43/ Cwpwrdd tridarn, diwedd yr 17G
Cymru mewn 100 gwrthrych
Andrew Green
Cymru mewn 100 gwrthrych
Gomer, £19.99, Medi 2018

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.
Gwneid cypyrddau tridarn o dderw sych gan seiri lleol medrus. Roedd y rhannau canol ac isaf ar gyfer storio dillad a nwyddau eraill a’r rhan uchaf gyda chanopi â cholofnau turniedig yn agored i arddangos crochenwaith, llestri piwter a thrysorau teuluol eraill. Cerfiwyd rhai cypyrddau yn gywrain gyda mowldinau, paneli addurnedig, ffigurau ac arysgrifau, tra bod eraill, fel yr enghraifft o Ynysgain Fawr ger Cricieth, yn llawer mwy plaen.
Gallai teulu gomisiynu cwpwrdd tridarn i nodi digwyddiad pwysig, fel priodas neu sefydlu cartref newydd. Cofnoda cwpwrdd o 1689 sydd bellach yn Nhŷ Mawr, Wybrnant lythrennau cyntaf cwpwl priod, ‘WI’ ac ‘IH’, ac arwyddair, ‘Bydd drugarog yn ôl dy allu’. Roedd y cwpwrdd tridarn yn ddodrefnyn trawiadol, ond roedd hefyd yn ymarferol, gan nad oedd llawer o le mewn tai oedd ymhell o fod yn fawr.
Disodlwyd y tŷ yn Ynysgain gan dŷ newydd ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ond fe wnaeth teulu Jones (Pughe-Jones yn ddiweddarach), a fu’n byw yno’n barhaus o ganol yr ail ganrif ar bymtheg hyd 1955, basio eu cwpwrdd tridarn o un genhedlaeth i’r nesaf. Mae balchder mewn traddodiad crefft wledig a’i barhad yn thema stori fer hiraethus gan D J Williams, ‘Y cwpwrdd tridarn’, a ysgrifennodd yn 1939. Mae ei phrif gymeriad, hen saer maen o’r enw Harri Bach, yn sylweddoli gyda thristwch fod ei nai, John Hendri, wedi cefnu ar ddiwylliant ac iaith draddodiadol Cymru. Yr unig eiddo sy’n weddill i Harri, i’w adael i John ar ôl ei farwolaeth, yw ei gwpwrdd hynafol, lle mae’n cadw’r ychydig drysorau sydd yn dal ganddo. ‘Yn ddiarwybod iddo, gweithredai’r cwpwrdd hwn fel rhyw angor yn y dyfnder yn dal ei bersonoliaeth rhag ei symud gan y trai a’r llanw o’i gwmpas’. Sylwa nawr fod pryfed pren yn rhemp ynddo.
Roedd Ynysgain yn gartref i un o’r Affricanwyr duon cynharaf a gofnodir yng Nghymru. Anhysbys yw ei enw a’i ddyddiad geni, ac mae’n ansicr sut y daeth i ardal Cricieth yn fachgen ifanc o gwmpas 1745. Un stori, yn ôl hanes a drosglwyddwyd ar lafar ac a gyhoeddwyd gan ‘Alltud Eifion’ yn 1888, oedd iddo gael ei ddal yn Affrica gan aelod o deulu Wynne o Ystumllyn, ond efallai mai o gartref caethweision yn Ynysoedd y Caribî y daeth. Pan gyrhaeddodd Ystumllyn, dywedwyd ‘nid oedd ganddo unrhyw iaith heblaw am synau tebyg i udo ci’, ond cyn hir roedd yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fe’i hadnabuwyd gan bobl leol fel ‘John Ystumllyn’ neu ‘Jac Blac’. Roedd yn arddwr a blodeuwr medrus, a bu’n gweithio fel garddwr i deulu Wynne.
Dangosa paentiad olew fod John yn llanc golygus, a dywedwyd iddo fod yn boblogaidd gyda’r merched lleol. Daeth i Ynysgain yn wreiddiol i ganlyn Margaret Gruffydd. Ar ôl priodi, buon nhw’n byw yn Ynysgain gan weithio yno fel ‘stiwardiaid tir’. Bu farw John yn 1786 a chladdwyd ef yn Ynyscynhaearn. Ar ei garreg goffa, mae englyn gan Dafydd Siôn Siâms, sy’n cadarnhau’r traddodiad iddo gael ‘ei barchu gan y boneddigion a’r bobl gyffredin fel ei gilydd’ fel dyn gonest ac egwyddorol.
43 / Cwpwrdd tridarn, diwedd yr 17G / Storiel, Bangor / gwynedd.llyw.cymru / LL57 1DT
Bydd tri digwyddiad lansio ar gyfer y gyfrol Cymru mewn 100 gwrthrych.
· Dydd Mercher, 26 Medi, 18.00-19.30 - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
· Dydd Iau, 27 Medi, 19.00-20.30 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
· Dydd Gwener, 28 Medi, 19.00-20.30 - Storiel, Gwynedd.
Gellir prynu'r gyfrol ar-lein yn y fan hon.
Mae Andrew Green wedi gweithio fel llyfrgellydd a chyfarwyddwr gwybodaeth mewn prifysgolion yng Nghymru a Lloegr. Roedd yn Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1998 a 2013. Cyfrannodd at waith sawl corff, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n llywydd Sefydliad Brenhinol De Cymru ac yn gadeirydd Bwrdd y New Welsh Review. Mae’n cyhoeddi blog wythnosol o dan yr enw ‘gwallter’, ac yn mwynhau ysgrifennu a theithiau cerdded.
Ffotograffydd annibynnol yw Rolant Dafis gyda dros ugain mlynedd o brofiad ym meysydd hysbysebu a marchnata, pensaernïaeth, celfyddyd gain a chyfoes, a’r wasg. Dechreuodd ei yrfa yng Nghymru ym mwrlwm sîn roc Gymraeg yr wythdegau ac y mae wedi gweithio fel prif ffotograffydd i Sotheby’s. Mae ei restr o gleientiaid eclectig yn cynnwys The Independent, The Guardian, Christie’s a Creation Records.