhoeddi: 05·12·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…