Dadansoddi

Dychmygu telyn


Rhodri Davies

Amser darllen: 8 munud

28·07·2018

Llun gan Rhodri Davies

Treuliais y flwyddyn ddiwethaf yn adeiladu telyn rawn, sef telyn wedi ei llinynnu â blew hir, garw o gynffon ceffyl. Nid oes un wedi ei chwarae yng Nghymru ers dau gant o flynyddoedd. Clywais am fodolaeth y delyn hon am y tro cyntaf pan oeddwn yn yr ysgol, gan y gwneuthurwr telynau Robert Hadaway. Buom yn trafod y sain neilltuol sydd gan delynau cynnar, sain sy’n drawiadol o wahanol i delynau cyfoes y Gorllewin ac yn debycach i rai Affricanaidd. Ers y foment honno, rwyf wedi bod yn ymdrechu i glywed yr offeryn arbennig hwn yn fy nychymyg.

Mae’r delyn rawn yng Nghymru yn dyddio ymhellach yn ôl na’r delyn ddwyres, deires, lifer a phedal. Telyn glun ydoedd, yn ôl pob golwg, ac roedd ar ei hanterth yng nghyfnod Cyfreithiau Hywel Dda, yn y drydedd ganrif ar ddeg. Byddai iddi seinfwrdd wedi ei gerfio o ddarn sengl o bren a thannau o gynffon ceffyl gyda phinnau o asgwrn ceffyl i’w dal. Yn ddiweddarach, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, cafwyd telynau gyda seinfwrdd o groen ceffyl yn ogystal (telyn ledr); a rhwng y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r ddeunawfed ganrif chwaraewyd yr hyn a elwir yn delynau gwrachod (bray) oherwydd y darnau bychain o bren, a ymdebygai i osgo cefn gwrach, a fyddai’n cael eu gosod rhwng y tannau a’r seinfwrdd. Byddai elfennau o’r tri math hyn o delyn hefyd yn cael eu cyfuno, gan greu telynnau hybrid. Dywedwyd bod telynau gwrachod yn ‘brefu fel asyn’ ond trafod mwy tyner sydd ar y delyn rawn.

Yng Nghyfreithiau Hywel Dda, yn y drydedd ganrif ar ddeg, y ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y telynau hyn:

Pob penkerd telyn adyly y gan y kerdoryon ieueinc auo wrth kerd telyn a mynu ymadaw athelyn rawn a bot yn eirchat. y penkerd adyly pedeir arugeint idaw.

(Pob pencerdd telyn a ddylai dderbyn pedair ceiniog ar hugain gan y cerddorion ieuainc a fynno ymwrthod â’r delyn rawn a mynnu bod yn gerddor teilwng a deisyf rhoddion.)

Rhwng y cyfnod hwn a’r unfed ganrif ar hugain mae’r delyn wedi datblygu ar sawl ffurf yn y Gorllewin. Ond yn ei hanfod, yr un strwythur sylfaenol sydd iddi: ffrâm driongl neu ffrâm ar siâp bwa a seinfwrdd i chwyddo sain y tannau. Yr hyn a newidiodd yw ansawdd sain y delyn, wrth gyfnewid tannau cynffon ceffyl am dannau gwt neu fetel ac wrth newid defnydd y seinfwrdd; dylanwadodd hynny, yn ei dro, ar natur y gerddoriaeth a chwaraeid. Cofnodir rhywfaint o’r hanes hwn ym marddoniaeth Iolo Goch yn y bedwaredd ganrif ar ddeg; ceir sôn am y delyn rawn gan Dafydd ap Gwilym hefyd. Yn ‘Cywydd Moliant i’r Delyn Rawn a Dychan i’r Delyn Ledr’ fe’i canmolir gan Iolo Goch:

Nid oedd un tant, ffyniant ffydd,
O ddefaid meirw i Ddafydd;
Ni wnaeth, clau ddewiniaeth clêr,
Dafydd Broffwyd diofer
Un delyn, ddiddan angerdd,
Onid o rawn, gyfiawn gerdd.

Disgrifir yr ail delyn, y delyn ledr, yn ddilornus ganddo, fel un swnllyd:

Y mae cerdd seiniog i’n mysg,
Diflo anghyfan wangledr,
Telynau, llidiardau lledr.

Gorffennir y gerdd drwy ganmol eto y delyn rawn:

Ceisied pob prentis cyson
O fars tir Lloegr i Fôn
Telyn eirian i’w chanu
I rannu dysg o rawn du

Ond er gwaethaf ei hapêl, cael ei hanghofio fu ffawd y delyn hon; cafodd ei thrawsfeddiannu gan newidiadau technolegol a datblygiad y delyn ddwyres a theires. Offeryn brau ydoedd: roedd tamprwydd yn effeithio ar y croen a’r tannau fel ei gilydd. Ysgrifennodd Dafydd Llwyd Delynor gerdd yn gofyn am delyn oherwydd i’w hen delyn gael ei difetha gan y glaw: ‘Dialedd yw gwlychu’r delyn,/ Gloyw (ni thwng): glaw a wnaeth hyn!’ (Bleddyn Owen Huws, 1998).
 

Llun gan Rhodri Davies

Wrth fynd ati i geisio llunio canllaw ymarferol ar gyfer adeiladu fy nhelyn rawn fy hun, cefais hyd i fwy o gliwiau am ei hadeiladwaith ym marddoniaeth y cyfnod: gwaith Wiliam Llŷn, Wiliam Cynwal, Dafydd ap Llywelyn ap Madog, Siôn Phylip, Iolo Goch a Huw Machno yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ymwelais hefyd â’r Ystafell Hir yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn i weld y delyn Brian Boru 29 tant. (Mae hon yn enghraifft o’r delyn sydd wedi’i gorchuddio â gemau a enwir ym marddoniaeth Iolo Goch.) A phenderfynais fynd i amgueddfa offerynnau cerdd y Cité de la musique ym Mharis i ddarganfod mwy am y broses o wnïo croen anifeiliaid ar delynau Affricanaidd. Bûm yn ffodus i allu manteisio ar wybodaeth arbenigwr y delyn gynnar, Robert Evans, sydd wedi ymchwilio’n ddwfn i bob agwedd ar gerddoriaeth gynnar Cymru ac sy’n defnyddio’i wybodaeth wrth berfformio gyda’r grŵp Bragod. Dysgais hefyd bod Wiliam Llŷn yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn cynnig disgrifiadau manwl o’r delyn rawn yn y ‘Cowydd i Ofyn Telyn i Siankyn Gwyn’. Deuthum ar ei draws mewn traethawd estynedig ar waith Wiliam Llŷn gan Roy Stephens (1983):

Mae’n dair cornel, y delyn,
Mae’n un draw rhwng dwylaw dyn.
Union yw’r llorf, corf, a’r cil,
A gogam yw ei gwegil.
Gwnïad pen, fel dolennau,
Ydyw ei chefn wedi’i chau.
O’i bron mae rhyw brennau mân
Trwy dyllau a’u traed allan.
Pob ebill fal gwimbill gwyn
A nerth y tannau wrthyn’.
Cyweirgorn, clo cyweirgerdd,
Arian a gaf ar un gerdd.

Daeth yn amlwg y byddai angen sgiliau a gwybodaeth fanwl i adeiladu’r delyn hon – tanerdy, hyd yn oed, i baratoi’r croen a gwybodaeth am y dull o gannu esgyrn y ceffyl a’u cerfio yn binnau telyn. Cyn mentro ymhellach, lluniais restr o’r prif nodweddion y penderfynais arnynt:

  • Telyn glun
  • 12 tant rhawn
  • Croen ceffyl dros y corff
  • Corff o bren derw, uchder o tua 67cm x lled 15cm ar y gwaelod; 11cm ar y brig x dyfnder 7cm
  • Piler o bren derwen [72cm] a gwddf [37cm]
  • Bar o dannau ffawydden y tu mewn i ddal y tannau, gan ychwanegu gwrachod yn nes ymlaen
  • Pinnau metel i diwnio ar y dechrau
  • Pinnau esgyrn ceffyl i diwnio wedi i’r delyn setlo

Cefais gymorth dau grefftwr medrus: y gwneuthurwr telynau Alun Thomas a’r weithwraig ledr Gaynor Davies Howell. Roedd tad Alun, sef John Thomas, yn wneuthurwr telynau dylanwadol yn ei ddydd ac ymwelais â’i weithdy yng Nghastellblaidd sawl tro pan oeddwn yn blentyn i drwsio’r delyn Erard a brynodd fy hen dad-cu i fy nhad. Alun hefyd a adeiladodd fy nhelyn lifer. Benthycais ei delyn deires ar un adeg ac yn ddiweddarach adeiladodd ffrâm ar gyfer gosod uchelseinydd ar waelod y delyn lifer i mi. Mae gweithdy Alun bellach yn Abergwaun. Taith fer oedd y cam nesaf, sef mynd â’r corff a’r ffrâm newydd i weithdy Gaynor – GDH Leatherwork – yng Nghlunderwen.

Ar ôl imi ddod o hyd i gyflenwr croen ceffyl roedd yn rhaid penderfynu am ba hyd i socian y croen. Arferwn roi croen gafr ar ddrymiau pan oeddwn yn iau; byddwn yn socian y croen egr mewn bwced dros nos. Felly roedd gen i beth profiad o weithio gyda chroen ir. Arbrofodd Gaynor gyda chroen o wahanol drwch; ymchwiliodd i wahanol bwythau; ymestynnodd a mowldiodd y croen cyn ei socian mewn dŵr o wahanol dymheredd, ac yna ei roi o dan densiwn amrywiol. Ar gyfer y pwythau ar gefn y delyn defnyddiodd gyfuniad o bwyth ffagod (faggot stitch) a phwyth rhedynen (twisted herringbone stitch).

Roedd y dewisiadau a’n hwynebai wrth gynllunio ac adeiladu’r delyn yn cael eu rheoli gan gyfyngiadau’r deunyddiau: roedd angen i hyd y tant hiraf, er enghraifft, fod o’r un hyd â’r gynffon ceffyl hiraf, os nad oeddem am eu gwau i wneud rhai hwy. Gwyddid yn iawn sut i wneud hyn ar un adeg, fel y sonnir yn y dyfyniad hwn o Geiriadur Prifysgol Cymru:

Gruffudd Evan o Nant Trystan yn Llanwynno, oedd delynior, ag yn byw yng nghylch 1730. Telyn rawn oedd ef bob amser yn ei chanu. ag efe a wyddai ffordd i nyddu rhawn yn dannau mawrion, at delyn o’r maint a fynnit. o nd y mae’r ffordd i wneuthur hynny wedi myned ar goll.

Wrth arbrofi gyda thannau rhawn, sylwais fod sain y delyn rawn yn drawiadol o debyg i sain telynau a geir hyd heddiw yn Nigeria, Chad, Camerŵn a Gweriniaeth Canolbarth Affrica, yn arbennig y delyn wyth tant Enanga o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ac mae gwneuthuriad y delyn rawn yn ymdebygu’n fawr i wneuthuriad rhai telynau bach Affricanaidd, y corff pren wedi’i gerfio a’i orchuddio â chroen anifail gyda stribed o bren o dan ganol y croen i ddal un ochr y tannau. Yr unig wahaniaeth amlwg yw bod y rhain wedi eu plygu fel bwa a bod gan y delyn rawn biler neu golofn.

Y cam nesaf fydd ychwanegu darnau pren – y gwrachod (bray) – i’r delyn er mwyn datblygu’r sain. Mantais defnyddio gwrachod yng ngwneuthuriad telyn rawn yn ei chyfnod oedd caniatáu cynhyrchu sain cryfach, a hynny’n ychwanegu a chyfoethogi’r ystod mynegiant. Edrychaf ymlaen hefyd, maes o law, at ymchwilio i ddulliau tiwnio hanesyddol megis tiwnio pythagoreaidd a thonyddiaeth gywir. Dyma heriau technegol newydd nid yn unig i’r crefftwr yn ein cyfnod ni, felly, ond hefyd i’r cerddor, a hynny’n gofyn am esblygu dulliau chwarae newydd.

Ond yr hyn sydd yn fy nghyffroi yn fwy na dim, yr hyn a wnaeth f’ysgogi i adeiladu telyn rawn yn y lle cyntaf, yw’r syniad o arbrofi a chwarae’n fyrfyfyr arni. Beth a ddigwyddith i gerddoriaeth gyfoes wrth iddi gael ei chanu ar delyn rawn? A fydd y profiad o chwarae’r offeryn hwn, o gocsio’r sain crai ohoni, yn gadael ei ôl, ymhen amser, ar ddatblygiad cerddoriaeth werin Gymreig? Tybed pa fath o ‘ddysg’, yn wir, y mae modd ei ddatblygu a’i rannu ‘o rawn du’ yn yr unfed ganrif ar hugain?


Enillodd Rhodri Davies un o wobrau Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru 2016/17 i greu telyn rawn.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 7, Cerddoriaeth, Crefft

 


Ar ôl imi ddod o hyd i gyflenwr croen ceffyl roedd yn rhaid penderfynu am ba hyd i socian y croen

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…