Gareth Stedman Jones


KARL MARX: GREATNESS AND ILLUSION

Allen Lane, 768tt, £35, 2016

David McLellan


MARX

Fontana, 92tt, , 1975

Francis Wheen


KARL MARX

Fourth Estate, 441tt, £20, 1999

Howard Williams


Y MEDDWL MODERN: MARX

Gwasg Gee, 78tt, , 1980

Dadansoddi

Karl Marx yn 200 oed


Angharad Price

Amser darllen: 15 munud

28·07·2018

Dinas dlos, ddi-sôn-amdani ar lannau afon Mosel ydi Trier, a’r bryniau o’i chwmpas yn rheseidiau unionsyth o winwydd, deunydd crai’r gwin aur, mawr-ei-fri. Hon ydi dinas hynaf yr Almaen, meddan nhw, a dan yr enw Trevorum hi oedd prifddinas ogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig; mae olion yr awdurdod hwnnw’n dal yn frith hyd-ddi, yn waliau atgyweiriedig y basilica, baddondai’r ymerawdwr, yr amffitheatr a’r horwth Porta Nigra sy’n tywyllu pen y stryd fawr.

Yn fwy diweddar, gall Trier hawlio’r fraint o fod yn dref enedigol Karl Marx, a aned yma ar 5 Mai 1818. Eleni, hi ydi canolbwynt dathliadau byd-eang i goffáu daucanmlwyddiant geni’r athronydd a’r economegydd y bu cyfran sylweddol o’r byd, tan yn gymharol ddiweddar, yn byw dan systemau gwleidyddol a darddodd yn uniongyrchol o’i syniadau. Mynegwyd y rheiny’n fwyaf enwog yn y Maniffesto Comiwnyddol (1848) a Das Kapital (1867), gweithiau chwyldroadol a fu hefyd yn sylfaen i’r mudiad llafur ac sydd bellach ar restr UNESCO o Ddogfennau Treftadaeth y Byd. Mae rhaglen swyddogol y daucanmlwyddiant yn Trier yn rhestru rhyw chwe chant o ddigwyddiadau dros y misoedd nesaf sy’n dathlu, trafod a dadansoddi bywyd a gwaith Marx, gan gynnwys arddangosfeydd cynhwysfawr, darlithoedd, sgyrsiau, ffilmiau, teithiau cerdded, perfformiadau theatrig (Marx! Love! Revolution!), sgwadiau sgwennu, talyrnau barddoniaeth, helfeydd trysor, sesiynau coginio, cabarets, a hyd yn oed sioeau cerdd (Come back, Karl Marx! Ein lustiges Rockmusical).

Nid felly y bu. Chwarter canrif yn ôl, roeddwn yn byw yma, yn fyfyrwraig am flwyddyn ym Mhrifysgol Trier ac yn lletya ar y campws newydd nid nepell o’r dref. Gwelais boster du-a-gwyn o Karl Marx mewn caffi a phenderfynu mai dyna’r union beth i addurno wal foel fy llofft. Wedi’r cwbl, roedd o’n hogyn lleol, edmygwn ei syniadau, ac (o edrych yn ôl) roedd rhywbeth am led y pen a’r aeliau gwrychiog a’m hatgoffai o’m tad, un arall o fabis dechrau mis Mai. Felly, dyma alw yn Swyddfa Groeso’r dref a gofyn am boster mawr o Karl Marx. Gwridodd y wraig y tu ôl i’r ddesg ac ochrgamu at ei chyd-weithwraig. Sibrwd trwy ddannedd. Edrychodd y llall arnaf trwy gil ei llygad a thros ei sbectol yr un pryd. Dod gam yn nes. Gwyro tuag ataf. A rhoi gwybod i mi yn reit eglur nad oeddan nhw’n ‘stocio pethau fel’na yn fan hyn’.

Nid gormodiaith fyddai dweud bod gan y Trier Gatholig, geidwadol a adwaenwn yn 1992 gywilydd o Karl Marx. Safai’r cartref genedigol yn amgueddfa ddirodres ar stryd gul y Brückenstrasse, rywle rhwng sgwâr y farchnad ac Aldi, a phrin y sonnid amdano fel arall. Pan awgrymwyd newid enw’r brifysgol i Karl-Marx-Universität tua’r un pryd, bygythiodd staff yr Ysgol Fusnes ac Ysgol y Gyfraith ymddiswyddo’n un haid.

Dair blynedd ynghynt, ddiwedd 1989, roedd wal Berlin wedi disgyn, a’r drefn Gomiwnyddol yn nwyrain Ewrop wedi datgymalu. O fewn deuddeg mis i hynny roedd dwyrain a gorllewin yr Almaen yn un. Erbyn i mi adael Trier yn haf 1993, gallwn gyfrif ymhlith fy ffrindiau rai a fagwyd ac a addysgwyd yn y ddwy Almaen ar wahân, ond a astudiai am radd prifysgol mewn Almaen unedig. Hyd yn oed bryd hynny, mor gynnar wedi’r gorfoledd, doedd barn y dwyreinwyr am gwymp y llen haearn ddim yn syml nac yn unffurf. Ac nid hiraeth sentimental (a alwyd mor nawddoglyd wedyn yn Ostalgie) ydoedd, ond y sylweddoliad parod fod colledion, yn ogystal â budd, wedi dod o ymuno â threfn gyfalafol y Gorllewin, ac nad oedd pethau ‘yma’ yn fêl i gyd chwaith. Yn Trier ei hun, fodd bynnag, a thu hwnt, roedd enw Karl Marx, tad Comiwnyddiaeth, yn anathema.

Hawdd dychmygu fy syndod, felly, o gael achlust o’r dathliadau mawr a oedd ar droed yn ei dref enedigol i goffáu daucanmlwyddiant ei eni. Pan ddaeth y rhaglen swyddogol swmpus, 56-tudalen, a chanddi glawr coch llachar, trwy’r post, trodd fy sioc yn anghrediniaeth. Doedd dim amdani ond derbyn gwahoddiad fy ffrindiau a mynd yno i weld drosof fy hun. A dyma gamu dan fwâu tywyll y Porta Nigra am un o’r gloch ar 5 Mai eleni – yn union mewn pryd i weld tynnu’r llen sidanaidd goch oddi ar gerflun enfawr o Karl Marx, a hynny dafliad carreg o’r Swyddfa Groeso lle bu gynt mor ddirmygedig. Roedd yno ddwsinau o gamerâu teledu a newyddiadurwyr, cannoedd ar gannoedd o bobl yn codi baneri coch bob yn ail â ffonau symudol, a dwsinau o heddweision. Rhodd oedd y cerflun gan lywodraeth Tsieina, a hwnnw wedi’i gomisiynu o law Wu Weishan, cerflunydd amlycaf Gweriniaeth y Bobl. Cafwyd areithiau maith gan wleidyddion a phwysigion, gan gynnwys Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, ynghyd â diplomyddion Tsieineaidd, a phan ddadorchuddiwyd y Marx efydd, arwrol, pymtheg troedfedd o uchder, llanwyd y sgwâr â bonllefau a chymeradwyaeth fyddarol. (Mae’r olygfa hynod i’w gweld ar YouTube.) Weddill y pnawn safai rhesi o bobl o bob oedran, lliw a llun, yn aros yn amyneddgar i gael tynnu eu llun wrth draed y meistr.
 

Cerflun Karl Marx yn Trier yn ystod dathliadau daucanmlwyddiant Mai 2018

Ond roedd yno brotestiadau hefyd: yn erbyn Marx ei hun, yn erbyn Comiwnyddiaeth, yn erbyn Tsieina, yn erbyn awdurdodau Trier am dderbyn y fath rodd gan wladwriaeth mor ormesol, ac yn fwyaf trawiadol gan amddiffynwyr y sect grefyddol Falun Dafa (neu Falun Gong), yr honnir yn frawychus bod llywodraeth Tsieina yn arestio ac yn dienyddio’i haelodau wrth y degau o filoedd er mwyn cynaeafu eu horganau. Roedd crysau a baneri melyn y protestwyr hynny yn cyferbynnu’n amlwg â’r lliw coch a lanwai’r strydoedd, ac elfen bellach yn y cymhlethdod oedd y si mai’r CIA a noddai brotest dawel, ond hynod dreiddiol, y Falun Dafa yn Trier trwy gydol y penwythnos.

Ond Marx ei hun oedd y presenoldeb amlycaf yn Trier y diwrnod heulog a chofiadwy hwn. Prin y gallwn gredu fy llygaid. Codai’r eicon barfog ei ben ymhobman: ar gardiau post, mygiau, magnedau ffrij a thynwyr corcyn. Ar ddillad mewn ffenestri siopau ac ar jygiau cwrw ar ymyl stryd. Gwelais fisgedi Karl Marx yn cael eu gwerthu a’u bwyta, yn ogystal â chacennau a siocledi (drudfawr). Roedd masnachwyr Trier yn ei gwneud hi’n dda. Chwifiai ffotograffau o deuluoedd ‘Marx’ presennol Trier (neb ohonynt yn perthyn) ar faneri tebyg i ddillad gwely uwchlaw sawl stryd, a gwelais blant o’r Kindergarten lleol yn mynd ar helfa drysor i gasglu pennau barfog, fel petai’r rheiny’n wyau Pasg. Y syndod mwyaf oedd gweld bod yr ardal o gwmpas tŷ genedigol Marx yn y Brückenstrasse wedi ei hailfedyddio’n Karl-Marx-Viertel, lle’r oedd y goleuadau croesi stryd yn dangos Karl bach coch (a’i freichiau ar led) i’ch dal yn ôl, a Karl bach gwyrdd (ar gerdded) a’ch galluogai i groesi.

Neilltuodd pedair amgueddfa fwyaf Trier eu gofod i’r daucanmlwyddiant, gan gynnwys – yn rhyfeddol, o gofio gwrthgrefyddolder creiddiol Marcsaeth – amgueddfa’r eglwys gadeiriol Gatholig, y Museum am Dom. Ond uchafbwynt y cyfan i mi, heb os, oedd yr arddangosfa swmpus am fywyd ac amserau Marx yn amgueddfa’r Simeonstift, lle cefais wrando ar y curadur, Elisabeth Dühr, yn trafod nid yn unig gynnwys yr arddangosfa gyfoethog hon, ond y gwaith dwy flynedd o’i chynnull hefyd.

Daeth yn amlwg i Trier ei fagwraeth fod yn allweddol yn ffurfiant Marx. Rabiniaid oedd ei gyndeidiau ar y ddwy ochr, ond twrnai uchelgeisiol yn Trier ei hun oedd tad Karl, a ymgristnogodd er mwyn gallu parhau â’i yrfa gyfreithiol, gan newid ei enw o’r Hirschel Iddewig i’r Heinrich mwy derbyniol. Eto, nid lle ceidwadol oedd Trier dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn wir, ystyrid mai hi oedd tref fwyaf trafferthus a gwrthryfelgar teyrnas Prwsia. Bu’n eiddo i Ffrainc yng nghyfnod Napoleon, a daeth o dan ddylanwad delfrydau rhyddfrydol y code civil a ysbrydolwyd gan Chwyldro 1789, gan gynnwys goddefgarwch crefyddol, rhyddid y wasg a hawliau cyfansoddiadol yr unigolyn. Yn gyndyn y gollyngodd Trier ei gafael ar y delfrydau hynny pan ddaeth yn ôl i feddiant Prwsia ffiwdalaidd yn 1815, dair blynedd cyn geni Marx. Yn ei ieuenctid, daeth yntau dan ddylanwad syniadau blaengar ei brifathro, Hugo Wyttenbach, sylfaenydd y Casino Club, lle deuai trigolion goleuedig Trier ynghyd i drin a thrafod materion y dydd, a oedd yn ddraenen yn ystlys yr awdurdodau. Yn Trier hefyd y daeth Marx i gysylltiad â theulu rhyddfrydig a llengar y Barwn Ludwig von Westphalen, a buan y daeth Jenny, merch Ludwig, yn gariad i Marx, ac yn ddiweddarach yn wraig iddo. Bu’n gefn i’w gŵr trwy holl flynyddoedd cythryblus eu halltudiaeth, a da oedd gweld Jenny’n cael dyledus barch yn yr arddangosfa hon.

Dangosai’r arddangosfa bod 80 y cant o boblogaeth Trier adeg plentyndod Marx yn byw mewn tlodi difrifol, sefyllfa y sylwai yntau arni’n ddyddiol. Dwysawyd y tlodi pan basiodd Prwsia ddeddf yn gwahardd hel coed tân oddi ar lawr y coedwigoedd, hen arfer canrifoedd a gadwai’r tlodion rhag fferru trwy’r gaeafau hir. Tad Marx oedd un o’r cyfreithwyr a amddiffynnai’r rhai a gyhuddid o ddwyn y mân goediach, ac a geisiai eu gwarchod rhag carchar – yn ofer, yn aml.

O Trier, aeth y Marx ifanc, disglair i gyfres o brifysgolion (Bonn, Berlin, Jena), gan gythruddo’i deulu trwy esgeuluso’i astudiaethau yn y gyfraith, mynd i ddyledion mawr, meddwi, ymgleddyfa a chwffio ar y stryd. Treuliai ei amser hefyd yn nofela ac yn barddoni (yn bur aflwyddiannus), ac yn ymhél â chymdeithion gwleidyddol amheus megis Bruno Bauer a chriw’r Hegeliaid Ifanc. Daeth i ymddiddori fwyfwy mewn syniadau radicalaidd, a thrwy fynd i’r afael yn bennaf â dilechdid Hegel a gwrthgrefyddolder Feuerbach, dechreuodd ddatblygu ei fydolwg materolaidd ei hun, proses hir-dymor a’i harweiniodd yn gynnar at y casgliad bod angen, yng ngeiriau Howard Williams, ‘nid yn unig ddeall y byd yn ei wrthddywediadau, ond hefyd ei chwyldroi yn ymarferol’.

Er iddo ennill doethuriaeth ar waith yr athronydd Groegaidd Epicwrws, doedd dim gobaith am yrfa academaidd ac yntau’n feirniad mor hallt ar ddogmatiaeth gul gwladwriaeth Prwsia. Ymroddodd, felly, i newyddiadura, gan gyfrannu at bapur newydd rhyddfrydol y Rheinische Zeitung yn Köln a dod yn olygydd mentrus a llafar arno o fewn ychydig fisoedd. Mynegai farn herfeiddiol ar bynciau gwleidyddol ac economaidd y dydd, gan gynnwys arddel achos gwneuthurwyr gwin ei ardal enedigol a drethid hyd at yr asgwrn, nes bod y diwydiant cyfan ar fin methdalu. Buan yr aeth i drybini â’r sensoriaid, a chaewyd y papur i lawr (ddwywaith). A dyna ddechrau patrwm bywyd teulu Marx o hynny ymlaen: bywyd o alltudiaeth hyrddiol (ym Mharis, Brwsel, ac yn olaf yn Llundain), a chael eu herlid o wlad i wlad gan awdurdodau a oedd yn gynyddol nerfus ynghylch berw chwyldroadol Ewrop y 1840au – a Marx ei hun yn un o ladmeryddion pennaf y berw hwnnw.

Hwn hefyd oedd cyfnod ymwneud cynyddol ac allweddol Marx â Friedrich Engels, y cymdeithasegydd a rannai ei ddiddordeb mewn economeg wleidyddol, ynghyd â’i obeithion am chwyldro, ac a ddefnyddiai ei gyflog o’i ffatri gotwm deuluol ym Manceinion i atal y Marcsiaid rhag llwgu. Ond er gwaethaf cefnogaeth Engels, truenus oedd bywyd Karl a Jenny yn eu llety cyfyng yn Dean Street, Soho, a’r tad cariadus ond di-gyflog yn treulio’i ddyddiau yn narllenfa’r Amgueddfa Brydeinig yn llunio’i ddamcaniaethau economaidd, neu’n ceisio gosod y Gynghrair Gomiwnyddol gwerylgar ar ei thraed. Collodd Jenny ei holl drysorau teuluol i’r siop wystlo, ac roedd y teulu’n aml ar eu cythlwng. Bu farw pedwar o’r plant, gan adael dim ond tair merch, Jenny fach, Laura ac Eleanor, i gynnal fflam achos eu tad.

Hyd yn oed pan wellodd amgylchiadau ariannol y Marcsiaid yn ystod y 1860au yn sgil cyfres o gymynroddion, a’r teulu’n gallu symud i dŷ cysurus yn Maitland Park, profodd yr economegydd mawr nad oedd yn fawr o gop gyda phres. Gwariai’n ffri ar foethau amhroletaraidd megis siampên a gwin claret, sigârs o Hafana, gwyliau teuluol dosbarth canol ar lan y môr yn Ramsgate, addysg fonedd i’w ferched, ynghyd â dawns grand iddynt ac i hanner cant o’u ffrindiau, ac yn fwy rhyfeddol fyth, ar fuddsoddi yn y farchnad stoc. ‘Whenever he did get his hands on a fistful of sterling, he spent recklessly, with no thought for the morrow,’ meddai Francis Wheen yntau yn ei gofiant iddo. Mae’n anodd dychmygu neb mwy anghymwys i ymdopi â chyfyngiadau a disgyblaeth lem Comiwnyddiaeth ymarferol, na neb a fyddai wedi strancio’n fwy yn erbyn unrhyw unbennaeth (broletaraidd neu beidio). Yn sicr, cymeriad go gymhleth oedd y Karl Marx a gyflwynwyd yn arddangosfa’r Simeonstift: un tanllyd, anoddefgar ac anystywallt, a oedd hefyd yn gariadus, poenus ac, ar adegau, yn hynod hoffus.

Arddangosfa o fath arall a gafwyd yn y Karl-Marx-Haus yn y Brückenstrasse, a honno’n craffu’n fanylach ar syniadau Marx a’r defnydd a wnaethpwyd ohonynt. Wrth i’r syniadau hynny drosi o fod yn ddamcaniaethau i egwyddorion gwleidyddiaeth dorfol, roedd symleiddio a llurgunio’n anochel. Fel y noda David McLellan: ‘almost inevitably, the ideas were simplified, rigidified, ossified.’ Perthynas ddyrys fu gan Marx o’r dechrau â’r rhai a arddelai ei syniadau – arwydd pellach o’i gymeriad pengaled a chroes, efallai, ond hefyd o’i bryder y gellid camddehongli ei waith a’i gamddefnyddio. (Pan glywodd am grŵp o Farcsiaid brwd yn Ffrainc, mynnodd wrth Engels: ‘Yr unig beth dwi’n ei wybod ydi nad ydw i yn Farcsydd!’) Dangosodd hanes inni mai cyfiawn oedd y pryder hwnnw. Yn y ganrif a hanner a aeth heibio ers cyhoeddi Das Kapital, daethpwyd i gysylltu enw Marx â rhai o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif, yn gyfiawnhad dros filiynau o lofruddiaethau – yn Tsieina, yr Undeb Sofietaidd, Cambodia, ac mewn gwledydd eraill ar draws y byd – yn ogystal â gorthrwm gwleidyddol a chymdeithasol dychrynllyd. Ni ellir ond cytuno â Wheen pan ddywed y byddai Marx ei hun wedi brawychu o wybod am yr holl anfadwaith a wnaed yn enw ei syniadau llygredig: ‘The bastard creeds espoused by Stalin, Mao or Kim Il Sung treated his works rather as modern Christians use the Old Testament: much of it simply ignored or discarded, while a few resonant slogans are wrenched out of context [...] then cited as apparently divine justification for the most brutal inhumanities.’ Yn rhyfedd iawn, cefais arlliw o’r dehongli dethol hwnnw ar waith yn y Karl-Marx-Haus ei hun. Roedd y tŷ’n orlawn o bwysigion Tsieineaidd a fynnai gael tynnu eu llun yn cofleidio penddelw Marx yn y cowt canolog. Ond pan dynnais innau lun y tynnu llun (fel petai), daeth gwas y pwysigion Tsieineaidd ar fy ôl a mynnu’n ddig fy mod yn ‘delete the photos, delete the photos’ (gynt, byddid wedi rhwygo’r ffilm o fol y camera). Dilynwyd fi gan drem galed y gŵr weddill yr ymweliad, gan gynnwys pan oeddem i gyd yn darllen hanes brwydrau Marx â sensoriaeth wladol.

Roedd arddangosfa’r Karl-Marx-Haus yn dra awyddus i dynnu gwahanfur rhwng syniadau Marx a’r cyfundrefnau totalitaraidd a seiliwyd arnynt yn ddiweddarach, a does dim dwywaith nad oedd llawer o’r damcaniaethau yn rhy amwys, aflonydd ac anorffenedig i fod yn sylfaen gadarn i unrhyw drefn ymarferol, yn rhan o sgwrs ddilechdidol Marx â hanesyddiaeth y Chwyldro Diwydiannol. Gwelwyd yn yr arddangosfa sut y golygai ac yr ailolygai ei waith yn barhaus, a phwysleisiwyd yma (fel yng nghyfrol fanwl Gareth Stedman Jones, Karl Marx: Greatness and Illusion) rôl mor allweddol fu gan Engels, wedi marwolaeth Marx, yn olygydd ei waith: taclusodd, dehonglodd a lledaenodd Engels syniadau ei gyfaill, a’u dwyn yn nes at syniadau llywodraethol eraill diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Darwiniaeth a phositifiaeth yn enwedig. Ychwanegodd Lenin, Stalin, Mao Zedong ac eraill eu deongliadau eu hunain at y potes. Ond os cafodd Marx ei gamddehongli, a oedd sail i’r camddeongliadau hynny? Er bod trais brawychol yn wrthun ganddo (bu’n hallt ei feirniadaeth ar Jacobiniaid Chwyldro Ffrainc, er enghraifft), teg yw cofio ei fod, yn ei hanfod, yn chwyldroadwr a bod ei waith drwodd a thro’n argymell defnyddio grym a thrais i ddymchwel trefn er mwyn gorseddu trefn newydd. Anecdot arwyddocaol yw honno amdano’n cael ei holi gan ei ferched beth a’i gwnâi’n fwyaf hapus. Yr ateb: ‘Ymladd.’ Ac yn fwyaf anhapus? ‘Ildio.’

Wrth nesáu at ddiwedd yr arddangosfa, gan ddod at gyfnod y DDR, cwymp y llen haearn a’r Ewrop densiynus a fu gennym ers hynny, dechreuais innau bendroni drachefn am y newid yn statws Karl Marx dros y chwarter canrif y bûm i ffwrdd o Trier. Tybed ai dim ond y pellter amseryddol diogel rhwng y presennol a chyfnod ei ddylanwad yn nwyrain yr Almaen oedd i gyfrif am y bri newydd a oedd arno? Ynteu a oedd Trier o’r diwedd yn rhoi’r parch dyledus i’w mab afradlon? Y meddyliwr llachar, treiddgar a’r sgwennwr dawnus, carlamus a ysbrydolodd gymaint o waith arloesol, nid yn unig ym maes economeg, ond mewn hanes, llenyddiaeth a’r celfyddydau hefyd (meddylier, yng Nghymru yn unig, am feirniadaeth Raymond Williams, hanesyddiaeth Gwyn Alf Williams, doethuriaeth Dafydd Elis-Thomas, cerddi Niclas y Glais a nofelau Gareth Miles a Wiliam Owen Roberts, ymhlith eraill). Ynteu ai tybed achos bod gwaith Marx, heddiw, yn yr oes o gyfalafiaeth front yr ydym yn byw ynddi, yn fwy perthnasol nag erioed, a’i bwyslais ar ddieithriad y gweithlu yn boenus o gyfoes? Pan fo cyfran sylweddol o bobl fy nhref fy hun, Caernarfon, yn ddibynnol ar fanciau bwyd i gynnal eu teuluoedd ac yn methu fforddio prynu powdwr golchi neu hyd yn oed docyn bws, dydw i’n rhyfeddu dim o glywed bod mwy o werthu ar Das Kapital nag a fu ers blynyddoedd maith, a hynny ddwy ganrif gyfan wedi geni ei awdur athrylithgar, anniben ac angerddol.


Mae Angharad Price yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Byddai Marx ei hun wedi brawychu o wybod am yr holl anfadwaith a wnaed yn enw ei syniadau llygredig

Dyddiad cyhoeddi: 28·07·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…