# Rhifyn 7

# Rhifyn 7


Václav Havel

Geiriau Lenin – beth oeddynt? Geiriau gyda’r gallu i’n rhyddhau neu, i’r gwrthwyneb, geiriau twyllodrus, peryglus, geiriau y’n caethiwir ganddynt, yn y pen draw? Parhau i gynnau anghytundeb chwyrn ymysg aficionados hanes Comiwnyddiaeth y mae’r ddadl hon ac mae’r anghytuno’n debyg o refru a chwythu am amser eto. Fy nheimlad i, yn ddieithriad, yw mai…

# Rhifyn 7


Eluned Gramich

Gwranda: rydw i wedi bod yn meddwl am y flwyddyn dreuliais i yn nheyrnas y sâl. Blwyddyn ddryslyd, anhraethadwy, y tu hwnt i eiriau. Cuddiais fy mhasbort arall, y pasbort tywyll sydd yn dangos wyneb tenau fel penglog, ac a ysgrifennwyd mewn…

# Rhifyn 7


Albert Forns

Dyma’r sefyllfa: rydan ni ynghanol nunlle, neu’n fwy agos ati, ynghanol pawb, ac mae gennym argyfwng. Mae Guillem yn edrych arna i ac yn gweiddi ‘Pi-pi! Pi-pi!’ ac mae Martí, yr ail efaill yn fy ngofal, yn llithro rhwng fy nghoesau ac yn dianc i’r cyfeiriad…

# Rhifyn 7


Jan Morris gyda Twm Morys

Rwy’n dechrau amau mai llwynog mwya’ ein cyneddfau ni i gyd ydi’r co’. Hyna’ yn y byd yr awn ni, mwya’ simsan y co’ mewn llawer ffordd: anghofiwn enwau a gwynebau; anghofiwn gadw oed o dro i dro; anghofiwn i beth goblyn y daethom i fyny’r grisiau.…

# Rhifyn 7


O’r Pedwar Gwynt

Yn rhyfedd iawn, ro’n i’n wleidyddol ers fy mod i’n blentyn. Rwy’n credu bod fy nhad wedi cael lot o ddylanwad arna i – er, mewn cymdeithas cefn gwlad, doedd neb yn trafod gwleidyddiaeth. Ac wrth gwrs, yng ngwaelod Sir Aberteifi, lle ro’n i wedi cael fy…

# Rhifyn 7


R Gareth Wyn Jones

Dengys gwaith Damasio bod modd gwahaniaethu yn ffisiolegol rhwng ein hemosiynau a’n teimladau a bod ein hymatebion emosiynol yn digwydd yn lled ‘ddifeddwl’. Dadleua fod emosiwn yn deillio – yn niwrolegol a ffisiolegol – o integreiddio gweithgaredd ein hymennydd a’n cyrff (yn groes i ddeuoliaeth…

# Rhifyn 7


Angharad Penrhyn Jones

‘My small voice was answered by a rich chorus of voices! My voice, which had once been mute!’ Dyma eiriau Nuala O’Faolain, yn sôn yn ei hunangofiant, Are You Somebody?, am y profiad o gael ei chlywed ar ôl blynyddoedd o deimlo, fel merch yn Iwerddon, ei bod yn…

# Rhifyn 7


Rhodri Davies

Treuliais y flwyddyn ddiwethaf yn adeiladu telyn rawn, sef telyn wedi ei llinynnu â blew hir, garw o gynffon ceffyl. Nid oes un wedi ei chwarae yng Nghymru ers dau gant o flynyddoedd. Clywais am fodolaeth y delyn hon am y tro…

# Rhifyn 7


Aled Llion Jones

Dwy daith drên i Warszawa, prifddinas Gwlad Pwyl: y naill ym Medi 1968 o dref Przemyśl, nid ymhell o’r ffin â’r Wcráin, a’r llall yn Nhachwedd 2017 o ddinas Kraków yn y de. Dau deithiwr Pwylaidd â’r un nod o brotestio yn erbyn eu llywodraeth, a’r ddau yn cario yn eu pocedi…

# Rhifyn 7


Diane Bailey

Yn 1935, tynnodd Edith Tudor-Hart y llun hwn yn Nhrealaw, de Cymru: gwŷr a merched yn gorymdeithio yn erbyn deddf diweithdra’r llywodraeth a bygythiad y prawf modd. Y flwyddyn flaenorol, priododd y meddyg Alexander Tudor-Hart yn Fienna, priodas a gynigiai ddihangfa i Brydain…

# Rhifyn 7


Angharad Price

Dinas dlos, ddi-sôn-amdani ar lannau afon Mosel ydi Trier, a’r bryniau o’i chwmpas yn rheseidiau unionsyth o winwydd, deunydd crai’r gwin aur, mawr-ei-fri. Hon ydi dinas hynaf yr Almaen, meddan nhw, a dan yr enw Trevorum hi oedd prifddinas ogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig;…

# Rhifyn 7


O’r Pedwar Gwynt

Cyfrol a gyhoeddwyd ugain mlynedd yn ôl bellach yw hon, gyda darluniau cain gan Islwyn Williams. Fe’i hysgrifennwyd ar ffurf dyddiadur ac mae’n gofnod o’r bywyd gwyllt y daw’r awdur ar ei draws dros flwyddyn gron. Mae gwybodaeth Bethan Wyn Jones, fel y gŵyr unrhyw un sy’n…

# Rhifyn 7


Einion Gruffudd

Mae Kate Raworth yn cicio yn erbyn tresi ei phroffesiwn. Yn ei llyfr Doughnut Economics, a gyhoeddwyd y llynedd, â i gryn drafferth i egluro pam y dewisodd y fath deitl a pham mae angen rhoi cymaint o bwyslais ar ddarn bach…