Dadansoddi

79/ Mwg Evan Roberts, tua 1905

Cymru mewn 100 gwrthrych

Andrew Green

Cymru mewn 100 gwrthrych

Gomer, £19.99, Medi 2018

79/ Mwg Evan Roberts, tua 1905
Andrew Green

Amser darllen: 3 munud

25·09·2018


Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y Gwaredwr’. O Gasllwchwr, cychwynnodd ar saith taith, yn bennaf yn ne Cymru, gan siarad ddwywaith y dydd. Heidiodd miloedd i’w gyfarfodydd ecstatig, gan ganu a gweddïo am oriau. Caeodd tafarndai, gwagiodd meysydd chwarae a theatrau, gostyngodd troseddau a llenwyd y capeli.

Dyna o leiaf yw hanes traddodiadol diwygiad crefyddol Cymru 1904-5. Mae’r gwir yn fwy cymhleth. Roedd ‘diwygiadau’ yn gyffredin yng Nghymru. Bu’r esiampl genedlaethol ddiwethaf yn 1858-9, ond roedd o leiaf chwe diwygiad lleol wedi digwydd ers hynny. Yn Sir Aberteifi, roedd ymgyrch egnïol ar y gweill, dan arweiniad Joseph Jenkins, John Thickens a Seth Joshua, cyn i Evan Roberts gyrraedd. Roedd diwygwyr eraill ar waith yng ngogledd Cymru. Roedd pobl yn barod i dderbyn ei neges cyn i Roberts gyrraedd.

Y wasg a roes i Roberts y rhan flaenllaw yn y diwygiad. Erbyn 1900, cyrhaeddai papurau newydd gynulleidfa dorfol, ac roedd eu perchnogion yn ymwybodol o’u gallu i effeithio ar farn y cyhoedd. Mynychodd gohebwyr gyfarfodydd cynharaf Roberts yng Nghasllwchwr:

Dechreuodd pethau am saith o’r gloch, a pharhau heb egwyl tan 4.30 o’r gloch fore Gwener. Yn ystod yr holl amser hwn, roedd y gynulleidfa dan ddylanwad angerdd a hwyl grefyddol ddofn ... Cerddodd [Roberts] i fyny ac i lawr yr eiliau, gyda’r Beibl ar agor yn ei law, gan annog y naill a’r llall, a mynd ar ei bengliniau gyda thrydydd i grefu bendith o orsedd gras. Cwympodd pobl fel pe baent wedi’u bwrw. Cododd menyw ifanc i ddatgan emyn a ganodd â difrifwch dwfn. Tra roedd hi’n canu syrthiodd pobl yn eu seddi ... a dechrau gweiddi am faddeuant.

Rhoes y Western Mail sawl colofn bob dydd i Roberts, gydag adroddiadau llygad-dystion, bywgraffiadau, cyfweliadau, llythyrau a lluniau. Ymhlith y penawdau roedd ‘Merched yn llewygu a dynion yn llefain’ ac ‘Anffyddiwr yn llosgi ei lyfrau’. Daeth Roberts yn enwog ar unwaith. Rhoed ei ddelwedd ar fygiau cartref, a’i eiriau ar silindrau cwyr (adferwyd un ohonynt yn 2004, gan adfywio llais a fu’n dawel am ganrif).

Gallai ffocws y wasg ar Roberts fod wedi niweidio ei achos. Ymosododd rhai gweinidogion ar ei ymgyrch fel ‘diwygiad ffug, rhith, parodi cableddus o’r peth go iawn’. Cymerodd ei emosiynoldeb, meddent, fantais ar fenywod ifainc bregus, ac nid oedd ganddo barch at awdurdodau capel. Hefyd, dangosodd Roberts arwyddion o ansefydlogrwydd meddyliol; wedi chwalfa nerfau llwyr yn gynnar yn 1906, daeth ei ymgyrch i ben.

Bu llawer o drafod am darddiad y diwygiad. Er nad oedd aelodaeth y capeli erioed wedi bod yn uwch, ofn llawer o Anghydffurfwyr oedd bod yr aelodau’n mynychu allan o arfer, nid o argyhoeddiad, a bod secwlariaid a sosialwyr yn tanseilio ffydd Gristnogol. Roedd angen ailgynnau angerdd ac egni’r Methodistiaid cynnar. Dros dro, arweiniodd y diwygiad at dwf yn y nifer o aelodau yn y capeli, ond yn y pen draw, ni allodd atal y dirywiad hirdymor mewn cred ac arfer Cristnogol yng Nghymru.

79 / Mwg Evan Roberts, tua 1905 / Amgueddfa Sir Gaerfyrddin / sirgar.llyw.cymru / SA31 2JG

Bydd tri digwyddiad lansio ar gyfer y gyfrol Cymru mewn 100 gwrthrych. 

·    Dydd Mercher, 26 Medi, 18.00-19.30 - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd

·    Dydd Iau, 27 Medi, 19.00-20.30 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

·    Dydd Gwener, 28 Medi, 19.00-20.30 - Storiel, Gwynedd.

Gellir prynu'r gyfrol ar-lein yn y fan hon.

Mae Andrew Green wedi gweithio fel llyfrgellydd a chyfarwyddwr gwybodaeth mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1998 a 2013. Cyfrannodd at waith sawl corff, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n llywydd Sefydliad Brenhinol De Cymru ac yn gadeirydd Bwrdd y New Welsh Review. Mae’n cyhoeddi blog wythnosol o dan yr enw ‘gwallter’, ac yn mwynhau ysgrifennu a theithiau cerdded.

Ffotograffydd annibynnol yw Rolant Dafis gyda dros ugain mlynedd o brofiad ym meysydd hysbysebu a marchnata, pensaernïaeth, celfyddyd gain a chyfoes, a’r wasg. Dechreuodd ei yrfa yng Nghymru ym mwrlwm sîn roc Gymraeg yr wythdegau ac y mae wedi gweithio fel prif ffotograffydd i Sotheby’s. Mae ei restr o gleientiaid eclectig yn cynnwys The IndependentThe Guardian, Christie’s a Creation Records.

Ymosododd rhai gweinidogion ar ei ymgyrch fel ‘diwygiad ffug, rhith, parodi cableddus o’r peth go iawn’. Cymerodd ei emosiynoldeb, meddent, fantais ar fenywod ifainc bregus

Pynciau:

#Andrew Green
#Hanes