Tu hwnt i hunanoliaeth
Socrates ar y stryd
‘Ymdeimlad o garedigrwydd’, a’r gallu i ‘bontio’r holl raniadau’ – dyna eiriau un Aelod o’r Senedd wrth gofio Dafydd Elis-Thomas. Ni chefais fawr o gyfle i’w adnabod, ond roeddwn innau wedi elwa o’i haelioni unwaith, gan iddo gyfrannu adolygiad brwdfrydig o’m llyfr Credoau’r Cymry i rifyn cyntaf y cylchgrawn hwn. ‘Chwilfrydedd deallusol’ a ‘meddyliwr gwreiddiol’ fyddai’r rhinweddau eraill i’w pwysleisio, termau na fyddent o reidrwydd ymysg y geiriau amlycaf yn yr amryw deyrngedau iddo, ond a oedd i’w gweld mor nodweddiadol ohono.
Mae’r geiriau hyn yr un mor addas i ddisgrifio gwron o gymeriad tra gwahanol a gollom yn ddiweddar, sef y dihafal Sel Williams. Yn ymgyrchydd diflino, roedd hefyd yn bolymath gyda chefndir deallusol mewn bioleg a mathemateg, ac yn nes ymlaen athroniaeth a gwleidyddiaeth. Ymroddodd yn ddiflino i addysgu gydol oes ac i weithgaredd cymunedol: ef oedd un o sefydlwyr Cwmni Bro Ffestiniog a’r fenter Cymunedoli, a tyfu wnaeth ei ddylanwad a’i weledigaeth. Mawr obeithiaf mai parhau a wnaiff hynny er iddo ein gadael yn annhymig. Os mai gwaith ‘deallusyn organig’ Gramsci (chwedl Gwyn Alf Williams) yw mynegi a gwneud yn hanesyddol-weithredol ‘ymwybyddiaethau grwpiau a dosbarthiadau sy’n dod i fodolaeth’, yna Sel Williams oedd yn gwneud y gwaith hwn dros gymunedau ôl-ddiwydiannol Cymru. A mawr fu’r angen am ymwybyddiaeth o’r newydd.
Ategwyd yn ddiweddar yr angen cyffredinol am ysbrydoliaeth ymhlith rhengoedd y chwith, gyda chydnabyddiaeth gan Ash Sarkar yn ei llyfr newydd Minority Rule (2025) fod y chwith wedi mynd ar hyd heol hosan yn eu hymlyniad anfeirniadol at wleidyddiaeth hunaniaeth (y mae Simon Brooks yn trafod rhai o’r goblygiadau yng Nghymru yn y rhifyn hwn) – a hynny ar draul gwleidyddiaeth dosbarth. Mae’r drysni ynghylch y dilechdid rhwng y ddwy syniadaeth yn drawiadol yng ngoleuni dadansoddiad diamwys a threiddgar Sel Williams o’r berthynas rhwng y ffurf fwyaf hegemonig ar wleidyddiaeth hunaniaeth, sef cenedlaetholdeb, a dyfodol sosialaeth Gymreig. Defnyddiodd ddadleuon Lenin i esbonio sut mae cysoni’r ddau, sef trwy nodweddion cenedlaetholdeb y cenhedloedd bychain sydd â thraddodiad o fod yn wrth-imperialaidd a gwrth-gyfalafol.
Er tegwch, mae dadansoddiad Sarkar yn dadlau nad dryswch deallusol yn unig sydd wrth wraidd problemau cyfoes y Chwith Prydeinig. Mater gweithredol ac yn wir ymddygiadol yw’r llesgedd cyfredol, a hynny diolch i dra-arglwyddiaeth a dylanwad neoryddfrydiaeth. Pwysleisia fod gwleidyddiaeth gyfoes y chwith o ganlyniad yn trin hunaniaeth o safbwynt unigolyddol yn hytrach nag ar sail y grŵp. Mae’r pwyslais yma ar brofiad yr unigolyn a’i epistemoleg unigryw yn atgyfnerthu’r agwedd nad oes modd uniaethu ag eraill – gan danseilio cydymdeimlad a solidariaeth. Bydd y dadansoddiad hwn yn rhwym o daro deuddeg gydag unrhyw un sydd wedi ceisio ymgyrchu ar y chwith yn y blynyddoedd diwethaf, ond mewn gwirionedd rhagfynegwyd dehongliad Sarkar eisoes beth amser yn ôl gan Nancy Fraser, yr athronydd Americanaidd (a gan Simon Brooks drachefn yn Hanes Cymry, 2021). Sylweddolodd yn ddigon buan ganlyniadau gwleidyddiaeth hunaniaeth oedd yn weithredol mewn cyfalafiaeth ddiweddar, sef atgyfnerthu a dilysu’r system honno, a hynny trwy lwyddiant ambell unigolyn o blith y grwpiau dan ormes i esgyn yr hierarchaeth gymdeithasol.
Yn wir, dyma eironi gwleidyddiaeth hunaniaeth yr unfed ganrif ar hugain, oherwydd cael gwared â gormes grwpiau a chymunedau ymylol oedd hanfod y mudiad gwreiddiol: o’r mudiad ffeministaidd i frwydr pobloedd frodorol, o fudiad iawnderau dinesig pobl ddu i’r frwydr dros y Gymraeg. Mynegwyd hanfodion damcaniaethol yr ymdrechion hyn yng ngwaith Marion Iris Young, Justice and the Politics of Difference (1990). Cyflwynodd y llyfr fel ymateb i athrawiaeth ryddfrydol cyfalafiaeth lles (welfare capitalism) nad oedd am gydnabod gwahaniaeth, ac o ganlyniad yn methu â chydnabod yr anfanteision strwythurol a hanesyddol a wynebwyd gan rai grwpiau – a gan hynny ffafrio’r sawl a oedd yn perthyn i’r grŵp goruchafol.
Yr hyn sy’n nodedig wrth ddarllen llyfr Young heddiw yw’r graddau y mae fel petai’n cymryd yn ganiataol y safbwynt beirniadol ôl-Farcsaidd o Ddamcaniaeth Feirniadol, gan gyflwyno ystyriaethau grŵp a hunaniaeth fel datblygiad ac ategiad o’r safbwynt sosialaidd. Yn ymarferol, wrth gwrs, mynegwyd saf-bwyntiau tebyg droeon, er enghraifft ym Marcsiaeth Angela Davis oedd yn breintio’r fenyw ddu yn ei dadansoddiad. Yn wir, byddai modd mynd yn ôl eto at rai o safbwyntiau Paul Robeson – fel y’u hamlygwyd gan Daniel Williams – a darganfod pwyslais hanesyddol ar y croestoriaid rhwng hunaniaeth ethnig a sosialaeth (y tystiwyd iddo gan Robeson yn nhriniaeth yr Undeb Sofietaidd o rai o’i phobloedd niferus). Ond oddi ar 1990, gwelwyd cwymp comiwnyddiaeth, gyda hegemoni neoryddfrydiaeth yn cael ei dyfnhau gan Blair, Clinton a selogion ‘trydedd ffordd’ Anthony Giddens, a oedd yn derbyn yr hanfodion fel rhan o’i economi wleidyddol ‘flaengar’.
Mae cenhedlaeth gyfan wedi colli Marx ac wedi etifeddu gwleidyddiaeth dosbarth sydd wedi’i gwanio, mudiad llafur ar drai, a’r cysyniad o solidariaeth dosbarth yn absennol o’u bydolwg. Nid yw economi wleidyddol wedi bod yn rhan o’r drafodaeth brif ffrwd mewn gwirionedd ers agos at 30 mlynedd – ac eithrio agweddau ar ‘Gorbyniaeth’ – ac o ganlyniad mae gwleidyddiaeth y chwith yn naturiol wedi troi at drafodaethau ynghylch cynwys-oldeb a chynrychiolaeth oddi mewn i system statig, hierarchaidd nad ystyrir yn destun diwygiad. Y diffyg parodrwydd i geisio mynegi a gwireddu system economaidd o fath arall sy’n llesteirio’r chwith ac yn cadw’r drafodaeth ar dir hunaniaeth yn unig.
Mae’r broblem bellach yn fwy sylweddol na dim ond y diffyg neu’r amharodrwydd i feithrin undod ar draws gwahanol grwpiau; mae neoryddfrydiaeth wedi treiddio’n ddwfn i’n seice, chwedl Mark Fisher, i’r graddau bod gwleidyddiaeth y chwith wedi ei thrwytho gan gystadleuaeth ymysg amryfal unigolion a grwpiau, wedi ei nodweddu ymhellach gan agweddau maleisus a ffurf ar biwritaniaeth ddiwylliannol a weinyddir gan y Dosbarth Canol Proffesiynol (y PMC mae Dan Evans wedi dwyn sylw ato yn ei waith yn ddiweddar). Dyma wleidyddiaeth ressentiment sydd wedi ei throi gan y chwith a’r canol, nid yn erbyn y bwrgeisiaid a’r biliwnyddion, ond yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn y dosbarth gweithiol. Gyda’r posibiliad o ryddfreiniad economaidd bellach yn yr un categori â bywyd ar y blaned Mawrth, fe’i cyfyngir i frwydro dros y briwsion, fel llygod Ffrengig mewn sach.
Mae rhywun yn tybio mai anfoddhaol ac amhosib fyddai meithrin rhyw ffurf ar wleidyddiaeth dosbarth sydd yn gwarafun ystyriaeth o hunaniaeth. Yn wir, mae gwleidyddiaeth y chwith fwy na heb wedi bod ynghlwm â’r syniad o genedl – o anghenraid mewn byd o genedl-wladwriaethau. A pharhau mae elfennau amlwg o ddominyddiaeth a gormes yn achos rhai grwpiau; ac y mae hiliaeth, rhywiaeth a senoffobia ieithyddol yr un mor bresennol ag erioed. Felly y bu trwy’r oesoedd. Does dim ond angen dychwelyd at ddisgrifiadau o’r systemau gwleidyddol cynharaf i wybod hynny: menywod, caethweision a barbariaid oedd y grwpiau a neilltuwyd ym myfyrdodau Aristoteles ar wleidyddiaeth. Y mae systemau economaidd yn deillio o’r rhaniadau yma yn ogystal â bod yn ffactor blaenllaw mewn creu ac ategu’r hierarchaethau yn y lle cyntaf, fel y dengys y berthynas rhwng y fasnach gaethwasiaeth a chyfalafiaeth gynnar.
Os am gynnydd gwirioneddol, rhaid bod hynny’n digwydd ar sail datgymalu strwythurau economaidd sy’n galluogi’r gwahaniaethu yn y lle cyntaf. Yn ein hachos ni, mae neoryddfrydiaeth flaengar (chwedl Nancy Fraser) wedi caniatáu rhyddfreiniad unigolion digon niferus o’r grwpiau ymylol er mwyn awgrymu bod cynnydd ar waith, ond mae llwyddiant y lleiafrif hwn yn dilysu gormes y gweddill. Yn wir, yn achos y Deyrnas Gyfunol fe welir enghreifftiau o’r grwpiau hynny – Patel, Braverman, Sunak, Badenoch – sydd wedi gweithio’n ddiflino i barhau â’r drefn a chyflwyno y gymuned fewnfudol fel y bygythiad amlycaf iddi.
Awgrymaf fod hyn oll yn adlewyrchu’r ffaith fod yna wleidyddiaeth hunaniaeth dda a drwg. Yn achos y fersiwn gadarnhaol, mae’n gymunedolaidd ei natur ac yn mynegi ei hun nid yn unig ar ffurf sydd yn herio’r drefn economaidd sy’n ei bygwth, ond hefyd â dimensiwn rhyngwladol, gyda’r gallu i gysylltu’r frwydr dros un hunaniaeth mewn cyd-destun penodol â’r frwydr dros grwpiau o’r fath ar draws pedwar ban byd. O ran y math negyddol, nid unigolyddiaeth a phiwritaniaeth y canol a’r chwith yw’r gwaethaf, er mor ddinistriol y mae wedi bod i’r gobaith o gynnydd. Yn hytrach, gwleidyddiaeth y dde eithafol yw’r mynegiant gwaethaf oll wrth iddi ganolbwyntio ar syniadau ethnig a hiliol hunaniaeth genedlaethol – a honno wrth gwrs yn corddi’r rhyfel-oedd diwylliant gan gollfarnu ‘woke’ ac ‘eithafwyr’ er mwyn gwthio’i hagenda ffiaidd.
Yn hyn o beth y mae sawl ystyriaeth sylfaenol i’r chwith, os am fynd i’r afael â’r argyfwng sydd ohoni. Rhaid cynnig gweledigaeth go iawn o economi wleidyddol sosialaidd a gwrth-gyfalafol, un all agor meddyliau’r lliaws i wendidau’r system gyfredol gan ddangos yn ogystal bod newid yn bosib. Rhaid hefyd amlygu sut y mae’r system economaidd sy’n bod yn dibynnu ar fanteisio ar hunaniaethau dan ormes, a sut y byddai diwygiad yn eu rhyddfreinio. Fel hyn y gosodir seiliau solidariaeth o’r newydd. Er mwyn i hynny oll digwydd, fodd bynnag, mae gofyn adfer ychydig o ffydd ac undod ar y chwith, ac mae hynny’n ein dychwelyd at yr elfen ryngbersonol, a’r pwysigrwydd o ddangos ffydd, o fod yn faddeugar, ac o warchod ein gilydd rhag malais. Yn anad dim, mae’n gofyn am yr hyn sydd wedi bod yn eisiau cyhyd, yr hyn yr oedd Sel Williams – Sel Wilias i lawer – yn ei bwysleisio’n gynyddol yn y cyfnod diwethaf. Sef bod rhaid i garedigrwydd a ‘gweithredu gyda chariad’ fod wrth wraidd ein gwleidyddiaeth – neu waeth inni ildio i’r Barbariaid yfory nesaf.
Mae Huw L Williams yn ddarllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.