# Caerdydd

# Caerdydd


Guto Dafydd

Mae cerddi arobryn cadair a choron eleni’n gweddu i’r dim i’r brifwyl agored, orfoleddus, herfeiddiol a gafwyd ym Mae Caerdydd. O ran arddull, maent yn hygyrch – yn rhwydd i’w darllen, a throeon ymadrodd yn pefrio oddi ar y dudalen. O ran cynnwys, maent yn…

# Caerdydd


Huw L Williams

Eisteddfod hamddenol oedd hi fod. Roedd y maes, yn gyfleus iawn, nepell o fy nghartref yn Grangetown. A minnau wedi cael hen ddigon o ruthro'n chwyslyd rhwng gormod o bebyll yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf y bwriad y tro hwn oedd mwynhau’r adloniant,…

# Caerdydd


Alun Llywelyn-Williams

Yr oeddwn yn wyth oed cyn dechrau mynd i’r ysgol yn gyson, ond ni allaf gofio adeg pan na fedrwn Saesneg. Mae gennyf rith gof amdanaf yn hogyn bach yn chwarae ar fy mhen fy hun yn Gymraeg, ond rhaid bod…

# Caerdydd


Dan Evans a Sara Huws

Mae’r ymdrech i’n hargyhoeddi ni i gyd mai Caerdydd yw’r lle gorau dan haul i fyw yn ddidrugaredd. Yn y taflenni corfforaethol slic ac yn sentimentaleiddiwch mursennaidd propaganda answyddogol ei dinasyddion megis ‘I loves the ’diff’, mae’r neges yn glir. Mae Caerdydd yn anhygoel! Lle ardderchog i fyw a gweithio!…

# Caerdydd


João Morais

Gan wisgo mantell y flâneur a'r hanesydd, dyma ni Peter Finch yn ôl ar strydoedd Caerdydd. Mae'n llwyddo i gyflwyno gwedd newydd eto fyth i ni ar y brifddinas, gan ddadlennu ei hyd a'i lled mewn ffyrdd annisgwyl. Un o ryfeddodau'r gyfres yw ei bod yn tywys rhywun i gorneli na fyddai gennym…

# Caerdydd


Dylan Foster Evans

Fel ym mhob dinas, mae gwahanol naratifau yn gweu trwy’i gilydd yng Nghaerdydd. Mae stori’r brifddinas a bleidleisiodd ‘na’ yn refferendwm 1997 yn cyd-fyw â ‘chwyldro tawel’ o blaid yr iaith Gymraeg. Dywed rhai mai dinas na lwyddodd erioed i ‘bwnio’i phwysau’ llenyddol yw Caerdydd ...