Llinos a Dylan Rowlands


Bwyd a Gwin

Y Lolfa, 176tt, £14.95, 2013

Tri pheth ar fy meddwl
Colofnau

Tri pheth ar fy meddwl

Ymweld â gwinllannoedd yn Armenia,
Bourgogne a Chymru


Dylan Rowlands

Amser darllen: 3 munud

13·12·2016

1

Wrth jalopian i fyny llethr yn dilyn traciau hen Lada, tyfodd f'amheuon am fy nhaith i winllan Zorah yn Armenia. Ond roedd y profiad yn werth pob munud o'r anturio oer a digon cymhleth ar adegau. Gwelir clytwaith o ogofeydd ar ochrau'r bryniau hyn ble darganfuwyd y cyfarpar gwneud gwin cynharaf mwy na 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Nid yw'n anodd dychmygu'r wlad dlawd hon yn cynhyrchu gwin yng nghyfnod cynnar hanes y ddiod. Mae gwinllan Zorah yn ceisio atgyfodi'r ysbryd hwnnw. Cafodd y gwinwydd yno eu plannu o'r newydd ond hen fath o rawnwin sy'n tyfu arnynt, sef Areni Noir. Mae'r winllan yn driw i ddulliau oes arall: defnyddir crochanau mawr a elwir yn amphorae i aeddfedu’r gwin, sy’n rhoi gwedd wahanol iddo. Mae'r arfer hwn yn deillio o’r dyddiau pan oedd gwin yn cael ei gynhyrchu fel diod ymarferol - am ei fod yn un o'r ychydig ddiodydd diogel i’w hyfed. Taith bell oedd hon i ymchwilio i hanes un math o win. Ac er y pellter, mae yna lawer sy'n cysylltu Armenia gyda Chymru; gwlad fechan fynyddig ydi hi efo golygfeydd eang - a Thwrci'n gymydog mawr a phwerus.
 

2

Taith wahanol iawn oedd yr un i Bourgogne yn Ffrainc, lle mae rhai o winoedd drytaf y byd yn gorwedd yn selerau'r ystadau enwog – fel y Domaine de Romanée Conti. Gall un o'r poteli hyn werthu am hyd at £10,000. Wrth symud o Armenia i Bourgogne, teithiaf ymlaen mewn amser i oes y mynachod – nhw fapiodd y gwinllannoedd gorau gan adnabod gwerth y gwin. Parseli bychain o dir arbennig iawn sy'n nodweddu'r dirwedd yn y fan hon. Dyma syniad y Ffrancwyr o'r terroir, sef pridd, llethr a hinsawdd ‘meicro’ sy'n cyfuno i greu'r amodau perffaith ar gyfer cynhyrchu gwin. Adeiladwyd yr hosbis enwog yn Beaune diolch i roddion gan y cyfoethogion a’r boneddigion a oedd am wneud iawn am eu pechodau ac ennill maddeuant yr eglwys – roedd eu gwin erbyn hynny yn dechrau troi'n ‘gomoditi’ ac roedd yn cael ei gadw ar gyfer haenau uchaf cymdeithas. O ystyried y prisiau, tydi pethau ddim mor wahanol â hynny heddiw.


3

Yn yr unfed ganrif ar hugain, yn ein byd ninnau, mae ambell Gymro a Chymraes yn buddsoddi llawer i wireddu'r freuddwyd o greu gwin o safon. Bu Robb Merchant yn gweithio i’r Swyddfa Bost a'i wraig, Nicola, yn y byd meddygol. Does dim hanes o wneud gwin yn y teulu ac ni fu gwinllan erioed ar y tir lle plannwyd eu gwinwydd. Ond wrth sefydlu gwinllan White Castle, roedd awydd angerddol ganddynt i greu rhywbeth arbennig. Eu Pinot Noir Précoce sy’n gwneud yr argraff fwyaf, a hwnnw wedi ei wneud o'r un grawnwin ag a dyfir yn Bourgogne. Mae’n cymharu’n ffafriol iawn – nid efo'r Domaine de Romanée Conti 'fallai ond pwy a ŵyr sut y datblygith pethau yn y dyfodol, wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd ddod i'r amlwg. Sut, sgwn i, fydd gwerthfawrogwyr gwin y dyfodol yn edrych yn ôl ar arloeswyr Cymru – a chynhyrchwyr gwin White Castle, Ancre Hill, Gwinllan Conwy a’u tebyg?


Dylan Rowlands yw perchennog Gwin Dylanwad yn Nolgellau, ar y cyd â Llinos Rowlands (www.dylanwad.co.uk).

Yn ystod y gaeaf, teithia ar draws Ewrop a thu hwnt er mwyn dod o hyd i winoedd newydd diddorol. Mae'r gyfrol goginio Bwyd a Gwin yn rhoi blas o'r teithiau hyn ac yn cynnig awgrymiadau hefyd ar gyfer gwinoedd i gyd-fynd â'r ryseitiau.

Erthyglau tebyg: Tri pheth ar feddwl Eurig Salisbury a Roger Owen


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae'r arfer yn deillio o’r dyddiau pan oedd gwin yn cael ei gynhyrchu fel diod ymarferol - am ei fod yn un o'r ychydig ddiodydd diogel i’w hyfed

Dyddiad cyhoeddi: 13·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Simon Brooks

Gan Louie y clywais i’r ymadrodd gyntaf. Yn y Ship neu’r Aussie roeddwn i, efo criw Llais Gwynedd fwy na thebyg, yn y dyddiau braf hynny cyn i bethau suro rhyngom ar ôl i mi gefnogi’r ymgeisydd anghywir mewn etholiad ar sail rhywbeth mor…

Cyfansoddi


Manon Steffan Ros

Dyma Mam yn fy ngyrru fi allan bore 'ma am ei bod hi'n ddiwrnod braf, a deud, 'Rhoswch allan nes bod hi'n amser swpar, lle bo' ti dan draed'. A dyma Now ac Edwin a finna'n mynd lawr i chwaral bach efo brechdana' mewn papur pobi, a dyna lle roeddan ni…

Dadansoddi


Daniel G Williams

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai'n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Feic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol,…

Cyfansoddi


Angharad Price

Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig:…

Cyfansoddi


Angharad Price

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘We’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd…

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…