Dafydd Huw Rees


THE POSTSECULAR POLITICAL PHILOSOPHY OF JÜRGEN HABERMAS: TRANSLATING THE SACRED

Gwasg Prifysgol Cymru, 256tt, £75, Medi 2018

Dadansoddi

Croeso i’r byd ôl-seciwlar


Dafydd Huw Rees

Amser darllen: 15 munud

30·11·2018

Jürgen Habermas yn ei gartref yn Starnberg, 2018 / Llun gan Gorka Lejarcegi


Mae Bryn Seion yn dadfeilio. Erbyn hyn, mae’r ffenestri wedi eu dryllio a chadwyn rydlyd ar draws y gatiau. Mae Bethania’n wag. Yn St Margaret’s, cynhaliwyd y gwasanaeth olaf ddegawd yn ôl. Dal ati mae Bethesda, ond daeth Ysgol Sul Bethel Newydd i ben.

Ar strydoedd Glanaman, fy mhentref genedigol, anodd osgoi dirywiad enwadau crefyddol traddodiadol Cymru. O edrych ar y darlun hwn, sy’n nodweddiadol o gyflwr addoldai Cymru benbaladr, syndod efallai yw clywed y gosodiad fod crefydd wedi dychwelyd i galon cymdeithas a’n bod ni erbyn hyn yn byw mewn byd ‘ôl-seciwlar’, yn ôl rhai o athronwyr mwyaf blaenllaw’r byd.

Yn y ddau gyfrifiad diweddaraf, gostyngodd canran y Cymry sy’n disgrifio’u hunain fel Cristnogion o 71.9% yn 2001 i 57.6% yn 2011 – cwymp o 14.3%. Bu lleihad (bychan) yn y nifer (bychan) o Iddewon Cymreig hefyd. Yn ystod yr un cyfnod, cododd y ganran o Gymry ‘heb grefydd’ o 18.5% i 32.1%, sef naid o 13.6%. Ond bu cynnydd ymysg crefyddau eraill. Gwelwyd niferoedd Mwslemiaid Cymru yn mwy na dyblu, a gwelwyd twf tebyg, os llai trawiadol, yn niferoedd Sîciaid, Bwdistiaid, a Hindŵiaid Cymru.

Dyma’r math o bennawd newyddion sy’n bwydo adwaith senoffobig wrth gwrs, ond ystyrier realiti’r canrannau a’r niferoedd. Islam ydy’r grefydd ‘fwyaf’ yng Nghymru ar ôl Cristnogaeth. Ar yr un pryd, dim ond tua 46,000 o Fwslemiaid sy’n byw yng Nghymru, neu 1.5% o’r boblogaeth. Mae yna lai fyth o Hindŵiaid (0.3%), Bwdistiaid (0.3%) a Sîciaid (0.1%). Cofier, hefyd, fod cymuned Fwslemaidd wedi trigo yn Nociau Caerdydd ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, hanner canrif cyn adeiladu Bryn Seion a Bethania yng Nglanaman. Nid newydd-ddyfodiaid mo Mwslemiaid Cymru neu, a bod yn fanwl gywir, y Cymry Mwslemaidd. Trai Cristnogaeth, nid llanw Islam, yw’r newid sylweddol yn nhirwedd crefyddol Cymru ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Yn ôl y ffigurau, ni thrafferthodd 7.6% o’r Cymry – sef 233,928 o bobl, neu boblogaeth Abertawe – ddatgan eu crefydd o gwbl. Mater o swildod neu ddifaterwch? Yn ôl yr athronydd Charles Taylor, un o nodweddion y cyflwr seciwlar ydy’r ffaith fod crefydd bellach yn ddewisol. Ond nid gwlad ddigrefydd mo Cymru. Er bod y grefydd draddodiadol yn dirywio a nifer yr anffyddwyr yn cynyddu, mae presenoldeb Cristnogaeth yn ein diwylliant yn amlwg; felly hefyd yn ein trefn addysgol, yn ein bywyd materol ac yn ein cymunedau. Oni fyddai pentrefi megis Glanaman yn ddieithr i ni heb yr holl gapeli, hyd yn oed os ydynt yn rhai gweigion?

A minnau’n ddarlithydd Athroniaeth yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan arbenigo yn Athroniaeth Crefydd, rwy’n ymwybodol mai cymharol hawdd yw cynllunio cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar athroniaeth crefydd gan fod cronfa sylweddol o destunau gan ddamcaniaethwyr Cymraeg ar gael i’w hastudio, pob un ohonynt yn ysgrifennu o safbwynt Cristnogol. Ystyriwch athronwyr a diwinyddion megis Dewi Z Phillips, J R Jones, a John Heywood Thomas; neu gyfieithiadau medrus y Tad John FitzGerald. Yn wir, dadleua Huw L Williams fod y meddwl Cymreig yn seiliedig ar syniadau’r Brython a’r diwinydd Cristnogol Pelagius am bechod gwreiddiol ac ewyllys rydd yn y bedwaredd ganrif.

Serch hyn i gyd, gwlad seciwlar yw Cymru heb os. Prin gyffwrdd â’n bywyd gwleidyddol cyhoeddus y mae crefydd. Yn etholiad 2007, cyflwynwyd ymgeiswyr gan blaid newydd ‘Plaid Gristnogol Cymru’. Ymhlith ei pholisïau yr oedd toriadau helaeth i’r sector cyhoeddus, gwahardd erthylu a phriodasau cyfunrywiol, a mabwysiadu Croes Dewi Sant fel baner Cymru (yn lle’r Ddraig Goch ‘satanaidd’). 0.9% o’r bleidlais a gipiwyd ganddi.

Nid yw gwleidyddion Cymru yn brolio eu credoau ar goedd. Dydyn nhw ddim yn gweddïo’n uchel am gyngor dwyfol, fel y gwna cyfran helaeth o wleidyddion UDA. Nid yw’n arferiad chwaith i bregethwyr Cymru ymyrryd yn y broses wleidyddol trwy gynnig cyfarwyddyd o’r pulpud ar sut i bleidleisio. Ar y cyfan, cymryd yn ganiataol a wnawn y bwlch sy’n bodoli rhwng crefydd a gwleidyddiaeth.

Ond eithriad yw Cymru. Yn fyd-eang, mae crefydd wedi dychwelyd ac ym marn damcaniaethwyr y byd ôl-seciwlar, fe ddylem gofleidio hynny.

I ddechrau, dadleuir bod y dehongliad Weberaidd o dranc anochel crefydd wedi ei wrthbrofi. Yn ôl yr athronydd a’r cymdeithasegydd Max Weber (1864-1920), ymhlith eraill, ymateb meddyliol i ddioddefaint bydol yw crefydd. Dychmygwn deyrnas nefoedd er mwyn ymdopi ag ansicrwydd a phoen bywyd ar y ddaear. Wrth i fywyd bydol wella, lleihau mae’r angen am grefydd. Naturiol fuasai disgwyl gweld ymlyniad at grefydd yn gwanhau yn sgil datblygiadau sy’n gwarantu bywyd mwy diogel a llewyrchus – datblygiadau megis y chwyldro diwydiannol, cynnydd gwyddonol a thwf y wladwriaeth les. Ac felly y bu am gyfran helaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, pryd gwelwyd proses o seciwlareiddio cymdeithasol ar y cyd â’r prosesau o ‘resymoli’ a ‘dadrithio’ sydd, chwedl Weber, yn rhan annatod o’r oes fodern.

Ond dadl yr ôl-seciwlarwyr yw nad yw’r berthynas syml hon rhwng sefydlogrwydd materol a diffyg cred yn dal dŵr mwyach. O ystyried niferoedd y credinwyr a’r anghredinwyr, mae’r byd yn fwy crefyddol nag y bu erioed o’r blaen. Yn wir, mae’r byd ar y cyfan yn debycach i Nigeria, i India neu i Dwrci nag i Gymru a’i chapeli gweigion, ac mae daliadau crefyddol yn ysbrydoli mudiadau gwleidyddol ledled daear. Roedd Weber yn anghywir: yn hytrach nag edwino, mae crefydd ar raddfa ryngwladol yn ffynnu.

Anodd yw gwadu’r ffeithiau hyn. Ac eto, efallai na ddylem ddiystyru dadleuon Weber yn rhy sydyn. Yn ôl Pippa Norris a Ronald Inglehart (Sacred and Secular: Religion and Politics Worldwide, 2004) gall dadl Weber am seciwlareiddio gydeistedd â’r twf amlwg yn niferoedd y credinwyr yn y byd. Wrth ystyried data yr Unol Daleithiau, Dwyrain a Gorllewin Ewrop a gwledydd Mwslemaidd megis yr Aifft, Pacistan ac Indonesia, mae Norris ac Inglehart yn dod i’r casgliad fod y berthynas a ddisgrifir gan Weber yn un ddilys: ym mhobman, gwelir sefydlogrwydd materol law yn llaw â gostyngiad yn y niferoedd sy’n proffesu ffydd, ac ansefydlogrwydd materol law yn llaw â niferoedd uwch yn datgan eu hymlyniad at grefydd benodol.

Sut mae egluro felly fod y byd yn fwy crefyddol nag erioed o’r blaen? Ceir un ateb syml: mae cyfradd geni’n gostwng mewn cymdeithas oludog, a chyfradd geni’n dygyfor mewn cymdeithas dlawd. Methodd Weber ag ystyried y ffactor hwn. Yng ngwledydd mwyaf datblygedig y byd, ar gynnydd y mae economïau bregus, ac felly hefyd anghyfartaledd ac ansicrwydd. Yn sgil dymchwel y wladwriaeth les ac effaith un argyfwng economaidd ar ôl y llall, mae bywyd materol yn llai sicr nag y bu ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Ni fyddai’n syndod gweld twf mewn crefydd o dan yr amodau hyn os ydy damcaniaeth Weber yn gywir. Ond ai rhywbeth i’w ddathlu fyddai hynny?

Am resymau moesol, dadleua rhai yn erbyn seciwlariaeth wleidyddol. Mae’r anthropolegwyr Talal Asad a Saba Mahmood yn coleddu safbwynt ôl- neu ddad-wladychol i wrthwynebu seciwlariaeth yn ei ffurf Orllewinol. Yn fras, y ddadl yw bod y rhaniad wrth wraidd seciwlariaeth rhwng y gwleidyddol a’r crefyddol yn gweithio er mwyn disgyblu a rheoli credinwyr, yn hytrach na’u hamddiffyn a’u parchu fel dinasyddion cyfartal. Er gwaethaf yr honiad fod seciwlariaeth wleidyddol yn bodoli er lles credinwyr ac anghredinwyr fel ei gilydd ac yn trin pawb yn gyfartal yn ôl egwyddorion cyffredinol, dadleuir bod y drefn hon yn gwthio credinwyr i’r ymylon mewn gwirionedd.

✒︎

Byddech yn erfyn mae’n debyg i ddamcaniaethwyr dadwladychol feirniadu honiadau ‘cyffredinol’ cysyniadau sy’n tarddu o’r Gorllewin, megis seciwlariaeth, rhyddfrydiaeth, neu hawliau dynol, os ydynt yn datgelu’r perthnasau grym sy’n eu gyrru. Ond doedd neb yn erfyn i Jürgen Habermas – athronydd mwyaf adnabyddus yr Almaen, onid y byd, ac etifedd traddodiadau Kant, Hegel a Marx – droi’n ôl-seciwlarydd brwdfrydig. Ers 2001, mae Habermas wedi dadlau fod y drefn wleidyddol seciwlar yn niweidiol i ddinasyddion crefyddol, yn gosod pwysau seicolegol annheg arnynt, a bod angen ei diwygio’n gyfan gwbl yn enw tegwch. Yr hyn sy’n drawiadol am y ‘tro ôl-seciwlar’ hwn yw’r ffaith nad oedd Habermas (sy’n ei ddisgrifio’i hun, gan ddyfynnu Weber, fel person ‘crefyddol angherddorol’) yn talu braidd dim sylw i faterion crefyddol yn ei athroniaeth wleidyddol o’r blaen.

Arddel math o ddemocratiaeth drafodol y mae Habermas. Dyma’r ddamcaniaeth sy’n dadlau fod penderfyniadau gwleidyddol ond yn ddilys os ydynt wedi profi trafodaeth resymol, addysgedig o fewn y gyhoeddfa. Yn y gyhoeddfa (sef y cyfryngau torfol, y cyfryngau cymdeithasol, dadleuon o fewn a rhwng cyrff cymdeithas ddinesig a phleidiau gwleidyddol, ynghyd â thrafod anffurfiol beunyddiol) mae dinasyddion yn ymrafael â’r hyn sydd o bwys i’w bywydau a’u cymunedau.

Mewn cyhoeddfa iach, ceir gwybodaeth o safon a thrafodaeth sy’n hygyrch i bawb. Mae’r trafodaethau a’r dadleuon hyn yn treiddio fel ‘mewnbwn’ i’r ‘cyfadeiliad seneddol’, sef y Senedd, y llywodraeth a’r llysoedd, ac yn ailymddangos fel ‘allbwn’ mewn deddfau, polisïau a phenderfyniadau. Y broses hon o adborth parhaol rhwng y gyhoeddfa a’r cyfadeiliad seneddol yn unig sy’n gallu dilysu democratiaeth, trwy alluogi dinasyddion i ystyried eu hunain fel ‘awduron a derbynyddion y gyfraith’. (Felly, prin fod gwlad sy’n amddifad o’i chyhoeddfa ei hun – oherwydd cyfryngau torfol brodorol diffygiol, dyweder – yn haeddu’r ansoddair ‘democrataidd’. Yn yr un modd, mae penderfyniad gwleidyddol wedi ei seilio ar wybodaeth gamarweiniol, er enghraifft mewn refferendwm megis yr un ar Brexit yn 2016, yn gwbl annilys.)

Ond beth am le dinasyddion crefyddol o fewn damcaniaeth o’r fath? Iaith seciwlar yw iaith y gyhoeddfa. Ni chaniateir mynegi safbwyntiau mewn iaith grefyddol, yr iaith sy’n gwirioneddol gyfleu daliadau sylfaenol dinasyddion o argyhoeddiad crefyddol; o ganlyniad, nid oes modd iddynt gyfrannu i’r gyhoeddfa mewn modd diffuant. Mewn cymdeithas seciwlar felly gellid dadlau yr alltudir credinwyr o’r gyhoeddfa, sy’n gyfystyr â’u gorfodi i ‘rannu eu hunaniaeth yn ddau’ – y cyhoeddus a’r preifat.

Mae canlyniadau hyn yn ddeublyg yn ôl Habermas. Gorfodir dinasyddion crefyddol i ddefnyddio iaith foesol a gwleidyddol seciwlar, i ‘gyfieithu’ eu gosodiadau a’u dadleuon o iaith sanctaidd i iaith anghysegredig. Nid yw’r cyfryw bwysau yn syrthio ar ysgwyddau dinasyddion digrefydd, ac felly mae’n annheg ac yn anghyfiawn.

Yn dilyn hynny mae yna berygl fod dinasyddion crefyddol yn cael eu dieithrio o’r gyhoeddfa, ac felly o’r broses o ddilysu deddfau a phenderfyniadau democrataidd. Ni fedrant ystyried eu hunain fel awduron yn ogystal â derbynyddion y gyfraith, oni fedrant hefyd gyfrannu i’r gyhoeddfa mewn modd sy’n ddealladwy iddynt. Paham, felly, trafferthu ag egwyddorion democratiaeth a’r gyfraith? Cysylltir y dieithrio hwn â’r perygl o eithafiaeth a thrais gan Habermas.

Er mwyn datrys y broblem hon, mae Habermas yn awgrymu y dylid cyflwyno nifer o newidiadau i’r drefn ddemocrataidd. I ddechrau, dylai credinwyr ac anghredinwyr, fel ei gilydd, brofi proses o ‘ddysgu ar y cyd’, er mwyn dod i ddeall a pharchu eu gwahanol safbwyntiau. Dylai anghredinwyr dderbyn crefydd fel rhan barhaol a dilys o gymdeithas. Dylai credinwyr yn eu tro ymdopi ag awdurdod gwyddoniaeth dros faterion ffeithiol, dilysrwydd y wladwriaeth seciwlar, a phresenoldeb crefyddau eraill o fewn cymdeithas. Hynny ydy, mae Habermas yn dymuno i bawb wadu eithafiaeth ac arddel safbwyntiau rhesymol, cymedrol.

Ar y sail hwn, rhennir y gyhoeddfa yn ddwy – y gyhoeddfa ‘anffurfiol’ (cyfryngau torfol a chymdeithasol, trafodaeth feunyddiol) a’r gyhoeddfa ‘ffurfiol’ (trafodaeth o fewn y Senedd, y llysoedd a’r gwasanaeth sifil). Dylid gwahardd iaith grefyddol yn gyfan gwbl o’r gyhoeddfa ffurfiol. Ni ddylai dadleuon neu resymu crefyddol gael eu defnyddio gan Aelodau Cynulliad, barnwyr neu weision sifil, er enghraifft. Dadleua Habermas hyd yn oed y dylai Llywydd y Senedd gael yr hawl i ddileu unrhyw gyfraniad mewn iaith grefyddol o’r Cofnod. Ar y llaw arall, yn y gyhoeddfa anffurfiol, dylai iaith grefyddol gael rhwydd hynt.

Byddai modd i gredinwyr ddefnyddio unrhyw resymau a gosodiadau crefyddol ag a fynnent i atgyfnerthu pa bynnag ddadl foesol neu wleidyddol – ar un amod: cyn i’r dadleuon hyn dreiddio i’r cyfadeiliad seneddol a chael effaith ar ddeddfau a pholisïau, rhaid fyddai iddynt gael eu ‘cyfieithu’ o iaith grefyddol i iaith seciwlar. Byddai yna ddyletswydd ar anghredinwyr i gyfieithu ar ran eu cyd-ddinasyddion crefyddol, ac o’r herwydd, byddai model newydd Habermas yn rhyddhau pwysau cyfieithu oddi ar ysgwyddau credinwyr. Felly, petai dinesydd crefyddol am ddadlau o blaid rhoi cymorth i ffoaduriaid, byddai croeso iddo ef neu iddi hi ddefnyddio dameg y Samariad Trugarog, er enghraifft, fel sail i’w ddadl - ar yr amod fod y ddadl yn cael ei ‘chyfieithu’ i iaith seciwlar cyn iddi ddylanwadu ar ddeddfwriaeth neu drafodaeth gyfreithiol. Gallai’r ddadl gael ei hailosod yn nhermau seciwlar hawliau dynol cyffredinol, a’r dyletswydd moesol i gynorthwyo cyd-ddyn.

Ym marn Habermas, byddai’r model hwn o ddemocratiaeth drafodol ôl-seciwlar yn datrys problemau seciwlariaeth lem. Gallai credinwyr gymryd rhan lawn yn y gyhoeddfa anffurfiol, ac felly ni fyddai peryg iddynt gael eu dieithrio o broses yr adborth democrataidd, na methu canfod dilysrwydd y deddfau fyddai’n llywodraethu drostynt. Ni fyddai baich annheg arnynt wedyn: dinasyddion digrefydd fyddai’n cyflawni’r gwaith cyfieithu. Ar yr un pryd, byddai’r wladwriaeth yn parhau’n seciwlar. Mae Habermas yn disgrifio’r ffin rhwng y gyhoeddfa ffurfiol, seciwlar a’r un anffurfiol, ôl-seciwlar fel ‘hidlen’ sy’n gwahanu trafodaeth ‘wyllt’ oddi wrth drafodaeth ‘drefnus’.

Ceir rhai sgil-effeithiau llesol hefyd i’r cyflwr ôl-seciwlar. Mae ein geirfa foesol seciwlar wedi crebachu dros amser, yn ôl Habermas. Nid yw cysyniadau cyfarwydd, blinedig megis ‘cyfiawnder’, ‘tegwch’ a ‘hawliau dynol’ yn addas i drafod y problemau mawr rydym yn eu hwynebu, problemau sy’n tanseilio ystyr ein geirfa foesol: newid hinsawdd, anghyfartaledd ar raddfa fyd-eang, ac yn enwedig ymchwil biowyddorol sy’n bygwth ein syniadau am hunaniaeth, am gyfrifoldeb ac am ewyllys rhydd. Sut all cysyniad confensiynol megis ‘tegwch’ ymdopi â newid hinsawdd? Y cwestiwn yw: a fydd bywyd cymhleth yn bosib ar wyneb y ddaear yn y dyfodol? Mae moesoldeb ein perthynas ag endidau annynol megis anifeiliaid, planhigion, ac ecosystemau, ac ag endidau dynol cenedlaethau’r dyfodol, fel petai’n camu tu hwnt i gysyniadau taclus fel ‘teg’ ac ‘annheg’. Sut allwn ni gymryd cyngor ar sail cysyniad megis ‘hawliau dynol’ yn wyneb posibiliadau newydd peirianneg enetig? Cyn hir, bydd modd cynllunio bodau dynol o’r DNA i fyny ac o ganlyniad newid y natur ddynol yn fympwyol. Beth felly yw ystyr ‘hawliau dynol’?

Gall presenoldeb iaith grefyddol yn y gyhoeddfa adfer ein trafodaeth foesol a gwleidyddol. Mae Habermas yn ystyried iaith grefyddol fel cronfa o gysyniadau cyforiog o ddyfnder a grym metaffisegol, a chanddi’r gallu i wynebu’r heriau dirfodol hyn. Trwy leisio a chyfieithu’r cysyniadau, gellir bywiocáu ein geirfa foesol. Sonia Habermas am grwpiau Cristnogol yn yr Almaen yn dadlau yn erbyn ymchwil biowyddorol (yn benodol, yn erbyn defnyddio bôn-gelloedd embryonig) trwy gyfeirio at Genesis 1.27, ‘Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef.’ Mae’r datganiad crefyddol yn sail i ddadl na ddylid ymyrryd â ffurfiant yr embryo, gan fod Duw wedi gorchymyn ei ffurf o flaen llaw. Wedi i’r ddadl hon gael ei lleisio yn y gyhoeddfa anffurfiol, caiff ei chyfieithu i iaith seciwlar, cyn treiddio i’r gyhoeddfa ffurfiol: ‘Goddrych gyda hawliau dynol yw’r gamet a ffrwythlonwyd ex utero.’ Unwaith eto, dyma ddadl yn erbyn ymyrryd â ffurfiant yr embryo, gyda chysyniad moesol seciwlar (hawliau dynol) yn cymryd lle cysyniad crefyddol (Duw).

Felly, yn ôl Habermas, gall democratiaeth drafodol ôl-seciwlar ymateb i driniaeth annheg ar ddinasyddion crefyddol o fewn trefn seciwlar, ac ar yr un pryd achub ac adnewyddu ein geirfa foesol. Afraid dweud nad yw pawb yn cytuno. Yn ôl ei feirniaid crefyddol, mae model Habermas o ddemocratiaeth drafodol ôl-seciwlar yn parhau i israddio credinwyr a’u gwthio i’r cyrion. Rhoddir caniatâd nawddoglyd iddynt leisio eu credoau yn y gyhoeddfa anffurfiol, ymhell o ffynonellau grym, tra bo dinasyddion digrefydd yn cynnal eu dwylo trwy gyfieithu eu dadleuon. Ond pan drafodir materion pwysig ar lawr y Senedd neu’r llys, rhaid iddynt ymdawelu. Yn y modd hwn, mae’r ffin rhwng y gyhoeddfa ffurfiol a’r un anffurfiol yn parhau i warchod rhannau pwysig cymdeithas rhag gosodiadau crefyddol amheus.

Cyhuddir Habermas gan ei feirniaid seciwlar ar y llaw arall, o orbwysleisio trafferthion credinwyr. Yn ôl ymchwil Anja Henning a Kristina Stoeckl, mae hyd yn oed cyrff crefyddol ‘ceidwadol’, megis Eglwys Uniongred Rwsia, yn barod i ddefnyddio iaith seciwlar yn y gyhoeddfa. Hyd yn oed os ydynt yn ystyried cyfieithu o iaith sanctaidd i iaith anghysegredig fel baich annheg ar ddinasyddion crefyddol, sut mae damcaniaeth Habermas – sy’n symud y baich oddi ar ysgwyddau credinwyr a’i osod ar ysgwyddau anghredinwyr, yn hytrach na’i ddileu – yn gwella pethau? Beth a olygir gan Habermas pan sonia am ‘gyfieithu’? Yr enghraifft uchod – lle mae ‘Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef’ yn troi’n ‘Goddrych gyda hawliau dynol yw’r gamet a ffrwythlonwyd ex utero’ – yw’r unig un a gynigir ganddo. Ydy hi’n ddilys i ddisgrifio’r trawsffurfiad hynod hwn fel ‘cyfieithu’, yn hytrach na ‘dod o hyd i ddadl wahanol’?

Efallai fod Habermas yn llygad ei le serch hynny wrth gyfeirio at wraidd y broblem, sef yr orfodaeth ar gredinwyr i ‘r[h]annu eu hunaniaeth yn ddau’ rhwng y preifat a’r cyhoeddus, y sanctaidd a’r seciwlar. Dyma un o achosion digamsyniol dieithrio. Ac eto, onid ydy pawb yn profi rhywfaint o hollt rhwng eu personoliaethau preifat a chyhoeddus? Mae siaradwyr Cymraeg yn hen gyfarwydd â’r profiad o orfod addasu a golygu eu hiaith a’u mynegiant. I raddau, mae’r weithred o addasu’r hunan cyn ymddangos yn y gyhoeddfa yn rhan anochel o gyd-fyw mewn cymdeithas. Ond gall y broses droi’n ormesol os yw mwyafrifoedd yn tra-arglwyddiaethu yn y gyhoeddfa ar draul lleiafrifoedd (crefyddol, ieithyddol, neu rywiol), ac yn mynnu cydymffurfiaeth. Ystyriwch sylwadau sarhaus Boris Johnson yn ystod yr haf am fenywod Mwslemaidd sy’n gwisgo’r bwrca. Ai mater o seciwlariaeth yn achosi niwed i gredinwyr yw’r sylwadau hyn – neu fater o fwyafrif yn cam-drin lleiafrifoedd?

Mae Habermas yn obeithiol iawn am botensial gwleidyddiaeth ôl-seciwlar: ei botensial i wneud iawn am annhegwch y gyhoeddfa seciwlar, i atal credinwyr rhag cael eu dieithrio o’r broses ddemocrataidd, ac i adfywio ein geirfa foesol. Ond nid yw’r enghreifftiau sydd i’w canfod yn y byd cyfoes yn ennyn hyder. Os edrychwn ar wledydd gwirioneddol ôl-seciwlar yn fyd eang, ceir dwy enghraifft o bwys: Twrci o dan lywodraeth Recep Erdoğan a phlaid yr AKP, ac India o dan Narendra Modi a’r BJP. Yn y ddau achos, mae’r pleidiau hyn wedi canoli grym mewn modd awdurdodaidd, wedi erlid lleiafrifoedd a gwrthwynebwyr, ac wedi hyrwyddo côd moesol traddodiadol – wrth ‘ddiwygio’r’ economi i gwrdd ag anghenion cyfalafiaeth fyd-eang.

Yn y pen draw, beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwleidyddiaeth ‘ôl-seciwlar’ o’r fath a cheidwadaeth grefyddol adweithiol? Nid yw’r enghreifftiau o ôl-seciwlariaeth ar waith yn achos dathlu, ac maent ymhell o’r hyn a ragwelwyd gan Habermas. Yn sicr, gwell gen i gapeli gweigion Glanaman. Onid pwyll piau hi wrth groesawu dyfodiad y byd ôl-seciwlar?

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae Habermas wedi dadlau fod y drefn wleidyddol seciwlar yn niweidiol i ddinasyddion crefyddol, yn gosod pwysau annheg arnynt

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.