Dadansoddi

Ar drên i Warszawa - a hanes yn ddrych


Aled Llion Jones

Amser darllen: 15 munud

28·07·2018

Gorsaf reilffordd Częstochowa, Pwyl (Creative Commons)

 

Brwydr dros annibyniaeth a rhyddid rhag sensoriaeth oedd honno a gafwyd yn 1968. Bryd hynny nid oedd annibyniaeth lawn, ac roedd sensoriaeth mewn grym – yn llwyr groes i heddiw.

Andrzej Duda, Arlywydd Gwlad Pwyl, ar 8 Mawrth 2018, yn nodi hanner canmlwyddiant Mawrth 1968.

Ni adawai i'r nos sy'n un
Farwhun ar y cyd
Rewi'r amrywiaeth had
Dan gaead byd.

Bobi Jones, 'Jan Palach', 1969

Dwy daith drên i Warszawa, prifddinas Gwlad Pwyl: y naill ym Medi 1968 o dref Przemyśl, nid ymhell o’r ffin â’r Wcráin, a’r llall yn Nhachwedd 2017 o ddinas Kraków yn y de. Dau deithiwr Pwylaidd â’r un nod o brotestio yn erbyn eu llywodraeth, a’r ddau yn cario yn eu pocedi ddulliau’r brotest honno: hylif hylosg a matsis. Y cyntaf, Ryszard Siwiec, yn gwrthwynebu cyfraniad ei wlad at y cyrch milwrol Comiwnyddol a oresgynnai Tsiecoslofacia drannoeth Gwanwyn Prâg. Yr ail, Piotr Szczęsny, yn gwrthwynebu’r tueddiadau gwrthddemocrataidd a welai’n datblygu dan lywodraeth adain dde’r blaid Prawo i Sprawiedliwość (Cyfraith a Chyfiawnder) (PiS). Yr un fu’r canlyniad yn y ddau achos: marw’r protestiwr yn y tân a gyneuodd o’i gorff ei hun – a thawelwch ar gyfryngau’r Gorllewin.

Ychydig dros chwe mis yn ôl, ac yntau ar fin cyrraedd canol Warszawa, anfonodd Szczęsny neges destun at ei wraig. Gofynnodd iddi chwilio am focs sgidiau a adawodd ar ei ôl yn y tŷ ac i gyrchu’r hyn oedd ynddo – ei eiriau olaf ar lun maniffesto gwleidyddol. Yno rhestrai ei gŵynion yn erbyn llywodraeth PiS. Drwy gyflawni hunanlosgiad cyhoeddus, gobeithiai dynnu sylw at y datganiad hwn o anghyfiawnder dwfn.

Yn dilyn ei farwolaeth, pan holwyd ei deulu am ei gyflwr seicolegol, dywedodd ei ferch fod PiS wedi bod yn ‘ffliw meddyliol’ arno. Yn ôl yr hyn a ysgrifennodd, gormod iddo oedd ymosodiadau’r llywodraeth ar ryddid y cyfryngau; ar annibyniaeth y farnwriaeth; ar yr amgylchedd; ar hawliau merched, Moslemiaid, hoywon, pobl drawsrywiol, mewnfudwyr a lleiafrifoedd eraill (sef y grwpiau hynny sy’n tueddu’n rhy aml i brotestio’n ddigyswllt). Gormod iddo oedd tystio i’r ffordd y câi’r blaid a’r wlad eu rheoli o’r cysgodion gan Jarosław Kaczyński, efaill yr Arlywydd a laddwyd mewn damwain awyren yn 2010; ac fe’i cythruddid gan ymdrechion Kaczyński i greu ‘gwirioneddau’ cenedlaethol o fythau pleidiol – gan gynnwys creu arwr cenedlaethol o’i frawd Lech a chynllwyn rhyngwladol ar sail amgylchiadau ei farwolaeth. Eto, nid yr hyn a wnaent oedd o’i le, meddai Szczęsny, ond y ffordd y gwnaent hynny – gan anwybyddu a disodli’r union normau democrataidd y brwydrasai ef a’i gyfoedion drostynt ddegawdau ynghynt.

Yn 1968 hefyd roedd hawliau lleiafrifoedd mewn perygl yng Ngwlad Pwyl, a hynny’n dilyn degawd o rwyddhau ar yr hualau a dynhâi am y wlad cyn marw Stalin yn 1953. Profwyd rhyw flas ar wanwyn, cyn i aeaf ailgydio. Fel yn achos yr hiliaeth adain dde eithafol a welir heddiw ar strydoedd a therasau pêl-droed Gwlad Pwyl (yn ogystal ag mewn disgyrsiau gwleidyddol a phoblogaidd), anodd dirnad pam na allai’r wlad hon – o bob un – wrthsefyll y grymoedd hynny y cawsai’r anffawd o’u hadnabod cystal yn ei hanes diweddar.

Deg y cant o’r boblogaeth Iddewig a oroesodd yr Ail Ryfel Byd. Rhwng 1945 a chanol y chwedegau, yn sgil hinsawdd y gellid ei ddisgrifio fel un ‘gelyniaethus’ a dweud y lleiaf (‘hostile environment’ fyddai’r Saesneg am hyn, mae’n debyg), gadawodd rhyw draean o’r 10 y cant gweddilliol y wlad. Yn 1968, gadawodd deuparth o’r ychydig Iddewon a oedd ar ôl. O fewn llai na hanner can mlynedd, diolch i Natsïaeth, Comiwnyddiaeth a chened laetholdeb o’r anghyfiawn ryw, syrthiasai’r boblogaeth Iddewig o dros dair miliwn i lai na deng mil.

Gorfodwyd y miloedd hyn i adael yn 1968 yn rhannol o ganlyniad i rwygiadau o fewn y Blaid Gomiwnyddol. Er mwyn cryfhau gafael ar rym mewnol, ac er mwyn tawelu galwadau’r mudiadau democrataidd yn y gymdeithas ehangach, gwrthsemitaidd, gwrthddeallusol a gwrthfyfyrwyr oedd disgwrs y llywodraeth, a’i haelodau’n pardduo ‘arbenigwyr’, deallusion a phrotestwyr. Defnyddid trosiad y ‘bumed golofn’ – grŵp sy’n ceisio tanseilio grŵp ehangach o’r tu mewn – yn fwriadol i ddisgrifio’r ‘Iddewon’ a’r ‘Seioniaid’ a grefai am weld gwella’r drefn. ‘Pumed golofn’ oedd yr ymadrodd, wrth gwrs, a ddefnyddid yn y genhedlaeth flaenorol i gyfeirio at y rheiny a gydsyniai â’r Natsïaid.

Beirniadwyd llywodraeth Israel gan greu llen a esgusodai wrthsemitiaeth. Nid oes amheuaeth mai polisïau gwrth-semitaidd oedd y polisïau a arweiniai at ddiswyddo miloedd o bobl o dras Iddewig yn y llywodraeth, y fyddin, y gyfraith, y gwasanaethau iechyd a’r system addysg, gan orfodi miloedd o Iddewon a’u teuluoedd i adael y wlad, am y rheswm syml mai Iddewon oeddynt. Yn y pogrom olaf hwn (o blith llawer) yn 1968, cymerwyd pasbortau yn gyfnewid am docynnau teithio unffordd. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, yn 1998, gosodwyd cofeb yng ngorsaf reilffordd Warszawa Gdańska. Yn y fan hon y dechreuai’r rhan fwyaf ar y daith a orfodwyd arnynt o’r wlad. Yn y fan hon hefyd y dechreuai teithiau’r pedwardegau i Treblinka.
 

Hunanaberth Jan Palach yn y ffilm Hořicí Keř gan Agnieszka Holland, 2013

Dyma’r math o ‘ffliw meddyliol’ a yrrodd Siwiec yntau i geisio’r gwres olaf; dyma’r cefndir i’w daith drên y diwrnod hydrefol hwnnw ym Medi 1968, ac yn ei boced docyn i Stadion Dziesięciolecia, sef Stadiwm y Dengmlwyddiant. Dengmlwyddiant cyhoeddi maniffesto’r PKWN, y Polski Komitet Wyzwolenia Narodowego (Pwyllgor Pwylaidd Rhyddid Cenedlaethol) oedd hwn, a ddatganai oruchafiaeth y grymoedd Comiwnyddol ar wleidyddiaeth Gwlad Pwyl, gan ddiddymu’r llywodraeth alltud yn Llundain.

Y diwrnod hwnnw pan losgodd Siwiec, cynhelid yn y stadiwm ddathliadau’r cynhaeaf dan law’r wladwriaeth ac yng ngŵydd can mil o bobl. Hefyd yn bresennol yr oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid, Władysław Gomułka. Am chwarter wedi deuddeg ar ei ben, taniodd Siwiec ei fatsien a chafwyd yr hyn a elwid gan rai yn farwolaeth ddwbl. Bu farw Siwiec – a bu farw ei stori.

Yng nghanol y dorf, llosgai Siwiec. Ar y llwyfan, dawnsiai’r perfformwyr yn eu gwisgoedd traddodiadol i alawon y ffidil werin. Ni pheidiodd llais y cyhoeddwr ar yr uchelseinydd, ond nid ynganodd air am Siwiec. Tua deng munud wedi deuddeg, mewn cyd-ddigwyddiad trawiadol, canfu dynion camera’r cyfryngau gwladwriaethol fod eu stoc ffilm wedi dod i ben. Wedi’r fflamau, esboniodd yr awdurdodau mai dyn ansad, meddw oedd Siwiec, a gawsai ddamwain angheuol wrth ysmygu yn nwyon ei fodca. Bu i’r can mil amau a welsant ddim. Tawelwyd llais Siwiec yn llwyr; ni ddechreuwyd clywed atsain lawn ei daran dawel tan 1991, yn ffilm ddogfen Maciej Drygas, Usłyszcie mój krzyk (‘Clywch fy nghri’). Dyfynnir yn nheitl y ffilm ddatganiad a recordiwyd gan Siwiec ddeuddydd cyn ei daith i Warszawa. Dyma ran enwocaf y testun hwnnw:

Bobl! y rheiny y mae ynoch o hyd, efallai, ryw danen o ddynoliaeth, o ymdeimlad dynol – calliwch! Clywch fy nghri, cri dyn cyffredin, mab y genedl, a garai ei ryddid ei hun a rhyddid eraill uwch pob dim, uwch ei fywyd ei hun – calliwch! Nid yw eto’n rhy hwyr!

Ryszard Siwiec yn llosgi yn Stadiwm y Dengmlwyddiant, Warszawa, Medi 1968

Yn ei ddilyniant buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, 1969, fel hyn y dechreua cerdd Dafydd Rowlands ‘I’r Anniddig’:

Paham yr anniddigrwydd dan y gwallt hir?
Beth yw natur y dolur sy’n dal
baneri mewn fforest o brotestio
[...]
protestio sy’n gwneud Wenceslas yn olau,
nid gan danwydd brau yr henwr bregus,
ond gan fflam erchyll
yr archoll ifanc;
y protestio sy’n ystum dan y gwallt hir?

Yr hyn a nodweddai brotestiadau 1968 oedd angerdd yr ifainc; myfyrwyr yn anad neb a feddiannai strydoedd, swyddfeydd a darlithfeydd, o Brâg i Baris. Tebyg oedd yr hanes ar gampws Uniwersytet Warszawski: roedd yno fyfyrwyr nad oedd arnynt angen cyngor Dafydd Rowlands, a hwythau eisoes wedi darllen eu Voltaire, eu Leibniz, eu Ieftwsienco a’u Dostoiefsci, gan weld a deall ‘y gwewyr yfflon/ sydd ym mol Raskolnikoff’; clywsant eisoes yr anogaeth a gafwyd ym mhryddest 1969: ‘Darllenwch dan y gwallt y llyfrau gwâr,/ a phrotestiwch’.

Un o’r llyfrau gwâr hyn fuasai drama Adam Mickiewicz, Dziady (‘Hynafiaid’). Aeth cynhyrchiad Kazimierz Dejmek ohoni yn y Theatr Genedlaethol yn Nhachwedd 1967 yn gatalydd i’r anniddigrwydd, y baneri a’r ystumio. Gwaharddwyd y cynhyrchiad gan lywodraeth Gomułka am fod yn wrth-Rwsiaidd, yn wrth-Sofietaidd ac yn or-grefyddol. Arweiniodd hyn bron yn ddi-oed at ddiarddel myfyrwyr o’r Brifysgol am godi llais, at alltudio’r cyfarwyddwr, a ‘thawelu’ protestiadau heddychlon ledled y wlad gan y milisia a thrwy gyfrwng yr aktyw robotniczy (‘actifiaeth y gweithwyr’, sef mwysair i ddisgrifio’r llabystiaid hur a roesai fenthyg grym eu cyrff i dawelu’r deallusion).

Annodweddiadol, felly, oedd Siwiec a Szczęsny, pan godai fflamau erchyll eu harcholl hwy: roedd Siwiec eisoes yn 59 mlwydd oed yn 1968, a Szczęsny yn 54 y llynedd. Ond nodweddiadol yn hanesion y ddau oedd y modd y ceisid – ac y ceisir – negyddu ergyd eu gweithredoedd gan rymoedd disgwrs y ‘sefydliad’. Yn achos Szczęsny, am na ellir, yn oes y cyfryngau torfol, ddileu ei lais yn llwyr, ceisir annilysu ei gri drwy hawlio nad oedd yn ei iawn bwyll: roedd ei iselder wedi ei freuo, nes caniatáu i rethreg gelwyddog y chwith anwladgarol ei yrru dros y dibyn. Haerir nad datganiad o safiad gwleidyddol mo’r maniffesto manwl a adawodd, ond tystiolaeth bod cefnogwyr y gwrthbleidiau yn gyfrifol am ei ladd. Mewn sylwadau ar Twitter ac o dan y straeon newyddion sy’n coffáu Szczęsny, gwelir yr un ergyd dro ar ôl tro: ‘ar eich dwylo chi, ryddfrydwyr Ewrogarol, y mae ei waed’. Ni welodd y can mil Siwiec yn llosgi ac ni wnaeth Szczęsny ddatganiad gwleidyddol. (Yn yr un modd, ni chafwyd ar ochr bws addewid o 350 miliwn o bunnoedd.)

Oherwydd ei ‘farwolaeth ddwbl’ a’r tawelu ar ddirgryniadau ei brotest, annhebyg iawn bod Siwiec wedi dylanwadu ar Jan Palach, y gŵr ugain mlwydd oed o Brâg a hunanlosgodd ar Václavské náměstí (Sgwâr Wenceslas) ar 19 Ionawr 1969. Palach a ddaeth yn brif symbol y protestio hwn, ac yn un o eiconau ‘1968 hir’ dwyrain Ewrop. ‘I’r stryd y daeth rhyddid/ Yn olau’n yr hwyr’, yw geiriau Gwyn Thomas yn ei gerdd ‘Pallach’ (sic) o’r gyfrol Y Pethau Diwethaf a Phethau Eraill (1975), a bu i Gwynfor Evans ar un adeg benderfynu y byddai, ‘ryw Ddygwyl Dewi [...] yn ei ferthyru ei hun, fel rhyw Jan Palach Cymreig’. Mewn iaith Geltaidd arall, dyma’r hyn a ganai Liam Ó Muirthile wrth gofio’n ôl i ’68: ‘Chualamar toirneacha bodhra/ teainceanna na Sóivéide/ i gcoiméide raidió Chorca Dhuibhne.’ (‘Clywsom daranau pell/ tanciau’r Sofietiaid/ yng nghomedïau radio Corca Dhuibhne.’). Bu’r digwyddiadau ar strydoedd Prâg yn 1968 yn atseinio’n dywyll hyd bellafion, fel y parha eu griddfan i’n rhybuddio heddiw.

Un peth sy’n sicr yw bod Siwiec, erbyn i’w lais hollti’r tawelwch, wedi dylanwadu ar Piotr Szczęsny, a hanes yr ail yn ddrych i’r cyntaf. Dyma ddyfynnu testament olaf y gŵr o gyffiniau Kraków, a geiriau Marcin Wójcik, ym mhapur newydd Gazeta Wyborcza (30.10.2017), yn ei gyflwyno:

Tua 4.30pm roedd yn dechrau nosi, a’r swyddfeydd yn gwagio. Ar Plac Defilad [Sgwâr y Parêd], ar ochr ul. Marszałkowskiej [Stryd y Cadlywydd], gosododd uchelseinydd, a chwarae ‘Kocham wolność’ [‘Caraf Ryddid’] gan y grŵp Chłopców z Placu Broni [dyma deitl y cyfieithiad Pwyleg o nofel Hwngareg Ferenc Molnár, A Pál utcai fiúk (1906)]. Taenodd daflenni o’i gwmpas a datganai drwy’r megaffon ei brotest yn erbyn cyfyngiadau’r llywodraeth ar iawnderau sifil. Yn ei fag roedd ganddo botel ac ynddi hylif hylosg. Fe’i trochodd ei hun yn yr hylif ac fe’i cyneuodd. Gwaeddodd, ‘Dyma fy mhrotest!’ a chwympodd ar y llawr. Yng ngolau’r tân, haws oedd gweld y geiriau: ‘Myfi, ddyn cyffredin, yn union fel chi, galwaf arnoch bob un – nac oedwch ragor! Rhaid newid y llywodraeth hon ar unwaith, cyn iddi lwyr ddifa’n gwlad, cyn iddi ddwyn ein rhyddid yn llwyr. Ac rwyf innau’n caru rhyddid uwchlaw pob un dim. Dyma’r rheswm imi benderfynu llosgi fy hun, a hyderaf y bydd fy marwolaeth yn ysgwyd cydwybod nifer ohonoch; hyderaf y bydd y gymdeithas yn deffro, heb ichi ddisgwyl i’r gwleidyddion wneud pob dim drosoch – oherwydd wnân nhw ddim! Deffrowch! Nid yw eto’n rhy hwyr!’ Diffoddwyd y Piotr anymwybodol gan rai a gerddai heibio.

Ni wyddom beth a chwaraeai’r grŵp gwerin yn 1968 wrth i Siwiec glirio cylch o’i gwmpas yn nhorf Stadiwm y Dengmlwyddiant, stadiwm fwya’r wlad. Ond hawdd chwilio’r we a chael hyd i’r union gân a ganai’n gefndir i weithred Szczęsny yn Nhachwedd 2017, yng nghysgod adeilad talaf Gwlad Pwyl.

Enw gwreiddiol yr adeilad hwnnw pan y’i hagorwyd yn 1955 oedd Pałac Kultury i Nauki im. Józefa Stalina (Palas Diwylliant a’r Gwyddorau, yn enw Józef Stalin), a disgrifiwyd y bwystfil hwn o gofgolofn i’r Gomiwnyddiaeth fwyaf echrydus fel ‘rhodd gan y genedl Sofietaidd i’r genedl Bwylaidd’. Oddi ar y waliau hyn yr atseiniai geiriau ‘Kocham wolność’ (‘Caraf Ryddid’), y gân o 1990 a dyfodd mor boblogaidd yn 2017 fel anthem answyddogol y protestiadau nes dringo i uchelfannau siartiau iTunes. Neges amlwg sydd i’r rhythmau roc heintus, a byddai Siwiec a Szczęsny, petai amgylchiadau’n wahanol, yn medru cyd-ganu’r geiriau: ‘Tak niewiele żądam/ Tak niewiele pragnę/ Tak niewiele widziałem/ Tak niewiele zobaczę [...] Wolność kocham i rozumiem/ Wolności oddać nie umiem.’ (‘Cyn lleied rwy’n ei fynnu/ Cyn lleied rwy’n ’chwenychu/ Cyn lleied a welais/ Cyn lleied a welaf/ [...] Rhyddid – fe’i caraf ac rwy’n deall/ Rhyddid – ni fedraf mo’i ildio.’)

Hefyd eleni dethlir dau ben-blwydd arall pwysig. Un yw 75 mlwyddiant Gwrthsafiad y Ghetto yn Warszawa pan gododd yr ychydig filoedd o Iddewon oedd eto’n fyw yn erbyn y Natsïaid ar 29 Ebrill 1943. Ar 29 Ebrill 2018, nodweddid y brif seremoni goffa swyddogol gan naratif a bwysleisiai mai’r weithred ‘Bwylaidd’ hon a arweiniodd at sefydlu gwladwriaeth Israel ym Mai 1948, 70 mlynedd yn ôl. Gyda map gwleidyddol canolbarth Ewrop wedi’i ail-lunio, hawdd creu arwyr o hen elynion a diarddel beiau.

Rhaid oedd aros nes i’r wal ddod i lawr ac i gofnodion ddod i’r amlwg cyn y gellid adrodd hanes Siwiec a’i goffáu’n haeddiannol. Trwy gyfrwng yr hanes hwn mae Gwlad Pwyl heddiw yn gallu hawlio rhan yn y gwrthdystio, ac ymbellhau rhag euogrwydd sefydliadol. Pan ymddiheurodd yr Arlywydd Andrzej Duda ym mis Mawrth ym Mhrifysgol Warszawa, gofynnodd am faddeuant am ddigwyddiadau 1968 – maddeuant nid i Wlad Pwyl heddiw ond i Wlad Pwyl ‘arall’ a fodolai hanner can mlynedd yn ôl. Gellid deall a derbyn hyn pe na bai Gwlad Pwyl heddiw, a phlaid Duda ei hun (cyn iddo fynd yn annibynnol wedi ennill yr etholiad arlywyddol), yn arddangos tueddiadau sydd yn ddigon i dymheru hiwmor pob gwrandäwr radio ac yn bygwth gwrth-ddweud a gwrth-wneud enillion hanner can mlynedd a mwy.
 

Gweddillion gweithred Piotr Szczęsny yn Warszawa, Tachwedd 2017

Yr haf diwethaf, teithiais i Wlad Pwyl gyda’r bwriad o ymuno yn y protestiadau amgylcheddol yn Puszcza Białowieska, y goedwig hynafol am y ffin â Belarws yr oedd llywodraeth PiS wedi dechrau ei difodi gyda’r esgus bod rhaid torri coed i atal chwilod. Ni chyrhaeddais Białowieża ond yn hytrach treuliais wythnos a mwy yn ninas Lublin, nid ymhell o Przemyśl, cartref Siwiec gynt, a dinas yr oedd 40 y cant o’i phoblogaeth yn 1939 yn Iddewon. Lublin a’r ardal o’i chwmpas fu un o brif ganolfannau diwylliant yr Hasidim, ac yma, pan y’i hagorwyd yn 1930, yr oedd jeszywas – coleg Talmwdaidd – mwyaf y byd. Yn yr hen ddinas ganoloesol mae Teatr NN, un o’r mudiadau sy’n ymdrechu i warchod hanes Iddewig y ddinas: un o’i amcanion yw casglu gwybodaeth am bob cartref Iddewig a fodolai yng nghyfnod y jeszywas ac yn ei ganolfan mae ffeil ar gyfer pob un. Er bod dogfennau yn y mwyafrif o’r 1,500 o ffeiliau, erys nifer yn wag.

Bob nos am gyfnod yr haf hwnnw, fel ag mewn cant a mwy o drefi eraill ledled y wlad, gwelid niferoedd cynyddol yn ymgynnull o flaen y prif lys yn dal canhwyllau: gelwid ar Andrzej Duda i ddefnyddio’i bleidlais atal i rwystro tair deddf a fyddai’n dod â’r farnwriaeth dan reolaeth y llywodraeth. Bob nos yn Lublin, gorymdeithiai’r brotest yn dawel o’r ardal gyfyngedig o flaen y llys i lawr i Plac Litewski (Sgwâr Lithwania); tyfai’r dorf yn sŵn anerchiadau a chanu. Yn Lublin yn 1569, arwyddwyd cytundeb a greodd y Wladwriaeth Bwylaidd-Lithiwanaidd, ac yn ogystal â choffáu’r ‘Undeb Ewropeaidd gyntaf’, mae ar Plac Litewski gofebau lu eraill gan gyfleu mor amlieithog, amlgenedl ac amlddiwylliannol oedd y wladwriaeth hon drwy gydol ei hanes hyd yn ddiweddar.

Nid nepell o’r sgwâr, ar wal mynachdy’r Capwsiniaid, mae plac yn coffáu marwolaeth Lech Kaczyński, efaill Jarosław (arweinydd PiS). Pan blymiodd ei awyren i’r ddaear yn 2010, roedd Lech ar ei ffordd i Smolensk yn y Ffederasiwn Rwsiaidd, i goffáu 70 mlwyddiant cyflafan Katyn. Yn yr erchylltra hwnnw yn 1940, lladdodd yr NKVD (Gweinyddiaeth Gartref yr Undeb Sofietaidd) dros 20,000 o swyddogion, academyddion ac eraill o garcharorion rhyfel ‘Pwylaidd’ (o blith holl grwpiau ethnig y fyddin, yn Wcráiniaid, Lithiw aniaid, Iddewon, Belarwsiaid...).

Cwlt Lech Kaczyński oedd un o ofidiau Szczęsny: mynna Jarosław mai ‘ail Katyn’ oedd Smolensk, a Rwsia’n gyfrifol am ladd y 96 oedd ar fwrdd yr awyren. Claddwyd Lech a’i wraig Maria yng nghrypt Cadeirlan Wawel yn Kraków, man claddu traddodiadol brenhinoedd ac arwyr y wlad (yn eu plith Mickiewicz, bardd Dziady), a dechreuwyd cynnal seremonïau coffa misol, i gadw’r cof – a’r cynllwyn – yn fyw.

Ar y sgwâr, ar un noson yn arbennig, cofiaf i’r dorf amyneilio galw am weto a wolność (rhyddid) a chanu caneuon Rwsieg – geiriau’r bardd Władimir Wysocki ac eraill. Cenid hefyd ag angerdd ‘Mury’ (Muriau), gan Jacek Kaczmarski, cân yr ysgrifennwyd ei geiriau yn 1978 ar alaw ‘L’Estaca’ (Y Stanc), sef anthem wrth-Franco a ysgrifennwyd ddegawd ynghynt yn 1968 gan Lluísa Llacha. Lluniodd Kaczmarski’r geiriau Pwyleg i rybuddio rhag y tueddiad sydd gan fudiadau protest i anghofio’u hamcanion radicalaidd a throi’n rymoedd adweithiol. Gwelir cryn eironi yn nrych hanes wrth sylweddoli bod ‘Mury’ wedi mynd yn anthem answyddogol i fudiad Solidarność erbyn diwedd yr wythdegau, a’r aelodau’n ei phoblogeiddio drwy hepgor y pennill sy’n gwrthdroi ergyd optimistaidd ‘L’Estaca’. A wele hi’n atseinio heno, ochr yn ochr â Wysocki, Chłopców z Placu Broni ac eraill, gan godi ambell gwestiwn anos na’i gilydd ynghylch pryd yn union y gellir clywed y gwir.


Mae Aled Llion Jones yn Uwch Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol ym Mhrifysgol Bangor.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yng nghanol y dorf, llosgai Siwiec. Ar y llwyfan, dawnsiai’r perfformwyr

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…