Dadansoddi

Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop

Gwersi ar gyfer heddiw

Dafydd Wigley

Amser darllen: 12 munud

05·04·2024

Darlith a draddodwyd yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, ar 11 Awst 2023, ar wahoddiad Prifysgol Abertawe a than nawdd Cymdeithas Hanes Uwch Gwyrfai.

*

Bydd y blynyddoedd nesaf yn allweddol wrth ddatblygu model o annibyniaeth i Gymru sy'n berthnasol i'r byd sydd ohoni. Yn sgil Brexit, mae angen i Gymru warchod ei chysylltiad â chyfandir Ewrop – tarddle ein gwerthoedd a'n gwareiddiad, a chyd-destun i annibyniaeth ymarferol i'n gwlad. Credaf fod y weledigaeth o Gymru yn Ewrop a amlinellwyd gyntaf gan Saunders Lewis yn fwy perthnasol heddiw nag erioed o'r blaen.  

Ganwyd Saunders Lewis yn 1893 yn Wallasey, ger Lerpwl, yn fab i weinidog Methodist. Wn i ddim pa oedran ydoedd yn dechrau ymddiddori yn niwylliant ein cyfandir, ond erbyn 1912 roedd yn astudio’r Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl; a daeth hynny’n fanteisiol ar ôl iddo, fel cynifer o’i gyd-fyfyrwyr, listio yn y fyddin yn 1914. Erbyn 1916 roedd yn disgrifio ei fywyd yn ymladd yn y ffosydd, ond yn byw – wedi ei 'bilitio' – mewn pentref Ffrengig bymtheng milltir tu cefn i faes y gad. Mewn llythyrau at ei gariad, Margaret Gilcriest, disgrifiodd y gwmnïaeth a gafodd drwy gymdeithasu â thrigolion Ffrengig y fro gan gyfleu hynny fel profiad llawer mwy derbyniol na chwmnïaeth macho-gwrywaidd ei gyd-filwyr. Ysgrifennodd (rwyf yn ei gyfieithu): ‘Mae pobl Ffrainc yn hyfryd; maent mor agored, a hoffaf yr agosatrwydd sy’n nodweddu eu bywydau.’ Roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r gwmnïaeth a geid yn y ffosydd. 

O’i ddyddiau cynnar fel arweinydd y Blaid Genedlaethol, roedd Saunders Lewis yn gosod ei ddaliadau gwleidyddol yng nghyd-destun Ewrop. Gwnaed hyn yn fwyaf eglur yn ysgol haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1926, yn ei ddarlith nodedig sy'n dwyn y teitl ‘Egwyddorion Cenedlaetholdeb’:

Yn yr oesoedd canol yn Ewrop, nid oedd unrhyw wlad yn [...] hawlio mai ei llywodraeth hi, o fewn ei therfynau ei hun, oedd yn ben ac yn unig awdurdod. Fe gydnabyddai pob cenedl a phob brenin bod awdurdod uwch nag awdurdod gwlad, bod deddf goruwch deddf y brenin, a bod llys y gellid apelio ati oddiwrth bob llys gwladol.

Deilliai'r awdurdod hwnnw o awdurdod moesol Cristnogaeth. Yr Eglwys Gristnogol oedd pennaeth Ewrop a deddf yr eglwys oedd yr unig ddeddf derfynol. Fel y dywedodd Saunders Lewis, yr oedd Ewrop, am gyfnod, yn un; roedd pob rhan ohoni’n cydnabod ei dibyniaeth, roedd pob gwlad yn derbyn nad oedd â'r hawl i’w llywodraethu ei hun fel y mynnai heb falio am wledydd eraill:

Ac unoliaeth Ewrop yn y cyfnod hwnnw, ei hunoliaeth mewn egwyddor foesol a than un ddeddf, oedd diogelwch diwylliant pob gwlad a bro. Canys un o syniadau dyfnaf yr Oesoedd Canol, syniad a etifeddodd Cristnogaeth oddiwrth y Groegiaid, oedd y syniad bod unoliaeth yn cynnwys lluosogrwydd. Un ddeddf ac un gwareiddiad a oedd drwy Ewrop ond yr oedd i’r ddeddf honno a’r gwareiddiad hwnnw, wahanol ffurfiau a llawer lliw.

Oblegid bod un ddeddf ac un awdurdod drwy Ewrop, yr oedd y gwareiddiad Cymreig yn ddiogel, a’r iaith Gymraeg a’r dulliau neilltuol Cymreig mewn cymdeithas a bywyd. Nid oedd y syniad am annibyniaeth yn bod yn Ewrop, na’r syniad am genedlaetholdeb. Ac felly ni feddylid bod gwareiddiad un rhan yn berygl i wareiddiad rhan arall, nac ieithoedd lawer yn elyn i unoliaeth.

Aeth Saunders Lewis ymlaen i ddisgrifio tasg Plaid Genedlaethol Cymru fel brwydr, nid dros annibyniaeth i Gymru, ond dros ei gwareiddiad: 'Mynnwn felly, nid annibyniaeth, eithr rhyddid. Ac ystyr rhyddid yn y mater hwn yw cyfrifoldeb.'

Nid wyf am hollti blew ynghylch y gair 'annibyniaeth'. Gall olygu cymaint o amrywiol bethau i wahanol bobl. Ystyr annibyniaeth i UKIP oedd gadael Undeb Ewrop; ei ystyr i’r SNP ydi cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd Saunders ei hun yn ei araith yn Ysgol Haf Llanwrtyd, 1930: 'Fe awn i’r Senedd [...] i ddatguddio i Gymru sut y mae’n rhaid gweithredu er mwyn ennill Annibyniaeth.' Y syniadaeth ehangach sy’n bwysig; ac yn hyn o beth, doedd dim dryswch, dim amheuaeth, lle safai Saunders Lewis, sef hawlio i Gymru 'ei lle yn seiat Ewrop yn rhinwedd gwerth ei gwareiddiad'.

Wrth chwarae rhan gyflawn ym mywyd Ewrop, caiff gwledydd bychain gyfle i ddatblygu eu diwylliant a'u bywyd economaidd eu hunain ymhellach. Bu hyn yn amlwg yng nghyfnod cynnar arweinyddiaeth Saunders Lewis o'r mudiad cenedlaethol. Er enghraifft, yn erthygl olygyddol rhifyn Awst 1929 Y Ddraig Goch, 'Yma a thraw yn Ewrop: y lleiafrifoedd yn deffro', nododd ddeffroad cenedlaethol yn Fflandrys, Catalunya, Malta, a Llydaw a gofynnir ganddo: 'Beth a brawf hyn oll? Prawf fod lleiafrifoedd Ewrop, y gwledydd bychain a lyncwyd gan rai mwy yng nghyfnodau gormes a chanoli llywodraeth, bellach yn deffro ym mhob rhan o’n cyfandir ni ac yn dwyn ysbryd a delfryd newydd i wleidyddiaeth Ewrop.' Aiff ymlaen i ddatgan:

Arbenigrwydd a nerth Ewrop, o’i chymharu hi ag America, yw amrywiaeth gyfoethog ei gwareiddiad hi. Yr athrawiaeth Ewropeaidd hon hefyd sy’n cymell arweinwyr ar y cyfandir [...] sydd yn ceisio arwain Ewrop yn ôl o fateroliaeth ymerodrol, o gystadleuaeth gibddall y galluoedd canolog mawrion, i wleidyddiaeth newydd, gwleidyddiaeth sydd wedi ei sylfaenu ar ddyfnach deall o wir natur a gwerth gwareiddiad y gorllewin.

Mae Saunders Lewis hefyd yn gweld ymreolaeth Cymru fel rhan o’r gwaith o sefydlu gwell trefn ryngwladol, trefn a geisiai ddatrys anghydfod drwy ddulliau heddychlon, nid trwy ymladd y rhyfel gwaedlyd a welodd yntau yn ffosydd Ffrainc. Mae ei agwedd yn cyd-fynd ag ysbryd y ddeiseb heddwch fawr a gasglwyd gan Ferched Cymru yn 1923, oedd yn ymwneud â’r union bwynt – gan apelio ar America i gefnogi Seiat y Cenhedloedd fel sylfaen hanfodol i adeiladu heddwch. Mae'r pwyslais hwn ar ddatblygu cyfundrefnau rhyngwladol – a’i rybuddion cyson na fynnai Lloegr fod yn rhan o’r fath drefn – yn gefndir i wleidyddiaeth Gwynfor Evans, ac i safiad Adam Price maes o law yn erbyn rhyfel Irac. 

Yng nghyd-destun Prydain, mae gan Gymru brofiad arbennig, ac felly gyfrifoldeb penodol, i ddatblygu ei chwrs fel cenedl yn Ewrop. Fel y dywedodd Saunders Lewis yn 1926, 'Y Cymry yw’r unig genedl ym Mhrydain a fu’n rhan o Ymerodraeth Rufain […] Fe all Cymru ddeall Ewrop canys y mae hi’n un o’r teulu.' Ysgrifennodd Patricia Elton Mayo yn ei llyfr The Roots of Identity (1974), 'Fel awdur a dramodydd adnabyddus ar y cyfandir ond dieithr i Loegr, pwysleisiai Saunders Lewis y cyd-destun Ewropeaidd sydd i ddiwylliant Cymru, ffactor gwbl amlwg [...] cyn i oresgyniad Cymru gan Loegr ei hynysu oddi wrth brif ffrwd datblygiad diwylliannol Ewropeaidd.'

O'i chymharu â Chymru, bu Lloegr yn amharod i dderbyn ei lle yn Ewrop, ac o ran hynny mewn materion rhyngwladol ehangach. Yn 1927, gallai Saunders Lewis gyfeirio at araith Gweinidog Tramor Prydain, Syr Austen Chamberlain mewn cyfarfod o Seiat y Cenhedloedd, sef yr hen League of Nations. Ebe ef: ‘Y mae Lloegr yn perthyn i undeb gwledydd sy’n hŷn na Seiat y Cenhedloedd, sef Ymerodraeth Prydain ac os daw gwrthdrawiad rhwng y Seiat a’r Ymerodraeth, rhaid yw i ni bledio’r Ymerodraeth yn erbyn y Seiat.' Meddai Saunders Lewis eto: 

Pan ddywedodd Chamberlain hynny, llefarodd dros Loegr, nid dros blaid […] Yn awr, yn rhinwedd yr egwyddor hon, y mae Lloegr – ysywaeth, rhaid i ni ddweud y mae Prydain Fawr – er ei bod yn naturiol ac yn ddaearyddol ac o ran yn hanesyddol, yn perthyn i Ewrop ac yn angenrheidiol i Ewrop – eto yn gwadu ei pherthynas a’i chyfrifoldeb ac yn gadael Ewrop heddiw, megis yn 1914 a chynt, yn ansicr am ei pholisi.

Onid yw'n anhygoel y gallem ddweud hyn eto heddiw? O beidio â dysgu gwersi hanes, ailadroddwn yr un camgymeriadau. Y tro diwethaf at Ffasgiaeth yr arweiniodd hynny, ac at ryfel 1939. Dyn a’n gwaredo rhag gorfod ailbrofi’r wers waedlyd honno. 

Aiff Saunders ymlaen gyda’r datganiad allweddol canlynol, a wnaeth lawer i liwio fy naliadau gwleidyddol innau:

Dwyn Undeb politicaidd ac economaidd i Ewrop yw un o anghenion cyntaf ein canrif ni. Gwelir hynny yn glir gan wledydd bychain Ewrop, ac er mwyn sicrhau hynny y lluniwyd ganddynt y Protocol sy’n rhwymo gwledydd i setlo dadleuon drwy gyf-lafaredd,a deddf, ac yn galw ar yr holl wledydd eraill i ymuno i gosbi unrhyw wlad a dorro eu hymrwymiad. Er mwyn hynny hefyd, y myn y cenhedloedd bychain rwymo pob gwlad i ardystio i Ystatud Llys Sefydlog Barn Gydwladol. [Yr] [a]mcan […] yw cael gan y gwledydd dderbyn barn y Llys yn derfyn ar ddadleuon rhyngddynt a thrwy hynny arbed rhyfel.

Fe wrthoda Lloegr […] oherwydd, a hithau’n rhan o Ymerodraeth sydd bron yn gwbl tu allan i Ewrop, ni fyn hi rwymo ei hun i Ewrop. Gwrthoda am na all y Llywodraeth sicrhau, pe byddai barn y llys yn anffafriol i Brydain, y gellid ei ddwyn i ddeddf drwy Senedd Prydain; ac yn ail oblegid bod yr Ymerodraeth yn ddigon eang a chryf i fedru amddiffyn ei hawliau heb bwyso ar lys barn.

Mae hanes wedi ailadrodd ei hun yn ystod y saith mlynedd diwethaf ar wedd gelyniaeth cefnogwyr Brexit tuag at Lys Cyfiawnder Ewrop. Dyma hanfod y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth Lloegr; ac oherwydd bod y Blaid Lafur Gymreig yn mynnu clymu ei hun â’r Blaid Lafur Seisnig, mae’n methu â datblygu athroniaeth a rhaglen wleidyddol ar sail ein gwerthoedd cenedlaethol fel sylfaen i’w pholisïau o fewn Senedd Cymru.

Ac ar hyn, dof yn ôl at gwestiwn 'annibyniaeth'. Yn y 1920au, gwrthododd pleidiau Llundain rannu grym â sefydliadau rhyngwladol er mwyn gwarchod eu hannibyniaeth. Dyna oedd ystyr annibyniaeth pan sefydlwyd Plaid Cymru; a dyna paham roedd Gwynfor Evans yn ysgrifennu yn y chwedegau, 'Datganwyd [gan Blaid Cymru] o’i chychwyn mai rhyddid, nid annibyniaeth, yw ei nod.' Roedd hyn oherwydd ymrwymiad y Blaid i alluogi Cymru i chwarae ei rhan mewn sefydliadau rhyngwladol, megis Cynghrair y Cenhedloedd; ac wedi’r rhyfel, y Cenhedloedd Unedig; ac yn ddiweddarach, yn Undeb Ewrop. 

Dim ond ar droad y ganrif, pan ailddiffiniwyd telerau aelodaeth Undeb Ewrop i ddatgan fod aelodaeth o’r Undeb ar agor i 'wladwriaethau annibynnol', y newidiodd y Blaid ei pholisi i arddel annibyniaeth. Pleidleisiais innau dros hynny, gan dderbyn mai’r peth cyntaf a ddigwydd i wlad sy’n dod yn rhan o Undeb Ewrop ydi ei bod hi’n aberthu rhan o’i hannibyniaeth. Byddai Saunders Lewis, rydw i’n sicr, yn llawenhau fod Cymru'n arddel hyn fel nod.

Doedd Saunders Lewis, wrth gwrs, ddim yn Farcsydd. Roedd yn feirniadol iawn o Gomiwnyddiaeth Sofietaidd, ac o ganlyniad yn ennyn gwg y Cymry – a Saeson – oedd yn sylfaenu eu gwleidyddiaeth ar ddadansoddiad Marcsaidd. Ond wrth ddatgan nad oedd yn ddilynydd i Karl Marx, nid yw hynny'n ei wneud yn gyfalafwr; nid dewis beinari Rhodd Mam ydi ystod y dewis yn y sbectrwm gwleidyddol. Gwnaeth Saunders Lewis yn gwbl glir, ym mhennod gyntaf Canlyn Arthur (1938) ei elyniaeth tuag at gyfalafiaeth ryngwladol: 'Dyweder yma ar unwaith ac yn bendant, mai cyfalafiaeth yw un o elynion pennaf cenedlaetholdeb.' Ac mewn ysgrif yn 1932 dywed: 'I’r cenedlaetholwr Cymreig, y mae’r Undebau Llafur yn sefydliadau amhrisiadwy, gwerthfawr a bendithiol ac y mae eu parhad a’u llwyddiant yn hanfodol er mwyn sefydlu yng Nghymru y math o gymdeithas yr amcanwn ato.' Felly rwy'n gwadu yn ddi-flewyn-ar-dafod yr honiadau bod Saunders Lewis ar yr adain dde wleidyddol.

Diben Cymuned Ewrop, o’r dyddiau cynnar, oedd hyrwyddo masnach rydd ar yr amod ei bod o fewn fframwaith cymdeithasol, ac felly creu telerau cyfartal ar gyfer gweithwyr y gwahanol wledydd, yn hytrach na’u gadael ar drugaredd y farchnad. 

Doedd llawer ym Mhrydain ddim wedi dechrau dirnad hyn yn 1975, adeg y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r 'Farchnad Gyffredin'. Felly, roedd yr adain dde fasnachol Seisnig yn ysu am aelodaeth o’r gyfundrefn newydd ble gallent, yn eu tyb hwy, greu mwy fyth o elw preifat. Mewn gwrthgyferbyniad, fe ymatebodd y chwith Seisnig drwy wrthwynebu aelodaeth o’r Farchnad Gyffredin. Ond roedd y chwith a'r dde ill dau wedi camddeall y weledigaeth Ewropeaidd, sef yr uchelgais o greu Ewrop gymdeithasol llawn cymaint â’r Ewrop economaidd: y 'Social Europe' a ddaeth yn rhan hanfodol o’r frwydr dros y bennod gymdeithasol o fewn cyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd. A phan ganfu Margaret Thatcher a’i chriw fod oblygiadau gwaraidd o’r fath yn rhan o’r weledigaeth, bu iddynt yn fuan iawn gamu yn ôl. Dyna pam y gwelwyd, erbyn Brexit, lawer ar adain dde Lloegr yn ffyrnig yn erbyn Undeb Ewrop; ac elfennau blaengar y chwith o’i phlaid.

Byddai’n wirion i mi honni fy mod i’n cytuno â phob gair a ddeilliodd o enau Saunders Lewis. Yn amlwg, roedd rhai pethau a oedd, efallai, yn gredadwy yn eu cyfnod ond sy’n ymddangos yn hurt, braidd, heddiw. Er hynny, erys prif ffrwd ei weledigaeth yn gwbl berthnasol.

Erthygl arall yn y gyfrol Canlyn Arthur â thrywydd Ewropeaidd iddi yw’r un ar Tomáš Masaryk ac adfywiad cenedlaethol Bohemia; ac mae hyn yn ateb i rai beirniaid sy’n edliw mai dim ond diddordeb yn y gwledydd bach Celtaidd oedd gan Blaid Cymru bryd hynny. Masaryk lwyddodd i osod sylfaen i‘r weriniaeth Tsiec sydd bellach yn wlad annibynnol. Pwysleisiai Masaryk, fel Saunders Lewis, rôl diwylliant fel un o hanfodion y gymuned genedlaethol; ac fel Saunders Lewis, roedd yn gweld ei wlad o fewn fframwaith Ewropeaidd ac o fewn delfrydau Ewrop. 

Yn ei gyfraniad pwysig i’r gyfrol Presenting Saunders Lewis mae Dafydd Glyn Jones, wrth ysgrifennu am 'Aspects of his work: his politics', yn nodi:

Trwy gydol y gyfrol, mae Canlyn Arthur yn rhagdybio mai’r genedl yw’r ffurf naturiol ar gymdeithas yn Ewrop a sylfaen gwareiddiad y Gorllewin [...] Ac mae’r gyfranogaeth honno yn anhepgor os oes unrhyw ystyr i hunanlywodraeth [...] Mae Senedd Gymreig yn anhepgor nid er mwyn galluogi Cymru i ymgilio i hunanddibyniaeth, ond er mwyn iddi adennill ei chysylltiad ag Ewrop.  

Mae chwarae rhan o'r newydd ym mywyd Ewrop yn hanfodol i Gymru er mwyn datblygu yn genedl ffyniannus, hyderus, gyda'i hunaniaeth gref ei hun. Mae'r nod yma lawn mor bwysig yn awr ag yr oedd yn y dyddiau pan ddatblygodd Saunders Lewis ei weledigaeth dreiddgar o Gymru yn Ewrop.

Yng nghyd-destun Prydain, mae gan Gymru brofiad arbennig, ac felly gyfrifoldeb penodol, i ddatblygu ei chwrs fel cenedl yn Ewrop

Pynciau:

#Saunders Lewis
#Ewrop
#Plaid Cymru
#Gwleidyddiaeth
#Brexit