Dadansoddi

Gwleidyddiaeth cofio

Pum peth ar fy meddwl


Angharad Closs Stephens

Amser darllen: 7 munud

11·09·2019

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag arwydd ‘Yes Cymru’ ar ei bwys; un arall â siâp calon; un arall eto ar wal swyddfa Aelod Cynulliad; ac un gyda neges o gefnogaeth i Imam Sim oedd ar streic newyn yng Nghasnewydd i gefnogi achos arweinydd y Cwrdiaid.

Mae'r arwyddion (teyrngedau?) hyn nid yn unig yn mynegi gwahanol ystyron ond hefyd, mae'n amlwg, yn cyfleu llawer mwy na phrofiadau byw y rheini a symudwyd yn orfodol o'u cartrefi er mwyn boddi'r cwm i gyflenwi dŵr i Lerpwl a'r Wirral – profiadau a ddisgrifir yn stori fer hyfryd Francesca Rhydderch am Tryweryn yn Protest: Stories of Resistance (2017), yn y ffilm Tryweryn, the Story of a Valley (1969) sydd ar gael ar sianel YouTube y British Film Institute, ac a drafodwyd yn sensitif yn rhaglen deledu Huw Stephens, Cofiwch Dryweryn, ym mis Awst. 

Mae deunydd ar fanylion y penderfyniadau a arweiniodd at foddi’r cwm yn 1965, ynghyd â’r ymgyrchu o ddiwedd yr 1950au ymlaen, ar gael bellach yn Archif Wleidyddol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal ag yn arddangosfa newydd ‘Cymru’ yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Yn hytrach nag edrych yn ôl ar y foment hanesyddol, rwyf wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am wleidyddiaeth cofio, a’r syniadau sydd ar waith fel rhan o’r ymgyrch hon. Beth yn union ydyn ni’n cofio wrth gofio Tryweryn?  


Y wal a'r camera diogelwch, Ebrill 2019 (Llun: Angharad Closs Stephens)
 

1.

Efallai mai’r pwynt mwyaf blaenllaw yn fy meddwl yw ei bod hi’n anodd dweud unrhywbeth am yr ymgyrch hon. Mae’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach yn symbol – nid ydynt yn gofyn am eglurhad pellach. Mae paentio a rhannu’r symbol yn ddatganiad bod rhywun yn perthyn. 

Euthum ati'n ddiweddar i ddarllen gwaith Emile Durkheim (1858-1917) sydd wedi trafod yn ei waith y teimlad o berthyn i grŵp, i gymuned neu genedl. Magwyd Durkheim mewn teulu Iddewig yn Ffrainc ac ysgrifennodd yn helaeth ar grefydd, er mai byw bywyd seciwlar a wnaeth. Ymddiddorai yn benodol yn y cwestiwn sut mae casgliad o bobl yn dod i gredu rhywbeth gyda’i gilydd, a thrwy hynny, yn magu’r gred eu bod – gyda'i gilydd – yn rhan o rywbeth arbennig. Dyma wnaeth ennyn ei ddiddordeb mewn crefydd, ond ysgrifennai hefyd am y gred mewn cenedlaetholdeb yn ogystal â chred mewn gwyddoniaeth. 

Disgrifiodd y profiad hwn o gredu fel ‘angerdd argyhoeddiad cyffredin’. Ac yn ddiddorol, dadleuodd mai canlyniad ‘cred’ a rennir gan nifer o bobl, ac sydd felly’n magu egni, yw ei bod hi’n mynd yn gynyddol anodd i herio'r gred honno. Fel y dywed yn ei waith ar sylfeini bywyd crefyddol, Les formes élémentaires de la vie religieuse, a gyhoeddwyd yn 1912:  

Mae cymdeithas yn gwneud rhai pethau – a rhai syniadau – yn gysegredig. Pan fo cred yn cael ei rhannu gan bobl, mae cwestiynu neu wadu’r gred honno yn waharddedig. Mae hyn yn profi ein bod ni ym mhresenoldeb rhywbeth cysegredig – rhywbeth sydd y tu hwnt i feirniadaeth. 

Prin y darllenir Durkheim heddiw fel disgrifiwr neu fardd cymdeithas: adnabyddir ef gan mwyaf fel rhywun a oedd am sefydlu damcaniaethau gwyddonol a allasai egluro rhinweddau cymdeithas. Mae gen i fwy o ddiddordeb ynddo fel disgrifiwr, ac fel rhywun a fu’n byw drwy’r twf mewn propaganda cenedlaetholgar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac a'i cafodd yn gynyddol anos arddel cenedlgarwch mwy amwys neu gofalus yn wyneb y cenedlaetholdebau caled a’i hamgylchynai. Profodd grebachu'r gofodau oedd ar gael i ofyn cwestiynau, wrth i’r gred yn y genedl dyfu'n fwyfwy swnllyd.     

2.

Ar drên rhwng Abertawe a Chaerdydd yn ddiweddar, roeddwn i’n eistedd ar fwrdd gyda dau ddyn oedd yn ddieithr i’w gilydd. Roedd un yn ymddangos fel myfyriwr ifanc a’r llall yn ddyn hŷn. Trwy glustfeinio ar eu sgwrs, dysgais fod y dyn ifanc o Korea ac nad oedd wedi byw yma'n hir. Roedd y ddau wedi bod yn siarad cyn i mi ymuno â nhw a theimlais fy hun yn cael fy nhynnu i wrando ar foment dyner. Roedd y bachgen ifanc yn sôn wrth y gŵr hŷn am ba mor anodd oedd hi i setlo: mae bwyd Prydeinig yn erchyll meddai, a dwi’n cael trafferth cael gafael ar fwyd Koreaidd a Tsieineaidd. Gwrandawais â diddordeb cynyddol wrth i’r gŵr hŷn ddweud wrtho am groser sy’n mynd â fan o gynnyrch Koreaidd o Lundain i Ben-y-bont unwaith y mis. Diolchodd y bachgen ifanc iddo. Aeth y gŵr ymlaen i ofyn lle'r oedd y bachgen yn byw, ac os oedd cwmni ganddo yn ei fflat newydd. Oes, dwi’n rhannu llety, meddai’r bachgen ifanc, ond nid yw fy nghyd-letywr yn hoff o fwyd Tsieineaidd. Dywedodd unwaith eto bod bwyd Prydeinig yn troi ei stumog. Dwi’n deall yn iawn meddai’r gŵr hŷn. Ac yna dywedodd: pan ddaeth fy wyrion i draw o Korea i Gymru am y tro cyntaf a gorfod mynd i’r ysgol yma, roedden nhw hefyd yn methu’n lân â bwyta’r prydau ysgol. Ond fe ddaethant i arfer, meddai. 

Ymddangosai'r dyn hŷn hwn fel rhywun oedd yn deall y gwaith anodd, unig, ond hefyd cyffrous, o ganfod ein hunain fel lleiafrif mewn gwlad newydd a gorfod dysgu ffyrdd newydd o fyw. Wrth wrando ar eu sgwrs a phori yn fy ffôn, bob yn hyn a hyn goleuai datganiad newydd: Cofiwch Dryweryn. 

Sut mae mynd ati i ddeall a damcaniaethu ynghylch beth yw bod yn lleiafrif yng Nghymru heddiw? Mae Cymraeg yn iaith fechan o ran nifer ei siaradwyr, ac yn iaith sy’n rhan o brofiad gwrthdrefedigaethol. Ond mae hi hefyd yn iaith llywodraeth a llywodraethiant: iaith a ddefnyddir i werthu pethau i ni; i reoli, i fesur, i fonitro ac i'n hasesu; fe’i defnyddir gennym hefyd i werthu ein hunain – ar wefannau cymdeithasol ac ar CV, ynghyd ag ar raglenni teledu i fesur colli pwysau neu i hybu ymarfer corff. Efallai bod angen gwahaniaethu felly rhwng lleiafrif fel mater o niferoedd a’r profiad o fod yn lleiafrif (rhywbeth mwy amwys, cymhleth, ac sy’n gofyn i ni ymdrin â chwlwm o ffactorau). 

Wrth wrando ar y foment dyner hon rhwng dau ddieithryn, canfyddais fy hun yn ystyried pa bobloedd sydd yn cael eu cynrychioli a’u dychmygu fel dinasyddion Cymru heddiw fel rhan o’r ymgyrch hon? Pa Gymry sy’n cael eu ‘deffro’ a beth mae hyn yn ei olygu ar lefel bywyd bob dydd? A oes modd i’r ymgyrch hon – yn ddiarwybod efallai – sefydlu’r syniad bod rhai ohonom yn fwy Cymreig na’n gilydd, neu â mwy o hawl i ddinasyddiaeth nag eraill? 

3.

Mae’r mwyafrif o’r trafodaethau rwyf wedi eu dilyn am y slogan gwreiddiol ar gyrion Llanrhystud yng Ngheredigion yn gytûn y byddai’n rhyfedd iawn gosod ffens o'i amgylch, neu ei symud i amgueddfa fel Sain Ffagan. Slogan ydyw wedi'r cyfan, wedi ei lunio er mwyn bod yn rhan o dirwedd bob dydd; byddai ei dynnu o'i gyd-destun yn chwalu’r bwriad gwreiddiol. Ond er trwch y cytundeb ar y pwynt hwn, ar y cyfan, croesawyd y ffaith bod camera diogelwch bellach yn goruchwylio’r wal. Ar yr un pryd, gwyddom fel dinasyddion Ewropeaidd mai nod hanesyddol camerâu diogelwch yw rheoli, nid gwarchod, lleiafrifoedd. 

4. 

Mae pob cenedl angen ei hatgofion. Rydym yn cofio rhai hanesion, dyddiadau a digwyddiadau fwy nag eraill, ac fel ag a welwn yng nghyd-destun adeiladu cofgolofn i fenyw am y tro cyntaf yng Nghymru, mae’r gwaith o gofio ynghlwm wrth y gwaith o sefydlu ac arddel hunaniaeth. Dyma pam y gofynnodd Huw L Williams o Brifysgol Caerdydd wrth ymateb i'r rhediadau o drydariadau yn ein hannog i arddel y slogan 'Cofiwch Dryweryn': 'Beth am yr holl farwolaethau yn y pyllau glo?' Mewn ffordd, mae’r gwaith o arddel, o gofio ac o ddysgu am rai digwyddiadau yn rhywbeth gwahanol i ymdriniaeth ddifrifol â’r digwyddiad ei hun. 

Yn y cyd-destun hwn, mae’n ddiddorol meddwl ymhellach am y symbol o ‘ddŵr’ ar waith yn yr ymgyrch ac wrth gofio Tryweryn. Mae’n symbol pwerus, ac mae hefyd yn caniatáu cyplysu'r cofio â syniadau am ‘lif’, ‘mewnlifiad’, ‘llifogydd’, ‘boddi': syniadau am y ddinas yn erbyn cefn gwlad, am fyd cyfalaf yn erbyn byd natur. Ond fel y dadleuir gan y rheini sy’n trafod pynciau mudo, mae trafod symudiad pobloedd yn nhermau llif neu llifiant yn bell o fod yn niwtral. Mae'n atgyfnerthu’r syniad bod cenhedloedd yn bethau llonydd, tra mewn gwirionedd, mae pobl a phobloedd wastad wedi symud.

Wrth rygnu yn erbyn y ffocws mewnol, mae'n deg gofyn: beth am drychineb argae Brumadinho ger Belo Horizonte ym Mrasil fis Ionawr eleni, pan ryddhawyd llif anferth o fwd, gan ladd 232 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn weithwyr yn eistedd yn y cantîn yn bwyta eu cinio? Neu'r llifogydd yn Mozambique, Malawi a Zimbabwe ym mis Mawrth eleni, sydd wedi gadael 1.85 miliwn o bobl, yn Mozambique o leiaf, mewn angen? Wrth gwrs, mae'n annigonol cymharu rhifau gan fod pob colled yn golled unigol. Pa fath o ddychymyg daearyddol fyddai’n caniatáu i ni gofio Tryweryn a chofio achosion eraill o foddi ar draws y byd, a hynny ar yr un pryd?  

5. 

Wrth ystyried ymgyrch 'Cofiwch Dryweryn', yr hyn sydd yn fy nharo yw pwysigrwydd ystyried a thrafod y modd rydym yn siarad am ein hunain. Beth yn union sy’n cael ei ddatgan pan rydym yn datgan 'Cofiwch Dryweryn'? Pwy sy’n gwneud y datganiad hwn? Pa ddelweddau sy’n dod i’r meddwl wrth i ni ddweud ein bod yn cofio Tryweryn? 

Wrth drafod y symbolau o’r Ail Ryfel Byd ar waith mewn cenedlaetholdeb Prydeinig, dywed y cymdeithasegydd Paul Gilroy bod y cysyniad o’r ‘Blitz’ yn cyfleu darlun o Lundain wen ac nid Llundain gymysg ei lliw'r 1940au. Mae'n dadlau bod y cysyniad o’r ‘Blitz’, sy’n rhywbeth gwahanol i hanes y Blitz ei hun, yn symbol cyfleus felly wrth danio syniadau hiliol am ‘ni’ a ‘nhw’, yn ogystal â syniadau am gymuned o bobl wen dan warchae. Ysgrifennodd yn After Empire (2004) am y modd mae sloganau am y rhyfel yn ymddangos mewn mannau annisgwyl, gan gynnwys ar feysydd chwaraeon. Cyflwyna ddadl bwysig am yr hiliaeth sydd yn rhan annatod o syniadaeth cenedlaetholdeb Prydeinig. Ond mae gen i ddiddordeb mewn cwestiwn pellach ganddo: i ba raddau mae pobl yn cael eu denu at syniadaeth a sicrwydd 'hil' oherwydd eu profiad o'r byd fel lle cynyddol gymhleth ac ansad? 

Wrth gwrs, mae cyd-destun cenedlaetholdeb Cymreig yn wahanol i genedlaetholdeb Prydeinig. Ar y llaw arall, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn ddiweddar, nid yw Cymru wedi ei hynysu rhag y rhagfarnau a’r casineb sydd mor gyffredin ar hyn o bryd, yn enwedig casineb at leiafrifoedd ethnig a merched. I ba raddau y gallwn ni ddweud yn hyderus nad yw ein sloganau ni yn cyffwrdd â gwleidyddiaeth poblyddiaeth ehangach? 

Mae ystyried dinasyddiaeth fel mecanwaith, fel rhywbeth sydd yn cael ei roi ar waith, yn gymorth i ni feddwl ymhellach am ein rhan ninnau yn atgynhyrchu syniadau am hunaniaeth, dinasyddiaeth a ‘ni a ‘nhw’ yn ein bywyd bob dydd – drwy ein hymwneud â’n ffrindiau, yn y gwaith, neu wrth sgwrsio ar iard yr ysgol. Efallai bod hyn, yn ei hun, yn fodd gwahanol o gofio.


Angharad Closs Stephens yw awdur The Persistence of Nationalism: from imagined communities to urban encounters (Routledge, 2013). Mae hi'n Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Pa ddelweddau sy’n dod i’r meddwl wrth i ni ddweud ein bod yn cofio Tryweryn?

Dyddiad cyhoeddi: 11·09·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…