Cyfweld

‘Gweld Israel yng Nghymru’

Holi Wiliam Owen Roberts

Wiliam Owen Roberts

Cymru Fydd

Llyfrau O’r Pedwar Gwynt, 432tt, £12.99, 2022

‘Gweld Israel yng Nghymru’
Elin Haf Gruffydd Jones
06·12·2022
Ar nos Wener, 25 Tachwedd 2022 cafwyd noson lansio arbennig ar gyfer dathlu cyhoeddi nofel hirddisgwyliedig un o brif awduron yr iaith Gymraeg, Wiliam Owen Roberts. Cymru Fydd yw ei nofel gyntaf ers bron i ddegawd, ers cyhoeddi Paris yn 2013. Ar gyfer yr achlysur, croesawyd Elin Haf Gruffydd Jones i'w holi, a hynny mewn man hanesyddol addas iawn: yn Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth. Rydym yn ddiolchgar iawn i Culture Colony am eu gwaith yn ffilmio'r sgwrs ac i Galeri a Siop Lyfrau Penrallt a Siop Lyfrau'r Senedd-dy am gyd-drefnu'r digwyddiad. Diolch hefyd i bawb a ddaeth i gefnogi.
 
 
 

Pynciau:

#Cymru Fydd
#Wiliam Owen Roberts
#Elin Haf Gruffydd Jones