Dewi Z Phillips


Ffiniau

Y Lolfa, 352tt, £19.95, 2008

Colofnau

Socrates ar y stryd


Huw L Williams

Amser darllen: 4 munud

24·07·2016

Caniatáu i Socrates 'gerdded yn ein plith’, dyna oedd anogaeth yr athronydd o Gymro Dewi Z Phillips yn ei waith ôl-argraffedig, Ffiniau (2007). Apêl glir oedd honno ar i’w gyd-wladwyr gynnig lle i athroniaeth nid yn unig yn ein prifysgolion ond hefyd yn ein bywydau beunyddiol. Mae tinc o chwerwder i'w glywed yn ei eiriau gan fod trai eisoes ar ei ddewis alwedigaeth; roedd adrannau athroniaeth Aberystwyth a Bangor wedi cau wrth i’r ddau sefydliad ailstrwythuro yn yr 80au ac, yn ystod ei ddyddiau olaf, cafodd adran lewyrchus Dewi Z yn Abertawe – adran fyd-enwog ar un adeg – ei datgymalu. Roedd o'r farn bod tueddiad cryf yn ein diwylliant i fod yn ddrwgdybus o athroniaeth, ac i fod yn amddiffynnol wrth ei thrafod.

Mae neges Dewi Z yn glir o ystyried y cyd-destun hwn. Ac eto, onid oes iddi elfen o ddryswch hefyd, o gofio'r math o athroniaeth yr oedd Dewi Z ei hun yn ei harddel? Fel y mwyafrif o’i genhedlaeth yn Abertawe, roedd yn dilyn yn ôl traed Ludwig Wittgenstein (dan arweiniad cadarn ei ladmerydd mwyaf disglair, yr Americanwr o dras Gymreig, Rush Rhees). ‘Gedy athroniaeth y cyfan fel y mae’ – dyna oedd arwyddair yr ysgol hon o athronyddu. Nid rôl athroniaeth yw ymyrryd na gosod llwybrau ein bywydau beunyddiol na chynnig egwyddorion sylfaenol – yn hytrach, ei rôl yw dehongli ein gweithgareddau a’n credoau a datgelu eu synnwyr neu eu dryswch. Ac os felly, onid cadw draw o'r strydoedd ddylai Socrates ei wneud?

La mort de Socrate - David

Ar y llaw arall, mae apêl Dewi Z yn ein hatgoffa nad galw ar athroniaeth i ymddihatru'n llwyr o faterion bywyd bob dydd yr oedd Wittgenstein am ei bod hi'n amhosib i athroniaeth beidio ag ymyrryd â'r byd. Gwrthodai'r ymgais i ddatgan egwyddorion gwaelodol ar sail system fetaffisegol hollgwmpasog. Ar yr un pryd, mae’r broses o ddehongli, datgelu ac adnabod dryswch yn ymyrraeth o fath ynddi'i hun – fel y crefyddwr sydd yn darllen gwaith Dewi Z ar natur gweddi ac yn ei deall o’r newydd. Ac ar sail fy mhrofiad personol innau, yn darllen ac yn arwain myfyrwyr i astudio ei ysgrifau, byddwn yn dadlau y gall astudiaeth o’i athroniaeth ar grefydd ennyn cydymdeimlad a dealltwriaeth o’r bywyd crefyddol ymysg anghredinwyr.

Felly, hyd yn oed yn achos y sawl sydd yn gwrthod cri Marx – mai diben athroniaeth yw newid y byd – cydnabyddir potensial y pwnc i ddylanwadu ar ein bywydau: trwy ein hannog i fyfyrio ar ein ffordd o fyw, ein gwerthoedd a’n cymdeithas ac i geisio eu deall a’u gwerthfawrogi. Pwy fyddai am wadu uchelgais o'r fath? Wel, y Cymry, yn ôl Dewi Z. 

Hawdd fyddai bwrw sen ar y diwylliant ac awgrymu bod athroniaeth yn estron rywsut i'n ffordd o feddwl. Mae yna gynsail hanesyddol i hynny gan na lwyddodd athroniaeth i fwrw gwreiddiau dwfn erioed yng Nghymru. Roedd hwyr-ddyfodiad y prifysgolion yn rhwystr, chwedl Walford Gealy, am fod y pwnc wedi bod ynghlwm wrth y prifysgolion ers academi Platon. Ffactor arall honedig yw gafael crefydd a diwinyddiaeth ar y meddwl Cymreig, nad aeth ati i ymgodymu’n fwriadol â dylanwadau athronyddol tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Ai problem o ran delwedd yw hon felly? Rhywbeth i'w wneud â natur datblygiad athroniaeth dros y ganrif ddiwethaf? Y gwir amdani yw nad oes yna gysylltiad amlwg rhwng dirnadaeth Dewi Z o athroniaeth – athroniaeth fel rhan annatod o'r gynhysgaeth gymdeithasol – a natur athroniaeth Eingl-Americanaidd ‘ddadansoddol’, fel y’i harferid gan y brif ffrwd yn ein prifysgolion.  Yn wir, mae rhai athronwyr fel petaent yn ymhyfrydu yn y ffaith nad oes gan athroniaeth swyddogaeth y tu hwnt i’r brifysgol. Mae’n bosib fod hwn yn safbwynt y gellid ei amddiffyn yn achos rhai pynciau mwy astrus a damcaniadol megis ontoleg ac agweddau ar epistemoleg ond, hyd yn oed yn achos y pynciau hynny, mae yna gysylltiadau dyfnion ag elfennau o foeseg y mae iddynt wedd ymarferol amlwg.

Mae trafodaeth fel hon yn mynd â ni at galon y pwnc a’r hyn a ddeallwn fel 'gwir natur athroniaeth' – trafodaeth sydd yn esgor ar wahanol safbwyntiau, a safbwyntiau sydd yn aml yn gwrth-ddweud ei gilydd. Awgrymais droeon bod yna resymau da dros droi, yng Nghymru, at ddealltwriaeth gymharol o athroniaeth, er mwyn deall y maes mewn modd sydd yn fwy ystyrlon i ni – ac mewn modd mwy ymarferol.  Mae’r safbwynt cymharol yn ddadleuol oherwydd ei fod yn awgrymu nad yw athroniaeth yn cychwyn o bwynt Archimedeaidd, y tu hwnt i le ac amser, ond ei fod yn hytrach ynghlwm wrth ddiwylliant a chymuned.  Ac eto, byddai'r rhan fwyaf o'r rheiny sydd yn coleddu’r agwedd honno yn dadlau eu bod yn ceisio cyrraedd cyd-ddealltwriaeth a bod gwybodaeth gyfanfydol yn bosib trwy gyfrwng proses gymharol.

Un dehongliad ymarferol o athroniaeth a ddaw o’r cyd-destun cymharol hwn yw dehongliad yr athronydd ffeministaidd, ddu Kristie Dotson o athroniaeth fel ‘diwylliant ar waith' – yn hytrach na diwylliant academaidd pur. Pwysleisir ganddi fod athroniaeth yn faes sydd yn codi mewn ac sydd ynghlwm â chymuned arbennig, a’r cwestiynau a'r problemau penodol sydd yn tarddu o'r gymuned honno. Egyr hynny, yn ei dro, gil y drws ar ffynonellau y tu hwnt i’r canon cydnabyddedig. Dyma gysylltu athroniaeth yn uniongyrchol felly â’n diwylliant penodol, yn hanesyddol ac yn feunyddiol.   

Ai dyma natur anorfod athroniaeth yn y Gymraeg, felly, fel y dadleua erthygl Steve Edwards yn rhifyn arbennig Gwerddon ar athroniaeth (Ebrill 2016)? Er bod yr arfer wedi dechrau o ddifrif ag athronwyr proffesiynol yn trafod eu gwaith ‘prif ffrwd’ yn y Gymraeg, yn go fuan daeth agwedd amlddisgyblaethol i’r amlwg, trwy wahodd cyfranwyr o feysydd eraill. Mae’r ystod o ddiddordebau sydd i'w gweld yn y cyhoeddiad Efrydiau Athronyddol yn brawf i raddau o 'ddiwylliant ar waith' Dotson – ac mae'r cyfraniadau i'r cyhoeddiad hwnnw yn ymhél â phynciau sydd o ddiddordeb penodol i’r gymuned Gymraeg. 

Dyma draddodiad, ffordd o weithio, y ceisiais gyfrannu ato gyda’r gyfrol Credoau’r Cymry [gweler adolygiad Dafydd Elis-Thomas fan hyn - goln], drwy ymhél â ffigyrau a chysyniadau adnabyddus yn ein hanes fel cenedl, amlygu’r elfennau athronyddol a dangos sut y gellid dadansoddi agweddau o’n hanes deallusol mewn modd athronyddol. Ergyd y gyfrol, rwy’n gobeithio, yw dangos bod athroniaeth yn annog ffordd o feddwl sydd eisoes ynghlwm â'n diwylliant cyfunol; nad rhywbeth dieithr i'r diwylliant hwnnw ydyw a bod gennym bob rheswm i’w harfer. Nid pwnc mohono sydd wedi ei gyfyngu i danseilio neu gwestiynu dilysrwydd ffyrdd eraill o ddadansoddi a mynegi; y mae, yn hytrach, ymhlyg ym mhopeth a wnawn ac yn gallu grymuso a chyfoethogi’r byd deallusol Cymreig. 

Mae hi'n ddiddorol nodi bod cyn-weinidog addysg y llywodraeth Lafur, Huw Lewis, wedi awgrymu y dylid defnyddio athroniaeth i hyrwyddo goddefgarwch a chydymlyniad cymdeithasol yn ein hysgolion. Efallai fod yna gnewyllyn o wirionedd i’r agwedd hon (ond rwy’n amau’n fawr a ddylid gwneud hynny ar draul astudiaethau crefyddol fel yr awgrymir ganddo). Trwy gyd-ddigwyddiad, un o fy mhleserau mwyaf ar hyn o bryd yw cynnal caffi athroniaeth yn Grangetown, gyda grŵp o selogion sydd yn cynnwys Mwslim pybyr, aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth ac anghredinwr o Awstriad. Lle bo awydd i wrando a thrafod, bydd gan athroniaeth y gallu i dynnu pobl ynghyd.

Wedi dweud hynny, ac wrth droi yn ôl at Socrates, roedd yn fwriad pendant ganddo i gwestiynu’r gymdeithas yr oedd yn rhan ohoni, ac i amlygu’r gwrthddywediadau a'r gwendidau a oedd, yn ei farn ef, yn llethu Athen. Nid oes modd osgoi’r agwedd feirniadol sydd ynghlwm ag athroniaeth, sydd yn annog dadorchuddio ffolineb a chwestiynu gwerthoedd yn drwyadl. Mae hwnnw'n arfer y mae angen ei feithrin ar fyrder o gofio natur y drafodaeth gyhoeddus a gafwyd yn arwain at yr etholiad a'r refferendwm yn gynharach eleni. Ffolineb, yn fy marn i, yw hawlio nad yw athroniaeth yn berthnasol i Gymru ac nad oes modd ei dehongli mewn modd cwbl berthnasol i’n bywydau beunyddiol a'n ffordd o fyw. Drwy gyfrwng y golofn hon, edrychaf ymlaen at fynd ag athroniaeth allan i'r stryd. Beth fyddai ymateb Socrates i UKIP?  Beth fyddai gan rai o'n hathronwyr adnabyddus i'w ddweud am natur gwleidyddiaeth ryngwladol gyfoes ac argyfwng y ffoaduriaid sy'n britho traethau Gwlad Groeg? A thybed na all athroniaeth ein cynorthwyo i ddatgelu gwirioneddau am y Gymru gyfoes?

Er gwaetha'r ffydd sydd gennyf yn y pwnc, ac ar ôl tair blynedd mewn swydd sydd yn gofyn am ei siâr o genhadu, nid wyf eto wedi gallu fy narbwyllo fy hun bod Dewi Z yn gwbl anghywir yn ei ddadansoddiad o gyflwr gwrth-athronyddol y Cymry. Cawn weld, am wn i, a fydd yna groeso i Socrates yn ein sefydliadau addysg – heb sôn am ar y stryd!


Mae Huw L Williams yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llun: 'La Mort de Socrate' gan Jacques-Louis David. Eiddo cyhoeddus.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Tybed na all athroniaeth ein cynorthwyo i ddatgelu gwirioneddau am y Gymru gyfoes?

Dyddiad cyhoeddi: 24·07·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…