# Hanes

# Hanes


T Robin Chapman

Tua chwarter canrif yn ôl – ac mae’n debyg bod a wnelo drwgdybiaeth ffasiynol y cyfnod o statws breintiedig yr awdur â’r peth – bu newid sylfaenol yn agwedd beirniadaeth lenyddol Gymraeg tuag at swyddogaeth y cofiant. Yn lle’r pwyslais a welwyd gynt ar deilyngdod y gwrthrych,…

# Hanes


Andrew Green

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.

Gwneid…

# Hanes


Andrew Green

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob…

# Hanes


Andrew Green

Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y…

# Hanes


Angharad Price

Dinas dlos, ddi-sôn-amdani ar lannau afon Mosel ydi Trier, a’r bryniau o’i chwmpas yn rheseidiau unionsyth o winwydd, deunydd crai’r gwin aur, mawr-ei-fri. Hon ydi dinas hynaf yr Almaen, meddan nhw, a dan yr enw Trevorum hi oedd prifddinas ogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig;…

# Hanes


Rowan Zhao

Pwy oedd ‘Tim Tsieina’? Dyma lysenw Timothy Richard. A phwy oedd Timothy Richard felly? Mae ei enw’n ymddangos – yn y ffurf Tsieineeg ‘Li T’i-mo-t’ai’, wrth gwrs – ym mhob cyfrol, bron â bod, ar hanes Tsieina yng nghyfnod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.…

# Hanes


Dewi Huw Owen

Rhoddwyd llais i un o straeon coll gwleidyddiaeth Cymru pan gyhoeddwyd astudiaeth swmpus Douglas Jones, The Communist Party of Great Britain and the National Question in Wales, 1920 – 1991, gan Wasg Prifysgol Cymru y llynedd. Mae’r gwaith yn un gwirioneddol arloesol.…

# Hanes


Huw M

Roedd ’na adeg pan oedd y caffi Eidalaidd yr un mor nodweddiadol o ddiwylliant y cymoedd â’r capel, y clwb rygbi a’r pwll glo. Roedd o leiaf un, weithiau dau neu dri, ym mhob pentref. Ac ymhell cyn dyddiau Nero, Costa a Starbucks, roedd…

# Hanes


Jane Aaron

Pan ddaw’r chwyldro hir i’w lawn dwf o’r diwedd, a phawb yn gyfartal a chytûn, go brin y byddwn wedyn yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mwy na Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. Mae’r angen am ddydd o’r fath, i’n hatgoffa o ymgyrchoedd y gorffennol, i’n sbarduno…

# Hanes


Jon Gower

Rhai blynyddoedd yn ôl, bûm yn yfed cwrw yn y Bridge Inn yn Llangain, neu Kentchurch, yn Sir Henffordd a phenderfynu ar ôl un – neu dri – ceisio ymweld â phlasty cyfagos i weld portread honedig o Owain Glyndŵr (neu Siôn Cent o leiaf) ar y waliau…