Dadansoddi

Egwyddor gobaith

Y traddodiad Cymreig

Anna Neima

THE UTOPIANS: SIX ATTEMPTS TO BUILD THE PERFECT SOCIETY

Picador, 320tt, £10.99, 2021

Tom Moylan

Becoming Utopian: The Culture and Politics of Radical Transformation

Bloomsbury, 314t, £26.99, 2020

Michael Robertson

The Last Utopians. Four Late 19th Century Visionaries and their Legacy

Princeton, 336tt, £16.99, 2018

Chris Coates

Communes Britannica: A History of Communal Living in Britain: 1939-2000

Diggers and Dreamers, 520tt, £25, 2012

Llion Wigley

Amser darllen: 14 munud

10·12·2022

Utopien 04 gan Makis E Warlamis (Kunstmuseum Waldviertel)

 

Cyfeirio at ‘le nad yw’n bod’ oedd bwriad Thomas More pan fathodd y gair ‘utopia’ o’r Groeg ym 1516 ar gyfer teitl ei lyfr enwog. Yn gyffredinol ystyriwn bellach fod iwtopia yn cyfeirio at le neu fyd gwell, ond ers dechrau pandemig Covid-19 yn 2020 mae’r sefyllfa wleidyddol ac amgylcheddol fyd-eang wedi teimlo’n fwy a mwy dystopaidd. Efallai o ganlyniad i’r hinsawdd argyfyngus honno mae’r diddordeb mewn dychmygu ac astudio iwtopia fel gwrthbwynt wedi parhau i gynyddu yn yr un cyfnod. Ar yr olwg gyntaf, prin yw’r elfennau sy’n cysylltu Cymru â phedair cyfrol yn y maes rwyf wedi bod yn eu darllen yn ddiweddar. Ond fel y byddaf yn dangos, maent yn werth eu hystyried yng nghyd-destun traddodiad neilltuol Gymreig o syniadau a mentrau iwtopaidd. Dyma hanes cudd sy’n arbennig o werthfawr i’w gofio mewn cyfnod mor dywyll. 

Mae’r lliaws o enghreifftiau Cymreig o fentrau cymunedol, iwtopaidd eu naws yn amlwg yng nghyfrol gynhwysfawr Chris Coates, Communes Britannica, a gyhoeddwyd ddeng mlynedd yn ôl – er nad yw’r awdur ei hun yn gwneud pwynt o’r peth nac yn ei gydnabod yn ymwybodol. Mae’n ddilyniant i’w glasur cynharach, Utopia Britannica (2001). Ceir sawl enghraifft o fentrau Cymreig yn y gyfrol hon hefyd, o gymunedau Owenaidd y 19g ymlaen i ardd-bentrefi y cyfnod Edwardaidd. Dengys Coates yn gelfydd fod y ffrwydrad o gomiwnau a mentrau cymunedol eraill a welwyd yn y 1960au hwyr a’r 1970au yn barhad mewn gwirionedd o draddodiad cynharach o’r 20g sydd â’i wreiddiau yn y mudiadau heddychol a sosialaidd.

Bu Gwynfor Evans yn flaenllaw wrth sefydlu rhai o’r mentrau hynny yng Nghymru ar ran cangen Gymreig y Peace Pledge Union, er enghraifft gwersyll coedwigaeth yn sir Gaerfyrddin lle gweithiodd amryw o heddychwyr Cymreig fel Dyfnallt Morgan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd perthynas agos rhwng y mentrau hyn a’r rhai a drefnodd y Crynwyr o’u blaen yn ne Cymru yn y 1920au a’r 1930au i geisio lleddfu effeithiau’r dirwasgiad economaidd enbyd, fel ym Mryn-mawr a Maes-yr-haf. Gweithiodd yr heddychwr mawr George M Ll Davies yn y ddau, a chyn hynny bu’n rhan o fentrau eraill iwtopaidd ac arbrofol, fel canolfan ‘Riverside Village’ i droseddwyr yn eu harddegau yn Swydd Gaerlŷr. 

Mae’n trin a thrafod ei brofiadau yno yn ei bamffled Triniaeth Troseddwyr, rhan o gyfres a gyhoeddwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, eto dan nawdd y gangen Gymreig o’r Peace Pledge Union. Trafodwyd ystod eclectig o bynciau yng nghyfres ‘Pamffledi Heddychwyr Cymru’, gan gynnwys didreisedd Gandhiaidd, anarchiaeth, ac economeg heddwch. Yn ei gyfraniad ar ffederaliaeth, lleisia Pennar Davies ei obaith gwrth-imperialaidd am Gymru Rydd o fewn ffederasiwn o genhedloedd rhydd: ‘a’r cymdeithasau hynny’n cynnwys cymdeithasau rhyddion eraill, a rhyddid hanfodol yn sail i’r cwbl – dyma’r math o fyd a ddylai fod yn nod i bob heddychwr’. 

Fel cyfanwaith mae’r gyfres yn cynnig gweledigaeth iwtopaidd uchelgeisiol ac eglur o sut y gellid aildrefnu cymdeithas ar seiliau amgen, di-drais. Ym mhamffled George M Ll Davies ar driniaeth troseddwyr ac un J Gwyn Grifffiths ar Anarchistiaeth, manylir ar bynciau sydd wedi ailgodi eu pennau yn ddiweddar, fel y posibilrwydd o greu cymdeithas heb garchardai na heddlu, yn enwedig o gofio y lefel anghymesur o garcharorion Cymreig a marwolaethau Mohamud Hassan a Mouayed Bashir yn 2021 wedi iddynt ddod i gyswllt â’r heddlu yn ne Cymru. 

Aeth heddychwr Cymreig a garcharwyd am ei ddaliadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef Merfyn Turner, ymlaen i ddadlau dros gael gwared â’r mwyafrif helaeth o garchardai yn ei lyfr Trwy Ryfedd Ryw ym 1970, wedi dau ddegawd o waith dyngarol gyda chyn-garcharorion. Yn y 1950au, sefydlodd gymuned fechan iddynt gyd-fyw gyda’i deulu yn Norman House, gogledd Llundain, a ysbrydolwyd gan gymunedau arbrofol tebyg i blant a phobl ifanc dan arweiniad Homer Lane, Dora Russell ac eraill yn hanner cyntaf yr 20g. 

Agwedd arall ddiddorol ar yr hanes a groniclir yn Communes Britannica yw dyfodiad sawl cymuned ac ysgol arbrofol o’r fath i ogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr enwocaf o bell ffordd oedd ysgol rydd arloesol A S Neill, Summerhill, a symudwyd ym 1940 o arfordir Suffolk i Fryn Llywelyn, ger Llan Ffestiniog am weddill y rhyfel. Bu Neill yn cyfathrebu’n gyson â Wilhelm Reich, un o seicdreiddwyr a meddylwyr mwyaf chwyldroadol yr 20g, yn ystod ei gyfnod anhapus yn Llan Ffestiniog. Ond sonia Coates hefyd am enghraifft sy’n llawer llai adnabyddus, sef cartref i ddeg ar hugain o ‘very disturbed children’ a sefydlodd Bill Malcolm, a oedd wedi gweithio’n agos gyda Neill cyn hynny, ym Mryn Conwy. 

Trefnodd Malcolm strwythurau hunanlywodraethol ar gyfer y plant yno, o’r math a arloeswyd mewn cartrefi fel Barns House gan David Wills o’i flaen, gweithiwr cymdeithasol a fu’n rhan o fentrau’r Crynwyr yn y Rhondda yn y 1930au. Cymysgedd o ysgol rydd, libertaraidd a chymuned therapiwtig oedd Barns House, lle na ddefnyddid cosb o unrhyw fath a rheolai pwyllgor o’r plant eu hunain yr holl weithgarwch. Bu’r cartref tebyg ym Mryn Conwy mor llwyddiannus nes y gofynnwyd i Malcolm a’i staff gymryd drosodd hostel ranbarthol ym Mhenybrin ar gyfer y faciwîs oedd angen y gofal mwyaf dwys ar draws gogledd Cymru.

Yn ddiweddarach yn yr 20g daeth gogledd a chanolbarth Cymru yn gartref ar gyfer ton newydd o’r gymdeithas amgen a’r counterculture ar ffurf y comiwnau a sefydlwyd gan grwpiau o bobl ifanc, gan mwyaf. Disgrifir amryw o’r rhain yn Communes Britannica a pha mor flaengar y bu sawl un ohonynt yn natblygiad y mudiad ecolegol ym Mhrydain, fel cymuned hunangynhaliol Glaneirw ger Aberteifi. 

Mae tudalennau cefn cylchgronau gwasg danddaearol y 1970au yn dystiolaeth bellach o apêl Cymru wledig i hipis y cyfnod yn arbennig, er bod rhai o’r hysbysebion ar gyfer y comiwnau yn adlewyrchu’r trafferthion a brofwyd i’w cynnal, fel yr un canlynol o’r International Times (It) ym 1972: ‘Our commune is faced with extinction unless we find £2,000 within the next two months, we are trying to get loans, etc., but without much success. Please help. Any financial support, however small, will help to keep us going. Love and Peace. Gilly and all at Oerle Commune, Trefeglwys, Caersws, Mons.’ 

Rhestrwyd amrywiaeth o gymunedau tebyg yng ngwyddoniadur seicadelig y gymdeithas amgen ym 1975, Alternative England and Wales, gan gynnwys y nifer cynyddol o rai crefyddol eu hysbrydoliaeth a sefydlwyd yng nghefn gwlad Cymru, fel cymuned Hindŵaidd Skanda Vale yn sir Gaerfyrddin a grŵp Swffi gerllaw Trefyclo ym Mhowys. Teithiodd yr awdur Nicholas Saunders trwy Gymru ym 1974 gan ddod ar draws olion comiwn byrhoedlog a sefydlwyd gan grŵp o’r enw ‘New Atlantis’ yn Nant Gwrtheyrn ychydig flynyddoedd ynghynt. 

Ymunodd pobl ifanc Gymraeg â mudiad iwtopaidd eu hunain a fu wrthi’n prynu ac adnewyddu tai gwag yn yr un cyfnod, sef Adfer. Rhannai’r mudiad hwnnw yr un pwyslais ar gryfhau a gwarchod cymunedau bychain fel modd o drawsffurfio cymdeithas a fu’n rhan ganolog o brosiectau iwtopaidd yn gyffredinol o’r 19g ymlaen. Roedd ieithwedd ddelfrydgar Adfer am greu Cymru newydd hefyd yn iwtopaidd yn ei ystyr mwyaf cadarnhaol ac adeiladol. Mae ymchwil doethurol diweddar Manon Elin James ar y mudiad wedi dangos mor bellgyrhaeddol oedd ei weledigaeth a’r camau ymarferol a gymerodd i daclo problem cartrefu yng Nghymru wledig sy’n argyfwng hanner canrif yn ddiweddarach. Yn yr un modd, mae cofiant newydd arbennig D Islwyn Edwards i’r bardd John Roderick Rees, Ceidwad y Ceyrydd (2022), wedi tanlinellu cymhlethdod ac amwysedd yr ymatebion i ddyfodiad yr hipis a fu wrthi’n atgyweirio tai yn ucheldiroedd cefn gwlad Cymru yr un adeg. 

*

Teithiwn ymhellach nôl i wreiddiau’r mentrau uchod ym mudiad sosialaidd y 19g yng nghyfrol Michael Robertson, The Last Utopians (2018). Rhydd sylw yn arbennig i syniadau pedwar ffigwr a fu’n ganolog yn nhwf iwtopiaeth, sef Edward Bellamy, William Morris, Edward Carpenter a Charlotte Perkins Gilman, cyn cloi’r gyfrol gyda phennod ar enghreifftiau cyfoes o gymunedau iwtopaidd. Yn y bennod ar William Morris, manylir ar ddylanwad yr awdur a’r dylunydd a’i nofel iwtopaidd, News from Nowhere (1890), yn arbennig ar y mudiad gardd-ddinas a gardd-bentref a ddatblygodd ar ddechrau’r 20g. Yn yr iwtopia a ddisgrifir yn News from Nowhere, ni cheir unrhyw ysgolion na dysgu trwy ddulliau mecanyddol, ond daw’r prif gymeriad i ddeall ar ei daith fod plant mor ifanc â phedair oed yn gallu siarad Cymraeg yn ogystal â Ffrangeg, Almaeneg a Groeg clasurol. 

Ceir enghreifftiau nodedig Cymreig o waith y mudiad gardd-bentref yn Wrecsam, y Barri, Machynlleth, ac yn fwyaf adnabyddus efallai yn ardal Rhiwbeina yng Nghaerdydd. Un o arloeswyr y mudiad yn genedlaethol, sef Raymond Unwin, fu’n gyfrifol am gynllun gwreiddiol Rhiwbeina, ac adeiladwyd ar ei waith yn ddiweddarach gan Alwyn Lloyd, pensaer Cymreig oedd yn rhan o fudiadau sosialaidd y cyfnod Edwardaidd. Bu’r mudiad gardd-bentref yn rhan o adfywiad cenedlaethol mwy cyffredinol yng Nghymru dechrau’r 20g, ac adlewyrchir y diddordeb ynddo yn y sylw rheolaidd a dderbyniodd ar dudalennau cylchgrawn newydd ar y pryd, The Welsh Outlook

Gwyddom trwy waith Alan Llwyd ac eraill ar fywyd Waldo Williams a gwreiddiau ei syniadau fod un arall o’r pedwar ffigwr a drafodir yn y gyfrol The Last Utopians, sef Edward Carpenter, yn un o hoff awduron ei dad. Ceir rhai o lyfrau Carpenter ymhlith llyfrgell Waldo ei hun, gan gynnwys casgliad o’i draethodau gyda’r teitl awgrymus o safbwynt iwtopaidd, England’s Ideal. Roedd Carpenter yn fardd a ysbrydolwyd yn ei dro gan Walt Whitman, ac yn ogystal yn sosialydd ac ymgyrchydd arloesol a wnaeth gyfraniad enfawr mewn sawl maes.

Mae Robertson yn crynhoi prif rinweddau’r traddodiad iwtopaidd a gynrychiolir yn syniadau Carpenter a’r tri awdur arall dan sylw fel a ganlyn: ei natur ddemocrataidd radical a’i bwyslais ar gydraddoldeb economaidd; ei feddylfryd gwrth-batriarchaidd a’i gefnogaeth i ffurfiau teuluol a chymunedol newydd; ei ddimensiwn amgylcheddol grymus a’i gariad tuag at natur a’r bywyd syml; ac yn olaf ei wreiddiau mewn math o ysbrydolrwydd blaengar a welai’r dwyfol ymhlyg mewn dynoliaeth a byd natur. 

Cymro oedd tad sosialaeth iwtopaidd yn y 19g, wrth gwrs, sef Robert Owen, a cheir sylw dyledus i’w gyfraniad yn The Last Utopians. ‘Gwirionedd Mawr’ Owen yn ôl Robertson oedd ei ganfyddiad mai amgylchfyd yr unigolyn sy’n bennaf gyfrifol am ei gymeriad, nid ei natur na’i weithredoedd. ‘It is of all truths the most important,’ meddai ym 1832, ‘that the character of man is formed FOR – not BY himself’, a dilynai’r pwyslais ar addysg yn y pentrefi a sefydlodd i’w weithwyr o’r syniad canolog hwnnw. 

Yn ei chyfrol ffurfiannol yn natblygiad astudiaethau iwtopaidd, The Concept of Utopia (1990), tanlinella Ruth Levitas hefyd berthnasedd parhaol Robert Owen o fewn y traddodiad, yn bennaf oll gan ei fod wedi siarad mor gryf yn erbyn effeithiau dinistriol y teulu patriarchaidd ac o blaid sefydlu cymunedau bychain neu gomiwnau yn ei le. O ganlyniad, apeliai syniadau Owen yn arbennig o gryf at fenywod, fel y dadansoddwyd yn fanwl yng nghyfrol bwysig Barbara Taylor, Eve and the New Jerusalem: Socialism and Feminism in the Nineteenth Century (1983). Yn gyffredinol, ymbellhaodd arweinwyr Marcsiaeth oddi wrth syniadau Owen yn ail hanner y 19g yn sgil eu natur niwlog honedig, ond cyn hynny dywedodd neb llai nag Engels ei hun: ‘every social movement, every real advance in England on behalf of the workers links itself to the name of Robert Owen’. 

*

Ymhelaethir ar ymagwedd gymhleth Marx a’i ddilynwyr tuag at iwtopiaeth yn Becoming Utopian Tom Moylan, a gyhoeddwyd yn 2020. Yn y gyfrol chwyldroadol hon mae Moylan – un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw o fewn maes cynyddol boblogaidd astudiaethau iwtopaidd – yn cwmpasu a chrynhoi ei waith dros gyfnod o ddeugain mlynedd ar bosibiliadau radicalaidd parhaol iwtopia. Ein hannog i feddwl yn iwtopaidd fel darllenwyr ac unigolion yw ei fwriad, yn ogystal â’n goleuo am natur a nodweddion y traddodiad hwnnw. 

Cynigia’r diffiniad gwych canlynol o’r broses iwtopaidd ar waith: ‘Utopia begins to happen when ... people say “enough” and choose to enter the struggle for better lives in a better society.’ Un o sgileffeithiau adeiladol prin llywodraeth mor adweithiol ac anghymwys â’r un Dorïaidd bresennol yn y Deyrnas Unedig yw ei bod wedi gwthio nifer cynyddol i ddweud hynny ac i greu mudiadau newydd i’w gwrthsefyll, fel un diweddar gyda’r union enw ‘Enough is Enough!’

Dywed Moylan ymhellach mai trawsffurfio bywyd bob dydd yn ymarferol yw amcan unrhyw brosiect iwtopaidd gwirioneddol, yn hytrach na breuddwydio’n wag am ddyfodol pell: ‘the revolutionary attainment of a communist mode of production and a liberated mode of everyday life that engenders fully realized human and natural subjects and creates a renewed socio-ecological reality must always be the fundamental aim of a Left utopian project.’

Cyfeiria’n gyson hefyd at yr ymdeimlad o ‘militant optimism’ fel un o gyfraniadau mwyaf iwtopiaeth. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd rhai o brif feddylwyr Ysgol Frankfurt yn hynny o beth, deallusion a fu’n ddylanwad ar rai o’u cyfoedion amlycaf yng Nghymru’r 20g. Lluniodd yr heddychwr a’r addysgwr D R Thomas gyfrol ddeallus ar Erich Fromm yn y Gymraeg, er enghraifft, sy’n parhau’n ganllaw defnyddiol i’w syniadau heddiw. Ceir tebygrwydd nodedig hefyd rhwng gwaith diweddar J R Jones a syniadau Herbert Marcuse, meddyliwr iwtopaidd mwyaf arwyddocaol Ysgol Frankfurt.

Dengys tystiolaeth papurau personol Jones ei fod yn sicr yn ymwybodol o syniadau Marcuse gan iddo gadw toriadau o sawl erthygl yn ymwneud â’i ddylanwad ar brotestiadau myfyrwyr ym Mai 1968. Bu llyfrau Marcuse fel One Dimensional Man (1964) yn elfen ffurfiannol o’r mudiad protest yn fyd-eang yn ystod y 1960au, fel y bu gweithiau J R Jones yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr a phobl ifanc yng Nghymru. Cyfeirir at syniadau Marcuse yn rheolaidd yng nghyfrol Moylan ac yn gynharach eleni ailargraffwyd ei Five Lectures: Psychoanalysis, Politics and Utopia (1970) gyda chyflwyniad newydd yr athronydd Ray Brassier. Dyfynnir Marcuse yn y cyflwyniad i ddangos ei fod yn rhannu’r un argyhoeddiad â Marx fod yr amodau i wireddu iwtopia eisoes yn bodoli: ‘It may be less irresponsible today to depict a utopia that has a real basis than to defame as utopia conditions and potentials that have long become realizable possibilities.’

Fe’n hatgoffwyd yn ddiweddar o weithiau grymus eraill J R Jones ar Brydeindod a’r ymateb i’r arwisgo ym 1969 yn y ffars a’r ffwdan a welwyd yn dilyn marwolaeth Elizabeth Windsor fis Medi eleni, a pharodrwydd y mwyafrif o’r cyfryngau yng Nghymru i gydymffurfio â’r consensws swyddogol yn ei chylch. Amlygodd hynny’n gliriach nag erioed yr angen i sicrhau Cymru rydd cyn gynted â phosib, ac yn sgil hynny yr angen inni i gyd ofyn y cwestiynau mawr ynglŷn â beth fyddai union natur a nodweddion y Gymru honno. 

*

Mae’r chwe ymgais i greu cymdeithas berffaith o’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd byd a ddarlunnir yng nghyfrol Anna Neima, The Utopians, wedi’u gosod ar lwyfan rhyngwladol mwy eang na’r llyfrau a drafodwyd uchod, sy’n manylu ar athronwyr a syniadau o Ewrop a’r Unol Daleithiau yn bennaf. Ceir dwy iwtopia o Japan ac India yn eu plith, yn ogystal â stori ychydig mwy cyfarwydd, efallai, y gymuned artistig ac addysgiadol a sefydlwyd yn Dartington Hall, Dyfnaint a chymuned Gristnogol y Bruderhof sydd ill dwy yn dal i ffynnu heddiw. Mae’n werth nodi i syniadau’r bardd Rabindranath Tagore, a sefydlodd yr iwtopia dan sylw yn India, sef Santiniketan-Sriniketan, dderbyn sylw cyson yn y wasg Gymraeg yn y 1920au a’r 1930au. Rhan o ddiddordeb cynyddol mewn crefyddau fel Bwdhaeth a Hindŵaeth oedd yr erthyglau a’r ysgrifau a luniodd awduron Cymraeg fel Annie Owen a W D P Davies yn disgrifio ei waith, gan gynnwys yr ysgol a’r gymuned iwtopaidd a sefydlodd.

Yn hytrach na’r cwestiynau damcaniaethol a ddadansoddir yng nghyfrol Tom Moylan, mae’r pwyslais yn llyfr Anna Neima ar y camau ymarferol a gymerodd Tagore a sylfaenwyr y mentrau eraill a ddisgrifia, fel Gerald Heard yr awdur a’r cyfrinydd Gwyddelig a sefydlodd Goleg Trabuco yn anialwch Califfornia, i greu gwell byd. Ei bwriad trwy wneud hynny yw ein goleuo am y gwersi y gall eu mentrau eu cynnig yn ein hargyfwng ecolegol presennol, fel y pwysleisia yn niweddglo’r gyfrol: ‘The stories of the utopians of the interwar years are an inspiration, and give a sense of how new ideas are born and seep out into the world. But today more than ever, we need our own forms of practical idealism, the prototypes and experiments that can help us grapple with the problems of contemporary existence.’ 

Dyna rinwedd pennaf y pedair cyfrol a drafodwyd uchod; eu gallu i’n hatgoffa nad rhithfyd peryglus neu gamarweiniol yw iwtopia o reidrwydd ond model o’r math o gymdeithas yr hoffem fyw ynddi y gallwn i gyd gyfrannu tuag at ei hadeiladu, trwy ein dychymyg a’n parodrwydd i gredu bod gwell byd yn bosib. Teitl campwaith mwyaf Ernst Bloch, un o brif feddylwyr iwtopaidd yr 20g, oedd ‘Egwyddor Gobaith’ (Das Prinzip Hoffnung, tair cyfrol, 1954–1959). Gwerth mwyaf cofio ein traddodiad iwtopaidd Cymreig yw er mwyn cynnal yr egwyddor honno.

Mae Llion Wigley yn Olygydd Comisiynu Hŷn yng Ngwasg Prifysgol Cymru.

[Nid] rhithfyd peryglus neu gamarweiniol yw iwtopia o reidrwydd ond model o’r math o gymdeithas yr hoffem fyw ynddi y gallwn i gyd gyfrannu tuag at ei hadeiladu

Pynciau:

#Rhifyn 20
#Llion Wigley
#Iwtopia