Colofnau

Cyrch dros realiti

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 8 munud

28·07·2018

Carnifal yn Olomouc, Morafia gan Josef Koudelka, 1968 (Josef Koudelka/Magnum)


Hanner canrif yn ôl, ar 21 Awst 1968, rowliodd tanciau’r Sofietiaid i ganol prifddinas Tsiecoslofacia. Dros nos, caewyd y drws yn glep ar Wanwyn Prâg. Ymosodwyd ar y Tsieciaid gan chwarter miliwn o filwyr gwledydd Cytundeb Warszawa, sef yr Undeb Sofietaidd, Bwlgaria, Hwngari, Dwyrain yr Almaen a Phwyl. Dymchwelwyd adeiladau a gwasgwyd anadl olaf mwy nag un protestiwr gan rym y tanciau. Dechreuodd degawd newydd cyn pryd. Dyma’r saithdegau - blynyddoedd nad oeddent yn werth affliw o ddim yn ôl John Lennon, ac a ddisgrifiwyd gan Václav Havel, Arlywydd olaf Tsiecoslofacia, fel degawd diystyr, heb steil, heb ddatblygiad ysbrydol na diwylliannol; roedd y saithdegau, mae’n debyg, yn gyfan gwbl ‘ferllyd, yn ddiflas, yn llwm’. Hwn oedd cyfnod Brezhnev a Nixon, wrth gwrs, Fietnam a Watergate hefyd. Yn Tsiecoslofacia, wedi agor cil y drws, aeth pethau’n ôl i’w rhigol, ac yn ôl Havel, ailorseddwyd llwydni prynwriaeth dotalitaraidd, yr enwog normalizace.

Ond cyn i’r Tsieciaid synhwyro Gwanwyn - yn siffrwd trwy eiriau diwygiwr y Blaid Gomiwnyddol, Alexander Dubček, yn eu cyffwrdd drwy eu cotiau trymion fis Ionawr nodweddiadol oer 1968 - roedd awduron y wlad eisoes wedi bod yn stwyrian. Ym Mhedwaredd Cyngres yr Awduron a gynhaliwyd ym Mhrâg ym Mehefin 1967, gwrthododd Ludvík Vaculík a Milan Kundera â chadw’n dawel. Wrth gyfiawnhau ei eiriau wrth yr apparatchiks wedyn dywedodd Vaculík: ‘Rhoddais sialens i mi fy hun i siarad y gwir plaen am bopeth, oherwydd ychydig iawn o hynny dwi’n ei wneud y dyddiau hyn.’ Yn ôl Dušan Hamšík, golygydd y papur llenyddol ar y pryd, Literární noviny (a gafodd ei gau yn fuan wedyn, cyn atgyfodi dan enw arall), doedd yr un gyfrol a ganiatawyd yn y siopau llyfrau yn y cyfnod hwn yn dangos ôl meddwl, heb sôn am drafod syniadau gwleidyddol; roedd yr awduron fel cŵn wedi cyrraedd pen eu tennyn. Yn un o ddramâu mwyaf adnabyddus Havel, Vyrozumĕní (1965, Y Memorandwm), sydd yn dychanu abswrdiaeth biwrocratiaeth ôl-Stalinaidd, dyfynnir Antonín Novotný, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia a’r Arlywydd ar y pryd: doedd bosib ei fod O yn barod i gael ei ‘fwlio gan ffeithiau’?

A dyna grynhoi natur y frwydr. Dim rhyfedd mai’r awduron oedd fwyaf croch. Cyrch dros realiti oedd hwn – pwy sydd i ddweud beth sy’n normal? – a chyn i’r tanciau rowlio, geiriau oedd y llawforwyn naturiol, fel ers cyn cof. Yn ei araith in absentia, wrth dderbyn Gwobr Heddwch yn Ffair Lyfrau Frankfurt fis cyn Chwyldro Felfed Tachwedd 1989 (gweler tudalen 28), dywedodd Havel, ‘onid amau geiriau a’r arswyd sydd o bosib yn llechu’n dawel ynddynt – onid dyma, wedi’r cyfan, wir alwedigaeth y deallusyn?’.

Draw ym Mharis, wedi i goblau stryd gael eu codi a’u hyrddio, wrth i’r ffraeo barhau uwchben y byrddau bwyd teuluol yn nirgryniadau pellgyrhaeddol Mai 1968, daliai un wraig i wenu - fel yr oedd wedi gwneud bob awr o bob dydd ers iddi gael ei gorseddu, yn fuan ar ôl y Chwyldro Ffrengig, ar wal yn amgueddfa’r Louvre. Dyma’r Gioconda gan Leonardo da Vinci. Mae’r Fona Lisa yn adnabyddus am ei gallu i edrych i’r chwith ac i’r dde ar yr un pryd. Gwnaeth ei henw ar sail ei medr rhyfeddol i gyfleu, mewn un edrychiad, dueddiadau croesdynnol. Dim ond unwaith y cofiaf i mi ymweld â hi, mae gormod yn ei chwenychu. Ond mi fyddaf weithiau yn meddwl am ei gwep enigmatig wrth gerdded i lawr y brif rodfa ddwyreiniol ym mynwent Montparnasse, wrth gofio am natur lithrig geiriau a’r frwydr i dymheru eu hystyr. Oherwydd tua gwaelod y rhodfa hon, ceir beddrod ryfeddol, i ddyn nad oedd gen i, ar un adeg, yr un diddordeb ynddo – y beirniad llenyddol a’r awdur Sainte-Beuve (1804-1869): pen sylweddol, heb gorff, yn gwyro’n ddarostyngedig o dop colofn wedi ei lapio mewn lliain sy’n cordeddu i’r llawr.

Yn wahanol i’r mwyafrif o feddi ym mynwent Montparnasse, sydd wedi eu cau â thestament olaf du a gwyn, mae pen Sainte-Beuve fel petai’n symud, yn fyw o hyd. Mae ei wep yn fy nal, fel y Gioconda. Ai tyner ei lygaid, ynteu siomedig? Wn i ddim. Pwy sydd i ddweud? Mi fyddaf weithiau’n dod yn unswydd i edrych, i drio dod i ryw gasgliad. Tan i mi ddechrau cerdded yn gyson yn ei olwg, nid oeddwn wedi llwyddo i fagu llawer o gywreinrwydd ynghylch y ffigwr hanesyddol hwn. Ei adnabod fel llythrennau aur ar feingefn llyfr lledr gan Marcel Proust y byddwn (Contre Sainte-Beuve, 1954) – ac fel rhywun a âi, yn ôl y sôn, yn groes i ideoleg ôl-strwythurol fy mhlentyndod.

Lladdwyd yr Awdur, wrth gwrs, tua’r un adeg â meirioli’r Gaeaf ôl-Stalinaidd ym Mhrâg. Cyhoeddodd Roland Barthes ei erthygl enwog (‘Marwolaeth yr awdur’) am y tro cyntaf yn 1967, yn Saesneg i ddechrau, ac yna yn Ffrangeg y flwyddyn ganlynol, nes i farwolaeth yr Awdur fynd yn rhan o gredo myfyrwyr a darlithwyr Ffrainc fel ei gilydd erbyn cynhadledd enwog Michel Foucault, ‘Beth yw awdur?’, yn 1969.

Credu’r gwrthwyneb yn ddigyfaddawd a wnâi Sainte-Beuve, bod rhaid gwybod am fywyd dyn cyn deall ei gelfyddyd. Ond doedd dim llawer o synnwyr yn hynny i mi yn negawdau olaf yr ugeinfed ganrif, ac onid oedd Proust eisoes wedi cysegru cyfrol gyfan i egluro beth oedd o’i le efo ymdrech bositifistaidd o’r fath, yn gadarn ei farn mai’r llenyddiaeth oedd y prawf eithaf, nid bywyd dyn? Mewn ysbryd nid cwbl annhebyg, mi roedd Ffyodor Dostoiefsci yntau o’i flaen eisoes yn grediniol y dylid barnu pobl, os o gwbl, nid ar sail ein mynych anfadwaith ond ar sail y pethau mawr, cysegredig y deisyfwn ynghanol ysgarthion ein malais (ar yr amod bod dyn ‘o ddifri ac yn ddidwyll’). Roedd fel petai’r tri hyn – Dostoiefsci, Proust a Barthes – yn grediniol na ddylid cyfyngu mesur dyn i ffiniau materol, i ffeithiau ei weithredoedd. Rywsut, neges agored, wrth-faterol a gyflëwyd ganddynt i mi yn blentyn. A Sainte-Beuve, heb imi ddarllen erioed air o’i waith, yn cynrychioli’r oll a gyfyngai ar ddychymyg dyn.

Rownd congl dwy stryd, ar groesffordd brysur y boulevard de Montparnasse a’r boulevard de Raspail, mae pâr arall o lygaid yn cadw oed. Mae cerflun syfrdanol Auguste Rodin o Honoré de Balzac wedi ei dorri o’r un brethyn â’r Gioconda a Sainte-Beuve, a Balzac fel llong hwyliau yn ei goban verdigris, wedi ei lansio ar ei fordaith fawr i ganol y traffig. Tra mae Sainte-Beuve yn gwyro ei ben, yn ddwys a thyner anghyffredin, fel petai’n edifarhau a thrugarhau ynghyd â phob creadur a aiff heibio iddo, edrych tuag i fyny y mae Balzac, ei lygaid yn ffenestri agored tua’r gwyll. Mae ei osgo yn wyllt, yn debyg iawn i’r darlun sydd gennym hyd heddiw o Karl Marx.

Pan mae rhywbeth i’w weld, pan mae yn y golwg, mae’n cael ei adnabod fel ffaith - tystiolaeth. Sut mae dygymod efo edrychiad enigmataidd nad yw’n ddarostyngedig i’r rheolau hynny? Ac yn waeth fyth, pan mae’n dechnegol farw, fel yn achos y Fona Lisa a phen carreg Sainte-Beuve? A sut mae dygymod pan mae ystyr geiriau cyfarwydd yn llithro o’n gafael, pan mae ‘normal’, heb i ni sylwi, wedi troi’n ‘abnormal’? Mae’n hawdd teimlo pendro, fel petaem yn sefyll ar diriogaeth yr hen jôc Sofietaidd yna lle dywed un cymrawd wrth y llall: ‘Drafferth ydi, wyddost ti fyth beth ddigwyddith ddoe.’ Ac wrth wynebu hanfod celfyddyd, yr hyn na ellir ei gyfleu mewn ffeithiau, hawdd ydi colli hyder a rhoi greddf a ffydd heibio, gan ddechrau gwarafun amwysedd geiriau’r awdur a throi at y curriculum vitae am gymorth.

Tybed ai brwydr dros amser, yn ei hanfod, yw’r frwydr dros eiriau? Brwydr yn erbyn cael ein cau yn y ffatri honno y’n rhybuddiwyd gan Marx y byddai’n gorthrymu hyd yn oed ein cwsg a’n breuddwydion? Brwydr i warchod yr adegau prin, ond cyffredin i brofiad y rhelyw, pan fydd amser yn arafu, pan synhwyrwn y tragwyddol – wrth wrando ar gerddoriaeth fallai, wrth brofi angerdd, neu wrth wynebu rhai o heriau mwyaf bywyd. Yn hytrach nag un digwyddiad yn dilyn y llall, yn yr adegau gwerthfawr hyn, daffodir trefn – a gafael – amser.

Ai dyna’r ymwybyddiaeth sy’n gyrru ambell un i offrymu ei fywyd mewn protest yn erbyn teyrnwasiaeth? Yr ymwybyddiaeth bod profiad goddrychol pob un yn sanctaidd, ac nad oes neb, felly, â’r hawl i berchnogi geiriau? Ar y llaw arall, ai ymwybyddiaeth ddistaw ond clyfar o hynny hefyd sy’n galluogi unbeniaid i godi mwyafrif eu pobl i ymladd ffug-ddrychiolaethau? Galwyd 2018 eisoes yn Wanwyn yr Awtocratiaid: Pwtin, Xi Jinping, Erdogan i enwi dim ond y rhai sydd yn eistedd yn y rhes flaen. Ac mae’r Gorllewin wedi codi digon o fwganod dros y canrifoedd i’r tri fedru chwythu bywyd yn ddigon handi iddynt – a sathru ymhellach ar ‘ddiffyg gwerthoedd’ honedig Ewrop.

Pan ddechreuodd Cwpan y Byd yn Rwsia ar 14 Mehefin, roedd Oleg Sentsof, cyfarwyddwr ffilm o’r Wcráin, yn gwasanaethu dedfryd o ugain mlynedd mewn gwersyll carchar yn Siberia. Roedd eisoes wedi bod yn ymprydio ers 32 diwrnod. Protestio yn erbyn cyfeddiannu’r Crimea gan Rwsia a chelwydd geiriau Pwtin oedd ei unig drosedd. Mi fydd Pwtin, wrth gwrs, yn cofio’n well na neb nad bwledi fu’n gyfrifol am ddymchwel yr Undeb Sofietaidd, ond y ffaith i bobl roi’r gorau, yn y pen draw, i goelio ei hanwireddau.

Dyna pam, wrth i ninnau wynebu ein normalizace arbennig ein hunain yng Nghymru, y byddaf yn cerdded yn ôl ac ymlaen yng nghysgod gwep Sainte-Beuve – i f’atgoffa, os yw geiriau’n medru cael eu herwgipio, os nad yw’n hawdd bob tro gwybod pryd i barchu eu hamwysedd, bod gweithredoedd dyn, dros amser, yn dadlennu. Fel y dywedodd Havel yn ei air am eiriau, ‘gall yr un gair fod yn wir un funud ac yn anwir y funud nesaf, yn goleuo un eiliad, ac ar eiliad arall, yn twyllo a chamarwain’, a’i bod ‘bob amser yn talu i amau geiriau’, na fedrwn fyth fod yn ddigon gofalus yn hynny o beth.

Digon posib bod Proust yn iawn nad yr un dyn ydi’r hwn sydd yn cyfansoddi â’r un sy’n sgwrsio’n jocôs efo cydnabod mewn salon. Ond yn y pen draw, fel y gŵyr pen gwylaidd Sainte-Beuve, nid wrth ei eiriau ond wrth ei weithredoedd y mae mesur dyn.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Tybed ai brwydr dros amser, yn ei hanfod, yw’r frwydr dros eiriau?

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

Dadansoddi


Nathan Abrams

Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid…

Adolygu


Ruth Richards

Wrth i gamerâu cryno a rhad gyrraedd y farchnad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y cwmni Kodak yn anelu eu nwyddau at ferched ifanc. Dyma grŵp demograffaidd a elwir ganddynt yn 'Kodak Girl', enw sy'n cyfleu a manteisio ar feiddgarwch ac…

Dadansoddi


Annwyl Olygyddion,

Yn yr awyrgylch anoddefgar sydd ohoni, hoffwn dynnu eich sylw at garreg fedd go arbennig ym mynwent Bethesda Manod, Blaenau Ffestiniog. Yn wynebu'r Moelwyn Mawr ceir carreg fedd syml o lechfaen 'Stiniog gyda'r arysgrif canlynol arni: In Loving Memory of Professor Achill Rappaport of Vienna,…

Dadansoddi


Fflur Arwel

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood.…

Adolygu


Diane Bailey

Fel cyfanwaith, mae'r arddangosfa hon yn rhoi i ni bortread o gymoedd de Cymru, heb y bobl. Meddai Stokes, ‘I was well into this endeavour before I saw that the Valleys people were absent. Or were they?' Mewn gwrthgyferbyniad gyda'r tai teras twt a…

Dadansoddi


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

Adolygu


Elin Meredith

Nofel a ddatblygir ar gynfas eang yw Taith yr Aderyn. Mae’n ein tywys i diroedd pell, i fyd o lynnoedd, mynyddoedd a choedwigoedd. Dyma'r byd digyfnod y lluniodd Alun Jones yn wreiddiol yn Lliwiau’r Eira (Gomer, 2012). Mae’r amwysedd o ran lleoliad a chyfnod yn ei gosod ar wahân i…