Cyfweld

Newid byd

Ar drothwy COP26 yn Glasgow

R Gareth Wyn Jones

Amser darllen: 10 munud

27·10·2021

Ar drothwy uwchgynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26 yn Glasgow, bu O’r Pedwar Gwynt yn sgwrsio ag R Gareth Wyn Jones, awdur Energy, The Great Driver (2019), am yr argyfwng ynni, dad-dyfiant a chymunedau iwtopaidd. Dyma ran gyntaf y sgwrs. 

Ymhen ychydig ddyddiau, mi fydd uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 yn agor yn Glasgow. Y nod ydi pennu llwybr fydd yn arwain at allyriadau carbon net sero erbyn 2050, a hynny’n fyd-eang. Yn ôl adroddiad World Energy Outlook 2021 yr International Energy Agency, sydd newydd ei gyhoeddi, mae hyn yn gwbl bosib: nid yn unig gwyddom sut i fynd o’i chwmpas hi, tydi’r gost ychwaith ddim tu hwnt i’n cyrraedd. Ond i ba raddau fydd cysgodion yr argyfwng ynni cyfredol – y shortage economy – yn tywyllu neuaddau’r gynhadledd? 

Mae’r cwestiwn yn tanlinellu un o’r anawsterau dwys ynghlych ein hymateb i her yr arygfwng hinsawdd; sef y tensiwn rhwng galwadau dilys y presennol (‘events, my boy’, i ddyfynnu Harold Macmillan ers llawer dydd) a gweithredu’r polisïau a’r newidiadau cwbl angenrheidiol er mwyn osgoi cynhesu byd-eang tra pheryglus. Rhaid pwysleisio drwodd a thro yr angen i gwtogi allyriadau carbon ein planed ar fyrder – ar gyfradd o 10% y flwyddyn am weddill y degawd hwn, ac wedyn parhau i gwtogi – os am obaith o osgoi cynnydd o dros 1.5 gradd Celsius yn nhymheredd cyfartalog y byd. Ofnaf y bydd ein harweinwyr, yn sgil yr argyfwng presennol ym mhris nwy a thrydan, yn fwy cyndyn byth i weithredu ar unwaith ac â’r brwdfrydedd sy’n ofynnol yn yr uwchgynhadledd hanfodol hon. Mi fydd yn demtasiwn idlio i’r pryder cyfarwydd fod ‘ein gwlad ni’ am golli allan, ac i’r peryg gwirioneddol o weld y ‘goleuadau’n diffodd’ o ganlyniad i ansefydlogrwydd cyflenwadau ynni, fyddai â goblygiadau difrifol i unrhyw lywodraeth. Dyma’r tyndra rhwng amserlen y blaenoriaethau gwleidyddol ac amserlen gofynion ffiseg ein hatmosffer.

Yn gynyddol yn ail hanner yr 20g mae’r mwyafrif ohonom yn y gorllewin wedi arfer â chael pethau’n syth bin, boed yn fwyd parod, yn drugareddau di-angen, yn ddillad newydd, yn ddiddanwch, yn wybodaeth ... rydym yn cael ein tormentio’n barhaus gan gynigion y mae ‘rhaid manteisio’ arnynt ar unwaith; rydym wedi colli’r arfer o bwyllo ac aros i gynilo cyn prynu, ac ati. Ydi cynnal ein safon byw cyfredol yn gyfystyr â throsedd, yn eich barn chi?

Cyfystyr â throsedd? Ydan ni, bob un, yn droseddwyr hinsawdd? Rwy’n amheus fod gosodiad mor garlamus yn gymorth i ddatrys ein problemau. Rydym un ac oll, ym mhob cenhedlaeth, yn blant ein hetifeddiaeth, ac i raddau yn gaeth iddi. Y cwestiwn gwaelodol yw: a yw’r drefn economaidd sydd wedi datblygu dros y canrifoedd, yn arbennig oddi ar y Chwyldro Diwydiannol a goruchafiaeth cyfalafiaeth, yn abl i ymateb i argyfwng cynhesu byd-eang, ac i lywio ein byd drwy’r her unigryw hon. Rhaid sylweddoli i lwyddiant y drefn bresennol, yn hanesyddol ac yn wir hyd heddiw, ddibynnu ar ynni rhad o losgi tanwydd ffosil (sef prif achos ein cyfyngder yn y lle cyntaf). Felly, mae yna dyndra sylfaenol amlwg. Oddi mewn i’r drefn gyfredol, rwy’n amheus bod modd osgoi cynnydd ymhell dros 2 radd Celsius yn nghyfartaledd tymheredd yr atmosffer, am y rhesymau a drafodir gen i mewn erthygl ddiweddar yn Saesneg

Er bod unigolion yn ceisio ymryddhau o hualau’r drefn hon, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gaeth iddi, yn enwedig y tlawd, sy’n dal i obeithio mewn nifer o rannau o’r byd y bydd y drefn bresennol yn eu gwaredu rhag tlodi. Wrth gwrs, mae dyletswydd ar bob un ohonom i wneud ein gorau glas i ymateb a lleihau ein ôl troed unigol a theuluol, ac yn wir mae’r dyletswydd drymaf ar y rhai ohonom sy’n ddigon cyffyrddus ein byd i wneud hynny. Mae’n hanfodol fod pawb hefyd yn pwyso ar ein llywodraethau i weithredu.
 



Yn Awst 2018 dechreuodd Greta Thunberg brotest disgyblion ysgol i dynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd (Llun: Anders Hellberg)


Mater arall yw cyfrifoldebau ac euogrwydd unigolion, megis cyfarwyddwyr Exxon, sy’n gwybod y ffeithiau ffisegol ond yn taenu anwireddau neu yn wfftio’r ffeithiau er budd elw personol, ac yn yr un modd yr arweinwyr hynny sy’n hybu eu gyrfaoedd unigol trwy gyfrwng celwyddau am ffeithiau newid hinsawdd. Synnwn i ddim fod gan Dante le neilltuol yn uffern i unigolion fel hyn. Y grwpiau peryglus eraill yw’r rhai sy’n ymwybodol o’r problemau ond mor ddwfn eu hymlyniad at gyfalafiaeth fel eu bod yn chwilio am esgusodion i osgoi gweithredu ac yn arbenigo mewn ‘Bla-bla’, fel y dywed Greta Thunberg. Does dim dwywaith na fydd pob gwladwriaeth yn COP26 Glasgow yn brysur yn ceisio gwarchod ei blaenoriaethau: cig neu nwy neu olew neu lo neu deithio awyr neu gario nwyddau ar y môr – neu yn achos gwledydd ynysoedd y Môr Tawel, ddyfodol eu gwladwriaeth. Gobeithio y cawn weld y ddynoliaeth yn cyd-dynnu yr wythnos nesaf, ond nid yw’r rhagolygon yn dda.     

A fyddech chi’n cytuno efo’r rhai sy’n dadlau mai dim ond athroniaeth a gwleidyddiaeth dad-dyfiant (degrowth) sy’n cynnig ffordd ymlaen? A hynny yn yr ystyr ei bod yn weledigaeth sy’n cyflwyno cwtogi ar ein defnydd o ynni fel meddylfryd gadarnhaol, yn agosach at weledigaeth Small is Beautiful: A Study of Economics as if People Mattered E F Schumacher (1973), er enghraifft, yn hytrach nag mewn termau negyddol o dorri a chynni?

Heb os, mae yna ddolen ddeallusol rhwng gweledigaeth Schumacher a’n picil presennol ac mae rhannau o’i neges yn fwyfwy perthnasol. Ond credaf fod yna wahaniaethau arwyddocaol hefyd. Erfyn oedd Schumacher arnom i roi heibio ein haddoliad gerbron materoliaeth a thymheru trachwant. Roedd am i ni ystyried economeg a thechnoleg fel gweision i werthoedd gwaraidd dynoliaeth, nid fel arall. Dyma weledigaeth o gyfundrefn economaidd a chymdeithasol lle mae pobl yn cyfri. 

Er i’r adroddiad pwysig cyntaf ar newid hinsawdd ymddangos yn 1965 nid yw llyfr Schumacher yn 1973 yn trafod y pwnc. Gwerth nodi hefyd fod y graffiau yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan Glwb Rhufain, The Limits to Growth (1972), yn ymestyn o 1900 hyd at 2100. Rhybuddio yr oedd Schumacher a’r adroddiad fel ei gilydd, nid cyhoeddi argyfwng. 

Yn anffodus ni chymerodd ein byd yr un iot o sylw o’r rhybudd, ac erbyn hyn mae’r sefyllfa yn frawychus o wahanol. Mae’n fater o raid gweddnewid ein byd o fewn y degawd hwn: o fod yn un sy’n dibynnu ar danwydd ffosil a’r drefn gyfalafol ryngwladol bresennol i drefn amgenach ond heb ddymchwel yr holl system. Ychydig flynyddoedd yn unig sydd gennym i osgoi newid pell-gyrhaeddol yn naearyddiaeth a hinsawdd ein planed; byddai hynny â goblygiadau difrifol i bob un ohonom, nid dim ond i ddinasyddion y gwledydd mwyaf bregus eu hinsawdd, sydd eisoes yn dioddef. Daw hyn ar ôl cyfnod lle anwybyddwyd gweledigaeth Schumacher ac eraill, ond gwaeth, pryd y tynhaodd dylanwad cyfalafiaeth laissez-faire Ysgol Chicago a Chymdeithas Mont Pelerin ei afael ar arweinwyr ein planed. Ac yn dilyn dysgeidiaeth Deng Xiaoping ynghylch cyfalafiaeth gominyddol gweddnewidiwyd Tsieina yn ‘weithdy’r byd’. Yr hyn sy’n newydd ac yn frawychus heddiw ydi’r brys i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil heb droi y drol gymdeithasol a gwleidyddol ar ein planed. Nid mater o fod yn negyddol, felly, ond o wynebu’r ffeithiau creulon.

Mae ymateb y cyhoedd yn mynd i fod yn ganolog i lwyddiant unrhyw ymdrechion i weithredu polisi. Mae seicolegwyr wedi dangos fod pobl yn byhafio’n ddaionus pan eu bod am wireddu syniad sydd ganddynt amdanynt eu hunain fel ‘pobl ddaionus’. I ba raddau mae ‘arwain trwy esiampl’, yn hytrach na thrwy bregethu a cheryddu, yn mynd i fod yn bwysig yn hynny o beth, er mwyn annog pobl i addasu? Mae rhai yn dadlau mai dyna wendid Greta Thunberg – bod y ceryddu yn troi cefnau pobl.

Rwy’n derbyn yn gyfan gwbwl bod arwain drwy esiampl yn bwysig, a trueni nad yw ein harweinwyr yn Llywodraeth San Steffan yn sylweddoli hyn. Cytunaf hefyd bod ystyried seicoleg y ddynoliaeth yn hanfodol yn yr ymdrech i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd. Ond ofnaf, fel rwy’n tanlinellu yn fy nghyfrol Energy, The Great Driver (2019), bod ein hetifeddiaeth seicolegol, ein hymddygiad etifeddol felly, yn rhan hanfodol o’r broblem a bod rhaid wynebu hyn. Rydym yn hanu o gyndeidiau a neiniau oedd am gannoedd o filoedd o flynyddoedd yn bwy mewn grwpiau bach gwasgaredig. A phobl lwythol ydym ni o hyd. Ond am y tro cyntaf mewn hanes rhaid i ddynoliaeth gydweithio er lles pob un, nid dim ond er lles y llwyth. Sefyllfa, ys dywed Ann Griffiths mewn cyd-destun arall, ‘cwbwl groes i natur’. 

Nid yw’r drafodaeth ar y cyfryngau yn helpu dim. Rwy’n cael fy nghorddi yn ddyddiol wrth wrando ar y radio neu’r teledu pan sonnir am allyriadau Tseina – fe’u portreadir fel y bwgan mawr a phrif ffynhonnell y nwyon tŷ gwydr – heb gydnabod bod poblogaeth Tsieina yn 1.4 biliwn o’i gymharu â 68 miliwn y Deyrnas Unedig (DU) a’r oddeutu 320 miliwn sydd yn byw yn Unol Daleithiau America. Clywir Boris Johnson yn brolio y lleihau yn allyriadau’r DU heb gydnabod ein bod wedi dad-ddiwydiannu (Lloegr yn fwy felly na Chymru) a bellach yn mewnforio ein nwyddau trwm o Tsieina, nwyddau sy’n ymgorfforiad o’r nwyon tŷ gwydr a gafodd eu rhyddhau i’w cynhyrchu. Nid wyf erioed wedi clywed y cyfryngau yn sôn am yr holl garbon deuocsid rydym wedi ei ryddhau oddi ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol, sy’n dal yn yr atmosffer. Anodd gweld llwyddiant yn COP26 Glasgow heb i Brydain, sef y trefnwyr, ymarfer gonestrwydd. Ond nid yw gonestrwydd yn natur ein llywodraeth. Felly, i mi, y gwendid yw nid yn gymaint bod Greta Thunberg yn rhy negyddol ond bod ein harweinwyr yn rhy llipa ac anonest ac yn gwrthod wynebu’r sefyllfa.

Beth ydi’r newidiadau yn eich bywyd bob dydd rydych chi’n bersonol wedi llwyddo i’w rhoi ar waith?

Rai blynyddoedd yn ôl, gydag arweiniad llyfr bach campus Mayer Hillman, How we can save the planet (2004), es at i rifo’n fras ein ôl troed carbon. Byddwn yn cynghori bawb i wneud yr un peth. Ar gyfartaledd, mae ôl troed nwyon tŷ gwydr cyfansawdd bob person yn y byd tua 6 i 7 tunnell o CO2e (sef nid yn unig carbon deuocsid ond CO2e, sy’n mesur cyfraniadau’r holl nwyon, megis methan a nitrws ocsid, ac yn y blaen). Yn amlwg, y nod cyntaf yw peidio â chynyddu’r cyfartaledd hwn ac wedyn, cyrraedd mor agos â phosib at sero (yn fras iawn, allyriadau CO2e ~50 biliwn tunnell y flwyddyn; poblogaeth ~7.8 biliwn).

Pa newidiadau ydw i a fy nheulu wedi eu rhoi ar waith? Rydym wedi symud i dŷ llai (yn rhannol am ein bod yn heneiddio) ac wedi mynd i gryn drafferth i’w ynysu yn dda. Rydym hefyd yn cynhyrchu trydan o gyfarpar ffotofoltäig a osodwyd ar y to. Erbyn hyn, rydym yn cynhyrchu mwy o drydan nag ydym yn ei ddefnyddio (-3,500 kWh yn erbyn tua 1800 kWh) ac yn prynu trydan carbon isel hefyd. Mae’r cwmni’n honni cyflenwi nwy carbon isel ond rwy’n awyddus i ddeall mwy am hynny, rhaid cyfaddef. Yn ddiweddar iawn prynasom gar trydan ac yn ystod yr haf, pan fydd digon o haul, rwy’n ffyddiog y bydd modd i ni wefru’r car â’n trydan ein hunain. Nid ydym yn gwario’n drwm ar ddillad nac offer ac rydym yn bwyta’n gymhedrol – dim llawer o gig goch, er enghraifft. Wrth gwrs, rydw i wedi rhoi’r gorau i hedfan ers blynyddoedd a dim awydd mawr gen i i wneud ychwaith, felly doedd hynny ddim yn benderfyniad anodd. Mi fyddwn i’n rhagdybio bod ein ôl troed carbon yn isel, felly, oddeutu 2 i 3 tunnell y pen. Ond rhaid cofio ei bod yn llawer haws i mi leihau fy ôl troed a finnau wedi ymddeol ac ar bensiwn digonol i wneud y newidiadau hyn. Gwn yn iawn fod y carbon deuocsid o’r holl hedfan wnes i pan yn gweithio yn yr Affrig, Pacistan a’r Dwyrain Canol yn dal yn yr awyr, ac mai yno y bydd am ymhell dros gan mlynedd arall.

Mae R Gareth Wyn Jones yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n Gyn-gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Tiroedd Cras, Prifysgol Bangor.

Cyfweliad gan Sioned Puw Rowlands.

Rydym un ac oll, ym mhob cenhedlaeth, yn blant ein hetifeddiaeth, ac i raddau yn gaeth iddi

Pynciau:

#Yr argyfwng hinsawdd
#R Gareth Wyn Jones
#Ynni
#Economeg
#Gwleidyddiaeth
#Cymdeithaseg