Yr agen
Thomas Morris a’i hen ffrindiau – yr ail ran

Thomas Morris (Llun: Dave O’Carroll)
Mi soniaist gymaint wnes di fwynhau astudio llenyddiaeth Gymraeg ar gyfer dy gwrs Lefel A. Pam mynd ymlaen felly i astudio llenyddiaeth Saesneg yn y brifysgol, yn hytrach na llenyddiaeth Gymraeg? Dwi â diddordeb oherwydd i mi ddilyn yr un trywydd fy hun.
Rwy'n meddwl mai awydd gadael Cymru oedd arna i. Fe wnes i astudio Saesneg ac athroniaeth. Fe ddechreuais i ymddiddori fwyfwy mewn athroniaeth yn fy arddegau hwyr. Pan o'n i'n un ar bymtheg oed fe wnes i benderfynu fy mod am astudio yn Iwerddon, ac wedi hynny, roedd unrhyw beth arall yn teimlo'n amherthnasol. [...] Doedd hyn ddim fel golygfa mewn ffilm lle mae rhywun yn dweud: rwy'n mynd i ddianc o'r dref yma, rwy'n mynd i ddianc o'r wlad yma – ond wedyn dyna wnes i. Fallai nad oeddwn i'n ymwybodol o'r union ysgogiad ond yn sicr roedd rhywbeth ar waith. Roedd mynd i Iwerddon wedyn yn ddatblygiad naturiol, roedd yn deimlad Celtaidd o berthyn ... syniad rhamantaidd iawn. Ac mae'n siŵr bod yna gwestiwn mwy yn y fan yna ynghylch fy mherthynas â'r iaith Gymraeg.
Chefais i ddim cyllid i fynd i astudio i Iwerddon – ro'n i wedi cael y wybodaeth anghywir gan swyddog gyrfaoedd nad oedd yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon –felly fe wnes i weithio am flwyddyn mewn swyddfa ddiflas yng Nghaerdydd yn ceisio cynilo'r arian yr oedd ei angen arna i i fynd, ac wedi i mi ddechrau fy nghwrs ro'n i'n dod yn ôl yn y gwyliau i weithio yn swyddfa'r wasg S4C. Dyna fyddai un o'r troeon cyntaf i mi ddefnyddio Cymraeg yn broffesiynol, y tu allan i gyd-destun ysgol. Ac fe wnes i ddechrau darllen rhywfaint o ffuglen Gymraeg gyfoes – fe wnes i hynny am gyfnod eithaf hir. Yna erbyn fy nhrydedd flwyddyn, 2008, daeth y dirwasgiad a doedd dim modd i S4C roi gwaith i mi. Felly'r tro diwethaf i mi ddefnyddio Cymraeg o ddydd i ddydd oedd pan oeddwn i'n un ar hugain neu ddwy ar hugain oed. Does gen i mo'r iaith ar gyfer y bywyd mewnol yn Gymraeg achos pan o'n i'n siarad Cymraeg o ddydd i ddydd, wyddwn i ddim fod gen i un! A'r peth arall yw fy mod i'n dioddef o atal dweud, sydd am ryw reswm yn waeth yn Gymraeg.
Rwy'n dechrau ailfeddwl fy mherthynas â Chymru, â Chymreigrwydd. Rwy'n cofio rhywun yn gofyn i mi ar ôl cyhoeddi fy llyfr cyntaf, a fyddwn i'n ysgrifennu yn Gymraeg, ac ro'n i'n teimlo'n ddigon isel pan atebais nad oeddwn i erioed wedi teimlo fod yr iaith yn perthyn i mi, mai dim ond ar fenthyg i mi yr oedd hi. Ond dydw i ddim yn teimlo hynny bellach: rwy'n teimlo ysfa i'w hadennill hi, ac mae hynny'n dod o ddeall dipyn bach mwy am y tirwedd gwleidyddol. Roedd fy hen fam-gu yn siarad Cymraeg, yn ne Cymru, ond doedd fy mam-gu i ddim oherwydd dyna'r cyfnod pan fyddai'r iaith wedi cael ei gwasgu allan o bobl. Felly fy iaith i oedd hi, a’m hiaith i ydi hi i'w hadennill. Ro'n i'n darllen ysgrif y diwrnod o'r blaen am hanes yr iaith Gymraeg ym Merthyr. Doeddwn i ddim yn gwybod dim o hyn: ro'n i'n cymryd mai rhywbeth a gafodd ei chyflwyno gan athrawon ysgol cenhadol oedd y Gymraeg! Mae maint fy anwybodaeth yn aruthrol, hanes y lle lle cefais fy magu. Ond rwy'n meddwl, wrth fynd yn hŷn, fod modd ymddiddori yn hyn o'r newydd. Mae rhywun yn dechrau bod eisiau deall sut, a pham, a phryd.
Pan gyrhaeddais Ddulyn, fe wnes i brynu gliniadur, ac yn sydyn dyna lle ro'n i yn fy ystafell gyda fy nghyfrifiadur fy hun, ac fe wnes i jyst dechrau ysgrifennu. Roedd y darnau cyntaf bwriadus yna wnes i eu hysgrifennu... wel, ceisio deall rhywbeth ynghylch gadael Cymru ro'n i. Wrth baratoi ar gyfer Lefel A Cymraeg, rwy'n cofio astudio cerdd gan Ceri Wyn Jones am Kilmainham: mae'r bardd yn mynd o gwmpas y carchar yma yn Nulyn ac yn dysgu am hanes Gwrthryfel y Pasg. Ar ddiwedd y gerdd, ac yntau’n sefyll yn y carchar, mae'n teimlo cywilydd llethol – a dyna wnes i ei deimlo pan ddes i yma. Yn syth wedi cyrraedd Dulyn, fe ddes i wyneb yn wyneb â'r hanes – roedd yn amhosib ei osgoi – ac ro'n i'n teimlo cywilydd: cywilydd am nad oeddwn i'n gwybod dim am hanes trefedigaethol Prydain, a chywilydd wrth sylweddoli beth roedd Cymru, trwy amryfusedd, yn rhan ohono wrth fod yn rhan o Brydain. Ro'n i'n dysgu am ferthyrdod, am y Rhyfel Annibyniaeth. Yn ddiweddarach dechreuais deimlo'n euog ynghylch y ffaith nad oedd gen i unrhyw ddiddordeb yng Nghymru. Rwy'n meddwl fod hynny oherwydd nad oedd modd gwahanu hynny oddi wrth yr ysgol; roedd yn rhywbeth oedd wedi ei osod arnaf yn hytrach na chodi'n naturiol o ganlyniad i fy niddordeb i fy hun.
Mae'r un peth yn wir am yr iaith hefyd. Dyna fy mhrofiad i'n gweithio yn Siop Lyfrau'r Senedd-dy yma ym Machynlleth, yn hen Senedd-dy Owain Glyndŵr. Mae pobl sy'n ganol oed neu hŷn yn dod drwy'r drws yn awyddus i ddysgu'r iaith yn iawn. Maen nhw wedi llwyddo i weld y Gymraeg fel rhywbeth tu hwnt i'r ysgol, sefydliadau, biwrocratiaeth, yn fwy felly fel rhywbeth sy'n codi o'r enaid, ac maen nhw am deimlo mwy o gysylltiad â'u hanes teuluol eu hunain. Mae yna gymaint o angerdd a chwilfrydedd mae'n hyfryd. Felly tydw i ddim yn meddwl bod dy brofiad di yn anarferol. Hefyd, pan ydan ni'n ifanc, mae gwledydd pobl eraill a'u hanes yn aml yn fwy apelgar na'n gwlad a'n hanes ein hunain. Rydan ni am wrthod yr hyn sy'n perthyn i ni: fallai ei fod yn rhan o dyfu i fyny – disodli dy rieni, dy ddiwylliant, dy gyndadau ... ei daflu i gyd i ffwrdd.
Ac mae hynny'n angenrheidiol am gyfnod, rwy'n meddwl. Mae'n rhan o'r broses o ffurfio dy hunaniaeth dy hun.
Hoffwn i dy holi di nesaf am dy berthynas â thechnoleg. Yn y stori 'Birthday Teeth' mae natur afreal perthynas ar-lein yn cael ei dadlennu a sut mae hynny'n gallu creu ymdeimlad ffug o'r hunan. Mae modd bod yn unrhyw un ar-lein, sy'n rhyddhad, fallai, ond mae hefyd yn beryglus. Ceir hefyd moment fechan yn dy stori 'Little Wizard' wnaeth wir fy nghyffwrdd i, pan mae Big Mike yn ceisio prynu rhywbeth yn yr archfarchnad. Mae gan y peiriant mae'n ei ddefnyddio lais ofnadwy a tydi o ddim yn gweithio, a tydi Mike ddim yn hapus – ac yna mae yna lais person go iawn yn torri ar draws, ac mae'r person yn garedig wrth Mike, yn gwneud jôc o'r sefyllfa. Peth bach, fallai, ond mawr hefyd. Profiad cyffredin, mae'n siŵr, ydi cael diwrnod ofnadwy ac wedyn peiriant yn siarad efo ni a hwnnw ddim yn gweithio, ac wedyn mae rhywun yn garedig efo ni a hynny'n ddigon i'n cynhesu ni drwodd. Mae bydoedd dy gymeriadau'n aml wedi eu cyfryngu trwy sgrin, sy'n nodweddiadol o'r byd heddiw, felly ro'n i â diddordeb i glywed am dy berthynas di dy hun â thechnoleg a'r cyfryngau cymdeithasol.
O gymryd 'Birthday Teeth' fel enghraifft, rwy wedi bod yn cyfarfod pobl ar y we ers 22 mlynedd. Rwy wedi treulio mwy na hanner fy mywyd yn cyfarfod pobl yn y ffordd yna. Mewn ffordd, rwy'n teimlo i mi dyfu i fyny ar y we. Rwy'n siŵr nad cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fy mod i wedi ysgrifennu straeon sydd yn ymwneud llawer â'r syniad o hunan ffug, neu sut mae'r hunan yn cael ei gyflwyno, neu'r hunan mewn perthynas ag eraill. Mae ysgrifennu am berthynas sy'n dechrau ar sgrin, ac yn cael ei chyfryngu trwy sgrin, yn fy niddori i. Rydyn ni'n aml yn ddrwgdybus o berthynas rhwng pobl ar-lein. Mae hi gymaint yn haws cyflwyno fersiynau gwahanol ohonot ti dy hun, ac yn 'Birthday Teeth', pan mae Glyn yn cael y sgyrsiau hyn efo Alice, ac mae â'r amser i lunio ateb, mae hynny'n un peth, ond mae dod wyneb yn wyneb yn y cnawd â'r un person yn fater arall ... Rwy'n cael fy synnu'n gyson gan fy mhrofiadau fy hun o'r her o fod yn fregus yn y presennol. Mae yna rywbeth am y rhyngrwyd. Mae yn y presennol, ac eto nid yw yn y presennol go iawn. Does dim rhaid ateb y neges yna'n syth.
Rwy hefyd â diddordeb yn y ffordd mae'n atalnodi cynifer o agweddau ar ein bywydau. Felly ar ddiwedd 'Little Wizard', mae Big Mike yn gyrru'r neges yna, ac mae'n aros am ateb Rhian ac mae'n gweld ei bod hi wrthi'n teipio ... Rhywbeth rwy wedi bod yn ei ystyried gryn dipyn yn ddiweddar yw'r system nerfol, ac yn y foment yna mae system nerfol Mike yn cael sgytiad gwirioneddol gan rywbeth mae rhywun yn ei wneud filltiroedd i ffwrdd. Dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi mynd i'r afael yn iawn ag effaith y teclynnau hyn, y math yma o ymwneud, ar ein cyrff. A'r modd mae'n gallu creu problemau ond hefyd yn falm. Yn fy mywyd fy hun, rwy wedi bod yn ceisio cadw trac ar fy nhuedd i estyn am fy ffôn wrth deimlo'n nerfus. A'r ateb ydi bod hyn yn digwydd lot. Achos rwy'n chwilio am rywbeth i fy nhynnu o'r foment. A phan adawaf lonydd i'r ffôn, rwy'n teimlo'n fwy nerfus. Os nad ydw i'n rhoi stop arnaf fy hun ac yn cydnabod hynny, rwy'n mynd yn ôl ar-lein, ac yn cylchu mewn dolenni Kafkaidd eto, er mwyn ceisio tawelu fy nheimladau fy hun, efallai. Mae technoleg yn debyg i anesthetig, mewn ffordd. Mae'n hynod ddiddorol i mi pan fyddwn ni'n defnyddio'r gair 'anesthetig' ein bod yn gwneud hynny mewn gwrthgyferbyniad â'r 'esthetig'.
Wrth ddechrau'r diwrnod trwy ddarllen rwy'n teimlo mor wahanol. Dydw i ddim yn gwneud hynny bob dydd ychwaith ond mae'n arferiad wnes ei ddechrau ar y fferm. Rwy'n ceisio dechrau trwy ddarllen ac wedyn mae fy meddwl mewn lle reit wahanol. Mae'n teimlo fel dŵr llonydd. Os byddaf yn troi fy ffôn ymlaen yn syth, mae fy meddyliau'n llawer mwy aflonydd. Rydym yn cael ein heffeithio mewn ffordd negyddol iawn, ar lefel y corff. Ac rwy wedi deall fod angen i mi fod yn llawer mwy ymwybodol o'r ffordd rwy'n defnyddio'r pethau hyn.
Roedd Twitter yn fy ngwneud yn flin. Ac rwy'n deall ei fod wedi ei greu i gael yr effaith yna. Dyna'r hyn mae'r algorithm yn ei hyrwyddo: mae'n gwthio'r cynnwys sy'n mynd i gynddeiriogi pobl achos wedyn rwyt ti'n fwy tebyg o ymateb, ac mae pobl yn ymateb i hynny. Felly, mae o fantais iddyn nhw ein rhoi ni ar bigau'r drain fel yna. Po fwyaf o amser rwy'n ei dreulio gyda'r dechnoleg hon, po fwyaf y byddaf yn mynd yn ddieithr i mi fy hun – nid technoleg yn yr ystyr ehangach, wrth gwrs, achos fe allwn i fod yn ysgrifennu ar fy nghyfrifiadur ac felly'n dod yn ôl ataf fy hun, at fy nghoed, o ddifri.
Rydw i wrth fy modd â'r tynerwch yn dy waith, y ffaith dy fod yn agored dy farn fel awdur. Rwyt ti'n ddigri, ac mae yna ddychan eironig ond ysgafn ei gyffyrddiad, ac mae yna onestrwydd cadarn hefyd ond tydi o fyth yn galed nac yn greulon. Mae'n gynnes. Mae yna gymaint o ddynolrwydd yn dy waith – ydi hynny'n rhywbeth rwyt ti'n gorfod ei feithrin? Ar y cyfryngau cymdeithasol, fel rwyt ti'n dweud, rydan ni'n cael ein hannog i fod yn flin ac yn sinigaidd ac yn ddirmygus. Mae'n hawdd iawn bod felly, ac os wyt ti'n rhywun sy'n gallu bod yn ffraeth dy dafod, mae'n demtasiwn yn ogystal ...
Achos rwyt ti'n cael dy wobrwyo am fod felly.
Yn union. A does fawr o le i dynerwch ac i empathi; tydi hynny ddim yn cael ei weld fel rhywbeth arbennig o hip. Mae yna lawer o ysgrifennu cyfoes sy'n medru bod braidd yn greulon ac yn emosiynol fflat.
Rwy'n meddwl mai 'acerbic' ydi gair y cyhoeddwyr am hynny.
'Acerbic', ie! Ond mae caredigrwydd yn nodwedd rydw i'n ei gwerthfawrogi fwyfwy mewn awduron, awduron sy'n medru bod yn graff a ffraeth ond sydd hefyd â rhyw ddynolrwydd sylfaenol yn perthyn iddyn nhw. Mae gen ti gymaint o gydymeimlad â'th gymeriadau. Hyd yn oed pan maen nhw'n bod yn hollol hurt, tydw i ddim yn teimlo, fel darllenydd, fy mod yn chwerthin am eu pennau. Mae'r abswrdiaeth yno i'w gweld, ond gallem bob un ohonom fod yn esgidiau'r cymeriad yna; gweld bod dynol yr ydan ni. Ydi hynny'n rhywbeth rwyt ti'n ymwybodol ohono wrth ysgrifennu, neu wyt ti'n teimlo dy fod yn gorfod cadw golwg arnat dy hun?
Mae yna rywbeth am y cyfnod drafftio. Mae a wnelo ag agosáu at y cymeriadau. Felly rwy'n gallu dechrau gyda chonsêt, ddwedwn ni. Er enghraifft: dyma ddyn ifanc sy'n meddwl ei fod yn fampir, ac yn hurt hefyd. Yn y drafft cynnar o'r stori yna roedd trydydd cymeriad oedd yn gwneud hwyl am ei ben fymryn. Ac fe wnes i feddwl, dydy hynna ddim yn iawn, mae'n mynd ar fy nerfau. Y gwaith wedyn yw agosáu at y cymeriadau a deall beth sy'n eu rhwydo nhw, fel petai. Nid yw o angenrheidrwydd i wneud ag un person ar ei ben ei hun. Dydw i ddim ar fy ngorau pan fyddaf yn ysgrifennu am un cymeriad ar ei ben ei hun. Pan mae cymeriad arall yn ymddangos, sy'n creu deinameg benodol, rwy'n teimlo fod hynny'n ffordd i mi addasu, i oslefu'r ysgrifennu mewn rhyw ffordd. Big Mike, er enghraifft: pan o'n i'n ysgrifennu drafft cynnar a dyna oedd yr unig gymeriad yn y darlun, ro'n i'n cael trafferth cael hyd i'r cynhesrwydd yna. Roedd angen iddo fod yn siarad â rhywun, fallai rhywun mae'n rhannu tŷ ag ef, ac yn sydyn mae pobl yn ymateb i'w gilydd. Wrth adael i gymeriadau ymwneud â'i gilydd fel yna, mae'n dod yn fyw, mae'r ysgrifennu'n fwy dwys, yn fwy cyfoethog, ac mae yna benderfyniadau i'w gwneud ynghylch sut maen nhw'n mynd i ymateb. Hyd yn oed pan fyddaf yn darllen, does dim yn fy nghyffwrdd i fwy, yn emosiynol, na gweld caredigrwydd ar y dudalen. Mae yna rywbeth sy'n dyneiddio am hynny. A hefyd mae'n teimlo'n fwy real, yn fwy cymhleth, os oes cymeriad fel Big Mike, lle rwyt ti'n meddwl, dydw i ddim yn cytuno efo'r hyn mae'n ei ddweud mewn gwirionedd, mae braidd yn rhywiaethol, ond mae hefyd yn fwy na hynny. Mae yna freguster yno hefyd.
Dyna mae ysgrifennu da yn ei wneud. Mae'n agor pethau, mae'n dadlennu ...
... yr aperture, yr agen.
Yr agen, yn union.
Fe wnes di sôn y gallwn i deimlo wedi fy ninoethi wrth gyhoeddi'r straeon hyn. Rwy'n cofio meddwl gyda 'Little Wizard' na wyddwn i sut y byddai pobl yn ymateb. Pan wnes i ysgrifennu'r stori yn 2019, rwy'n cofio teimlo na fyddai pobl o angenrheidrwydd am glywed gan gymeriad sy'n galw ei fòs benywaidd yn bitch. Fe wnes i ofyn i mi fy hun, beth ydw i'n mynd i'w roi fan hyn sy'n fwy na dim ond portread. Mae llawer o'r ystyriaethau hyn i'w teimlo, maent yn reddfol felly. Dydw i ddim yn DJ ond rwy'n dychmygu sut mae DJ yn gorfod 'teimlo' y stafell: mae angen troi hwn i fyny a throi hwnna i lawr. Rwy'n meddwl am Mary Gaitskill yn aml. Wn i ddim a wyt ti wedi darllen ei gwaith, ei hysgrifau yn arbennig, lle mae hi'n gynnil iawn. Mae hi'n medru bod yn ddidrugaredd, ond mae hi hefyd yn achub hynny â chariad. Mae hi'n feistres ar ysgrifennu am deimladau gwrthgyferbyniol. A'r cwestiynau mae hi'n eu gofyn yw: sut ydw i'n teimlo am hyn? sut oeddwn i i fod i deimlo am hyn? sut mae'r diwylliant wedi dweud wrtha i y dylwn i deimlo am hyn, a sut oedd y teimladau mewn gwirionedd? Rwy'n cofio darllen ei gwaith a meddwl, dyna lle mae'r safon. Byddai mor hawdd gwneud fel arall a dweud, 'mae llofruddio'n beth drwg!' Ac roedd yna foment yno – moment estynedig, ar-lein, o leiaf – lle doedd yr ymdrechion yna i gyfleu cymhlethdodau yn cael eu gwerthfawrogi, yr ymdrech i gyfleu cymeriad crwn. Fe wnes i roi'r stori i gadw. Fel y soniais yn gynharach, fe gymerodd 'Passenger' bedair blynedd i'w hysgrifennu, 'Aberkariad' ddwy flynedd, 'Birthday Teeth' ddwy flynedd. Fe ddaeth 'Little Wizard' at ei gilydd mewn ychydig o wythnosau – fe ddaeth bron yn rhy rwydd i mi ac fe wnes i ei rhoi hi o’r neilltu heb feddwl llawer amdani hi. Ro'n i'n teimlo dan y don ar y pryd.
Yna, fe wnes i symud yn ôl i Ddulyn i fyw, yn haf 2020. Ar ôl blwyddyn o fynd o fy nghof braidd yn ystod y cyfnod clo, fe ges i fy mhenodi'n Awdur Comisiwn yn Temple Bar Gallery + Studios yn Nulyn. Roedd gen i ofod swyddfa ganddyn nhw am ddau ddiwrnod yr wythnos. Yn sydyn, fe es i o fyw mewn bwthyn bychan lle roedd gen i fwrdd – lle byddwn i'n cael fy mrecwast, fy nghinio, fy ngalwadau Zoom, lle byddwn i'n ysgrifennu, yn gwylio'r teledu, i gyd o gwmpas yr un bwrdd – i fynd i'r arfer o fynd i ofod penodol lle roedd modd i mi gerdded trwy'r galeri ac i fyny'r grisiau i swyddfa. A dyna agorodd yr agen i mi. Fe ddes i o hyd i 'Little Wizard' ar y gliniadur a chael fy hun yn darllen y stori mewn ffordd wahanol iawn i'r tro blaenorol. Ro'n i'n teimlo'n gynhesach tuag at y cymeriad. Ro'n i'n gallu darganfod pocedi o gynhesrwydd.
Mae straeon byrion yn fy marn i'n gofyn i'r awdur ymrwymo i'r gwaith. Mae rhai'n cael hynny'n anodd: dydyn nhw ddim o angenrheidrwydd yn gwybod 'sut' i ddarllen stori fer. Maen nhw'n meddwl amdano fel darn o nofel, ac yn darllen y stori i un cyfeiriad yn unig, ymlaen, ar un lefel. Nid beirniadaeth mo hynny ond rwy'n ymwybodol mai pethau anfoddhaol yw straeon byrion i lawer o ddarllenwyr. Maen nhw'n chwilio am y datrysiad. Ac yn gofyn: ond beth sy'n digwydd nesaf? I mi, mae stori fer dda yn digwydd mewn mwy nag un dimensiwn – i fyny ac i lawr ac ar draws a thrwodd. Dydy hynny ddim bob amser yn golygu symud ymlaen, neu gymeriad yn datblygu, ac ati ac ati. Weithiau mae'n ddigon bod ym myd y cymeriad, treulio rhywfaint o amser gyda rhywun, teimlo ein calonnau'n cydguro.
Dwi'n gorfod darllen casgliadau o straeon byrion yn araf, am y rhesymau rwyt ti newydd eu disgrifio. Tydw i ddim yn medru eistedd a darllen casgliad o straeon mewn diwrnod: wedi gorffen un stori, rydw i am fyw yn y byd yna am dipyn, cyn camu i'r byd nesaf. Fyddet ti ddim yn llowcio casgliad o gerddi. Rwyt ti am aros efo cerdd, rwyt ti am iddi ddaearu ynot ac wedyn mynd o gwmpas dy bethau gan gadw'r gerdd efo ti. A dwi'n teimlo yr un fath am straeon byrion.
Yn yr epigraff i Open Up, rwyt ti'n dyfynnu Clarice Lispector (yn Hour of the Star): '‘The facts are sonorous but between the facts there’s a whispering. It’s the whispering that astounds me.' Ai dyna sydd gen ti, yn rhannol? Fod angen i’r darllenydd diwnio i mewn i'r sibrydion, a gwrando'n ofalus?
Ie, mae yna rywbeth am y cyflymder y mae pobl yn darllen pethau. Mae yna gamddealltwriaeth – rhywbeth rwy'n gweld llawer ohono mewn erthyglau: maen nhw'n dweud fod gallu pobl i ganolbwyntio wedi dirywio, ac felly fod straeon byrion yn berffaith. Na, ddim o gwbl! Mae angen dwbl y gwaith canolbwyntio ar stori fer! Ac weithiau rwy'n ceryddu fy hun am ddarllen stori yn rhy gyflym. Rhaid i mi arafu a theimlo'r curiadau: mae popeth yn fwy dwys. Mae pob saib yn golygu mwy mewn stori nag y byddai mewn nofel, oherwydd, o ran y ratio, mae'n cymryd mwy o le.
Daw Thomas Morris o Gaerffili. Enillodd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, We Don’t Know What We’re Doing (2015), wobr Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, a Gwobr Somerset Maugham. Yn 2023, cafodd ei enwi ar restr Best Young British Novelists Granta. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o straeon byrion fis Awst 2023. Mae’n byw yn Nulyn lle mae’n olygydd cyfranogol i’r cylchgrawn The Stinging Fly.