Llythyrau
At sylw Cyngor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Hoffem ni, y rhestrir ein henwau isod, ddatgan ein hanfodlonrwydd a’n pryder ynghylch penderfyniad diweddar Cyngor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i ymwrthod â’r arwyddair ‘Byd gwyn fydd byd a gano,/ Gwaraidd fydd ei gerddi fo’ a luniwyd gan un o’n beirdd Cymraeg mwyaf, T Gwynn Jones. Defnyddiwyd yr arwyddair — yn ei ffurf Gymraeg wreidd-iol ac mewn cyfieithiad safonol i’r Saesneg — heb wrthwynebiad gan yr Eisteddfod er ei sefydlu yn 1947. Yn ogystal â’r ystyr amlwg — sy’n cyfleu ysbryd yr ŵyl yn gain mewn cynghanedd — mae’n hysbys hefyd fod yr arwyddair yn corffori darn o hanes yr Eisteddfod: mae mwysair yn y llinell gyntaf sy’n cyfeirio at W S Gwynn Williams, prif sefydlydd yr Eisteddfod, ei Chyfarwyddwr Cerdd am flynyddoedd, a chyfaill i T Gwynn Jones.
Ymhlith y rhesymau a roddwyd o blaid newid yr arwyddair nodwyd gan un o lefaryddion yr Eisteddfod y gallai’r arwyddair o’i gyfieithu ar-lein achosi tramgwydd hiliol. Gwrthodwn sail y ddadl hon yn llwyr. Gallai llu o ymadroddion o liaws o ieithoedd y byd beri tramgwydd i wahanol garfanau o’u cyfieithu’n llythrennol ac anghywir heb ystyried priod-ddulliau ac arferion traddodiadol yr ieithoedd y cyfieithwyd ohonynt. Ni ddylid ymwrthod ag ymadroddion ar sail cyfyngiadau rhaglenni cyfieithu ar-lein, a’u tuedd weithiau i gyfieithu’n llythrennol heb gyfleu’n briodol ystyron cydnabyddedig nac arlliw ymadrodd. Y mae gan arwyddair T Gwynn Jones ei ystyr yn y Gymraeg a honno’n ystyr gwbl gymeradwy; yn ôl yr ystyr honno y dylid ystyried yr arwyddair, ac nid yn ôl llathen fesur cyfieithu annigonol. Y mae gan y Gymraeg, fel ieithoedd eraill, ei sofraniaeth ei hunan o ran ymadrodd ac ystyr, un y dylid ei chydnabod a’i pharchu.
Ni wyddom am enghreifftiau o ieithoedd lle cytunai ei siaradwyr i ymwrthod â’r defnydd o ymadroddion cwbl ddiniwed a derbyniol oherwydd y gallai eu cyfieithu’n llythrennol ac annigonol beri tramgwydd i rywrai yn rhywle. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, fod yr Eisteddfod Ryngwladol am wneud eithriad o’r Gymraeg gan ei darostwng a’i diraddio o’i chymharu ag ieithoedd eraill. Y mae’r ffaith hon yn ganolog yn yr achos hwn. Afraid dweud bod Gwyn fyd (fel yn y Gwynfydau) yn ymadrodd hynafol yn y Gymraeg, gydag ymadroddion cytras a chyfochrog yn y Llydaweg, y Gernyweg, a’r Wyddeleg. Dylai’r Eisteddfod, fel digwyddiad diwylliannol a gynhelir yng Nghymru, barchu’r ffaith hon a pharchu’r Gymraeg a’i siaradwyr a thraddodiad diwylliannol Cymru.
Mae’n ddrwg gennym fod yr achos hwn, a gymhellwyd gan anwybodaeth ac annealltwriaeth, wedi gwneud yr Eisteddfod yn gyff gwawd. Fel rhai y bu ganddynt barch mawr tuag at yr Eisteddfod erfyniwn yn daer ar Gyngor yr Eisteddfod i newid ei benderfyniad gan adfer enw da’r ŵyl. Byddai gwneud hynny hefyd yn dileu’r anfri a roddwyd ar goffadwriaeth T Gwynn Jones, gŵr nodedig o flaengar yn ei ddydd, a heddychwr a rhyng-genedlaetholwr eang ei olygwedd. Gofynnwn yn garedig ichwi ymatal rhag unrhyw weithredu pellach o ran dileu’r arwyddair nes i’r mater gael ei aildrafod yn llawn.
Jane Aaron, Gruffudd Antur, Myrddin ap Dafydd, Menna Baines, J K Bollard, M Paul Bryant-Quinn, Jane Cartwright, Huw Ceiriog, T Robin Chapman, Thomas Charles-Edwards, Elis Dafydd, Ceri Davies, Gruffydd Davies, Hazel Walford Davies, Jason Walford Davies, Sioned Davies, Walford Davies, Jane Edwards, Angharad Elias, Meg Elis, Meirion Evans, Alexander Falileyev, Angharad Fychan, Gwen A Gruffudd, Elin Haf Gruffydd Jones, Andrew Hawke, Marged Haycock, Elissa R Henken, Vaughan Hughes, Jerry Hunter, Bleddyn O Huws, Christine James, E Wyn James, Branwen H Jarvis, Geraint H Jenkins, Dafydd Johnston, Aled Llion Jones, Alun Jones, Dafydd Glyn Jones, Ffion Mair Jones, John Gwilym Jones, Llion Jones, Richard Wyn Jones, T James Jones, John Koch, William R Lewis, Margaret Lloyd, Alan Llwyd, Rheinallt Llwyd, Peredur Lynch, Diarmait Mac Giolla Chriost, Rhiannon Marks, Patrick McGuinness, D Densil Morgan, Derec Llwyd Morgan, Twm Morys, Ann Parry Owen, Geraint Lloyd Owen, Hywel Wyn Owen, Elena Parina, Erich Poppe, Angharad Price, Huw Pryce, Ifan Prys, Iwan W Rees, D Hywel E Roberts, Sara Elin Roberts, Simon Rodway, Sioned Puw Rowlands, Paul Russell, Manon Rhys, Robert G Rhys, Eurig Salisbury, Patrick Sims-Williams, Dei Tomos, Robat Trefor, Gerwyn Wiliams, Catrin Haf Williams, Colin Williams, Gruffydd Aled Williams, Heather Williams, Huw L Williams, Manon Williams, Trevor Williams, David Willis.
Anfonwch eich llythyrau at gol@pedwargwynt.cymru