Cyfansoddi

Ben Twthill

Angharad Price
27·06·2018

Llun gan Richard Outram

Mae gan yr Alban Ben Nevis a chan Gaernarfon Ben Twthill. Fan hyn yr oedd y gaer gyntaf. Fan hyn, os byth, y bydd yr olaf. Dwrn caled o graig yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Dydi hi ddim yn hardd o bell. Ei chroen yn felyn. Ei chnawd yn rhychiog. Blewiach yr eithin a’r grug. Cen melynwyrdd yn gleisiau drosti.

Rhaid mynd yn nes i gael ei hansawdd. Cyrraedd ati. Dringo arni. Dod yn un â hi.

Mae’r llwybr yn gul o sil i sil, y llethrau’n serth ar bob ochr, a dim llawer i’ch tywys ond y bobl a aeth o’ch blaen. Ôl gwadnau fandals, enwau cariadon ar y fainc, ôl mêts yn cael mygyn.

Mae’r dringo’n dwysáu. Mae ’na le i lithro drachefn a thrachefn, ac ar y graig, o raid, y mae’ch golygon.

Ond wedyn, dyna’r cyrraedd! Troedle gwastad pen y graig.

Panorama mynydd a môr. I’r chwith, copaon glas Eryri’n gylch amdanoch, a choron bell yr Eifl. I’r dde, glannau coediog Môn, a’r Fenai’n fil o bum-ceiniogau.

Islaw, toeau porffor tref Caernarfon: y siopau a’r tai, y capeli a’r eglwysi, y tafarndai a’r swyddfeydd, y lloriau, y muriau, y seddau, y beddau. Y castell melynwyn, a waliau segur y gaer.

A dan eich traed, dwrn caled yr hen, hen graig – yn codi yn ei noethni dros amlinell afreolus y dre.

Daw'r darn hwn o gyfrol arbennig sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch (Mehefin, 2018). Mae hanner yr elw o werthiant Trysorau Cudd Caernarfon gan Angharad Price a Richard Outram yn mynd i GISDA.

Prynwch y gyfrol gan Wasg Carreg Gwalch yn y fan hon.

Pynciau:

#Angharad Price
#Caernarfon
#Ffotograffiaeth
#Darllen llun