Hynt ymerodraeth
Beth sy’n gwneud dirywiad yn anorfod?

Elizabeth II yn 1977, Seland Newydd (Llun: Tim Mossholder/Unsplash)
Wrth graidd bydysawd materol mae’r egwyddor fod pob strwythur cymhleth yn y pen draw yn edwino. Gwyddom hyn yn rhy dda ar sail ein profiad o weld ein cyrff yn heneiddio a dirywio. Ond anaml y mae’r egwyddor hon yn amlwg i arweinwyr ymerodraethol, neu i’r lliaws y mae eu hunaniaeth ynghlwm â grym imperialaidd. Tueddiad ymerodraeth yw ystyried ei bod wedi ei rhagordeinio, ei bod yn gynnyrch ‘manifest destiny’, chwedl yr Americanwyr.
Gofynnir am gyfoeth mawr, sydd yn dibynnu ar rym militaraidd dros gymdogion pell ac agos, er mwyn cynnal ymerodraeth. Mawrygir y fyddin, y llynges – ac oddi ar ddegawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif, yr awyrlu – oherwydd hebddynt, byddai concwest, echdynnu adnoddau, caethiwo ‘hiliau eilradd’ a gweinyddiaeth drefedigaethol, yn amhosib.
Beth sydd yn gwneud dirywiad ymerodraeth yn anorfod? Ceir mwy nag un ateb i’r cwestiwn hwn ond ymddengys fod dau ffactor yn gyffredin i hynt nifer ohonynt. Mynd â phethau yn rhy bell yw un. Tueddiad ymerodraeth yw ehangu, gan amsugno cymdogion gwannach i’w hualau, boed hynny trwy ryfel neu gytundeb. Gall y broses hon ymddangos yn anochel. Wrth i ymerodraeth ymestyn, fodd bynnag, mae angen ehangu byddinoedd er mwyn garsiynu tiriogaethau trefedigaethol ac er mwyn goresgyn ymgais achlysurol i wrthryfela. Anaml y gellir dynodi cyfnod sefydlog pan fo ymerodraeth ar frig ei grym. Yn nyddiau ‘gorau’ yr Ymerodraeth Brydeinig, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yna bob amser ryfel yn rhywle, boed ar gyfandir Affrica, neu yn Affganistan, yn India neu’r Dwyrain Pell.
Ond mae byddin broffesiynol yn gur pen i lywodraeth imperialaidd. Rhaid dod o hyd i arian mawr i gynnal garsiynau, ar gyfer deunyddiau ac i dalu milwyr yn rheolaidd. Un ateb yw defnyddio lluoedd milwrol ategol, wedi eu harwain gan swyddogion imperialaidd, fel ag y gwnaeth yr Ymerodraeth Rufeinig – a’r Ymerodraeth Brydeinig yn ogystal, a hynny’n fwyaf amlwg yn India, ei hysbail mwyaf, ond hefyd yn Affrica gyda’i defnydd helaeth o asgarïaid, sef aelodau o’r ANC a newidiodd eu cotiau gan ymuno â gwarchodlu y llywodraeth apartheid.
Mor ddiweddar ag yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, roedd gan luoedd trefedigaethol rôl bwysig yn y fyddin Brydeinig. Olion olaf y traddodiad hwn yw Brigâd y Gurkhas heddiw ym Myddin Prydain, brigâd y mae ei haelodau i gyd wedi eu recriwtio yn Nepal. Am ryw hyd, gall polisi ‘rhannu a rheoli’ fod yn llwyddiannus, ond nid yw’n gynaladwy yn yr hir dymor, fel y dangosodd Terfysg India 1857. Sathrwyd y don honno o wrthryfel yn filain, ac fe barhaodd dominyddiaeth Prydain ymhell i’r ugeinfed ganrif; ond roedd yn arwydd o bethau i ddod, o rym Prydain yn ymddatod.
Yn y pen draw, mae pob ymerodraeth yn gorfod wynebu cael ei herio, un ai yn allanol gan rymoedd sy’n ymgasglu ar ei ffiniau, neu yn fewnol gan y rhai sydd wedi eu concro neu y manteisiwyd arnynt. Gyda chwalfa yr Ymerodraeth Brydeinig daeth y sylweddoliad na allai Prydain, hynny yw, Lloegr, fforddio ymladd sawl rhyfel rhyddid o’r math a ymladdwyd yn Kenya a Malaya, ac o ganlyniad sicrhaodd nifer o drefedigaethau eu hannibyniaeth â dim ond ychydig neu ddim ymladd. Yn Lloegr, tueddir i ystyried hyn fel enghraifft o natur bragmataidd, oleuedig yr Ymerodraeth Brydeinig, mewn geiriau eraill, yn nhermau hunanganmoliaeth. Ond yn ymarferol, roedd ‘Prydain’ yn wynebu force majeure: doedd dim dewis.
Trwy ddyfais y Gymanwlad, adferodd llywodraeth Prydain yr hyn a allai. Dyma undeb cyfleus rhwng Prydain a’i chyn-drefedigaethau. Sioe yw hyn wedi bod, ar y cyfan, wedi ei chynnal yn rhannol gan hir oes Elizabeth II. A hithau bellach wedi marw, mae’n anorfod mai dihoeni wnaiff y Gymanwlad – anodd dadlau’r achos dros ei rôl heddiw.
Pan fo ymerodraeth yn dymchwel, beth ddaw o genedl ymerodrol? Diflannu yw hanes rhai, heb adael fawr ddim o’u hôl, ond gorfodir y mwyafrif i ailystyried eu hunaniaeth, ac addasu, dros amser, i’w statws darostyngedig. Mae Sbaen, Portiwgal, yr Iseldiroedd, ac Awstria yn enghreifftiau. Yn aml, profiad digon anesmwyth yw cerdded strydoedd eu prifddinasoedd heddiw. Mae Fienna yn enghraifft dda o hyn gydag adeiladau’r llywodraeth a’i phalasau mawreddog, y cyfoeth a’r grym pellgyrhaeddol a arddangosir gan yr etifeddiaeth hon, yn anghydnaws â’i statws cyfredol fel cenedl gymharol fychan a’i phoblogaeth o naw miliwn yng nghrombil Ewrop.
Un ffordd o gadw gafael ar rywfaint o rym yw cynghreirio â chenhedloedd eraill sydd wedi dilyn llwybr tebyg. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn enghraifft o hynny, undeb na ellid bod wedi ei amgyffred pe bai cenhedloedd Ewrop – gan gynnwys gwladwriaeth fechan fel Gwlad Belg – yn dal i ennill cyfoeth a bri o’u trefedigaethau.
Sydd yn ein harwain at Brydain, mewn geiriau eraill, Lloegr. Wrth edrych yn ôl, gellir gweld bod sefydlu’r Gymanwlad wedi bod yn beth anffodus ar gyfer ymwybyddiaeth gyfunol y Saeson. Mae’n cynnal y rhith o fawredd imperialaidd, a’r gwledydd cyn-drefedigaethol wedi eu clystyru o gwmpas y ‘fam wlad’, bob un ohonynt yn siarad Saesneg, yn ymostyngol tuag at y Frenhines, a fyddai’n ymweld yn ddigon cyson er mwyn ‘dangos y faner’. Yn ddiweddar, ymadawodd Barbados a Jamaica â’r Gymanwlad, gan gyhoeddi eu statws newydd fel gweriniaethau. Hyd yn oed yn Lloegr, nid yw’r Gymanwlad yn endid amlwg iawn, sy’n ein harwain at y cwestiwn: beth sydd? Mae’r Ymerodraeth wedi mynd, mae’r cysylltiadau â’r Undeb Ewropeaidd wedi eu torri; nid yw’r fyddin mwyach yn rym o’r radd flaenaf, yn ôl uwch gadfridog yn yr Unol Daleithiau; ac mae’r IMF yn rhagweld dirwasgiad yn y Deyrnas Gyfunol yn 2023, yr unig un o blith economïau mawr y byd. Ar ben hynny, gellid dal i ddadlau bod yr Alban, er gwaethaf ymadawiad disymwth Nicola Sturgeon, yn symud gam wrth gam at annibyniaeth; yn y tymor canol, digon posib y gallai Iwerddon a Gogledd Iwerddon uno hefyd; ac yng Nghymru, mae cynnydd mewn cefnogaeth i annibyniaeth. Beth sydd ar ôl?
Dim llawer. Mae llywodraethau Westminster, un ar ôl y llall, wedi baglu dros ei gilydd i wneud Llundain yn hwb ariannol byd-eang. Buodd hyn yn llwyddiant, ond y gost oedd troi’r ‘City’ yn baradwys ar gyfer oligarchiaid, shîcs olew a drwgweithredwyr eraill; cancr pydredig sy’n llygru ac sydd wrth galon cymdeithas Lloegr heddiw.
Yn y cyfamser, mae tlodi rhanbarthau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac mewn rhannau o dde Cymru yn dyfnhau. Ni welsant olwg o effeithiau cynllun chwerthinllyd ‘levelling-up’ Boris Johnson a thriciau etholiadol y Torïaid. Yr hyn sydd ei angen yw, i'r gwrthwyneb, ‘levelling down’, dad-wneud sylfaen grym bradwrus cyfoeth llwgr. Dylai hynny fod yn rhan o ‘levelling down’ ehangach yn nisgwyliadau Lloegr. Mae angen chwalu rhithdybiaethau Prydain ynghylch ei statws a’i grym; ac mae angen gwell dealltwriaeth ymhlith ei dinasyddion o bwy yw’r Saeson, o’u lle heddiw mewn byd peryglus sydd yn prysur newid. Does dim arwydd y bydd hyn yn digwydd yn fuan.
Bydd cyfrol newydd o ysgrifau gan John Barnie yn cael ei chyhoeddi fis Mai. Bydd Tsunami Days yn cael ei chyhoeddi gan Cinnamon Press.