Baner cywilydd
Cyhoeddi Rhifyn Gaeaf 2020
I'w ryddhau: 12 Rhagfyr 2020
Baner cywilydd Jerry Hunter, hanes cudd yr EwroGymry, bwyd i bawb, cwpan lawn Angharad Price a chofio Jan Morris ...
Yn Rhifyn Gaeaf 2020 O’r Pedwar Gwynt, cyhoeddir ysgrif bersonol brin gan Jerry Hunter. Yn ‘Donald Trump, y CBF a fi’ mae’n rhannu ei brofiadau fel un a fagwyd yn Ohio cyn ymgartrefu yn Arfon 20 mlynedd yn ôl. Trafodir ganddo arwyddocâd y ‘Confederate Battle Flag’ (baner gwrthryfelwyr y de), ac yn ogystal â phenodau pwysig yn hanes yr Unol Daleithiau, cawn ddarllen am benodau arwyddocaol yn hanes ei deulu yntau.
Ar drothwy ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd, mae Pwyll ap Siôn yn holi pam mae cynifer o bobl wedi troi at gerddoriaeth Kraftwerk er mwyn chwilio am atebion i gwestiynau dyrys Brexit. Hanes cudd yr EwroGymry sydd dan chwyddwydr M Wynn Thomas – ‘y dolennau cyswllt dychmygus a gwerthfawr rhwng Cymru a gwledydd y Cyfandir’. Dadleua bod gwerth y berthynas ag Ewrop i Gymru yn cael ei gwrthbwyso gan werth Cymru i Ewrop.
O’r Cyfandir i’r byd: sut mae sicrhau bwyd i bawb? Canolbwyntia Carol Bell ein sylw ar fater cynyddol argyfyngus cynhyrchu bwyd: nid problem gwledydd incwm isel yn unig mo newyn beunyddiol – mae’n broblem gynyddol mewn gwledydd incwm uchel yn ogystal, a dadleua y dylai polisi bwyd priodol fod ar frig agenda’r llywodraeth.
Oedi ar gyrion Ewrop, yn Algiers, a wna Siôn Pennar, er mwyn edrych yn ôl ar y presennol o ddyfodol 2082. Mae’n dadansoddi hanes treisgar Algeria annibynnol trwy gyfrwng ei hawduron, ac yn gweld yn eu gwaith yr her galed o drechu deuoliaethau – her gyfarwydd efallai i genhedloedd sydd wedi byw yng nghysgod grymoedd imperialaidd.
Straeon ‘trosedd go iawn’ sydd ar feddwl Casi Dylan. Cwestiyna duedd y genre i ‘gyfalafu trosedd a throseddwyr’ a myfyria ar ei apêl ymhlith menywod yn arbennig. ‘Mae rhyddhad yn dod,’ meddai, ‘o roi ffurf ar yr ofnau afluniaidd o’m mewn.’
Mewn ysgrif am atgof plentyndod mae Angharad Price yn pendroni pam fod y gwpan a’r soser ar ei desg, na fydd byth yn eu defnyddio, bob amser yn llawn. Cyhoeddwn hefyd deyrnged arbennig i Jan Morris ganddi yn y rhifyn hwn. ‘Fe’ch gadawai, waeth pa mor fyr y cyfarfyddiad,’ ysgrifenna, ‘â’r teimlad eich bod yn cyfri.’
A ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae Cynog Dafis yn ailddychmygu Cristnogaeth, ac yn edrych i’r Dwyrain am arweiniad. Ac mae R Gareth Wyn Jones yn trafod amwysedd y natur ddynol gan dynnu ar syniadaeth gyfredol am seicoleg esblygiadol a chan ein hatgoffa mai ‘heb ei fai, heb ei eni’.
A chylchgrawn Planet yn dathlu ei ben blwydd yn hanner cant eleni, cyhoeddwn gyfweliad â’r sylfaenydd Ned Thomas am ddegawd cynta’r cylchgrawn a chyfnod cythryblus y 70au. ‘Cawsom ein bygwth ag achosion enllib; gofynnwyd mwy nag unwaith i Gyngor Celfyddydau Cymru dynnu’n grant yn ôl,’ dywed, ‘a hynny gan unigolion dylanwadol.’
Ymhlith toreth o gyfraniadau eraill, mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cywydd gan Alan Llwyd er cof am y bardd distaw Dewi Stephen Jones; colofn newydd – arloesol yn Gymraeg – sy’n trafod y sêr; sylwebaeth ddeifiol nodweddiadol Mihangel Morgan yn Gwynt y Dwyrain, lle mae’n trafod cyfrol Glyn Penrhyn Jones, Newyn a Haint yng Nghymru (1962); a lloffion diweddaraf ein llenor, Derfel Clarke. Mae Grug Muse yn nofio yn Llyn Nantlle Uchaf, Samuel Jones yn olrhain gwleidyddiaeth Pwtin i’w gyfnod ‘tu ôl i’r llenni’ yn gweithio i’r KGB yn Dresden, a chawn glywed barn Angharad Penrhyn Jones ar nofel gyntaf ‘ysgytwol’ yr awdures ifanc o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter.
Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 40-48tt.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Penrhyn Jones trwy’r cyfeiriad ebost angharad@pedwargwynt.cymru neu ar 07896 984858.
Nodiadau i’r Golygydd
• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
• Mae rhifynnau arbennig yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
• Mae O'r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.