Dillad newydd Brasil
Urddo Lula ar ddydd Calan

Llun: Penwisg o’r Amason (Creative Commons Zero – CC0)
Yn gynharach yr wythnos hon, ar ddydd Calan, urddwyd Luiz Inácio Lula da Silva yn arlywydd Brasil yn dilyn ei fuddugoliaeth (trwy drwch blewyn) yn erbyn Jair Bolsonaro yn etholiadau arlywyddol yr hydref. Gellid dadlau mai’r etholiad hwn oedd yr un pwysicaf a welwyd ym Mrasil oddi ar ddymchwel system unbeniaethol filwrol y wlad yn 1985. Roedd Lula yn ddewis rhwng adfywio democratiaeth, amddiffyn hawliau dynol ac achub yr amgylchedd ar y naill law, a’r gwrthwyneb, i bob pwrpas, o dan ei ragflaenydd dadleuol, ar y llaw arall. Nid oedd Bolsonaro yn bresennol ar gyfer seremoni trosglwyddo’r arweinyddiaeth ac yntau eisoes wedi gadael y wlad. Ni chydnabyddwyd ganddo ychwaith fuddugoliaeth etholiadol Lula.
Yn ystod pedair blynedd Bolsonaro mewn grym daeth llawer iawn o broblemau i’r wyneb ym Mrasil. Yn ôl y Cyngor Cysylltiadau Tramor, torrwyd coed ar raddfa syfrdanol a bu llai o weithredu ar gyfreithiau amgylcheddol gan wthio pobl frodorol o’u tiroedd er budd masnachol. Cyhuddwyd Bolsonaro gan y Llys Troseddol Rhyngwladol o ‘droseddau yn erbyn dyniolaeth’ am ddinistrio’r Amason. Fe’i cyhuddwyd gan Lula hefyd o ‘droseddau yn erbyn dyniolaeth’ o ganlyniad i’w strategaeth imiwnedd torfol yn ystod pandemig Covid-19. Fel ‘1000 diwrnod heb hawliau dynol’ y labelwyd adroddiad Amnest Rhyngwladol ar gyfnod cyntaf Bolsonaro mewn grym.
Felly beth sydd i ddod yn sgil buddugoliaeth Lula – ei drydydd tro yn gwisgo clogyn yr arlywyddiaeth? Yn dilyn honiadau na fyddai Bolsonaro yn cydnabod dilysrwydd yr etholiad, bu’r gymuned ryngwladol yn sydyn iawn i gydnabod y canlyniadau. Dywedodd Alberto Fernández, arlywydd yr Ariannin, fod pobl Brasil wedi rhoi eu barn yn ddemocrataidd ac y dylid parchu eu dymuniad. Fe gyflewyd neges debyg gan arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden wrth iddo longyfarch Lula am gael ei ethol mewn ‘etholiadau rhydd, teg, a chredadwy’. Cyhoeddodd yr Arlywydd Emmanuel Macron yntau y byddai Ffrainc a Brasil yn gweithio gyda’i gilydd i wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad ac i daclo heriau mawr y byd. Ac fe wnaeth ein prif weinidog Rishi Sunak longyfarch Lula gan ddweud y byddai Prydain a Brasil yn gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn adnoddau naturiol y byd ac i hyrwyddo gwerthoedd democrataidd. Yn nhermau polisi tramor, mae arwyddion cynnar felly yn awgrymu bod buddugoliaeth Lula wedi ailagor drysau Brasil i’r byd.
A Lula bellach wedi ei urddo, mae’n debyg ei fod eisoes wedi hen ddechrau ar ei waith o geisio troi'r llanw, ond mi fydd yn wynebu llawer iawn o heriau. I ddechrau nid oes ganddo fwyafrif seneddol gan fod gan blaid Bolsonaro, y Blaid Ryddfrydol, fwyafrif yn Siambr y Dirprwyon ac yn y Senedd Ffederal. O ganlyniad, mi fydd hi’n anodd i Lula basio cyfreithiau a gwireddu amcanion ei faniffesto. Rhaid cofio hefyd bod y wlad yn rhanedig iawn drannoeth yr etholiad. Wedi buddugoliaeth Lula, daeth llawer o gefnogwyr Bolsonaro allan ar y stryd i brotestio nad oedd y canlyniadau’n ddilys. Bydd yr heriau mewnol hyn yn anorfod yn effeithio ar allu Lula i roi ei sylw i faes polisi tramor. Ond nid oes modd osgoi’r heriau rhyngwladol ychwaith. O ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin, mae prisiau ynni a bwyd yn cynyddu ar draws y rhanbarth, ac yn achos Brasil yn benodol, mae’r cynnydd byd-eang mewn prisiau gwrtaith yn cael effaith negyddol iawn ar allu’r wlad i dyfu bwyd nid yn unig ar gyfer y farchnad ryngwladol ond hefyd ar gyfer anghenion ei phobl ei hun.
Ers ennill yr etholiad, pa gamau symbolaidd a gymerwyd hyd yma gan Lula? Yn COP27, fe ddywedodd fod Brasil ‘yn ôl’ – yn ôl ar lwyfan y byd. Mae hyn yn awgrymu eto, er gwaetha’r heriau, y bydd polisi tramor Brasil o dan Lula yn llawer mwy agored nag y mae wedi bod o dan Bolsonaro. Mae awgrym cryf yn ogystal bod Lula am roi polisïau amgylcheddol sylweddol ar waith yn ei haeriad, ‘Heb Amason warchodedig, nid oes unrhyw sicrwydd hinsawdd ar gyfer y byd’. Dywedodd y byddai Brasil yn rhoi ei henw gerbron i gynnal COP30 yn 2025 ac y byddai’n gwneud hyn yn yr Amason ei hun er mwyn dangos pwysigrwydd sicrhau trawsnewidiad gwyrdd byd-eang.
Mae'n werth nodi ers i fwy o arweinwyr adain chwaith ddod yn ôl i rym yng ngwledydd De America yn ddiweddar gellir gweld bod ecoleg eto ar yr agenda yn y rhanbarth. Mae hyn yn arbennig o weladwy yn arweinyddiaeth arlywydd Colombia, Gustavo Petro. Yn ei araith yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, fe ofynnodd: Beth sydd fwyaf peryglus i ddyn – cyffuriau, olew, neu betrol? Bwriad hyn oedd dangos bod agenda gwledydd y gorllewin parthed De America yn anghywir ac na ddylid ffocysu ar y rhyfel cyffuriau oherwydd os na fydd yr argyfwng hinsawdd yn cael ei daclo, bydd yn difa’r ddynoliaeth ymhell cyn i ryfel cyffuriau ein dinistrio. Yn ystod ei araith yn Sciences Po Paris (9 Tachwedd 2022) ac yn Fforwm Heddwch Paris (11 Tachwedd 2022), erfyniodd Petro ar y byd i droi cefn ar danwyddau ffosil ac i ddechrau gweithio tuag at economi werdd. Mae Lula yntau yn gobeithio adfywio’r Amason a lliniaru effeithiau datgoedwigo a llygredd.
Yn dilyn yr etholiad ym Mrasil yn yr hydref, bûm yn trafod arweinwyr y chwith yn Ne America gyda Will Grant, sef Gohebydd Mecsico, Canolbarth America a Chiwba y BBC ac awdur ¡Populista! The Rise of Latin America’s 21st Century Strongman (2021), cyfrol a drafodwyd gen i eisoes yn y cylchgrawn hwn. Yn ei ôl ef, gorsymleiddio yw rhannu ideolegau gwleidyddol De America yn adain chwith ac adain dde yn unig oherwydd o graffu ar yr arweinwyr adain chwith, gwelir bod cymaint o wahaniaeth rhyngddynt ag sydd rhwng y ddau begwn chwith/dde. Dadleua mai rheitiach fyddai dosbarthu’r arweinwyr ar y chwith yn arweinwyr modern a thraddodiadol. Gellid ystyried Petro (Colombia) a Gabriel Boric (Chile), er enghraifft, yn arweinwyr modern y chwith o ganlyniad i’w polisïau er budd cryfhau democratiaeth, taclo newid hinsawdd, a lleihau lefelau anghydraddoldebau o fewn eu gweldydd. Byddai’n disgrifio Nicolás Maduro (Feneswela), Miguel Díaz-Canel (Ciwba), a Daniel Ortega (Nicaragwa), ar y llaw arall, fel arweinwyr traddodiadol wrth i’w systemau gwleidyddol hwy gael eu cysylltu ag awdurdodyddiaeth a pharodrwydd i dorri cyfreithiau hawliau dynol. Yn achos Lula, fe ddywedodd Grant wrtha i ei fod yn ei ystyried yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, o’r modern a’r traddodiadol. Hynny yw, mae’n nodweddu’r llanw pinc (pan atgyfnerthwyd y chwith) a gafwyd ar ddechrau’r ganrif hon yn y rhanbarth. Ond mae ganddo hefyd elfennau o’r arweinydd modern yn ei driniaeth o newid hinsawdd a’i ymrwymiad i drawsnewid ecolegol.
Erbyn mis Ionawr 2023, am y tro cyntaf, mae saith o’r gwledydd mwyaf poblog yn Ne America â llywodraethau i’r chwith o’r canol. Ond roedd Grant yn ofalus i bwysleisio wrtha i na fydd Lula a’r arweinwyr eraill ar y chwith yn Ne America yn debyg o allu gwireddu delfrydau’r llanw pinc o ganlyniad i’r problemau mewnol yn eu gwledydd ond hefyd o achos yr heriau rhyngwladol ar hyn o bryd. Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid cofio, meddai, bod yna dueddiad yn y rhanbarth rhwng un etholiad a’r nesaf i symud o un pegwn i’r llall – o’r chwith i’r dde, ac o’r dde i’r chwith. Pa mor hir fydd y chwith yn aros mewn grym, felly, ac a fyddwn yn gweld tro pedol arall tuag at y dde?
Fel y gwelwyd mae llawer o heriau yn wynebu’r chwith yn y rhanbarth. I gymhlethu pethau, nid yw’r buddugoliaethau ar y chwith o reidrwydd yn arwydd o newid sylfaenol yn naliadau ideolegol pleidleiswyr. Mae’r cynnydd mewn cefnogaeth i werthoedd ceidwadol crefydd, teulu a patria (tadwlad) yn ffafrio pleidiau adain dde ac yn achos Brasil, o leiaf, mae uniaethu â’r dde wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn enghraifft o’r heriau diweddaraf ymysg pleidiau’r chwith yn y rhanbarth yn ehangach: ddechrau Rhagfyr, cafodd arlywydd Periw, Pedro Castillo (a ddaeth i rym fel aelod o’r blaid Farcsaidd Peru Libre), ei uchelgyhuddo a’i ddiswyddo ar ôl iddo geisio gwrthryfel yn erbyn awdurdod y llywodraeth. Y diwrnod cynt yn yr Ariannin cafodd yr is-arlywydd Cristina Kirchner, ei dedfrydu i chwe mlynedd o garchar a gwaharddiad oes rhag dal swydd mewn llywodraeth am fod yn euog o lygredd. Annhebygol y bydd hi’n mynd i’r carchar ond ni fydd yn weithredol mwyach yn yr etholiadau sydd i ddod ddiwedd y flwyddyn hon. Mae buddugoliaeth yr Ariannin yng Nghwpan y Byd fis Rhagfyr wedi bod yn ffordd handi o dynnu sylw oddi wrth y sgandal hon a’r problemau economaidd sy’n wynebu’r wlad. Fel y dywedodd yr Arlywydd Alberto Fernández, mae buddugoliaeth yr Ariannin yn fuddugoliaeth i America Ladin.
Felly, er gwaethaf symboliaeth bositif buddugoliaeth Lula – adfer democratiaeth a hawliau dynol a'r ewyllys i gymryd newid hinsawdd o ddifri – rhaid cofio’r holl heriau sy’n ei wynebu ar ddechrau ei gyfnod o’r newydd fel arlywydd: diffyg mwyafrif seneddol, protestiadau, a chyfraddau chwyddiant uchel, i enwi dim ond tair. Ar ben hynny, ni ddylid anghofio’r problemau rhanbarthol a rhyngwladol. Mae Lula yn symbol o obaith ar hyn o bryd, ond mater arall ydi i ba raddau y bydd y gobaith yma yn parhau, ac y byddwn yn gweld newid gwirioneddol ym Mrasil a De America.
Mae Elin Roberts yn dod o Lan Ffestiniog ac yn fyfyrwraig MA yn Sciences Po Paris.