Colofnau

Birmingham Vanley Burke

Darllen llun

Diane Bailey

Amser darllen: 3 munud

07·12·2021

Hogiau ifanc ar sigl adenydd ym Mharc Handsworth, 1984

 

Yn Jamaica y ganwyd Vanley Burke, yn 1951. Pan ddaeth yn bosib iddo ymuno â’i rieni yn Birmingham, yn 1965, rhoddodd ei gamera Brownie yn ei fag. Roedd y teclyn hwn yn golygu llawer iddo. Rydw innau wedi dod i’w gyfarfod yn ngŵyl ffotograffiaeth The Eye yn Aberystwyth. Mae’n dweud ei hanes wrtha i: yn sefyll yn 18 oed yn Broad Lane, Handsworth, yn ymyl y siop deuluol, ac yn penderfynu ‘bod yna ddechreubwynt i hanes hefyd, ac mai’r foment hon, yn y fan a’r lle, fyddai dechrau hanes ein cymuned, a hynny o fy mherspectif i’. Mae’n cellwair mai ffotograffiaeth wnaeth ei ddewis o, nid fel arall. Oddi ar y foment honno, mae wedi defnyddio ei gamera i edrych ymlaen at fyd tecach ond heb gefnu ychwaith ar y gorffennol. Mi ofalodd y byddai’n cyfrannu at yr orchwyl o ysgrifennu ‘ein hanes ein hunain’. 

Gan ddogfennu bywyd bob dydd, yr hyn nas ystyrir fel arfer yn ddigon diddorol i’w adrodd, yn ddim byd newydd felly, daw i’w gasgliadau ei hun, wedi eu siapio gan yr hyn y mae’n ei ddysgu trwy dynnu lluniau pobl: ar gornel stryd, yn eu ceginau, mewn ysgolion a chapeli, ar lan y bedd, yn y gwaith ac yn y parc lleol. Dyma Handsworth Park – parlwr ffrynt y gymuned; y man lle daw pobl ynghyd i ddathlu, i wrando ar gerddoriaeth, lle mae plant yn aeddfedu’n oedolion. Dyma lle daliodd afael, yn eofn, ar yr ysbryd gwleidyddol a’r tensiynau hiliol a oedd yn gefnlen barhaus i’r cyfnod. ‘Y bywyd rydw i’n ceisio ei gyfleu ydi’r bywyd rydw i’n ei fyw,’ meddai. Ym mhrifysgolion Prydain y 1970au a’r 1980au bu gwaith Vanley Burke yn gymorth i fwydo’r drafodaeth ynghylch ‘realaeth’ ymysg beirniaid a theorïwyr Du dylanwadol, megis Stuart Hall, Lola Young, Eddie Chambers a Mark Seal. Ond fel model o sut i ymarfer ffotograffiaeth y dylid ei edmygu – y ffordd yr aeth ati i roi ei hun mewn sefyllfa lle gallai ddweud, ‘Y ni, nid y nhw.’ 

Dyma’r ffotograffydd fel arwr, yn magu hyder a mentergarwch. Wrth graffu ar ei waith, cawn argraff o ymroddiad oes: mae cynifer o ffotograffau wedi eu tynnu ganddo, yn lluosogi olion einioes dros ddegawdau. ‘Rydw i’n gweld y bobl hyn bob dydd ac yn gweld y newid ynddyn nhw,’ meddai. Wrth ei draed, mae ganddo focsiaid o luniau, bocs mae’n ei gario efo fo’n aml, i argyhoeddi’r rhai nad ydynt eisoes yn gyfarwydd â’i waith ei fod yn ‘ffotograffydd da’ ac y bydd yn tynnu llun da. Dan drwch y papur ffotograffig, bron nad ydw i’n gweld curiad calon daer. Ac mae’r bobl sy’n rhannu ei fyd yn Handsworth, o’r crud i’r bedd, yn cytuno’n ddi-ffael: yn y mosgiau, yn y temlau, yn y gurdwaras; trwy gyfnod yr ymchwydd mewn Black Power, poblogrwydd y mudiad Rastaffaraidd, a heddiw, Black Lives Matter. Dacw nhw yn adeiladau’r cyngor, mewn llefydd lleol mawr a bach, a ‘llysgenhadon y gymuned’ yn mynd ati i gario llond ceir o bobl i arddangosfeydd, i weld ffotograffau a fframiwyd ac a hongiwyd ar waliau orielau – lluniau ohonyn nhw a’u teuluoedd. Llofnodir y catalogau, cânt eu cario adref yn ofalus, i’w cadw, neu i’w rhoi mewn lle amlwg yn y cartref – gyda chyfarwyddiadau llym i ‘beidio â chyffwrdd’. Atgofion. Dyma sut mae ‘cysyniadau ynghylch gwirionedd yn dod yn rhan o gymdeithas,’ ysgrifenna Lola Young yn y gyfrol Vanley Burke: A Retrospective (1993), ‘trwy fod wedi eu hailadrodd yn barhaus ac yn y pen draw, trwy gael eu hamsugno’. Dyma nerth cymuned.  

Heb fwriadu hynny’n union (a Vanley Burke fyddai’r olaf i gydnabod y fath haeriad), daeth ei waith yn rhan o’r gwrthsafiad diwylliannol yr oedd yn chwilota amdano’n hogyn ifanc. Ffurfiwyd ei wrthsafiad yn erbyn graen y naratif Ewropeaidd, naratif a gafodd ei siapio gan feddylfryd goruchafiaethol. Yn yr un modd â’r ffotograffydd, mae gan bob un ei ran i’w chwarae wrth edrych. Dydi’r darlun cyflawn fyth gan neb.

Sefydlodd Diane Bailey a Geoff Young Ffotogaleri y Gofeb, Machynlleth yn 2017. Nhw hefyd yw perchnogion Galeri a Siop Lyfrau Penrallt, Machynlleth.

Dyma Handsworth Park – parlwr ffrynt y gymuned; y man lle daw pobl ynghyd i ddathlu, i wrando ar gerddoriaeth, lle mae plant yn aeddfedu’n oedolion

Pynciau:

#Darllen llun
#Rhifyn 17
#Diane Bailey
#Ffotograffiaeth