Adolygu

Cwm Rhydydynion

Adolygu Invisible Women

Caroline Criado Perez

Invisible Women: Exposing Data Bias in a World Designed for Men

Chatto & Windus, 432tt, £16.99, 2019

Cwm Rhydydynion
Dyfrig Williams

Amser darllen: 3 munud

11·04·2020

Mae gwaith dygn y newyddiadurwraig Carole Cadwalladr wedi sicrhau bod data wedi datblygu’n bwnc llosg heddiw: un o’i chyfraniadau nodedig oedd dadlennu sut y bu i ddefnydd Cambridge Analytica o ddata Facebook ddylanwadu ar ganlyniad refferendwm 2016 ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd. Ers hynny, cafwyd carreg filltir Shoshana Zuboff, The Age of Surveillance Capitalism (2018), sef astudiaeth o natur arbennig cyfalafiaeth ein cyfnod, cyfalafiaeth sy’n ffynnu ar ddata. Tua’r un adeg, yn ei chyfrol Hello World (2018), ystyriodd Hannah Fry hithau y defnydd amhriodol o ddata yn ein cymdeithas, gan ddadlau, os ydym am newid hyn, ei bod yn hanfodol peidio â bod yn llawn parchedig ofn tuag at algorithmau. Angen eu deall sydd, bod yn ymwybodol o’u ffaeleddau a chydweithio â deallusrwydd artiffisial er budd y ddynoliaeth, yn hytrach nag ildio i anwybodaeth. Oherwydd nid dim ond disgrifio’r byd a wna data; caiff hefyd ei ddefnyddio’n gynyddol i siapio’n dyfodol. Mae’n hanfodol felly ein bod yn effro i’r datblygiadau hyn.

Tueddir i gysylltu technoleg â’r gallu i newid pethau, ond yr eironi yw bod algorithmau yn dueddol o ategu a phorthi’r status quo mewn llawer ystyr hefyd. Yn ei chyfrol Invisible Women: Exposing Data Bias in a World Designed for Men, mae Caroline Criado Perez yn mynd â’r drafodaeth ynghylch sut y defnyddir data gam ymhellach, trwy ystyried sut mae arferion y maes hwn yn effeithio ar fenywod yn benodol. Defnyddir ymchwil sy’n bodoli’n barod i’r eithaf ganddi ac mae troednodiadau’n nadreddu drwy’r llyfr swmpus ond darllenadwy hwn. Fel y gellir disgwyl, mae’n llawn tystiolaeth o’r hyn mae Criado Perez yn ei alw’n ‘ddiffyg data’ ynghylch sut mae menywod yn byw eu bywydau, ac effaith y diffyg hwn ar hynt eu bywydau – diffyg data ansoddol o’u profiadau a data meintiol a geir o gynnwys menywod mewn astudiaethau ymchwil.

Disgrifir ganddi’n fanwl drwy gyfrwng enghreifftiau di-ben-draw y mathau gwahanol o ragfarn (bias) sy’n effeithio ar fenywod yn benodol. Mae’n agoriad llygad: er enghraifft, y modd y caiff menywod eu hepgor o’r broses ddylunio. Mae hyn wedi dylanwadu ar ddyluniad gwregys diogelwch ceir, ymysg myrdd o bethau eraill a gymerwn yn ganiataol. Nid yw’r gwregys mewn car yn diogelu menywod yn ddigonol oherwydd dyluniwyd y doliau prawf ar gyfer damweiniau ar sail cyrff dynion: pan mae menyw yn cael damwain car, mae hi 47% yn fwy tebygol na gwryw o gael ei niweidio’n ddifrifol ac yn 17% mwy tebygol o gael ei lladd. Manylir ar sawl enghraifft erchyll arall, gan gynnwys y modd y datblygir meddyginiaethau: fel arfer cynhelir yr ymchwil gyda dynion mewn golwg, ac yn wir nid yw’r prif gyllidwyr ymchwil yn cyfeirio o gwbl at ryw yn eu canllawiau. Mae hyd yn oed lefelau dos meddyginiaethau wedi eu hanelu at ddynion, ac o ganlyniad nid yw’r argymhellion yn aml yn addas i fenywod. Mae hynny oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng canran braster cyrff dynion a menywod, sydd yn effeithio ar gyfraddau metabolig. Ceir tystiolaeth hefyd fod rhai meddyginiaethau cyffredin ar gyfer lleihau pwysau gwaed, er yn gostwng cyfraddau marwolaeth mewn dynion, yn cynyddu tebygolrwydd menywod o farw o drawiad ar y galon. Heb brofion ymchwil clinigol sy’n ymdrin ag effeithiau meddyginiaethau ar y ddau ryw yn ddiwahân, mae’n amlwg ei bod yn her i feddygon i gynnig cyngor dibynadwy i fenywod. 

Cawn ein hatgoffa hefyd fod cancr y fron wedi cynyddu’n sylweddol yn ein byd diwydiannol yn ystod yr hanner canrif diwethaf. Ond diffygiol yw’r data ar gyfer asesu beth yn union sy’n gyfrifol am y cynnydd, a hynny oherwydd diffyg ymchwil ar fyd gwaith ac amgylchfyd menywod mewn perthynas â’r corff benywaidd. Yn wir, yn ôl Criado Perez, mae’r bwlch hwn rhwng data a gasglwyd ar sail profiad menywod a data a gasglwyd ar sail profiad gwrywod yn cynyddu: mae’n debyg mai chwyddo yn hytrach na lleihau anffafriaeth sy’n bodoli eisoes yw un o wendidau ‘Big Data’.

Darllenwch y gyfrol hon ac fe gewch dystiolaeth ddi-ben-draw fod rhagfarn ar sail rhyw – rhagfarn anymwybodol yn aml iawn – nid yn unig wedi ei hymgorffori yn nyluniad ein cynnyrch (cofier am yr iPhone sy’n hylaw mewn llaw wrywaidd ond nid mewn llaw fenywaidd, neu’r dechnoleg adnabod llais sy’n ymateb yn gymaint gwell i lais dwfn), ond hefyd yn dylanwadu ar ein polisïau ac ar waith yn yr algorithmau a ddefnyddir i benderfynu cwrs ein byd. Trwy ystyried gwryw yn gyfystyr â dyn, ac felly’r ddynoliaeth, parhau a wnawn i wneud cam â menywod, cam a all fod i gynifer yn ddim llai nag angheuol. 

Tueddir i gysylltu technoleg â’r gallu i newid pethau, ond yr eironi yw bod algorithmau yn dueddol o ategu a phorthi’r status quo mewn llawer ystyr hefyd

Pynciau:

#Rhifyn 12
#Ffeministiaeth
#Dyfrig Williams
#Technoleg
#Deallusrwydd Artiffisial