Dadansoddi

‘Els segadors’

Pleidlais dros annibyniaeth 27 Hydref 2017


Ned Thomas

Amser darllen: 3 munud

01·11·2017

Ddydd Gwener, 27 Hydref 2017, pleidleisiodd Senedd Catalwnia dros annibyniaeth. Darllenwyd y datganiad ffurfiol gan y Llywydd Carme Forcadell, ac yna canwyd yr anthem genedlaethol 'Els segadors' (y medelwyr neu'r cynaeafwyr). Aeth yr Arlywydd Carles Puigdemont allan i annerch y dorf – yn eu plith, meiri nifer fawr o drefi Catalwnia – a gwaeddwyd 'Llibertat!' Canwyd a gwaeddwyd gydag arddeliad, ac yr oedd ymdeimlad o hanes ymhlyg ymhob gair a gweithred.

Poster Libertat! Lluniwyd geiriau ac alaw'r anthem genedlaethol ar ddiwedd y 19eg ganrif ar sail cerdd a gasglwyd o'r traddodiad llafar. Y digwyddiad a gofnodir yn y gân yw gwrthryfel y medelwyr yn 1640-41, pan gododd gwerin gwlad yn erbyn gormes haerllug milwyr Castilla yn eu tir. Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim byd anarferol ar y gweill. Ymunodd nifer o arweinwyr y dosbarth canol â'r gwrthryfel, yn eu plith y clerigwr Pau Claris, a gofir hefyd am iddo sicrhau mai Catalaneg fyddai iaith pregethau yn yr eglwys. Trechwyd byddinoedd Castilla (gyda chymorth Ffrainc) a datganwyd annibyniaeth Catalwnia am y tro cyntaf erioed.

Sylwer nad brenhiniaeth a gyhoeddwyd ond gweriniaeth – fel y tro hwn, ac fel y tro diwethaf, sef 1934. Lluis Companys oedd yr arlywydd bryd hynny ac yn ystod rhyfel cartref Sbaen. Fe'i dienyddiwyd gan Franco yn 1940. I gyfnod y rhyfel cartref y perthyn y darlun a atgynhyrchir fa hyn. Roedd anarchwyr y Federación Anarquista Ibéricaar (FAI) ar eu cryfaf yng Nghatalwnia a dyma un o'u posteri. Roedd y cryman yn y cyfnod yn dal yn erfyn cyffredin yng nghefn gwlad. Yr oedd yn debyg (ac eto'n wahanol) i symbol y Comiwnyddion, sef y morthwyl a'r cryman; yr oedd hefyd yn ategu traddodiad cenedlaethol 'Els segadors'. 

Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim byd anarferol ar y gweill

Dyddiad cyhoeddi: 01·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Iolo ap Dafydd

Mae ffiniau nifer fawr o wledydd Canolbarth Asia a’r Dwyrain Canol wedi symud dros y canrifoedd. Ac mae llawer o bobl y rhanbarth yn parhau i gondemnio imperialwyr Ffrengig a Phrydeinig am ffiniau a gaiff eu hystyried yn rhai ffug. Syria,…

Cyfweld


Dyl Mei a Marged Tudur

Mae Rhywbeth i’w Ddweud yn gyfrol o ysgrifau am ddeg o ganeuon gwleidyddol a ysgrifennwyd rhwng 1979 a 2016. Ymysg y deg mae ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman a ‘Gwlad ar fy Nghefn’ gan Datblygu. Dewisodd Dyl Mei ysgrifennu ei gyfraniad yntau i'r gyfrol am 'Talu Bils' gan Rodney Evans. Un o'r golygyddion, Marged…

Dadansoddi


Ned Thomas

Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim anarferol ar y gweill. Ymunodd nifer o arweinwyr y dosbarth canol â'r gwrthryfel, yn eu plith y clerigwr Pau Claris, a gofir hefyd am iddo sicrhau…

Adolygu


Mared Llywelyn

Hawdd dychmygu bod llawer un ar bigau’r drain wrth weld taith Mwgsi yn dynesu a rhywun yn ymwybodol y byddai llygaid pawb ar y cynhyrchiad. Roedd yn addo bod yn brofiad anodd ac emosiynol ar y gorau, oherwydd nid stori wneud yw hon ond stori wir.…

Dadansoddi


Dylan Huw

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia, mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw â gyriad iwtopig yn ganolbwynt iddi. Mae e’n defnyddio 'criwsio' am ryw fel trosiad ar gyfer ei weledigaeth ef o’r modd y gallwn ddod i ddeall y potensial i gymunedau LGBT+ sy’n deillio o…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…