Llên gobaith
Adolygu Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’
Lisa Sheppard
Y GYMRU 'DDU' A'R DDALEN 'WEN'
Gwasg Prifysgol Cymru, 256tt, £24.99, Mehefin 2018
Mewn cyfweliad yn dwyn y teitl ‘Gwleidyddiaeth Gobaith’ (‘The Politics of Hope’), dywedodd y beirniad a’r nofelydd Raymond Williams yn 1987, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, ei fod yn ystyried ei Gymreictod yn fodd i ddeall yr amwysedd a’r cymhlethdodau sydd heddiw’n rhan o bob hunaniaeth. Oherwydd ein hanes, ‘it’s easier for us [h.y., y Cymry],’ meddai, ‘to put questions to those simple, confident, unitary identities which really belong to an earlier historical period’.
Dyna’r gobaith sydd hefyd yn ymdreiddio trwy Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ – y gobaith fod yr hunaniaeth Gymreig, nid serch ond oherwydd ei holl ymraniadau, yn cynnal ffordd o feddwl sydd, neu o leiaf a fydd, yn gallu derbyn a chofleidio amlddiwylliannedd. Sail y gobaith yw’r syniad nad oes un aelod o’r gymdeithas yn y Gymru ddwyieithog gyfoes nad yw wedi gorfod ymdeimlo â’r ffaith mai ‘arall’ ydyw, yn sefyll y tu allan i’r norm. Oherwydd eu bod yn siarad iaith leiafrifol, y Cymry Cymraeg yw’r ‘arall’ mewn llawer cyd-destun Saesneg ei iaith. Daw iddynt yn hwyr neu’n hwyrach yr hyn a ddisgrifiwyd gan J R Jones fel ‘y profiad o wybod nid eich bod chwi yn gadael eich gwlad, ond fod eich gwlad yn eich gadael chwi’, sef profiad y mewnfudwr mewn cymdeithas ddieithr. Ar y llaw arall, mewn cyd-destunau gwahanol, atgoffir y Cymry di-Gymraeg eu bod hwythau yn sefyll y tu allan i hanes a thraddodiad eu gwlad oherwydd nad ydynt yn medru’i hiaith. Nid ydynt yn ‘Gymry go iawn’ ond yn ‘arall’ i’r norm hanesyddol. Ond wrth iddynt brofi’r fath ymdeimlad o ‘aralledd’, y gobaith yw y daw’r ddwy ochr yn fwy ymwybodol o hurtni creu diffiniadau o’r hunan sy’n dibynnu ar weld eraill fel yr ‘arall’, ac felly’n fwy abl i gynnal cymdeithas amlddiwylliannol, a chreu Cymru i bawb.
Cyfrol amserol iawn yw hon, felly, sy’n cychwyn gyda chyfeiriad at y modd y mae canlyniadau Refferendwm 2016 ar Ewrop wedi dwysáu ein hymwybyddiaeth o bwysigrwydd dod i ddeall tuedd cymdeithas i eithrio rhai o’i haelodau. Ceir yn ei phennod gyntaf ddadansoddiad o berthnasedd y theorïwyr ôl-drefedigaethol Frantz Fanon a Homi K Bhabha i’r pwnc hwn, ac esboniad treiddgar o’r modd y mae nifer o’u safbwyntiau pwysicaf yn hanu o athroniaeth Hegel, yn enwedig ei ddadansoddiad ef o’r berthynas rhwng ‘Meistr’ a ‘Gwas’. Yn ôl Hegel, mae’r meistr yn feistr dim ond oherwydd bodolaeth y gwas, ei ‘arall’, ond mae wastad yn bosibl i’r gwas droi’n rebel a thrawsnewid y berthynas. O’r herwydd ceir ymrafael parhaus rhyngddynt. Y nod yw deall y berthynas er mwyn cael gwaredigaeth oddi wrthi, a chreu gofod newydd lle gall hunaniaeth y ddau ddatblygu’n rhydd y tu hwnt i’r hen ‘gadwynau yn y meddwl’.
Yn y penodau sy’n dilyn cyfeirir yn aml at Hegel a’i ddadansoddiad o rym cymdeithasol er mwyn esbonio’r gwrthdaro rhwng cymeriadau ffuglen Gymreig ddiweddar. Y nofel arbrofol, aml-leisiog, yw pwnc yr ail bennod, lle cymerir nifer o destunau nad ydynt yn dilyn unrhyw genre traddodiadol ond sy’n cyfuno barddoniaeth, hunangofiant, y traethawd cofiannol ac ati yn yr un gyfrol. Y nod yw dangos sut, wrth newid genre a newid llais a safbwynt y traethydd, mae’r nofelau yn herio awdurdod, gan gynnwys awdurdod y nofel realaidd, ac yn creu gofod amgen ac ymwneud mwy hyblyg rhwng y gwahanol gymeriadau. Mae’r drydedd bennod yn canolbwyntio ar y modd y mae’r testunau, o’u cymharu a’u gwrthgyferbynnu, yn dangos ynfydrwydd y meddylfryd ystrydebol, ac yn creu gofod newydd heb y pegynu cyfarwydd rhwng Cymry’r Gogledd a’r De, y cymoedd ôl-ddiwydiannol a’r Gymru wledig. Canolbwyntir ar yr aralledd sy’n deillio o wahaniaeth iaith yn y bedwaredd bennod. Mewnfudwyr, a Chymry alltud yn dychwelyd, sy’n cael y sylw yn y bennod olaf ar y profiad o groesi ffiniau.
Darlithydd yn y Gymraeg, ym Mhrifysgol Caerdydd yw Lisa Sheppard, ond ni fagwyd hi ar aelwyd Gymraeg: dysgodd yr iaith yn yr ysgol. Mae byw a bod mewn cymdeithas ddwyieithog yn ehangu’r meddwl mewn mwy nag un modd yn ôl y gyfrol hon, sy’n argyhoeddi; mae’n creu dealltwriaeth o amrywioldeb, a gofod lle gall cymysgrywiaeth cymdeithasol ffynnu. Dyna reswm arall dros groesawu bwriad y Cynulliad i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050: pe baem wedi bod yn agosach at y nod hwnnw yn 2016, ni fyddai Cymru wedi pleidleisio dros Brexit.
Mae Jane Aaron yn Athro Emeritws yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru.