# Rhifyn 12
Iestyn Tyne
Y byd yn ddim a dim yn y byd
ond y mudandod yn disgyn yn denau.
Dyma’r dim-byd, gofod y bron-iawndod
sy’n mynd ac yn dod, wastad yn dawel –
y byd, coelia neu beidio, nad yw’n pydru,
nad yw’n boddi, fel y byddai.
Dyma’r wedyn, yr ar-ôl, y gallai-fod…