Dadansoddi

Diddymu’r Wythfed Diwygiad

Y Refferendwm yn Iwerddon


Nerys Williams

Amser darllen: 7 munud

30·05·2018

Cofeb i Savita Halappanavar. Cafodd ei chais am erthyliad ei wrthod.


Cerddaf yng nghwmni fy merch y tu ôl i groth. Mae'r groth wedi ei gwneud o flewiach pinc. Ceir dwy goes yn y golwg a dau bolyn pren yn dal y tiwbiau Ffalopaidd mwyaf ysblennydd a welais erioed. Wrth i ni frysio yn ein blaenau, bownsia ofari yn erbyn pen fy merch. 'Beth yw hwnna?' mae hi'n gofyn gan bwyntio'i bys i fyny. 'Fallopian tubes yw rheina,' rwy'n ateb, a gwneud fy ngorau i roi rhyw lun ar wers elfennol mewn Bioleg iddi. Ceir gwên ar wynebau'r bobl o'n cwmpas, maen nhw'n medru clywed y derminoleg fiolegol yn ein Cymraeg. Gŵyr y groth yn iawn lle mae'n mynd (lliain rhwyllog yw'r deunydd ar y blaen). Wrth i wres canol dydd ddechrau dyrnu, mae'r gorymdeithwyr yn cynnig diod i'r groth. Cyfareddwyd fy merch, a rhed i ddweud helo wrth y fenyw y tu mewn. 'Mae'n rhy boeth i mewn yn fynna,' meddai wrtha i wedyn, yn poeni amdani. Diwrnod olaf mis Medi 2017 yw hi; rydym yn cerdded ar hyd stryd O'Connell yn Nulyn, yn rhan o'r orymdaith 'March for Choice'. Dyma un o blith nifer o orymdeithiau sydd eisoes wedi eu cynnal ar hyd a lled Iwerddon. Rydym yma yng nghwmni grŵp 'Meath for Yes'.

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo newydd crand yn ei char y byddwn i gan mwyaf, wrth ddarllen comics a llowcio caniau o Fanta. Byddwn hefyd yn pasio'r amser drwy dwtio a threfnu'n rheseidiau ar y sêt gefn y coiliau IUDs (oedd wedi eu selio), y rhwymynnau a'r chwistrellau (a baciwyd dan wactod).

Byddai fy mam yn rhoi sgyrsiau ar atal cenhedlu, ar les menywod beichiog a bwydo ar y fron. Roedd ymhlith y cyntaf i siarad allan yn agored dros hybu ymwybyddiaeth o HIV, ac yn brofiadol yn cynorthwyo geni yn y cartref. Ers yn ferch fach, roeddwn yn hen gyfarwydd â therminoleg a ddisgrifiai nam angheuol ar y ffetws fel dŵr ar yr ymennydd ac anencephaly. Roeddwn hefyd yn ymwybodol iawn o effeithiau trawmatig beichiogi yn yr arddegau. Yn fy myd i, roedd gofal iechyd, yn arbennig gofal iechyd menywod, yn seciwlar, yn saff ac yn agored i bob un.

Yn 2003, roeddwn yn hapus iawn o gael cyfle i fwrw fy ngwreiddiau yn Iwerddon; serch hynny, cefais sioc o ddarganfod nad oedd system ofal iechyd gyfartal i bawb yn bodoli yma. System dau ddosbarth, sef preifat v cyhoeddus, yw system Iwerddon. Rhaid talu am bob ymweliad â'r meddyg teulu, oni bai eich bod ar fudd-daliadau. Dim ond yn 2015 y cyflwynwyd yr hawl i ymweliadau meddyg teulu am ddim i blant dan chwech oed. Mae'r gwahaniaethau hyn mewn gofal yn arbennig o amlwg wrth droi at y system iechyd i geisio cymorth i feichiogi. Rhaid talu am bob archwiliad a chais am gefnogaeth. Yn fwy rhwystredig na dim i'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r system hon yw'r modd y mae credoau crefyddol yn llechu yng nghêl yn y ddarpariaeth gofal iechyd. 'Gwyddir' bod rhai ysbytai yn fwy Catholig nag eraill (mewn ambell ysbyty, mae gan Yr Eglwys Gatholig gynrychiolwyr o hyd ar y byrddau rheoli); nid yw pob ysbyty mor barod i gynnig prawf amniosentesis neu sgrinio genetig, ac mae'n hawdd i fam deimlo ei bod yn cael ei barnu dim ond wrth iddi holi. Yn waeth fyth, nid oes modd gwybod cyn dechrau a ydi'r meddyg teulu o blaid neu yn erbyn hawl menyw i erthyliad. Gall meddyg teulu fod â chredoau crefyddol sydd yn tresmasu ar y cyngor meddygol a gynigir ganddynt ond nid oes rheidrwydd ar feddyg gyhoeddi ei safiad moesol.

Codwyd gwrychyn meddyg teulu yn Nulyn pan ddeallodd bod fy mhartner wedi ysgaru a'n bod yn ceisio cael plentyn gyda'n gilydd. Pan ddychwelwyd canlyniadau'r profion gwaed, dywedwyd wrthyf na fyddwn i fyth yn llwyddo i feichiogi, hyd yn oed gydag wy rhodd, a beth bynnag, roedd fy wyau i yn 'sbwng' (ei geiriau hi, nid y fi). Penderfynodd hefyd fy nwrdio am 'orfodi' fy mhartner ysgaredig i roi ystyriaeth i IVF, petai angen. Wedi f'ysgwyd, mi aeth yn chwe mis arnaf yn mynd i chwilio am farn meddyg arall. Y tro hwn, aethom i weld ymgynghorydd yn ysbyty'r Rotunda yn Nulyn (un o ysbytai geni prysuraf Ewrop). Wrth edrych ar y canlyniadau, holodd yr ymgynghorydd pam yr oeddem wedi gwneud yr apwyntiad. 'Mae'r canlyniadau hyn yn edrych yn iawn i gyd, ond gallwn eu profi eto i fod yn siŵr, os mai dyna'ch dymuniad,' meddai. Aethpwyd trwy'r profion gwaed unwaith yn rhagor ac roedd popeth fel y dylai fod.

Y diwrnod hwnnw fis Medi'r llynedd, wrth i'r 'March for Choice' droi oddi ar stryd O'Connell a gorymdeithio ar hyd ardal y cei yn Nulyn a throsodd i Liffey, cododd y dyrfa ei llais a dechrau llafarganu 'KEEP YOUR ROSARIES OFF OUR OVARIES!' Ar hap, ymunodd fy merch yn y llafarganu. I mi, roedd hon yn foment ingol.

Awdurdodwyd cymhathu'r Wythfed Diwygiad yng nghyfansoddiad Iwerddon gan refferendwm 1983, gweithred o greulondeb syfrdanol i bob menyw sydd yn byw ar ei thiriogaeth. Roedd yr Wythfed Diwygiad yn datgan hawl plentyn yn y groth i fyw, gan osod yr hawl hwn yn gyfwerth â hawl y fam i fyw. Roedd diddymu'r Wythfed Diwygiad nid yn unig i wneud â hawl merched i erthylu ond hefyd i wneud â hawliau meddyg, ymgynghorydd neu nyrs wrth weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn 2013, trwy'r Ddeddf Gwarchod Bywyd yn ystod Beichiogrwydd, deddfwyd o blaid yr hawl i erthyliad pan fo peryg sylweddol i fywyd y fam. Ond fel y cyhoeddodd Joan Collins TD ar ddechrau'r ymgyrch ddiweddaraf, golygai hyn 'that medical conditions due to pregnancy that are not in themselves life-threatening (e.g. inevitable miscarriage) must be allowed to become life-threatening'.

Dyma'n union ddigwyddodd i Savita Halappanavar, a fu farw 28 Hydref 2012 yn Ysbyty'r Brifysgol, Galway. Er ei bod yn amlwg bod erthyliad yn anorfod, ac er i Halappanavar ei hun wneud cais am erthyliad, fe'i gwrthodwyd. Penderfynodd y tîm meddygol nad oedd ei bywyd mewn digon o beryg. Pan gafodd driniaeth yn y diwedd, roedd yn llawer rhy hwyr. Er cof amdani, mae'r ymgyrchwyr dros 'Ie' bellach am weld y ddeddf fyddai'n cyfreithloni'r hawl i erthyliad yn cael ei galw'n Ddeddf Savita.

Llenwir gofod cyhoeddus Iwerddon gan sloganau yn ystod ymgyrchoedd gwleidyddol. Golygfa gyfarwydd yw posteri mawr yn gwgu o bostynau lamp. Fel arfer, lluniau gwleidyddion sydd ar y posteri hyn. (Holodd merch ffrind i mi yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf pam fod yna gymaint o luniau o bobl ar goll ym mhob man). Y tro hwn, dewisodd yr ymgyrch yn erbyn diddymu'r Wythfed Diwygiad flaenoriaethu delweddau niferus o fabanod yn y groth, yn aml gyda'r slogan 'Don't repeal me'. Gosodwyd posteri ar ffyrdd ger ysgolion a meithrinfeydd. Naratif mwy cadarnhaol a gyfathrebwyd gan yr ymgyrch o blaid newid: 'Rhowch eich ffydd ynddi', 'Ie dros gydraddoldeb ac urddas' a 'Trugaredd mewn argyfwng'. Cefnogwyd yr ymgyrch 'Ie' gan deulu Savita a defnyddiwyd ei llun. Cynigiwyd straeon personol gan y ddwy ochr fel rhan o'u hymgyrchoedd, ond daeth profiadau personol yn ganolog i strategaeth yr ymgyrch dros 'Ie'. Yn ogystal â'r straeon torcalonnus yn y cyfryngau cyhoeddodd grŵp ymgyrch In Her Shoes (a oedd o blaid 'Ie') lyfryn bychan yn llawn straeon personol. Roedd y profiadau hyn yn cynnwys hanesion am y trawma o orfod teithio i gael erthyliad, cymryd meddyginiaeth anghyfreithlon ar-lein i ysgogi erthyliad, erthylu heb gymorth o fath yn y byd, a'r profiad o gario plentyn gyda nam angheuol hyd ei eni.

Mae'r bleidlais a gafwyd ar 25 Mai 2018 yn dynodi buddugoliaeth drawsnewidiol i'r ymgyrch 'Ie'. O ystyried cryfder y mandad (66.4% o blaid, 33.6% yn erbyn), bydd pwysau ar wleidyddion i ddeddfu'n gyflym. Rho'r canlyniad syniad i ni o'r trawsnewidiad cymdeithasol a fu yn Iwerddon dros y degawdau diwethaf. Fel un o drigolion Kells (tref farchnad fechan) yn Co Meath, roeddwn yn arbennig o falch o weld bod y canlyniad hwn yn dangos newid yn yr hen naratif, sef bod 'gwledig' yn gyfystyr â 'cheidwadol'. Disgwyliai pawb fwyafrif o blaid 'Ie' yn yr ardaloedd trefol, metropolitanaidd. A dyna a fu, gyda chyfartaledd o 71%. Ond roedd oddeutu 60% o bleidleiswyr gwledig hefyd wedi bwrw pleidlais o blaid newid. Wrth weld y polau ymadael, postiais y trydariad hwn ar fore'r 26ain o Fai:

The exit polls indicate that Ireland does not want to be read as part of a conservative Trump/Brexit/extremist or fascist narrative. We refute the patronising way Ireland has been treated by the UK Brexit negotiators and its narrative of exclusion and cruelty.

Nid oes amheuaeth gen i nad yw hyn yn wir. Mae Iwerddon wedi teimlo anniddigrwydd dybryd wrth wylio datblygiadau'r trafodaethau yn sgil refferendwm aelodaeth y DU or UE. Rhyfeddwyd trigolion yma gan ddiffyg ymwybyddiaeth prif negodwyr y DU o ddaearyddiaeth, hanes a diwylliant Iwerddon. Mae gweddill y byd wedi bod yn cadw llygad ar yr ynys werdd, yn awyddus i weld sut y byddai Iwerddon yn ymateb yn y refferendwm hwn. Doedd dim hawl gen i i fwrw pleidlais gan mai dim ond dinasyddion sy'n cael pleidleisio i newid cyfansoddiad y wlad. Serch hynny, cyflwynwyd fy nghais am ddinasyddiaeth yn fuan ar ôl y 'March for Choice' ym Medi 2017. Os caiff ei dderbyn, byddaf bellach yn ddinasyddwraig llawer mwy balch. 


Mae Nerys Williams yn darlithio ym Ngholeg Prifysgol Dulyn. Ei chyfrol ddiweddaraf o gerddi yw Cabaret (New Dublin Press, 2017). 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Nerys Williams, Ffeministiaeth

 


Yn fy myd i, roedd gofal iechyd, yn arbennig gofal iechyd menywod, yn seciwlar, yn saff ac yn agored i bob un

Dyddiad cyhoeddi: 30·05·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…

Adolygu


O’r Pedwar Gwynt

Lle mae'r nofelydd Cymraeg sy'n abl i gymell cenedl gyfan i sefyll o flaen ei gwell? Dyma gwestiwn sy'n codi'n gyson yn sgyrsiau anffurfiol O'r Pedwar Gwynt. Gyda marwolaeth Philip Roth ar 23 Mai 2018, awdur yr enwog American Pastoral (1997), mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto fyth.

Dadansoddi


Nerys Williams

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo…

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…