Jonathan Lear


Radical Hope: Ethics in the Face of Cultural Devastation

Harvard, 208tt, £15.95, 2006

Brexit, y Crow a gobaith radical
Dadansoddi

Brexit, y Crow a gobaith radical


Catrin Ashton

Amser darllen: 20 munud

30·03·2018

Gorchuddia’r cen y garreg fel patrwm o rew ar wydr, ond parhau yn weladwy mae’r rhifau sydd wedi eu cerfio yn y piler triongl. Maent yn nodi bod y garreg yn sefyll 1,588 o droedfeddi uwchben lefel y môr. O’r fan hon, mae’r mynydd i’w weld yn ei holl gymhlethdod: gwelaf brydferthwch anial y gwylltir, meini’r beddau’n ymwthio drwy’r tir, gwaith glo Ffos-y-frân a’r tomenni sorod sy’n tyfu’n feunyddiol. Gwelaf y peilonau yn gewri o strwythurau metel, y fferm paneli solar a gontractiwyd i gwmni o’r Eidal ac a adeiladwyd gan ddynion o Rwmania. A gwelaf y biblinell nwy sy’n peri i’r gwair dyfu’n wahanol rywsut, nes bod ei llwybr yn gwbl amlwg i’r sawl sy’n adnabod y tir. Yn y pellter, gwelaf felinau gwynt mor fawr â’r peilonau. Ac yn cyd-fyw â hyn oll, clywaf gân y gylfinir a’r ehedydd, a brefu’r buchod a’r defaid. Sylwaf ar adenydd y barcud a’r hebog yn gwyro gyda’r awel wrth iddynt asesu’r tir islaw am eu prae.

Gwelaf fydoedd yma yn ymrafael am eu tir. A’r bobl hefyd yn ymrafael am eu lle: y rheini sy’n byw yn y pentrefi a’r trefi islaw, neu’n teithio yn eu cerbydau ar yr hewl gul laslwyd sy’n marcio’r mynydd fel gwythïen.

Dechreuais ysgrifennu’r darn hwn yn fy nghartref ym Medlinog ger Merthyr, yn fuan wedi’r bleidlais o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit). Gofynnodd sawl un i mi: beth ar wyneb y ddaear a ddaeth dros bobl yr ardal hon – cymoedd y de – yn cefnogi’r fath syniadau ac yn creu’r fath hunllef.

Un tueddiad sydd gennym yn y byd Cymraeg yw cytuno â’n gilydd, ar y cyfan. Ac efallai fod modd dadlau, yn sgil hynny, nad oes trafodaeth go iawn wedi digwydd ynghylch Brexit yn yr iaith hon. Ceir cytundeb, yn y bôn, mai’r ffordd ddoethaf i bleidleisio yn y refferendwm hwn oedd bwrw pleidlais dros aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd; cytunir mai hunllefus fydd canlyniadau gadael. Yn un o golofnau golygyddol O’r Pedwar Gwynt y llynedd, a oedd yn trafod Brexit, cafwyd y paragraffau agoriadol canlynol:

Yn y gân ‘Gwlad ar fy Nghefn’ gan Datblygu, dywedodd David R Edwards bod ‘byw yng Nghymru ’run peth â syllu ar y paent yn sychu, ar y gwair yn tyfu’. Roedd hynny yn 1988 [...]

Yn fwy diweddar, yn rhifyn cyntaf ‘O’r Pedwar Gwynt’ yn wir, gofynnwyd i’r nofelydd Wiliam Owen Roberts geisio esbonio ei ddiddordeb ysol yntau mewn newidiadau mawrion, chwyldroadol. ‘Mae’n dod yn sgil y ffaith fy mod i’n byw yng Nghymru,’ meddai (cyn refferendwm Ewrop, er tegwch ag ef), ‘ac am fod pob dim mor ddiantur a di-rym. Dyna ydi’r cymhelliad ... i geisio gwneud iawn am y diffyg, dw i’n tueddu i weld yr angen i greu dipyn o ddrama mewn lle arall’.

I un sydd wedi ei magu yn y cymoedd, mae’r geiriau hyn yn egluro rhywfaint ar y benbleth ynghylch canlyniad y refferendwm. Tybed ai ein diffyg adnabyddiaeth o’n gilydd yng Nghymru sydd yn rhannol gyfrifol am ganlyniad y bleidlais hon? Nid oeddem yn sylweddoli difrifoldeb y tensiynau a oedd yn dal i fodoli yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol. Yng ngeiriau Thoreau yn Walden, ‘the mass of men lead lives of quiet desperation’.

Nid ‘dim byd’ sydd wedi bod yn digwydd yma yn y cymoedd (ac felly hefyd yng Nghymru). I’r gwrthwyneb: digwyddodd un o’r pethau mwyaf a all ddigwydd i gymuned o bobl – daeth eu byd i ben. Ac wedi hynny, ddigwyddodd ‘dim byd’. Nid yn yr ystyr o ddiflastod, o edrych ar baent yn sychu, ar y gwair yn tyfu, nac ychwaith yn yr ystyr o gael amser i fyfyrio am bethau mwy cyffrous, ond ‘dim byd’ yn yr ystyr cwbl derfynol; y ‘dim byd’ hwnnw sy’n golygu nad yw rhywbeth yn bod mwyach ac felly nad yw’r posibilrwydd o wylio paent yn sychu neu freuddwydio am gyffro yn bod ychwaith.

Yn ei gyfrol Radical Hope: Ethics in the Face of Cultural Devastation (2006), ceisia’r awdur Jonathan Lear ateb y cwestiwn arswydus sut y dylai rhywun wynebu’r posibilrwydd y gallai ei ddiwylliant ddod i ben. Mae’n gwestiwn sydd yn gwthio fwyfwy i’r wyneb wrth i realiti newid hinsawdd amlygu ei hun, ac wrth i’r cymunedau hynny sydd eisoes yn dioddef ddal drych hunllefus i’n dyfodol ninnau. Mae hefyd yn gwestiwn sydd wedi poenydio’r gymuned Gymraeg dros y canrifoedd diwethaf, yn arbennig y sawl ohonom sy’n siarad Cymraeg yn y cymoedd, a hynny oherwydd bod un ffurf ar ein Cymraeg – y Wenhwyseg – wedi diflannu fwy neu lai eisoes. Er mai cangen arall, gymhleth, yn ein stori yw honno, mae’n rhaid nodi bod absenoldeb y dafodiaith, a’r tristwch a’r golled a ddaeth yn sgil hynny, yn fythol bresennol yn y tensiwn a adawyd ar ôl. Ac wrth gwrs, yn sgil Brexit, mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto ar lefel genedlaethol.

Pennaeth olaf Cenedl y Crow yn America, gŵr o’r enw Plenty Coups, yw’r llinyn cyswllt yn nhrafodaeth Jonathan Lear. Dywedodd Plenty Coups mewn cyfweliad: ‘When the buffalo went away the hearts of my people fell to the ground and they could not lift them up again. After this nothing happened.’ Ond yn ôl Lear, gellir dadlau bod llawer wedi digwydd: tyfodd Plenty Coups gnydau, fe’u harddangosodd mewn sioeau; teithiodd i Washington yn rhinwedd ei gyfrifoldeb fel pennaeth y Crow, er mwyn amddiffyn hawliau ei bobl; bu’n weithgar yn annog Crow ifanc i gael addysg y dyn gwyn. Ac eto, dyma’r cyfnod y sonia amdano pan ddywedodd na ddigwyddodd dim. Sut hynny?

Un o’r problemau a oedd yn wynebu Cenedl y Crow oedd diffyg cydnabyddiaeth o’u ffordd arbennig o fyw. Roedd hi’n anghyfreithlon lladd yn ôl cyfraith yr UD, nid yn anrhydedd fel yn eu diwylliant hwy. Ac roedd plannu coup-stick er mwyn hawlio tir wedi brwydr yn weithred ddi-synnwyr am mai’r llywodraeth oedd piau’r tir – chwerthinllyd felly fyddai plannu ffon, neu chwerthinllyd i’r dyn gwyn efallai. Gellid dadlau mai gweithred lawn tristwch, lawn cywilydd fyddai hon i Genedl y Crow am ei bod yn tanlinellu’r ffaith nad oedd unrhyw beth ar ôl.

Beth sy’n digwydd i gymuned pan fo seiliau diwylliannol y gymuned honno, a’r posibiliadau a gynigir gan y diwylliant hwnnw, yn diflannu? Mewn erthygl yn y New York Review of Books yn Ebrill 2007, dadleuodd Charles Taylor, wrth adolygu cyfrol Jonathan Lear, bod yr hyn a ddig- wyddodd i’r Crow yn berthnasol i nifer o gymunedau brodorol y byd a chrybwyllodd hefyd gymunedau’r cymoedd.

Nid yw’n ormodiaith awgrymu bod hanes cymunedau glofaol de Cymru a gweddill Prydain a stori Cenedl y Crow yn rhannu rhywfaint o dir cyffredin. Roedd y gweithfeydd glo yn llawer mwy na gweithle; roedd natur beryglus y gwaith yn golygu bod y glowyr yn gofalu am ei gilydd wrth wynebu argyfyngau. Ar yr ystyr hwnnw, roeddent yn fwy na chyd-weithwyr, roeddent yn butties, ac ar ôl gwaith, yn gymdogion; eu gwragedd a’u plant yn ffrindiau. Tyfodd bywyd yn ei holl gyflawnder o amgylch y pyllau glo, rhedai ynni’r tir drwy wythiennau’r bobl a’i tyllodd â phicellau a pheiriannau. Roedd balchder i’w ddarganfod yn y gwaith hwn, ac roedd y trigolion yn magu ymwybyddiaeth wleidyddol – yn fenywod ac yn ddynion – ac yn fodlon brwydro dros eu hawliau.

Dangosodd brwydr ffyrnig streic y glowyr yn 1984-85 gryfder y gymdeithas hon wrth iddi feithrin ysbryd o gydweithio, wrth i bobl dynnu at ei gilydd. Gyda rhywbeth anfesuradwy yn y fantol, rhaid oedd achub y gymdeithas. Mae’n anodd dychmygu blwyddyn heb unrhyw arian yn cyrraedd y cartref. Sut mae prynu bwyd, cadw’n gynnes, goleuo cartref, gofalu am eich plant? Mae fy ffrindiau wedi sôn am ddod adref o’r ysgol yn y dyddiau hynny a gwisgo pob dilledyn oedd ganddynt cyn mynd yn syth i’r gwely, gyda’u rhieni, er mwyn cadw’n gynnes a dygymod â’r tywyllwch. Byddai’r dynion yn hela cwningod i’w bwyta, yn dwyn glo i wresogi’r tŷ, yn dwyn pibellau copr er mwyn eu gwerthu i’r scrappies. Mae rhai o’r cyn-lowyr a oedd yn ifanc ar y pryd wedi sôn wrthyf am y wefr a deimlent wrth gyrraedd y llinell biced: y teimlad o fod yn barod am frwydr, o gael rhywle i sianelu eu dicter, a hyd yn oed yn cyfaddef bod yr ysfa i ymladd i’w theimlo yn gynnwrf drwyddynt. Bu nerth ac effeithlonrwydd menywod y gymuned yn hanfodol ac roedd ymdeimlad o gydraddoldeb rhwng y ddau ryw, rhyw ddealltwriaeth o bwysigrwydd y naill i’r llall. Yn debyg i gymuned y Crow, roedd rôl i bawb yn y gymuned honno.

Yn y diwedd, nid mewn un frwydr ffyrnig, wallgof y collwyd y pyllau; yn araf bach, gyda threigl amser, y caewyd pob un. Ni ddaeth gwaith i gymryd lle’r hyn a gollwyd. I’r sawl oedd wedi llwyddo i ddod o hyd i waith arall, nid oedd yn ddigon. Roedd stacio silffoedd yn yr archfarchnad leol am y nesa’ peth i ddim yn ergyd galed i berson a oedd wedi arfer â swydd a dalai’n dda, swydd a oedd yn ennyn parch cyfoedion ac, yn fwy na hynny, yn diffinio ardal gyfan a’i diwylliant. Y ddelwedd boblogaidd o Gymru yn y cyfryngau am flynyddoedd lawer oedd darlun o’r cym- oedd ar eu hanterth. Ac roedd y dynion hyn a’u gwragedd a’u plant yn rhan o’r stori. Yna, fe ddiflannodd y cwbl.

Y llef anghrediniol yn sgil Brexit ydy sut y gallai ardaloedd tlotaf Cymru (a Phrydain) fod wedi pleidleisio yn erbyn eu lles eu hunain. Ewrop oedd yn rhoi arian i’r mannau difreintiedig hyn, Ewrop gyda’i hardaloedd Amcan Un, ei swyddfeydd cymunedol, ei grantiau i adnewyddu tai’r ardal. Ond beth yw gwerth plaster dros archoll? Roedd y grantiau’n diflannu yr un mor gyflym ag yr oeddent yn cyrraedd, gan adael swyddfeydd gweigion a’u hadeiladau’n adfeilio, eu ffenestri’n chwalu fesul un, a’r teimlad iasol nad oedd dim byd wedi digwydd wedi’r cyfan. Yn ei ysgrif brydferth, arswydus ‘Teyrnas Ysgall’, a gyhoeddwyd yn rhifyn diwethaf O’r Pedwar Gwynt, mae Morgan Owen yn ymdrin â’r hyn sydd yn absennol yn ardal Dowlais: ‘Mae’r tir diffaith sydd yn weddill yn anesmwytho rhywun yn arw. Distawrwydd lle bu dadwrdd a dwndwr trystfawr. Wrth wrando’n astud, disgwylir clywed atsain yn y pridd, ond ni ddaw dim ohono.’

Ychwanegu at y teimlad hwn o wacter a’n llenwa a wna absenoldeb grantiau’r Undeb Ewropeaidd – oherwydd nid yw’r grantiau ychwaith yn para am byth. Mae’r absenoldeb a deimlwn yn fwy na diffyg presenoldeb diriaethol: mae’n gyflwr seicolegol. Ac mae’r diffyg dealltwriaeth a geir o’n cyflwr yn ehangu’r pellter rhyngom a’r sawl sy’n ein trafod – ‘y gweddill’. Efallai fod modd dadlau bod unrhyw grant, hyd yn oed un sydd yn blaster dros archoll, ac sydd yn gadael gofod noethlwm o’i ôl, yn well na dim cymorth o gwbl. Ac efallai fod hynny’n wir am gyfnod, ond pan fo’r cyfnod hwnnw yn para oes, mae’r cen yn dechrau disgyn oddi ar y llygaid.

Mae’r grantiau i wella golwg y tai yn enghraifft dda o natur arwynebol y cymorth a roddwyd i’r ardal. Os oedd problem gyda thamprwydd (fel sydd yn yr hen dai hyn), byddai olion tamprwydd yn y blaen yn cael eu gwared, heb ddatrys y tamprwydd ei hun, na gwared olion y tamprwydd ar y tu mewn – nac ychwaith ar ochrau neu gefnau’r tai. Hyn i gyd mewn ardaloedd a lwyddodd i gadw urddas am ddegawdau ac a frwydrodd am yr urddas hwnnw.

Fel côt o baent dros wal damp, cymorth rhithiol oedd grantiau’r Undeb Ewropeaidd i’r rhai hynny oedd yn dibynnu arnynt i wella eu safonau byw. Ac eto, roeddent yn ddigon i wneud i bobl ar y tu allan weiddi’n groch bod y bobl a bleidleisiodd dros adael yn dwp, neu’n anniolchgar, neu’n methu gweithredu er eu lles eu hunain. Ond efallai mai’r gwir yw, os nad ydyw Cymru’n adnabod ei hunan, os nad oes deialog yn medru digwydd rhwng ei gwahanol garfanau, sut gall hi ddeall gwrthryfel fel hwn, gan yr ardaloedd tlotaf, yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd a’i chardod? Ar ben hynny, roedd pleidiau gwleidyddol y brif ffrwd i gyd yn annog pobl i bleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Gellid dadlau mai’r pleidiau hyn oedd wedi cefnu ar y cymoedd. Roedd y Torïaid wedi cau’r pyllau glo, Llafur wedi croesawu rhethreg neo-ryddfrydol y cyfnod, a Phlaid Cymru, fel y Democratiaid Rhyddfrydol, yn amwys eu polisïau economaidd. Ac fe bleidleisiodd y cymoedd i adael.

Ar ôl i’r pyllau glo gau, ddigwyddodd dim byd. Felly’r tro hwn, doedd dim byd yn y fantol oherwydd nid oedd dim yn bodoli mwyach. Meddai’r un golofn olygyddol yn O’r Pedwar Gwynt:

‘Yr Arglwydd a roddodd, a’r Arglwydd a ddwg ymaith’, dim ond y bydd yr Arglwydd dan sylw yn trigo nid ‘yn nhŷ fy Nhad’ ond mewn tŷ crand, ac iddo lawer o drigfannau, yn rhywle fel Surrey neu Berkshire.

Ond dygwyd bywyd oddi ar y cymoedd amser maith yn ôl. Nid yn unig daeth diwylliant i ben ond ni chafwyd cydnabyddiaeth o lawnder y digwyddiad, o’i derfynoldeb.

Yn wahanol i sawl un o benaethiaid cenhedloedd eraill America, awgryma Jonathan Lear bod Plenty Coups wedi llwyddo i feithrin ‘gobaith radicalaidd’, sef y gallu i ddychmygu a gobeithio am fywyd amgen i’w bobl. Llwyddodd i ddychmygu ystyr i’w byd newydd, mewn ôl-fyd anghyfarwydd. Roedd yn rhaid iddo fod yn ddewr mewn ffordd nad oedd yn cael ei chydnabod ymhlith ei gymuned ei hun, ei fyd ei hun. Sut mae bod yn ddewr pan fo hyd yn oed y cysyniad o ddewrder, bellach, yn gysyniad nad oes modd ei ddirnad? Daeth yr ateb iddo ar ffurf breuddwyd: efelychu’r titw penddu trwy eistedd mewn coeden a gwrando a gwylio eraill, er mwyn ceisio deall y ffordd ymlaen ac er mwyn ceisio dirnad sut mae byw pan fo’r cwmpawd ar chwâl. Dyna fy nheimlad i am y cymoedd, ac efallai fod y bleidlais o blaid Brexit yn rhan o’r ymgodymu sydd yn anorfod wrth geisio hawlio lle mewn presennol newydd.

Mae dros dri deg o flynyddoedd wedi pasio ers i streic y glowyr ddod i ben. O’m cartref ym Medlinog, gwelaf y cymoedd fel endid a lwyddodd i godi o ddyfnderoedd tonnau cythryblus y moroedd mawr i gael ei wynt ato am ennyd ond, wrth godi, mae’n sylweddoli nid yn unig bod y byd wedi newid ond bod ein dealltwriaeth o ddigwyddiadau ein hanes wedi newid hefyd.

Ceir trafodaethau cyson ymysg grwpiau gwleidyddol, adrannau’r cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol y cymoedd. Beth all y cymoedd fod? Beth am ardaloedd gwyrdd i fyw; gwella’r drafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau bod gwaith o fewn cyrraedd pawb? Beth am fod yn borth i Fannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du; porth i brydferthwch Powys a thu hwnt? Beth am fod yn ardal dwristiaeth yn ei rhinwedd ei hun? Mae yna lefydd i gerdded, y düwch wedi diflannu’n llwyr – bron; mae gennym amgueddfa hyd yn oed, yn cofnodi hanes cloddio glo. Ac mae potensial ar gyfer creu ynni adnewyddadwy. Efallai y gall y cymoedd fod yn gyfuniad o’r rhain i gyd? Neu’n rhywbeth arall eto? Beth yw’r lle hwn? Pwy ydyn ni?

Un peth sy’n weddol sicr: allwn ni ddim cloddio gyda balchder am lo mwyach, petai hynny ddim ond am ein bod yn deall erbyn hyn y dinistr y mae’r math hwn o ynni’n ei greu yn ein byd.

Llwyth rhyfelgar oedd y Crow. Dyna oedd wrth wraidd eu bodolaeth, eu dealltwriaeth o’u hunain, eu gwareiddiad. Mewn seremoni ger Bedd y Milwr Anhysbys, gosododd Plenty Coups ei coup-stick, yn fud, i orffwys. Dywed Jonathan Lear am y weithred hon:

At the Tomb of the Unknown Soldier he ceremonially laid down his coup-stick... He was burying it. Given the long history the tribe had led with the coup-stick, this was what it was appropriate to do with it now. But this extraordinary act makes the general point. There was still room in these radically altered circumstances to think about what it was appropriate to do. And it was still possible to formulate a stunning answer.

Ailagorwyd clwyf gyda refferendwm Brexit ac roedd yr hyn a orweddai o dan y grachen yn pydru. Atebodd yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol eu bod wedi cael digon, nad oedd y status quo yn gweithio. Ac yna fe’u galwyd yn dwp, yn anaddysgiedig, yn hiliol, a mynnwyd bod angen ail refferendwm.

Pan fo bodolaeth cymuned yn cael ei chwalu, byd yn diflannu, efallai nad yw hi’n gymaint o syndod bod yno lanast i’w glirio. Digwyddodd rhywbeth dwys yma yn y cymoedd heb i ni fedru amgyffred yn iawn yr hyn ydoedd, oherwydd pan ddigwyddodd y darfod, digwyddodd yn dawel. Efallai mai tristwch y sefyllfa yw nad oes neb yn barod i gydnabod bod y byd hwnnw wedi dod i ben. Does dim tyst, dim llais. Roedd Plenty Coups o leiaf yn gallu tystio i farwolaeth ei bobl, ac yn y symbolaeth a grëwyd wrth osod y coup-stick ger Bedd y Milwr Anhysbys roedd fel petai’n awgrymu bod rhyw fath o atgyfodiad yn bosib.

A oes modd i ninnau weld ein byd o bersbectif tebyg, gyda gobaith radical, a gweld Brexit fel mynegiant o hynny? A ydy hi’n bosib bod Brexit, drwy ailagor y clwyf, wedi rhoi cyfle i ni ailystyried yr hyn sydd o fewn ein cyrraedd? Yn anos fyth efallai: a ydy hi’n bosib derbyn nad ymateb adweithiol oedd y bleidlais i adael ond, yn hytrach, pleidlais bwrpasol a ddatblygodd yn rhinwedd ystyriaeth ddwys, â’r bwriad unswydd o chwalu’r hyn a oedd yn bodoli, er mwyn medru creu ffordd newydd o fod, er gwell? Rhyw gytundeb nid annhebyg, efallai, i’r cytundeb rhwng Plenty Coups a’r dyn gwyn pan dderbyniodd y cynnig i fyw ar ddarn penodol o dir a ffarwelio, felly, â’r bywyd nomadig, rhyfelgar am byth.

Tybed ai enw arall ar y gobaith radical hwn yw’r ‘naid’ y sonia Emyr Glyn Williams amdani yn ei erthygl ‘Beth yw’r pellter ond naid (Mixtape 1988)’ (O’r Pedwar Gwynt, Nadolig 2017)? Mae’n dehongli’r ‘naid’ fel hyn:

Athroniaeth a fydd yn medru cynnig arweiniad ar gyfer gwlad annibynnol sydd ar fin ‘dyfod’, gwlad sydd yn ystyried y weithred o ‘neidio’ fel yr ateb mwyaf naturiol ar gyfer esblygu a pharhau gyda’r bythol symud ymlaen sydd ei angen arnom er mwyn osgoi diflannu’n gyfan gwbl.

Dyma’n union a wnaeth y cymoedd pan ddaeth y cyfle: gyda’u pleidlais a’u gobaith radical, neidio. Er mwyn osgoi diflannu’n gyfan gwbl.

Wrth ystyried y cysyniad o obaith, mae’n deg gofyn: am beth oedd y cymoedd yn gobeithio wrth bleidleisio yn y refferendwm? Mae’r gobaith o fedru mwynhau blwyddyn dramor fel rhan o gynllun Erasmus, neu ffyrdd lletach, yn bethau sydd yn llawer is ar restr gobeithion pan mae bywyd yn ymdrech feunyddiol i ymdopi gyda’r ofn a’r llanast real a ddaw o fyw heb sicrwydd ariannol, heb gefnogaeth. Mae polisïau fel y Dreth Ystafell Wely a’r Credyd Cynhwysol yn dwysáu’r arswyd a deimlir. Pan nad yw gofynion mwyaf sylfaenol bywyd yn cael eu boddhau, mae ein gobeithion yn gorfod crebachu. Ond gyda’r crebachiad hwn y daw’r rhyddid, efallai, i obeithio am ffordd gyfan gwbl wahanol o fyw ac o drefnu bywyd, oherwydd i’r sawl sydd ar goll, sydd yn byw absenoldebau o bob math, nid oes iddynt y rhith gysurus bod pethau’n ‘gweithio’.

Credaf fod yr hyn a ddywed Jonathan Lear am obaith radical y Crow hefyd yn berthnasol i synnwyr gobaith y cymoedd:

What makes this hope radical is that it is directed toward a future goodness that transcends the current ability to understand what it is. Radical hope anticipates a good for which those who have the hope as yet lack the appropriate concepts with which to understand it.

’Nôl ar y mynydd ger piler triongli Carn Bugail, gwelaf y comin hwn a’r bydoedd sy’n ymrafael drosto, a drwyddo, fel amlygiad o’r frwydr sy’n parhau wrth i ardal y cymoedd a’i phobl geisio ystyr newydd i’w bywyd a’u diwylliant. Dyma frwydr sydd wedi lledaenu drwy Gymru o ganlyniad i Brexit, a phawb yn gofyn, erbyn hyn, yr un hen gwestiynau â ninnau: Pwy ydyn ni? Ble mae ein lle ni? Beth fyddwn ni? Mae hi’n foment fechan fawr. Ys gwn i a oes modd dal gafael arni, sylwi’n ofalus ar ei bregusrwydd? Ac efallai deimlo egin o falchder ynghylch y ffaith bod ardal wedi ceisio siarad eto, wedi codi llais i weiddi, o ganol tonnau llethol y lli’, nad yw pethau’n gweithio? Er yr hyn a ddywedir amdanom, rydym yn boddi yma – eto. Ond radical yw ein gobaith o hyd. Dangosodd Brexit hynny i ni.


Mae Catrin Ashton yn byw ym Medlinog ger Merthyr Tudful lle mae hi’n magu dau o blant.

Delweddau: Portread o Plenty Coups gan Edward S. Curtis; Y Capel gan Simon Proffitt.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Brexit, Rhifyn 6, Y Cymoedd

 


Nid ‘dim byd’ sydd wedi bod yn digwydd yma yn y cymoedd

Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…