Pwy sy’n ddigon hen i gofio’r ogla? Blas rwber yr awel. Ceir yn ciwio i fynd i mewn. Y sentri sgwâr a llinell syth y bar. Tonnau trionglog y to – yn ymestyn draw hyd dragwyddoldeb. Ac enw mawr y ffatri ar y brig: FERODO. Roedd yma drefn. Roedd yma…
Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre. Dydi hi ddim yn hardd o bell. Ei chroen yn felyn. Ei…
Mae o’n cerdded wrth Afon Braw, yn trio meddwl pwy fyddai’n dod. Dechrau Tachwedd a’r dail yn boitsh, sanau’n wlyb. Ei dad a’i fam yn amlwg, os na fydden nhw wedi marw o sioc. Hen dref ryfedd ydi hon.
Tanysgrifio