Iaith y brifddinas
Adolygu The Welsh Language in Cardiff
Owen John Thomas
The Welsh Language in Cardiff: A History of Survival
Y Lolfa, 176tt, £9.99, Tachwedd 2020

Llun: Xiaoxia Xu/Unsplash
Un o ragdybiaethau ein cenedl yw bod yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn ffrwyth mewnfudiad Cymry Cymraeg o orllewin, canolbarth a gogledd Cymru – yn chwilio am swyddi ac, yn eu tro, yn datblygu dosbarth canol, proffesiynol cryf yn y brifddinas tua’r 1960au. Tra bo Owen John Thomas yn cydnabod y symudiad hwn, ei brif ddadl yn y gyfrol hon yw y bu’r Gymraeg yn llewyrchu ac yn wir, yn iaith a oruchafodd yng Nghaerdydd am ganrifoedd. Dyma felly chwalu’r chwedl. O greadigaeth castell Tomen a Beili’r Normaniaid (1093-1107) tan effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol yng nghanol y 19g, yn ôl yr awdur roedd y Gymraeg yn ffynnu yng Nghaerdydd. Cefnogir ei ddadl gan ddefnydd effeithlon o ffynonellau, megis cofnodion llysoedd, dyddiaduron a dogfennau cyfreithiol amrywiol gan brofi pa mor llewyrchus oedd yr iaith yn y dref a’r plwyfi cyfagos. Chwalir sawl rhagdybiaeth gan y llyfr – nid tref uniaith Saesneg mohoni; a’r dosbarth gweithiol yn hytrach na’r dosbarth canol a lynodd fwyaf at y Gymraeg a’i thraddodiadau diwylliannol.
Er gwaethaf twf syfrdanol Anghydffurfiaeth a chapeli'r enwadau amrywiol, pan oedd yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn dioddef o ganlyniad i effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol – gan gynnwys mewnfudo sylweddol a thyfiant enfawr yn y dref – trodd pob capel, namyn un, i gynnal ysgolion Sul trwy gyfrwng y Saesneg. Pennod dristaf y llyfr yw’r un am ddirywiad y Gymraeg rhwng 1860 a 1910. Ac er y gellir gosod bai ar ddwylo Llywodraeth San Steffan, Brad y Llyfrau Gleision 1847 a mewnfudiad miloedd o Saeson, Gwyddelod a gweithwyr rhyngwladol, cyfeiria’r awdur hefyd at fethiant y Cymry eu hunain i drosglwyddo’r iaith i’w plant. Neges gyfoes ac anghyfforddus i rai.
Bwriad yr awdur oedd cyhoeddi’r gyfrol hon yn y Gymraeg ond golyga salwch na fu hynny’n bosib. Ffrwyth gwaith gradd meistr yw’r llyfr a gall ddarllen ar adegau fel traethawd MA. Efallai na fydd yr holl ddata a gynigir ar enwau caeau, cyfenwau a phoblogaeth y plwyfi wrth ddant pawb, ond profi a wna hyn hyd a lled bodolaeth yr iaith yn ôl i’r 13g.
Darperir hanes enwau lleol Caerdydd, y strydoedd, tafarndai, llysenwau, a rhoddir sylw penodol i dyfiant pob enwad Anghydffurfiol ac enghreifftiau o achosion llys dwyieithog. Mae’r bennod ‘Gossip, Slander and Scandal’ yn arbennig o ddiddorol gyda chyfeiriadau at buteindra, y ffeiriau a meddwdod yn y dref. (Fallai nad oes dim sy’n apelio fwy atom fel Cymry Cymraeg Anghydffurfiol.) O’r 750 achos o athrod (slander) a gofnodwyd rhwng 1710-1810 cwblhawyd 450 trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig ac roedd 85% o gyfenwau’r dref yn rhai Cymreig. Tref uniaith Saesneg? Ys dywed yr awdur: ‘In 1801, when the population of Cardiff was enumerated for the first time, Welsh was the main language spoken by the inhabitants of the town and surrounding parishes.’ Ac yna: ‘It is likely that the period 1750-1850, with its growth of the iron trade, the arrival of the Glamorgan Canal and the opening of the first dock in 1839, marked the high point of the Welsh language in the town.’ Nodyn trawiadol yw’r datganiad y byddai’r Gymraeg wedi bod yn fyw ar strydoedd Caerdydd pan ddienyddiwyd Dic Penderyn ar Heol Santes Fair yn 1831. Byddai ei eiriau olaf, ‘O Arglwydd, dyma gamwedd!’ yn ddealladwy i nifer yn y gynulleidfa.
Gyda chalon drom y cyfeiria’r awdur yn gelfydd at ddirywiad y Gymraeg gan ein hatgoffa mai dim ond 6.21% a fedrai’r iaith yng nghyfrifiad 1901. Mae’r adferiad graddol ers hynny yn glod i weledigaeth unigolion penodol, rhieni, athrawon, disgyblion, capeli, yn ganlyniad twf addysg, datblygiad y cyfryngau a deddfwriaeth seneddol. Ymddengys y bennod olaf, fodd bynnag, sy’n ymdrin â’r adferiad ieithyddol, yn frysiog o gymharu â gweddill y gyfrol. Fel brodor o Gaerdydd, cofiaf atgasedd y gymuned leol wrth i ni fentro i Ysgol Gynradd Bryntaf yn y 1960au ym Mynachdy.
Wrth gloi, dywed Owen John Thomas: ‘Those who claim that the Welsh-speaking community of Cardiff is dependent on migration from the north and west Wales ignore the quiet revolution that is happening in front of them.’ Ac yn wir, mae gan y brifddinas bellach 17 ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Ond er y dylai cyfrifiad 2021 ddangos cynnydd pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg, dylid peidio â llaesu dwylo a thybio bod parhad yr iaith wedi ei sicrhau yng Nghaerdydd. Mae’r cyfrifiad diwethaf (2011) yn datgan bod 15.7% yn medru’r Gymraeg ond dylid cofio bod oddeutu 80% yn medru’r Gymraeg ar gychwyn y 19g. Dyma yw hanfod y llyfr hwn: ein hatgoffa y bu’r Gymraeg yn fywiog a byrlymus yng Nghaerdydd ers y Goncwest Normanaidd tan y 1850au. Mae llwyddiant yr awdur yn gosod hyn oll o fewn cyd-destun cenedlaethol yn allweddol ac yn sicrhau fod y gyfrol hon yn un a fydd yn apelio’n ehangach, tu hwnt i drigolion Caerdydd yn unig ac at ddarllenwyr sydd â diddordeb yn hanes Cymru.
Bu Hywel Price yn bennaeth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg tan iddo ymddeol yn Rhagfyr 2020.