# Rhifyn 3
Jan Morris gyda Twm Morys
Cefais ergyd neithiwr. Sylweddolais nad y fi fues i ydw i. Gwyddwn, wrth reswm, yn y 91ain flwyddyn o'm bywyd chwim braf, nad ydw i mor ystwyth fy nghoesau ag y byddwn, nac mor gry' fy ngolwg, a bod fy nhro beunyddiol wedi arafu.