Holi Mike Parker am ei gyfrol ddiweddaraf
On the Red Hill, mewnfudo i Gymru, paganiaeth a’r freuddwyd ramantaidd
Gwrandewch ar ail ran cyfweliad O'r Pedwar Gwynt â Mike Parker, lle mae'n trafod ei gyfrol ddiweddaraf, On the Red Hill, ag Angharad Penrhyn Jones. Maent yn sgwrsio am fewnfudo i Gymru, y freuddwyd ramantaidd, dysmorffia corfforol, paganiaeth, camdriniaeth rywiol, a llawer mwy. Bydd y gyfrol, a gyhoeddwyd y llynedd, allan mewn clawr meddal ar 6 Chwefror 2020.
Darllenwch hefyd: adolygiad o'r gyfrol gan Richard Crowe, a gyhoeddwyd yn ein rhifyn Haf 2019, ac erthygl Rhys Kaminski-Jones yn ein rhifyn Gaeaf 2019, 'Y Rhith Rhamantaidd'.