Dadansoddi

#MustafaDawood


Fflur Arwel

Amser darllen: 5 munud

30·08·2018

Bore digon tebyg i’r arfer oedd y bore Sadwrn hwnnw yn y Shaftesbury Hand Car Wash yng Nghasnewydd. Roedd haul Mehefin yn crasu'r tarmac ac arogl coffi rhad yn cymysgu gyda sebon wrth i’r gweithwyr fynd ati i lanhau’r ceir. Yn eu plith yr oedd dyn ifanc tair ar hugain mlwydd oed o’r enw Mustafa Dawood. Yn geisiwr lloches, roedd yn un o’r gweithwyr, ac felly'n torri'r gyfraith oherwydd nid oes hawl i weithio gan geiswyr lloches yn y Deyrnas Gyfunol. Yn sydyn, daeth sgrech teiars ceir i darfu ar lonyddwch y bore. Cerbyd Immigration UKBA – yr UK Border Control. Allan o'r cerbyd neidiodd criw o swyddogion mudo mewn lifrai swyddogol.

A’i gorff yn chwys dan ofn ac mewn moment o banig, gollyngodd Mustafa ei offer gwaith a rhedodd. Dringodd ar ben to ffatri gyfagos er mwyn ceisio dianc rhag y swyddogion oedd yn prysur ddod ar ei ôl. Yn ei ruthr, collodd ei droedle gan ddisgyn dros ddeugain troedfedd. Er gwaethaf yr ymdrechion i’w achub, bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Ganed Mustafa yn Al-Fashir, sef prifddinas fechan gwladwriaeth gogledd Darfur yn Y Swdan. Roedd yn un o chwech o blant – pedwar brawd a dwy chwaer, a chafodd blentyndod digon dedwydd yn gweithio gyda’i dad yn y siop neu ar gefn lori. Tan ddaeth y rhyfel.

Yn Chwefror 2003, fe ddechreuodd Byddin Rydd Y Swdan (Sudan Liberation Army) a’r Mudiad dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb (Justice and Equality Movement) ymladd yn erbyn y llywodraeth oedd yn gormesu’r boblogaeth Affricanaidd ddu yn Darfur. Ymateb y wladwriaeth oedd dechrau ymgyrch o hil-laddiad yn erbyn llwythi’r Fur, Masalit a Zaghawa, sef llwyth Mustafa a’i deulu. Ac yntau ond yn ei arddegau, dihangodd Mustafa ar ei ben ei hun, gan fentro ar daith beryglus am y gogledd – yn gyntaf i’r Aifft, yna ar draws Môr y Canoldir i’r Eidal, nes teithio drwy Calais yn Ffrainc i gyrraedd Southampton yn 2015. 
 

Llun gan SOAS Detainee Support @sdetsup

Chwe mis yn ôl, symudwyd Mustafa i faestref Allt-Yr-Ynn ar gyrion Casnewydd ble cafodd ei roi mewn ystafell mewn tŷ oedd yn cael ei redeg gan gwmni preifat ar ran Swyddfa Gartref Llywodraeth Prydain. Yno, dechreuodd wneud ffrindiau. Daeth i adnabod nifer o’r cyfeillion hyn drwy gyfrwng yr elusen leol, The Sanctuary sydd yn rhoi cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn yr ardal. Rhoddodd yntau gefnogaeth i’w ffrindiau newydd, gan roi cymorth iddynt gyda’u ceisiadau drwy gyfieithu ar eu rhan a thrwy eu holi am eu hanesion a’u diwylliannau hwythau. Bu’n mwynhau gweithio ar randir canolfan yr elusen gan dyfu llysiau o bob math.

Er bod rhai aelodau o deulu Mustafa wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau am loches, nid oedd achos Mustafa ei hun mor syml. Nid oedd Swyddfa Gartref Llywodraeth Prydain yn credu ei fod yn perthyn i lwyth y Zaghawa a gwrthodwyd ei gais gwreiddiol am loches. Wedi hynny, aeth ei deulu ac aelodau o’r gymuned gydag ef i’r llys fel tystion gan bledio ei achos. Unwaith eto, fe wrthodwyd ei gais. Aeth y teulu at gyfreithiwr ac aros i glywed gan arbenigwr cyfreithiol fyddai’n gallu profi i’r Swyddfa Gartref fod Mustafa yn dod o Darfur. 

Arhosodd Mustafa bron i ddwy flynedd am yr adroddiad hwn ac unwaith yn rhagor, gwrthodwyd ei gais. Ysgrifennodd yr arbenigwr cyfreithiol at y Swyddfa Gartref gan ei gwneud yn glir bod eu penderfyniad yn anghywir a bod angen iddynt ailystyried ar fyrder. Fel y pum cant o geiswyr lloches sydd yng Nghasnewydd ar hyn o bryd, arhosodd Mustafa yn boenus o hir am ddyfarniad. Roedd Swyddfa Gartref Llywodraeth Prydain yn dal i 'ystyried ei achos' pan fu farw.

Mae dileu hawl ceiswyr lloches i weithio yn gorfodi pobl i dderbyn amodau gwaith anniogel lle maent yn agored i gael eu cam-drin. Mae’r bygythiad o gael eu cadw yn y ddalfa a’u halltudio, heb sôn am orfod byw o fewn cyfyngiadau polisïau caled, yn ddigon i wneud bywyd yn amhosibl iddynt. Ar gyfartaledd, mae ceiswyr lloches yn y Deyrnas Gyfunol yn treulio rhwng 10 a 15 mlynedd yn y system yn aros i glywed os yw eu cais yn llwyddiannus. Yn ôl ystadegau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y flwyddyn 2016, mae 2,872 o geiswyr lloches yn byw yng Nghymru – y mwyafrif yn byw yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd a thref Wrecsam.

O ganlyniad i ddiddymu ei gefnogaeth ariannol, dechreuodd Mustafa weithio er mwyn ennill bywoliaeth, fel miloedd o geiswyr lloches eraill. Yn ôl un llygad-dyst roedd y cyrch a gynhaliwyd gan y swyddogion mewnfudo yn gwbl ddramatig – fel fersiwn sinistr o’r ffilm Carry-On.

Ar 9 Gorffennaf, mynychodd criw bychan brotest i fynnu cyfiawnder i Mustafa a drefnwyd gan SOAS Detainee Support. Ond yng Nghymru, ac eithrio gwleidyddion Plaid Cymru, ni chafwyd na siw na miw am Mustafa nac ychwaith yr amodau erchyll a arweiniodd at ei farwolaeth annhymig. Hynny er ei fod wedi marw dan amgylchiadau amheus, er ei fod yn geisiwr lloches ifanc mewn sefyllfa fregus iawn, ac wedi ffoi o’i gartref oherwydd rhyfel. Peth peryglus yw anghofio nad oes neb yn anghyfreithlon.

Yr amgylchiadau creulon a grëwyd gan y wladwriaeth Brydeinig sy'n gyfrifol am farwolaeth Mustafa Dawood. Mae ein tawelwch ninnau yn adrodd cyfrolau.


Mae Fflur Arwel @FflurGwen yn gyd-gadeirydd Plaid Ifanc.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Teyrnged

 


A’i gorff yn chwys dan ofn ac mewn moment o banig, gollyngodd Mustafa ei offer gwaith a rhedodd

Dyddiad cyhoeddi: 30·08·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…