Jan Morris


Conundrum

Faber, 148tt, £8.99, 1974, 2002

Jan Morris


The Matter of Wales

Penguin, 442tt, £20, 1984

Jan Morris


A Machynlleth Triad

Penguin, 192tt, , 1994

Jan Morris


Trieste and the Meaning of Nowhere

Faber, 180tt, £9.99, 2001

Dadansoddi

Ar Blyg y Map: Jan Morris yn 90

Plas Glyn-y-Weddw


Angharad Price

Amser darllen: 15 munud

25·10·2016

Yn yr arddangosfa ‘Taith: I Jan Morris’ sydd ym Mhlas Glyn-y-Weddw tan noswyl Nadolig eleni mae glôb wedi ei sybachu yn hongian o’r nenfwd. Dyma'r ‘Byd wedi Crebachu’, teyrnged Craig Wood i Jan Morris. Mae'n un o bedair teyrnged ar ddeg i’r awdures ryfeddol o Lanystumdwy gan artistiaid o Gymru, a hynny ar achlysur dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed. Mae’r byd crwn o bapur crychlyd, a’i gartograffi blêr, a hwnnw’n crogi mor simsan ar linyn tenau o’r to, yn symbol trawiadol o waith Jan Morris yn ei holl amrywiaeth a’i holl angerdd. Ac mae’n briodol mai artistiaid Cymreig sy’n cyflwyno’r deyrnged iddi ar ddechrau ei degfed degawd, gan na sylweddolwyd yn ddigonol, hyd yn hyn, faint cyfraniad hon, y mwyaf cosmopolitaidd o'n hawduron, i Gymru. Mae’r posibiliadau dychmygus, llenyddol a gwleidyddol a gyflwynodd ei gwaith i’r Cymry yn rhai gwerthfawr ac amserol, angenrheidiol, hyd yn oed. Ac yn mynd yn fwy felly. Nid cyd-ddigwyddiad i Iwan Bala, curadur yr arddangosfa ac un arall o’n mapwyr creadigol, gyfrannu ei faplun eironig-eiconig, Little (Great) Brexitia, at y ‘Daith’.

Adeg agor yr arddangosfa ganol mis Hydref, mynnodd Jan Morris ei hun mai bychan bach (‘infinitesimal’) fu ei chyfraniad hi i Gymru o gymharu â’r hyn a gawsai hi’n ôl gan y wlad a’i phobl. Ond daeth maint ei hymroddiad yn eglur yn ystod sgwrs â’i mab, Twm Morys, ar y soffa ym Mhlas Glyn-y-Weddw, pan gydnabu mai’r Sul blaenorol, y diwrnod y derbyniodd Fedal y Cymmrodorion am gyfraniad nodedig i Gymru, fu diwrnod hapusaf ei bywyd.

Fel sawl cymwynaswr nodedig arall, dewis dod yn Gymraes a wnaeth Jan Morris. Fe’i bedyddiwyd yn James Morris, ac fe’i magwyd ar aelwyd Saesneg yng Ngwlad yr Haf (ei mam yn Saesnes a’i thad yn Gymro). Derbyniodd addysg drwyadl Seisnig yn ysgol fonedd Lancing College, Sussex, ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen; bu’n aelod o’r 9th Queen’s Royal Lancers ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn ystod y 1950au roedd yn newyddiadurwr llwyddiannus ar rai o bapurau mwyaf Lloegr megis The Times a The Manchester Guardian. James Morris, fel y gwyddom, oedd y cyntaf i anfon y newyddion am goncro Everest (Chomolungma / Sagarmatha) at y wasg Brydeinig ar ddiwrnod coroni’r Frenhines Elisabeth ym 1953.

Ar ddechrau’r 1960au daeth yn awdur llawn-amser a arbenigai ar ysgrifennu am leoedd ar draws y byd, ac fe ymgartrefodd James, Elizabeth a’u pedwar plentyn yng Nghymru. Dyma’r adeg y dechreuodd ar gwrs o feddyginiaeth a’i galluogodd ym 1972, i dderbyn llawdriniaeth i newid ei rhyw a dod yn Jan, proses yr ymdriniodd â hi yn eofn a chalonogol yn y gyfrol Conundrum a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach. O’r cyfnod hwn ymlaen daeth i arddel ei Chymreictod yn fwy amlwg angerddol, coleddodd yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, a thrwythodd ei hun yn nhirweddau amrywiol y wlad i raddau helaethach na llawer o’r Cymry eu hunain. A gwnaeth Gymru yn fan cychwyn a gorffen ei holl deithiau: yn ei chyhoeddiadau niferus, yn ogystal ag mewn cyfweliadau yn rhyngwladol, pwysleisiai mai o safbwynt Cymraes genedlaetholgar yr ysgrifennai, a chyflwynodd nifer o’i chyfrolau yn benodol i Gymru, megis y flodeugerdd swmpus o ysgrifau pum-degawd, A Writer’s World, a gyhoeddwyd ‘er anrhydedd Cymru’, a’r gyfrol The Matter of Wales, a gyflwynwyd ‘gyda chariad a diolchgarwch i’w destun’. Aeth â Chymru ar hyd y byd - o Chicago i Oman, o Odessa i La Paz, o Kashmir i Batagonia. Ond daeth â’r byd yn ôl i Gymru hefyd: ar ddechrau’r gyfrol Europe: An Intimate Journey ceir yr epigraff cocosaidd canlynol:

From Reykjavik to Ljubljana,
Cheerful Cork to weird Tirana,
No exotic route avails
To clear my homesick mind of Wales.
Where my Love is at,
And also Jenks the cat.

Mae’r Gymraeg hithau’n brigo yn y llefydd mwyaf annisgwyl ar deithiau Jan Morris, yn goslefu ei hymatebion i fannau anghysbell, ‘subtly affecting the […] sensibilities’. Pan gyhoeddwyd A Machynlleth Triad gan un o weisg grymusaf y byd Eingl-Americanaidd, Penguin, ganol y 1990au, cafwyd testun Cymraeg cyfochrog wedi ei lunio gan Twm Morys i daflu ei gysgod ar y Saesneg. Yn wir, mae’n anodd meddwl am neb sydd wedi creu’r fath ymwybyddiaeth o Gymru yn fyd-eang (ar wahân, efallai, i’n tîm pêl-droed presennol ni, ac mae ’na o leiaf un ar ddeg ohonyn nhw). Trwy gydol ei gyrfa hir a chyfoethog, dangosodd Jan Morris i’r byd fod Cymru'n bod, a bod ganddi ei hiaith a’i diwylliant byw yr oedd yr awdur ei hun yn gyfrannog ohono.

Ond nid cyflwyno Cymru i estroniaid yn unig a wnaeth cyfrolau fel Wales, The First Place (1982), The Matter of Wales (1984) ac A Machynlleth Triad (1994). Trwy’r gweledigaethau carismatig, dychmygus a gwybodus sydd ynddynt, llwyddodd Jan Morris i gyflwyno Cymru o’r newydd i’r Cymry eu hunain, gan wneud hynny ar adegau go dyngedfennol. Cyhoeddwyd Wales, The First Place a The Matter of Wales, er enghraifft, ar ddechrau’r 1980au, adeg a ystyrir yn gyfnod o ddadrith ac anobaith i lawer o genedlaetholwyr Cymreig yn sgil canlyniad refferendwm datganoli 1979; adeg o jingoistiaeth Brydeinllyd Rhyfel y Malvinas (1982) ac o danseilio gwead cymunedau Cymreig yn sgil dirwasgiad economaidd, gan gynnwys streic y glowyr (1984-5). (‘You contribute nothing,’ oedd geiriau’r Prif Weinidog, Margaret Thatcher, am Gymru wrth Wyn Roberts yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd.) Ond mae teitl The Matter of Wales ei hun yn fynegiant herfeiddiol ei bod hi ‘ots’ am Gymru, a manylder a dyfnder y sylw a roddir i hanes, diwylliant ac iaith Cymru yn act o brotest greadigol ar adeg pan oedd grymoedd gwleidyddol ac economaidd yn bygwth tanseilio hunaniaeth y wlad. Atgoffodd y gyfrol y Cymry eu bod nhw’n bod a pham yr oedden nhw’n bod. Ac roedd datganiad Jan Morris ar ddiwedd y gwaith bod Cymreictod – ie, hyd yn oed ym 1984 – yn beth ysgogol a chynhyrfus (‘making the blood race and the adrenalin run’), yn ddatganiad ysgogol a chynhyrfus ei hun, a’r ansoddair a ddefnyddiodd i nodweddu’r iaith Gymraeg (‘indestructible’), yn her ar sawl lefel.

Cyhoeddwyd A Machynlleth Triad dair blynedd cyn yr ail refferendwm ar ddatganoli ym 1997 a’r canlyniad trwch-blewyn a arweiniodd at sefydlu’r Cynulliad yng Nghaerdydd. Mae rhywbeth proffwydol ym mhwyslais y gyfrol honno ar Fachynlleth fel canolbwynt Cymru, nid dim ond ar fap, ond yn wleidyddol hefyd: yma mae Jan Morris fel petai’n rhag-weld ac yn ymdrechu i dynnu’n groes i ryw ganoli newydd a allai, yn eironig, ddod i fod yn sgil datganoli. ‘Wales is essentially a centrifugal State,’ meddir yn blwmp ac yn blaen wrth bortreadu’r ddarpar-wladwriaeth a geir yn rhan olaf y gyfrol. A hyd yn oed yn nyddiau tywyll Little Brexitia, efallai bod rhai ohonom yn ddigon optimistaidd i weld llygedyn o obaith yn y ddelfryd sy’n llunio diweddglo’r drindod honno, o’r Gymru annibynnol mewn Ewrop ffederal (a’r ‘angen am synnwyr digrifwch yn rhan o’r Cyfansoddiad’).

Fel y dengys y cyfrolau am Gymru, ac fel y gwelir yn ei gwaith drwyddo draw, craidd a chalon menter lenyddol Jan Morris ydi dyfnder y parch y mae hi’n ei roi i le – yn fan cyfarfod grymoedd hanes, gwleidyddiaeth, economeg yn ogystal â’r byd naturiol. Â hithau ati wedyn, wedi’i harfogi â gwybodaeth a gofal, i ddatod y cwlwm cymhleth hwnnw, a daw’r ymwybod â lle yn broses o ganfod y gweledig a darganfod yr anweledig, yn daith ymenyddol, synhwyrus a dychmygus sy’n creu undod rhwng y gwrthrychol a’r goddrychol. Ar ddechrau’r gyfrol Trieste and the Meaning of Nowhere, sef hoff gyfrol Jan Morris o’i gwaith ei hun, dyfynna gwpled o eiddo Wallace Stevens i gyfleu'r undod hwnnw:

I was the world in which I walked, and what I saw
Or heard or felt came not but from myself.

O safbwynt Cymru a’r Gymraeg, pan fo hanes a diwylliant yn gallu bod mor gêl, ac weithiau mor bersonol, mae’r ymwybod dwys â haenau anweledig lle yn dra gwerthfawr – y modd y sylwir ar yr hyn a aeth ar goll mewn cartograffi swyddogol, y mannau diflanedig ‘ar blyg y map’. Soniodd Twm Morys yntau am y dull hwn o ymwybod â’r cêl, y personol, y diflanedig, yn ei gerdd, ‘Darllen y map yn iawn’:

Cerwch i brynu map go fawr:
Dorwch o ar led ar lawr.

Gwnewch dwll pin drwy bob un ‘Llan’,
Nes bod ’na dyllau ym mhob man.

Cofiwch y mannau lle bu pwll
A chwarel a ffwrnais, a gwnewch dwll...

[…]

A phan fydd tyllau pin di-ri,
Daliwch y map am yr haul â chi.

A hwnnw’n haul mawr canol pnawn:
Felly mae darllen y map yn iawn.

Does dim rhyfedd i Jan Morris fynegi ei hanhoffter o gael ei galw’n ‘travel writer’, a holl gynodiadau arwynebol y label hwnnw. Er hynny, dadleuwyd gan rai beirniaid y gall y genre hwn ar ei orau gynhyrchu llenyddiaeth ac iddi bosibiliadau rhyddfreiniol, yn enwedig yn ei hymdriniaeth ag olion imperialaeth: ‘...contemporary travel writing operates in a contested, antagonistic and uncertain political terrain that is haunted by the logic of Empire,’ meddai Debbie Lisle, er enghraifft, mewn cyfrol o’r enw The Global Politics of Contemporary Travel Writing (5). Dyma ddyfyniad y gellid ei gymhwyso’n rhwydd at waith Jan Morris: o holl lenorion Cymru, hi ydi’r un sydd wedi ysgrifennu’n fwyaf gwybodus am imperialaeth. Gwnaeth hynny’n fwyaf amlwg yn y drioleg Pax Britannica a gyhoeddwyd yn ystod y 1960au a’r 1970au, lle darluniodd gynnydd a dadfeiliad yr Ymerodraeth Brydeinig yn fanwl a dychmygus, a hynny fel petai 'o'r tu mewn'. Mewn cyfweliad yn y Paris Review yn 1997, disgrifiodd Jan Morris ei hun, yn ei hieuenctid, yn gynnyrch nodweddiadol yr Ymerodraeth Brydeinig, a chydnabu iddi ddechrau ei gyrfa newyddiadurol yn gynrychiolydd yr ymerodraeth honno:

I was brought up in a world whose map was painted very largely red, and I went out into the world when I was young in a spirit of imperial arrogance.

Wrth aeddfedu, fodd bynnag, a gwylio’r ymerodraeth honno’n dadfeilio, sylwodd ar yr arlliwiau cynilach, cyfoethocach yn y map unlliw, a dod i ymwybod â’r hyn a gelwyd, fel petai, yn y plygiadau: ‘I began to see that my imperial cockiness was nonsense.’

Mae’r adnabyddiaeth ddofn o’r Ymerodraeth Brydeinig, sydd heb fod yn ddi-gydymdeimlad ac eto’n cynnwys yr ymddieithrio a ddaw o sylweddoli gwagedd yr ymffrost imperialaidd, yn cyfuno i greu safbwynt sy’n werthfawr inni fel Cymry. Gellid ei alw’n fath o ‘weld dau’ neu ‘double vision’ sy’n nodweddu profiad y Cymry (Cymraeg, yn enwedig), o fod wedi ein boddi yng ngwerthoedd ac arferion yr Ymerodraeth Brydeinig, ac eto o fod wedi ein dieithrio oddi wrthi (oherwydd ein hiaith, ein diwylliant, ein hanes). Hwyrach mai gwaith Jan Morris, o blith ein holl awduron, sy’n cyfleu’r ‘gweld dau’ hwnnw’n fwyaf trawiadol.

Ond mae diddordeb Jan Morris yn etifeddiaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, boed hynny yn ‘Sydney’, ‘Ceylon’, ‘Darjeeling’, ‘Hong Kong’ – ac yng Nghymru hefyd, yn sail i ddiddordeb ehangach mewn ymerodraethau’n gyffredinol. Yn ei geiriau ei hun: ‘There are many other places I like to go when I wish to sniff the imperial breezes.’ Fe’i gwelir yn ei hysgrifau am Fenis, ymerodraeth Awstro-Hwngari, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, De America, America a Chanada, ac wrth gwrs mae’n hydreiddio ei hysgrifau am ymerodraeth yr Undeb Sofietaidd pan oedd yn newyddiadurwr gyda’r Guardian yn ystod y 1960au. Daw’r ‘gweld dau’, felly, yn fethodoleg gymharol. Yr un ydi’r strwythurau imperialaidd yn Fienna, Moscow, Llundain, ac yn yr un modd y maen nhw’n ymddatod yn Trieste, Tsiecoslofacia a Singapore. Jan Morris ydi ein hawdur ôl-drefedigaethol par excellence, yn tynnu’r egni a ddaw wrth i ymerodraeth ddatgymalu a’i ddargyfeirio tua ffurfiau newydd: daw deinameg arbennig ei gwaith o’r frwydr rhwng y cosmopolitaidd a’r imperialaidd.

Y perygl yn hyn, fodd bynnag, ydi y gallai’r gosmopolitaeth newydd ddod yn gymaint o hegemoni â’r hen, yn fap unffurf newydd, yn set o werthoedd gormesol ac uniongred sy’n rhoi bri slei ar ‘the logic of Empire,’ chwedl Lisle uchod. Enghraifft drawiadol o hyn yw’r modd y mae cyfrol sy’n arddel syniadaeth ôl-drefedigaethol fel The Empire Writes Back (1989), yn gorseddu hegemoni’r iaith Saesneg wrth geisio diorseddu’r un drefedigaethol, ac mae’n dueddiad sy’n nodweddu llawer o’r ysgrifennu taith mwyaf arwynebol. Prin y gellid dweud bod hynny’n wir am waith Jan Morris. Yn wir, o graffu, mae ei harddull lenyddol, er mor osgeiddig, yn llawn amwysedd a gwrthdaro mewnol, o wrth-ddweud, o amrywiaeth a lluosogrwydd, a ffurf ddrylliog yr ysgrif yn caniatáu iddi ddefnyddio nifer o dechnegau eraill sy’n tanseilio unffurfiaeth safbwynt. (Cofiwn ei bod yn nofelydd llwyddiannus hefyd – rhoddwyd ei nofel Last Letters from Hav ar restr fer gwobr Booker 1985 – a’i bod yn gwneud defnydd cyson o dechnegau ffuglen yn ei hysgrifau taith.)

O ddarllen ysgrif fel ‘Vienna 1983’, er enghraifft, gwelir y dull hwn ar waith yn hynod effeithiol. Agorir â dyfarniad carlamus y weriniaethwraig Gymreig: ‘...although I gratefully recognized its pleasures, I could not bring myself to like it. It was no place for a Welsh republican.’ Eir ati i ategu hyn, trwy bwysleisio ffuantrwydd imperialaidd cylchffordd y Ringstrasse: ‘Like some mad architect’s dream fulfilled, its buildings rise one after another preposterously into view.’ Y dyfarniad ‘cosmopolitaidd’ syml yw bod yma ddinas na all ollwng gafael ar ei gorffennol ymerodrol: ‘Vienna feeds upon its past, a fond and sustaining diet (varied with chocolate cake or boiled beef with potatoes).’ Hanner ffordd trwy’r ysgrif, fodd bynnag, ceir trobwynt. Daw’r nos, ac mae adlewyrchiad goleuadau’r tramiau’n hofran fel ysbrydion aflonyddol. Gwelir rhith ‘Professor Freud’. A dyna ymagor i is-ymwybod y ddinas. Gyda chydymdeimlad sydyn, gwelir bod Fienna’n ‘one great conglomeration of neurosis’. Mae sicrwydd y safbwynt a geir ar ddechrau’r ysgrif wedi ei sigo, ei symlrwydd wedi ei gymhlethu, a dychweledigion y ddinas (Freud, Simon Wiesenthal yr heliwr Natsïaid, Waluliso’r ecsentrig) yn ei chwalu’n ddarnau. ‘Is there any city more seminally disturbing?’ holir ar y diwedd, a’r adroddwr bellach, yn llythrennol bron, wedi ei hollti’n ddau:

I looked up at the passing streetcar and distinctly saw there, just for a moment, my own face in its slightly steamed-up window. We exchanged distant smiles...

Wrth gydnabod a chyfleu lluosogrwydd a dyfnder lle, daw’r gosmopolitaeth a goleddir ganddi ar y dechrau yn rhywbeth anniben, amwys ac anorffenedig erbyn y diwedd.

Dyma awdur sy’n ymhyfrydu mewn blerwch, fel y gwelir o deitl ei hunangofiant, Pleasures of a Tangled Life, ac o deitl un o benodau’r gyfrol Europe, y cyfandir yr ysgrifennodd fwyaf amdano: ‘Mishmash... Europe’s ethnic and geographical confusion, embracing frontiers, minorities, enclaves, islands, anomalies and miscellaneous surprises’. Dydi hi ddim yn syndod, o ddarllen y fath deitl, mai darlunio map sybachlyd Ewrop a wneir yn y gyfrol hon. Datgelir yr hyn sy'n gêl yn y plygiadau, a dethlir undod simsan y cyfandir y mae lluosogrwydd aml-lais yn hanfod iddo. Bron i ugain mlynedd ers ei chyhoeddi gyntaf, mae hon, o'r newydd, yn gyfrol amserol.

Ond efallai mai yn y gyfrol Trieste and the Meaning of Nowhere y mynegir yn fwyaf angerddol gred Jan Morris y gallai'r gosmopolitaeth flêr, luosog hon fod yn sail i oddefgarwch ehangach. Yn wir, bathir term newydd i'w mynegi hi, ac fe'i personolir yng nghymeriad Otto, y cyfaill y cyflwynir y gyfrol iddo. Ef, yn ei holl ddirgelwch brith, sy’n ymgorffori ysbryd amlhaenog y ddinas hon sydd wedi byw a bod ar draws ffiniau dirifedi:

In those days I thought of his ironically tolerant outlook as idiosyncratic cosmopolitanism, but now I would characterize it as Triesticity.

Trieste yw’r ddinas a orwedda ‘ar blyg y map’, a ‘Triesticity’ yw’r meddylfryd a ddeillia o'r cyflwr hwnnw ac a ddaeth yn athroniaeth bywyd i Jan Morris: ‘I look at Trieste now as I would look into a mirror,’ meddai ar ddiwedd y gyfrol lle gwelir yn fwayf trawiadol, efallai, gydymdreiddiad y gwrthrych a'r goddrych wrth drafod lle.

Yn sicr, cydnabyddir yn gyffredin i Trieste ddod yn fath o alter ego i Jan Morris. Ond does dim dwywaith, ychwaith, i’r ‘Triesticity’ a goleddir ganddi gael ei atgyfnerthu gan ei hymwybyddiaeth Gymreig a Chymraeg: yn ronyn o dywod sy’n rhygnu ym mecanwaith unrhyw rym unffurfiol, yn cyfoethogi ei hymateb i’r byd ac yn dyfnhau ei chydymdeimlad â dynoliaeth yn ei holl amrywiaeth a’i annibendod. Dywedodd ei hun i'w holl deithiau ddod yn rhyw fath o gyrch at undod: ‘I think that travel has been a kind of search for that, a pursuit for unity and even an attempt to contribute to a sense of unity.’ Ond trwy ymwrthod yn angerddol ag unffurfedd – trwy ymwybod â holl liwiau a chrychau'r map – y cafodd gip ar yr undod hwnnw. Cynhwysodd Jan Morris y profiad Cymreig (a Chymraeg), yn ei fanylder ac yn ei amrywiaeth, yn rhan o batrymau byd-eang. A thrwy wneud hynny, gwnaeth fater Cymru yn fater i’r byd: y byd blêr sy’n crogi mor simsan o’r to yn arddangosfa’r ‘Daith’ ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Glôb o bapur amryliw, a hwnnw’n ddim byd ond plygiadau.


Mae Angharad Price yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. 

Lluniau: 'Byd wedi Crebachu' gan Craig Wood. Ffotograffydd: Luca Coles. Gyda diolch i Blas Glyn-y-Weddw.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Angharad Price, Jan Morris, Rhifyn 2

 


Llwyddodd Jan Morris i gyflwyno Cymru o’r newydd i’r Cymry eu hunain, gan wneud hynny ar adegau go dyngedfennol

Dyddiad cyhoeddi: 25·10·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…