Dadansoddi

‘Mae angen mwy o farddoniaeth’


Angharad Closs Stephens

Amser darllen: 8 munud

20·06·2018

Yn Abertawe y mae gwaith awyr agored mwyaf yr artist gwleidyddol Jeremy Deller. Ef hefyd a gynlluniodd ‘we’re here because we’re here’ (ar y cyd â Rufus Norris, cyfarwyddydd Theatr Genedlaethol Pydain) – gwaith sydd yn cofiannu can mlynedd ers brwydr y Somme. Fel rhan o’r perfformiad hwnnw ar 1 Gorffennaf 2016, gwelwyd llu o wirfoddolwyr ifanc mewn gwisg filwrol yn oedi ger gorsafoedd trenau a mannau cyhoeddus yn nhrefi a dinasoedd Prydain. Yn Abertawe, bu’r gwirfoddolwyr yn ymarfer yn adeilad theatr Volcano ar y stryd fawr. Ni chyhoeddwyd dim am y gwaith tan i bobl ddechrau sylwi arnynt yn ystod y dydd a thrydar yn gofyn pwy oedd y dynion hyn. Roedd pob un yn personoli un milwr a laddwyd yn y frwydr a byddai’r actorion yn estyn cerdyn bach i aelodau’r cyhoedd gydag enw’r milwr, ei gatrawd, a’r hashnod #wearehere. 

Darn arall trawiadol gan Deller yw ‘It is what it is’ (2009). Gweddillion car a ddefnyddiwyd i osod bom yw hwn. Lladdwyd 38 a niweidiwyd cannoedd gan y ddyfais ym marchnad lyfrau Al-Mutanabbi, Baghdad ar 5 Mawrth 2007. Cludodd Deller weddillion y car yr holl ffordd o Baghdad gan ymweld â 14 o ddinasoedd a threfi yn yr Unol Daleithiau, o Efrog Newydd i Los Angeles. Wrth ddod ar draws y gweddillion hyn, cymhellwyd pobl i fyfyrio ar y cysylltiadau rhyngddyn nhw, yn ddinasyddion yr Unol Daleithiau, a thrigolion Iraq yng nghyd-destun rhyfel 2003-2011 (ynghyd â'r gwrthdaro sy'n parhau). Ar ddiwedd y daith, rhoddwyd y car i’r Imperial War Museum yn Lambeth, Llundain. Pan osodwyd y gwaith yn yr atriwm yn 2010 hwn oedd un o’r ychydig wrthrychau yn yr arddangosfa a ddangosai effeithiau yn hytrach nag arfau rhyfel. Casglodd Deller ynghyd gyfrol o’r sgyrsiau a gafodd ynghylch y rhyfel (Conversations about Iraq, 2009). Ym mhob agwedd o’i waith, felly, mae diddordeb ganddo mewn gwneud hanes yn beth byw: drwy ymyrryd yn y presennol, mae'n ein gwahodd i oedi ac i feddwl.  

Pan mae siaradwyr gwadd yn ymweld â ni yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe, dwi’n mynd â nhw i weld gwaith Deller. Arwydd mawr ydyw, wedi ei baentio ar ochr siop ger canolfan y Quadrant, yn dweud ‘More poetry is needed’. O bell mae’n edrych fel hysbyseb ac mae’n drawiadol yn erbyn y rhesi undonog o dai unffurf ar y bryn tu cefn i’r ddinas. Wrth fynd yn nes, yr hyn sy’n weladwy yw’r brics wedi eu paentio’n lliw golosg ac sydd, yn eu cannoedd, yn creu’r neges hudolus hon. Pwy fyddai’n brwydro yn erbyn mwy o farddoniaeth? Pwy fyddai’n dadlau yn erbyn mwy o gelfyddyd? 

Yn ddiweddar, ysgrifennwyd neges drawiadol arall ar y gwaith hwn: ‘Mae angen mwy o Gymraeg!’ Wn i ddim a fyddai Deller yn gwrthwynebu’r ychwanegiad. O ystyried ei waith ehangach, mae'n ddigon tebygol y byddai’n croesawu'r drafodaeth. O fewn rhai wythnosau, fe baentiodd y cyngor dros y geiriau a dychwelwyd y wal i’w lliw golosg gwreiddiol. Dehonglwyd y weithred hon ar trydar fel rhan o wrthwynebiad ehangach cyngor Abertawe i’r Gymraeg ac i Gymreictod. Yn wir, hanes anghoeth sydd gan gyngor y ddinas pan mae’n fater o gefnogi Cymreictod a Chymraeg. Ond nid yw’r cyngor ychwaith fel petai’n arbennig o ymwybodol o fraint cartrefu gwaith Deller: ni ymddangosodd y gwaith syml a thrawiadol hwn o gwbl yng nghais Abertawe i rownd gyntaf cystadleuaeth dinas diwylliant Prydain yn ddiweddar (Chwefror 2018). Dylan Thomas sy’n dal i gael ei arddel fel y ffigwr mwyaf diwylliannol i gerdded strydoedd y ddinas hon. 

Felly, gellid darllen y gwaith graffiti fel protest eang yn erbyn dad-Gymreigiad y ddinas. Ond gellid darllen y gwaith hefyd fel protest yn erbyn geiriau a gwaith Deller­ – dadl sy’n dweud y dylai’r gwaith celf fod yn ddwyieithog. Mae yna bwyslais mawr ar werth ‘dwyieithrwydd’ mewn rhannau o fywyd cyhoeddus Cymraeg. Mae’r pwyslais yn awgrymu bod dwyieithrwydd yn beth da. Ond pwyslais digon rhyfedd yw hwnnw hefyd: wedi’r cyfan, i’r rhan fwyaf o drigolion y byd, a rhai o drigolion Cymru, byddai dwy iaith yn lleihad yn y nifer o ieithoedd a ddefnyddir ac sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd. Ac mae’r pwyslais yn dueddol o awgrymu bod yna grŵp o bobl sydd angen dysgu’r sgiliau sydd gan siaradwyr Cymraeg eisoes. Yn yr ymdrech ddealladwy i argyhoeddi, felly, yr hyn a ddaw i'r golwg yw delwedd o ddau grŵp – y rhai sydd yn medru Cymraeg a'r rhai sydd ag un iaith (Saesneg) yn unig. Ond mae yna lawer mwy na hyn o ieithoedd yng Nghymru. Ac mae'n siŵr bod yna lawer mwy o ffyrdd o synio am iaith a ieithoedd. Er enghraifft, sut y byddai siarad am 'ddwy iaith a mwy' yn newid y ffocws tu hwnt i ddelwedd o ddau grŵp? Trwy waith graffiti Deller, a'r ychwanegiad iddo, mae yna gyfle i ofyn cwestiynau ehangach am y berthynas rhwng celf, iaith a gwleidyddiaeth. 

Mae llawer wedi newid o ran statws a phresenoldeb y Gymraeg dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae gan y Gymraeg le ar fwydlen caffis cadwyni rhyngwladol, yn archfarchnadoedd cyrion trefi; defnyddir y Gymraeg i’n gwahodd i siopa ac fel iaith deddfu a llywodraethu. Mae ‘Cymraeg’ bellach yn ‘brand’ yn ogystal â rhywbeth sydd yn rhan o ddefodau, patrymau a gweithrediad bywyd bob dydd. Wrth gychwyn fy swydd newydd ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2016, cefais fathodyn mawr i’w roi ar y drws i ddatgan fy mod i’n siarad Cymraeg, cadwyn a logo ‘Cymraeg’ i ddal fy mathodyn ID, a bathodyn bach â swigen oren i wisgo bob dydd, pe dymunwn. Fel rhywun sy’n ymdrin â phobl yn fy ngwaith, dwi’n deall gwerth datgan bod modd siarad yn Gymraeg â fi. Ond fel rhywun sydd hefyd yn hoffi osgoi pobl, teimlwn yn chwithig am y bathodynnau. Ydw, dwi’n siarad Cymraeg, ond dwi hefyd yn ferch, yn academydd, ac yn aml mae’n well gen i osgoi siarad o gwbl.

Yn fwy diweddar, dysgais am y Safonau Iaith. Daeth gwahoddiad i bob aelod o staff fynychu hyfforddiant gorfodol am y mesurau hyn a’u heffaith yn y gwaith, er mwyn deall pa newidiadau y byddai’n rhaid i ni gyd eu gwneud i’n negeseuon ebost, wrth ateb y ffôn, neu wrth gynnal darlithoedd a seminarau cyhoeddus. Ni chlywais lawer o gwyno am y rhain; derbyniwyd hwy yn yr un modd ag y mae’n rhaid derbyn nifer pellach o gyrsiau hyfforddi, holiaduron a thasgau gwerthuso mewn prifysgolion. Ynghyd â’r safonau iaith, felly, roedd yn rhaid deall goblygiadau’r General Data Protection Regulation; fframwaith y DU ar Research Integrity; gofynion newydd y Research Assessment Exercise, y Teaching Assessment Exercise, disgwyliadau’r Athena SWAN Equality and Diversity Charter Award. Roedd rhaid cwblhau holiaduron ar gyfer y Research Engagement and Attendance Check; Module Feedback Surveys; Gender Culture Survey; Implications of the TEF Survey; Travel to Work Survey a’r Student Experience Survey. Dwi’n rhestru’r rhain yn Saesneg am mai yn Saesneg rwy’n byw’r profiad o’r math hyn o fesurau. Yn Saesneg hefyd y maent wedi eu dychmygu a’u datblygu, fel arfer. I’w canol nhw y daeth y neges ebost a'r datganiad ar sgriniau mawr ar hyd y campws yn gofyn: ‘The Welsh Language: are you up to Standard?’ 

Daeth y Safonau Iaith Gymraeg i rym ar 1 Ebrill 2018 ynghanol un o’r streiciau mwyaf yn hanes diweddar addysg uwch y DU. Prif bwnc y streic oedd pensiynau ond codwyd nifer o bynciau eraill hefyd: yn bennaf, gwrthwynebiad staff a myfyrwyr i rôl gynyddol y farchnad mewn addysg uwch ac i fesurau gwerthuso neoryddfrydol (megis y REF a’r TEF, a’u heffeithiau ar ddysgu ac ar gyhoeddiadau). I roi enghraifft o rôl gynyddol y farchnad a’r modd mae prifysgolion wedi newid ac addasu eu hamcanion, mae Cynllun Strategol Prifysgol Abertawe hyd at 2020 yn nodi bod y brifysgol am ddatblygu a hybu’r iaith a diwylliant Cymraeg. Ond ymysg ei hamcanion pellach mae hi’n rhestru cynnig ‘Cyrsiau perthnasol yn seiliedig ar anghenion y farchnad sy’n ddeniadol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig’; ‘Cenhadaeth estynedig ar gyfer ysgogi twf economaidd y rhanbarth, Cymru a’r DU’; ‘Cydweithio hirsefydlog a synergaidd â diwydiant, busnes, masnach, y trydydd sector, a’r sector cyhoeddus’. Mae prifysgolion yn gynyddol uchelgeisiol; ond mae hyn yn codi cwestiynau gwleidyddol a hanfodol am rôl a phwrpas prifysgol.

Mae’r athronydd Wendy Brown yn nodi mai nid system economaidd yn unig yw neoryddfrydiaeth, hynny yw, rhywbeth a gysylltir â pholisïau economaidd a ddatblygwyd gan lywodraethau Ronald Raegan, Margaret Thatcher a General Pinochet yn y 70au a’r 80au cynnar. Dywed Brown bod neoryddfrydiaeth hefyd yn cyfeirio at fodd o lywodraethu: it is ‘a modality of governance, and an order of reason’ (Undoing the Demos, 2015: 20). O dan fantell neoryddfrydiaeth, mae popeth mewn bywyd yn cael ei leihau i werth economaidd – gan gynnwys y modd rydym yn adnabod a deall ni’n hunain. Cymerwch, er enghraifft, y ffordd mae disgyblion ysgol yn dysgu mesur eu gwerth yn ôl yr hyn sydd ar eu CV; neu, yn hwyrach, adnabod eu gwerth drwy broffil gwefan gymdeithasol neu hunanlun. Mae’r modd y mae tai wedi newid o fod yn llefydd rydym yn eu hadnabod fel cartref i lefydd rydym yn eu hadnabod fel eiddo hefyd yn enghraifft dda. Mae prifysgolion yn rhan o’r system ehangach honno o droi gwaith a bywyd bob dydd yn bethau sy’n cael eu deall, eu mesur a’u gwerthfawrogi yn ôl termau marchnad. 

Er bod traddodiad cryf o weld Prifysgol fel ‘peth da’ mewn cymunedau Cymraeg, mae’n rhaid nodi bod peth o’r gwaith o Gymreigio prifysgolion (e.e. dwyieithrwydd ar y campws, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) wedi digwydd, ac wrthi'n digwydd, law yn llaw â’r cyd-destun ehangach o neoryddfrydiaeth mewn addysg uwch e.e. ehangu’r defnydd o gontractau tymor byr, gwasgedd yn sgil y disgwyliadau, ffioedd dysgu, toriadau mewn tâl a phensiwn. Nid yw’n glir i mi beth yw goblygiadau hynny. Ond mae’n fy nharo yn chwithig bod staff sy’n gwneud gwaith ar Gymru neu yn Gymraeg yn aml ar gontractau bregus iawn. Ar yr un pryd, mae ‘statws swyddogol’ y Gymraeg yng nghyhoeddiadau prifysgolion Cymru yn gryfach nag erioed. Sut mae deall y paradocs hwn? Roedd hi’n rhyfedd, felly, na welwyd mwy o drafodaeth yn Gymraeg am y streiciau prifysgol o ystyried pwysigrwydd prifysgolion i ddyfodol yr iaith, fel ag y maent yn hanfodol wrth geisio gwarchod gofodau ar gyfer gwaith sy’n feirniadol – yn farddonol hefyd – gwaith sydd yn edrych tu hwnt i fesurau llywodraethu ac iaith y farchnad.

Beth, felly, yw lle celf yn hyn i gyd? Does neb ohonom yn gallu byw tu allan i neoryddfrydiaeth, er bod amrywiol ffyrdd o fyw ac o feddwl am werthoedd ac am arian tu hwnt i resymoliaeth. Mae’r Gymraeg yn rhan o’r systemau hynny. Ac wrth gwrs, mae artistiaid a beirdd yn gweithio yn yr un cyd-destun. Dyna union bwynt Deller pan ddywed: ‘More poetry is needed’. Nid ‘mae angen mwy o Gymraeg’ yw’r cyfieithiad felly. Ond mae angen Cymraeg yn yr un modd ag y mae angen barddoniaeth. 

Nid oedd staff Prifysgol Abertawe ar streic yn gynharach eleni. Yn unol â'r gyfraith, roedd rhaid i 50% o aelodau'r undeb bleidleisio. Yn y bleidlais gyntaf, 49.7% o aelodau undeb UCU Prifysgol Abertawe a bleidleisiodd. Yn yr ail bleidlais, pleidleisiodd 48.8%. O blith y rheiny, pleidleisiodd 91% dros fynd ar streic.


Mae Angharad Closs Stephens yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe.

Llun o 'More poetry is needed.' Jeremy Deller gan Catrin Rowlands.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Barddoniaeth, Y Gymraeg, Addysg

 


Mae’n fy nharo yn chwithig bod staff sy’n gwneud gwaith ar Gymru neu yn Gymraeg yn aml ar gontractau bregus iawn. Ar yr un pryd, mae ‘statws swyddogol’ y Gymraeg yng nghyhoeddiadau prifysgolion Cymru yn gryfach nag erioed. Sut mae deall y paradocs hwn?

Dyddiad cyhoeddi: 20·06·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Jane Aaron

Mae’r elw o werthiant y nofel hon yn mynd tuag at helpu ffoaduriaid rhyfel. Dyna’r hyn mae prif gymeriad Llinynnau, Ceridwen Jeremy, yn ei wneud hefyd, wrth iddi roi lloches yn ei chartref yng nghefn gwlad Ceredigion i ffoaduriaid o’r rhyfel yn Syria, yn ogystal â…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

Bydoedd pell oedd y rhai a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad fy arddegau. Saethu hwrod ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod yn Hyrule a Spira, achub Zelda; a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd ... 

Cyfweld


Esyllt Angharad Lewis

Mae Mary Lloyd Jones wedi arddangos yn rheolaidd ers y 60au, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei gwaith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Bu’n gweithio fel artist preswyl yn yr Iwerddon, Philadelphia, Vermont, yr Eidal, Catalwnia, Rajasthan, yr Alban a Llydaw. Ceir arddangosfa o'i gwaith (25 o baentiadau) yn Oriel Tegfryn,…

Cyfansoddi


Llŷr Gwyn Lewis

O le dwi’n sbio lawr fan hyn, mae pethau’n edrych yn ddu braidd, a gormod rywsut o bren i adael i’r balŵn hwn adael y ddaear; iddo fedru hedeg hyd yn oed o lenwi’r siambar, sori, mor llawn o aer poeth â hyn ... 

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Yn y byd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o newyddiadurwyr,…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.