Dadansoddi

Helynt gwrth-Semitiaeth Llafur


Nathan Abrams

Amser darllen: 5 munud

13·09·2018



                                           Iddewon Hwngaraidd yn cyrraedd gwersyll lladd Auschwitz, Gwlad Pwyl yn ystod haf 1944


Ydw i o'r farn bod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitaidd? Nac ydw. A yw'n fygythiad dirfodol i Iddewon y Deyrnas Unedig? Nac ydi. Ydi maniffesto Llafur yn wrth-Iddewig? Nac ydi. A oes gan Corbyn broblem gydag Israel? Oes, mae ganddo. Ond nid gwrth-Semitiaeth mo hyn. Ac nid rhywbeth wedi ei gyfyngu i'r Blaid Lafur mohono ychwaith.

Mae gwrth-Semitiaeth yn fyw ac yn iach yn y Deyrnas Unedig heddiw. Naïfrwydd fyddai awgrymu fel arall a disgwyl, wedi dwy fil o flynyddoedd o Iddewoffobia sydd wedi hen galedu, o wrth-Iddewiaeth a gwrth-Semitiaeth, y byddai'n diflannu dros nos yn dilyn dadlennu erchyllterau'r Holocost. Mae casineb tuag at Iddewon wedi parhau a datblygu ar ffurfiau newydd. Wrth i bleidiau gwleidyddol eistedd yn ôl a gwylio'r Blaid Lafur yn ymrwygo, ni ddylent am eiliad deimlo hunanfoddhad a meddwl eu bod hwy'n rhydd o'r pla hwn. Mae ymchwil yn dangos nid dim ond bod gwrth-Semitiaeth yn bodoli ym Mhrydain heddiw, ond ei fod yn bodoli ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Y grŵp mwyaf gwrth-Semitaidd yw'r unigolion hynny sydd yn uniaethu â gwleidyddiaeth arbennig o adain dde. Mae presenoldeb agweddau gwrth-Semitaidd yn y grŵp hwn ddwy i bedair gwaith yn uwch nag yn y boblogaeth yn gyffredinol. Yn ffodus, mae'r dde eithafol, ar y cyfan, yn parhau ar ymylon gwleidyddiaeth Brydeinig ac yn ymylol hefyd ar y dde wleidyddol ehangach. Llawer mwy niweidiol yw geiriau a pholisïau UKIP, y Blaid Geidwadol a'u cynghreiriaid sydd wedi annog ffyniant awyrgylch gelyniaethus, agored i hiliaeth a rhagfarn, megis gwrth-Semitiaeth. Cânt eu cefnogi gan y cyfryngau adain dde lle mae siarad yn erbyn ymfudwyr wedi dod yn ffurf dderbyniol ar hiliaeth. Gwelwn hyn ar waith yn y cyhuddiadau yn erbyn ymfudwyr oherwydd argyfyngau'r NHS, y diffyg mewn cartrefi a chyflogau byw sydd wedi aros yn eu hunfan. Gwrth-Semitiaeth hen-ffasiwn, yn syml iawn, yw'r modd y mae George Soros, er enghraifft, wedi cael ei bortreadu yn y cyfryngau hyn.

Tra mae lefelau gwrth-Semitiaeth ymysg y chwith a'r chwith caled yn debyg i'r lefelau yn y boblogaeth yn gyffredinol, mae'r hyn sy'n ymddangos fel ffocws ar Israel, ar draul argyfyngau dyngarol rhyngwladol eraill, yn sicr yn adleisio problem Israel Corbyn. Mae holl garfannau'r chwith ar y sbectrwm gwleidyddol - gan gynnwys y carfannau sydd rywfaint i'r chwith o'r canol, y rhai sy'n gymharol adain chwith a'r rhai sy'n arbennig o adain chwith - yn amlygu lefelau uwch nag ar gyfartaledd o agweddau gwrth-Israel. Yn wir, does dim llawer ers i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd gael eu cyhuddo o agweddau gwrth-Seionaidd a oedd yn ymylu ar fod yn wrth-Semitaidd. Does dim dwywaith gen i fod hyn yn digwydd mewn pleidiau gwleidyddol eraill, megis Plaid Cymru a'r SNP lle mae cefnogaeth a chydymdeimlad tuag at gyflwr a helynt y Palestiniaid yn amlwg. Ond nid yw'r cyfryngau yn rhoi sylw iddynt gan fod eu niferoedd unai yn rhy fach neu oherwydd nad ydynt yn gyrff sydd yn cynrychioli'r DU yn ei chyfanrwydd, ac o ganlyniad, nid ydynt yn fygythiad i'r blaid sydd mewn grym gan nad oes gobaith ganddynt ffurfio llywodraeth.

Lle gychwynnodd yr agweddau gwrth-Israel hyn? Yn ddi-au, mae gweithredoedd Israel ers 1948 i gyfri, yn arbennig y cyfeddiannu tiriogaeth a fu wedi'r Rhyfel Chwe-Niwrnod. Digon posib mai Israel yw'r unig ddemocratiaeth Ryddfrydol sydd yn rhoi egwyddorion trefedigaethol ar waith ac yn mygu hawliau democrataidd yn y tiriogaethau hyn. Ond nid yw hynny'n ddigon o eglurhad. Gellid cyfeirio at yr ymdeimlad o euogrwydd ymhlith y chwith Rhyddfrydol dros rôl Prydain yn ffurfiant y broblem Israel-Palesteina yn ystod cyfnod y Mandad, ond a oes unrhyw un tu hwnt i'r byd academaidd yn y DU hyd yn oed yn cofio hynny mwyach? Yn sicr, mae gwrth-Israeliaeth yn ffitio'r bydolwg gwrthdrefedigaethol, gwrth-Americanaidd. Ond tybed a yw hynny oherwydd bod Israel hefyd yn cael ei gweld, yn anfeirniadol, fel tiriogaeth 'wen' - er bod mwy na hanner ei phobl yn dod o'r gwledydd Arabaidd, Ethiopia ac India - ac o ganlyniad, eu bod yn cael eu dal i gyfri ar sail safonau 'gwyn' uwch?

Mae yna bedair agwedd i'r anawsterau wrth drafod Israel a gwrth-Semitiaeth. I gychwyn, waeth pa mor 'wyn', breintiedig a llwyddiannus yr ydym ar yr olwg gyntaf, fel Iddewon yn y DU, rydym yn dal i ystyried ein hunain yn lleiafrif mewn gwlad a roddodd gartref i ni ond nad yw, mewn gwirionedd, wedi ein derbyn am ran helaethaf ei bodolaeth. Daeth yr Iddewon i Loegr am y tro cyntaf yn 1066. Cawsant eu gyrru allan yn 1290. Yn 1656, cawsant eu derbyn yn ôl. Ers hynny, dim ond yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd y mae rhagfarn gwrth-Iddewig wedi pylu. Ar ben hynny, mae'r Holocost yn dal yn fyw yn y cof - sylwad arbennig o sarhaus yr wyf wedi ei glywed a'i ddarllen yw 'hen bryd anghofio'. Ymhellach, trosglwyddir rhyngom straeon am ragfarn a chasineb a oedd i gyfri am ddyfodiad ein cyndeidiau a'n cyn-neiniau i'r DU, yn y pen draw oherwydd iddynt gael eu herlid yn eu gwledydd eu hunain. Er bod bywyd ar gyfer Iddewon wedi gwella yn y DU - roedd fy nhad a'i genhedlaeth yn dioddef llawer mwy ac yn wynebu anffafriaeth ebrwydd - nid yw hynny'n golygu bod bywyd yn y DU yn berffaith. Wedi i mi brofi sen gwrth-Semitaidd yn yr wythdegau tra roeddwn yn tyfu i fyny, heddiw mae'r profiad yn fwy tebyg o fod ar ffurf sylwad anghynnes, jôc ddi-chwaeth, cyfeiriad at Shylock, at Iddewon 'cyfoethog' neu 'cybyddlyd', neu agwedd anwybodus o ymwrthod yn gyffredinol â dysgu am Iddewon ac Iddewiaeth.

Yn ail, mae Iddewon yn sensitif pan drafodir Israel. Beth bynnag fo'n cysylltiadau gwleidyddol a'n harferion crefyddol, mae i Israel le blaenllaw mewn diwinyddiaeth a litwrgi Iddewig. Rydym yn llythrennol yn troi tuag at Israel wrth weddïo. Rydym wedi byw yno, wedi ymweld â'r wlad, mae gennym ffrindiau yno neu ffrindiau o Israel yn y DU. Digon posib ein bod yn prynu nwyddau o Israel ac yn mwynhau'r bwyd sy'n rhan o'r diwylliant. Cawn ein magu nid dim ond i gredu fod Israel yn gartref i'n hynafiaid ond ei bod hefyd yn hafan petai amgylchiadau'n newid ac yn dirywio fel a ddigwyddodd rhwng 1933 ac 1945. Yr Iddewon, efallai, yw'r mwyafrif ar diriogaeth Israel ond mae nifer ohonom yn dal i ystyried Iddewon fel lleiafrif sydd, yn hanesyddol, wedi ei gorthrymu. Ond nid yw hynny'n golygu bod gennym deyrngarwch dwbl ac obsesiwn gydag Israel - dau sylwad sarhaus a gwrth-Semitaidd. Rydym yn poeni am ein plant, eu haddysg a'n morgeisi, ac am Brexit, fel pob dinesydd arall yn y DU.

Yn drydydd, mae unigolion llawn bwriadau da sydd yn dymuno protestio'n deg yn erbyn gweithredoedd llywodraeth Israel yn croesi llinell wrth ddefnyddio terminoleg annerbyniol. Er enghraifft, yn eu defnydd o dermau megis 'Iddew', 'Iddewon' neu 'gwladwriaeth Iddewig' yn hytrach nag 'Israel' neu 'Israeliaid', neu wrth ddweud 'Seionaidd' neu 'Seio' pan mai 'Iddewon' a olygir. Effaith hyn yw cymylu'r gwahaniaeth rhwng Iddewon fel lleiafrif ethnig a chrefyddol ac Israel fel cenedl wladwriaeth, gan ein lluchio at ein gilydd yn un dorf ddiwahaniaeth, fonolithig, homogenaidd. Heb fwriadu, wrth leisio beirniadaeth o bolisïau Israel cymhellir chwedlau gweigion clasurol gwrth-Semitaidd a gwrth-Iddewig sydd yn dyddio'n ôl ganrifoedd - Iddewon yn aberthu plant nad ydynt yn Iddewon, neu'n yfed gwaed, neu fod yr Iddewon yn rheoli'r cyfryngau ydi'r rhai mwyaf garw.

Yn ychwanegol at hynny, rhai o'r awgrymiadau mwyaf sarhaus a thramgwyddus a glywir wrth i Israel gael ei thrafod yw: nid oes lle i Iddewon leisio barn ar Israel oherwydd eu Hiddewiaeth, ac felly, eu diffyg gwrthrychedd (fel petai'r rhai nad ydynt yn Iddewon, rywsut, yn wrthrychol eu safbwynt); bod Iddewon, fel dioddefwyr yr Holocost, yn gorfod dysgu eu gwersi (noder yma sut nad oes angen i'r rhai a oedd yn gyfrifol, eu cydweithredwyr, ynghyd â'u gwyliedyddion, ddysgu gwersi ond mae disgwyl i'w dioddefwyr wneud); neu'r cyhuddiad a luchir at Israel ei bod wedi colli'r hawl i fodoli oherwydd ei gweithredoedd yn erbyn y Palestiniaid, sydd fel petai'n gwneud eithriad rhyngwladol ohoni a hynny pan nad oes neb yn awgrymu y dylai'r Almaen, dyweder, gael ei hymwahanu am ei throseddau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Er nad yw pob beirniadaeth o Israel yn wrth-Semitaidd, does dim amheuaeth bod rhai gwrth-Semitwyr diamheuol yn defnyddio Israel a gwrth-Seioniaeth i fynegi eu casineb tuag at Iddewon. Mae gwrth-Semitiaeth yn esblygu ac yn ymddangos ar ffurfiau newydd.

Yn syml, wrth drafod Israel, dylid bod yn hynod ofalus yn ein defnydd o iaith. Mae yna nifer o ffyrdd derbyniol i feirniadu Israel heb orfod dibynnu ar iaith a throellau ymadrodd hiliol, gwrth-Semitaidd. Ond os ydych yn mynnu defnyddio'r ieithwedd hon cofiwch mai fel gwrth-Semitydd y byddwch chithau'n swnio, felly peidiwch â synnu os cewch eich cyhuddo o hynny. Ac nid y cymhelliad fydd mygu beirniadaeth o bolisïau Israel neu ymosod ar y Blaid Lafur a Jeremy Corbyn.

 


 

 


Mae Nathan Abrams yn Athro Ffilm ym Mhrifysgol Bangor. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Gwleidyddiaeth

 


Mae yna nifer o ffyrdd derbyniol i feirniadu Israel heb orfod dibynnu ar iaith a throellau ymadrodd hiliol, gwrth-Semitaidd. Ond os ydych yn mynnu defnyddio'r ieithwedd hon cofiwch mai fel gwrth-Semitydd y byddwch chithau’n swnio

Dyddiad cyhoeddi: 13·09·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Jane Aaron

Mae’r elw o werthiant y nofel hon yn mynd tuag at helpu ffoaduriaid rhyfel. Dyna’r hyn mae prif gymeriad Llinynnau, Ceridwen Jeremy, yn ei wneud hefyd, wrth iddi roi lloches yn ei chartref yng nghefn gwlad Ceredigion i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria, yn ogystal â…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Bydoedd pell oedd y rhai a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad fy arddegau. Saethu hwrod ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod yn Hyrule a Spira, achub Zelda; a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd ... 

Cyfweld


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Yn y byd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o newyddiadurwyr,…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.