Nâzim Hikmet, cyf. Mutlu Konuk Blasing


Life's Good, Brother

W W Norton & Company, 192tt, £14.62, 2013

Nâzim Hikmet, cyf. Randy Blasing


Human Landscapes: an epic novel in verse

Persea Books, 294tt, ail-law, 1982

Her Gyfieithu 2017: Mentro i dir newydd?
Dadansoddi

Her Gyfieithu 2017: Mentro i dir newydd?


Elin Haf Gruffydd Jones

Amser darllen: 5 munud

27·04·2017

Cyhoeddwyd Her Gyfieithu 2017 yng nghynhadledd Pontydd Cyfieithu ar 19 Ionawr 2017 yn y Llyfrgell Genedlaethol. Un o themâu’r gynhadledd oedd ystyried cyfeiriad a phrysurdeb cyfieithu creadigol a beirniadol rhwng y Gymraeg ac ieithoedd eraill. Dyna ran o ddelwedd y bont wrth gwrs. Gwyddom fod y bont gyfieithu rhwng y Gymraeg ysgrifenedig a’r Saesneg yn llydan iawn ac yn ffafrio llif un ffordd (o’r Saesneg i’r Gymraeg) yn fwy nac o’r Gymraeg i’r Saesneg. Gwyddom hefyd mai culach o beth tipyn yw’r gwahanol bontydd sydd heddiw’n cysylltu’r Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd, ond nad felly y bu mewn cyfnodau hanesyddol eraill. Ac mae i’r term ‘iaith bont’, wrth gwrs, ystyr penodol ym maes cyfieithu, sef defnyddio un iaith er mwyn gallu camu rhwng iaith wreiddiol ac iaith darged, yn hytrach na chyfieithu’n uniongyrchol rhyngddynt.

Cynhaliwyd cystadleuaeth Her Gyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru oddi ar 2009 mewn partneriaeth â gwahanol gyrff dros y blynyddoedd. Hyd yma, yn flynyddol, cynigiwyd testunau creadigol o’r Saesneg, o’r Ffrangeg ac o’r Sbaeneg i’w trosi i’r Gymraeg. Gwobrwyir y buddugol gyda’r Ffon Farddol hardd o waith Elis Gwyn mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, yn stondin Prifysgol Aberystwyth, y tu allan felly i’r maes cystadlu swyddogol. Ac mae gwobr ariannol hefyd – £250 – yn rhoddedig gan Brifysgol Abertawe.

Nâzim HikmetEleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Gyfnewidfa’n cydweithio gyda Wales PEN Cymru ar y gystadleuaeth. Llynedd, cerdd o’r Sbaeneg, ‘El conejo y la chistera’ gan Pedro Serrano o Fecsico oedd y testun, a’r cyfieithiad buddugol oedd ‘Y gwningen a’r het silc’ gan Glenys M Roberts. Roedd cynnal y gystadleuaeth yn gyfle i dynnu sylw at ddiffyg rhyddid mynegiant yn y wlad honno, ac at ormes a thrais yn erbyn newyddiadurwyr. Mae hynny'n rhan o genadwri Wales PEN Cymru. Gan gadw’r cyswllt clir rhwng cyfieithu a gwleidyddiaeth, rhwng cyfieithu a grym, dyma benderfynu bwrw ati unwaith yn rhagor i ddewis testun o wlad ble mae hawliau dynol yn y fantol, ble mae rhyddid barn a rhyddid mynegiant yn cael eu rhwystro, a newyddiadurwyr ac awduron yn cael eu herlid.

Ond, yn hytrach na dewis iaith y gellir tybio fod cryn dipyn o siaradwyr Cymraeg yn ei medru, megis Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg neu Eidaleg, aethpwyd ati i arbrofi gydag iaith na fyddai pobl wedi dod ar ei thraws yn y system addysg. Herio’r model, felly, fod cyfieithu llwyddiannus yn digwydd mewn cyd-destun ble mae gan un unigolyn y sgiliau ieithyddol, diwylliannol a chreadigol i fedru cyfieithu o’r naill iaith i’r llall. Arbrawf sydd gennym y tro hwn, sef cynnig testun ble bydd y cyfieithu yn debygol iawn o ddigwydd drwy iaith neu ieithoedd pont, neu drwy gydweithio ag unigolion eraill sydd yn meddu sgiliau iaith a gwybodaeth ddiwylliannol yn ychwanegol at yr hyn sydd gan y cyfieithydd. I’r unigolion hynny sydd yn meddu ar Gymraeg a Thwrceg, pob croeso iddynt fwrw ymlaen yn unigol ac yn uniongyrchol wrth gwrs. Ond mae’n debyg mai cyfieithu drwy iaith neu ieithoedd pont, drwy gyd-gyfieithu neu drwy gyfuniad o ddulliau y bydd y mwyafrif yn cystadlu. Ein prif gwestiwn, felly, wrth gynnal y gystadleuaeth eleni yw, a yw’r dulliau amgen hyn hefyd yn gallu arwain at gyfieithu llwyddiannus?

'Human Landscapes: an epic novel in verse' gan Nâzim HikmetGwaith Nâzım Hikmet (1902–1963) yw Her Gyfieithu 2017, un o feirdd amlycaf Twrci’r ugeinfed ganrif, ac un a garcharwyd am ei ddaliadau gwleidyddol. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i dros 50 o ieithoedd, ond nid, hyd yma, i’r Gymraeg. Yn rhan o’r adnoddau sydd ar gael i’r cystadleuwyr ar wefan Wales PEN Cymru, mae cyfieithiadau i’r Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Catalaneg a dau gyfieithiad gwahanol i’r Sbaeneg. Mae’n siŵr fod rhagor o gyfieithiadau i ieithoedd eraill ar gael ar-lein ynghyd â rhagor o gyfieithiadau i’r ieithoedd hyn. Rydym wedi cynnwys dolen at fideo o’r bardd yn darllen ei gerdd yn y Dwrceg, yn ogystal â nodiadau am yr awdur ac am nodweddion yr iaith a’i barddoniaeth.

Ysgogiad pellach dros gynnal yr arbrawf hwn yw ystyried lle’r Gymraeg mewn perthynas ag ieithoedd sydd y tu hwnt i gwricwla ysgolion. Sut mae adeiladu a chryfhau’r pontydd cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Arabeg, dyweder, neu Bengaleg, Tsieinëeg, Cwrdeg, Latfieg neu unrhyw rai o ieithoedd y byd, boed niferus neu ychydig eu siaradwyr?

Mae’r Gyfnewidfa Lên a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, wedi cynnal gweithdai cyfieithu niferus dros y blynyddoedd, sydd yn cynnig cyfle i awduron gyfieithu gwaith ei gilydd, a chreu pontydd cyfieithu sydd yn mynd y tu hwnt i’w gwybodaeth eu hunain o ieithoedd eraill. Dyma agor fersiwn o’r gweithdy cyfieithu i gynulleidfa ehangach.

Er ein bod wedi dewis trefnu'r gystadleuaeth trwy ddulliau arbrofi, dull ceidwadol a thraddodiadol fydd i’r beirniadu. Mae'r beirniad, Caroline Stockford, yn meddu ar y Gymraeg a Thwrceg, ac mae ganddi brofiad, wrth gwrs, o gyfieithu creadigol.

Ac enw’r gerdd i’w chyfieithu? 'Yaşamaya Dair', ond byddai cynnig teitl Cymraeg iddi yn y fan hon yn tynnu oddi ar yr her o gyfieithu’r gerdd. Pob hwyl ar y cystadlu!

 

Darllenwch hefyd erthygl Iolo ap Dafydd, 'Y gwynt sy'n chwythu drwy Dwrci', a gyhoeddwyd yn ein hail rifyn.


Mae holl fanylion y gystadleuaeth ar wefan Wales PEN Cymru.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 31 Mai 2017.

Cyhoeddir enw’r enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau, 10 Awst, 2017.

Partneriaid Her Gyfieithu 2017: Cyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Wales PEN Cymru a Phrifysgol Abertawe. Cefnogir Cyfnewidfa Lên Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

Llun: portread o Nâzim Hikmet. Hawlfraint: Bundesarchiv, Bild 183-14809-0004 / Sturm, Horst / CC-BY-SA

Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn Athro yn y Cyfryngau a'r Diwydiannau Creadigol ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Mercator, sydd yn gartref i Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ym Mhrifysgol Aberystwyth.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Gwyddom mai culach o beth tipyn yw’r gwahanol bontydd sydd heddiw’n cysylltu’r Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd, ond nad felly y bu mewn cyfnodau hanesyddol eraill

Dyddiad cyhoeddi: 27·04·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…