Y Wasg

Cyfle i weithio efo O’r Pedwar Gwynt

Golygydd Cysylltiadau Cyhoeddus

O’r Pedwar Gwynt
06·10·2022

Golygydd Cysylltiadau Cyhoeddus.

Cytundeb llawrydd – yn gyfwerth â 2-4 diwrnod y mis yn y lle cyntaf. Telerau i’w trafod. I ddechrau cyn gynted â phosib.

Rydym yn chwilio am unigolyn (neu gwmni) i’n cynorthwyo i ddatblygu ein gwaith marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Mae O’r Pedwar Gwynt yn agor pennod newydd yr hydref hwn ac yn dechrau cyhoeddi llyfrau. Bydd ein llyfr cyntaf, y nofel Cymru Fydd gan Wiliam Owen Roberts, yn cael ei lansio 25 Tachwedd yn ein cartref newydd yn y Senedd-dy ym Machynlleth. 

Bydd yr unigolyn delfrydol yn medru sgwennu â steil, yn golygu’n fedrus ac yn ddarllenydd craff. Mi fydd â diddordeb ysol mewn llenyddiaeth, syniadau, a materion cyfoes byd-eang. Mi fydd â’r chwilfrydedd a’r sensitifrwydd i ddethol y dyfyniadau sy’n dal ysbryd y foment i’w rhannu â’n dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Mi fydd yn medru sgwennu copi marchnata sy’n fywiog, yn onest a deallus. Mi fydd â llygad da hefyd, yn gwerthfawrogi gwerthoedd gweledol O’r Pedwar Gwynt, ac yn medru creu asedau hyrwyddo addas. Mi fydd i fyny â’r datblygiadau diweddaraf yn y maes digidol ac yn mwynhau chwilota yn ein harchif, gan dracio a chynyddu’r cyswllt rhwng cynnwys O’r Pedwar Gwynt a’n darllenwyr. Mi fydd yn drefnus, wedi arfer gweithio’n annibynnol ac i amserlen dynn – ac yn cael pleser o gydweithio.

Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Cydlynu, cynnal, a chreu asedau ar gyfer ffrydiau Facebook, Twitter ac Instagram O’r Pedwar Gwynt – a hynny â chreadigrwydd a chan gadw at amserlen;
  • Cydweithio gyda’r Cyhoeddwr i ddatblygu strategaeth cysylltiadau cyhoeddus a marchnata y cwmni, gyda phwyslais arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol;
  • Bod yn gyswllt i ddarllenwyr a chyfranwyr sydd yn ymateb i’n cynnwys ar lein;
  • Arwain ymateb O’r Pedwar Gwynt i ddigwyddiadau cyfoes sy’n berthnasol i ddiddordebau ein darllenwyr;
  • Dod o hyd i ffyrdd dyfeisgar o hyrwyddo cynnwys cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt a Llyfrau O’r Pedwar Gwynt, ac annog ffyrdd newydd o ymwneud efo’n harchif;
  • Casglu, dehongli ac ymateb i fetrics ar ddarllenwyr a chynnal cynulleidfaoedd.

Sgiliau a chymwysterau:

  • Diddordeb byw mewn llenyddiaeth, syniadau, a materion cyfoes, a’r sgyrsiau sy’n datblygu ohonynt; crebwyll golygyddol; y gallu i sgwennu yn graff, yn gywir ac yn fywiog;
  • Profiad proffesiynol ym maes cysylltiadau cyhoeddus/hyrwyddo digidol yn y diwydiant cyhoeddi – neu mewn cyd-destun llenyddol, gwleidyddol, neu gelfyddydol;
  • Profiad proffesiynol o ddefnyddio amrywiol blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, Google Analytics, rhaglenni targedu cynulleidfaoedd, technegau optimeiddio chwilwyr, ac ati; a phrofiad o greu asedau gweledol a fideo.

Gyrrwch eich CV a llythyr yn mynegi diddordeb yn y rôl hon at y Golygydd: gol@pedwargwynt.cymru. Yn y llythyr, rhowch syniad i ni o’ch arferion darllen, ac amgaewch ddadansoddiad o gryfderau a gwendidau proffil cyfredol O’r Pedwar Gwynt ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â syniadau ynghylch sut y gellid ei wella.

Bydd O’r Pedwar Gwynt yn falch o glywed gan unrhyw un yn unrhyw le ac o unrhyw gefndir sydd â diddordeb yn y rôl hon. Mae croeso i gwmnïau hefyd fynegi diddordeb. Cysylltwch am sgwrs, yn arbennig os ydych â diddordeb ond yn ansicr a ydy eich cymwysterau yn cyfateb yn union i’r gofynion.

Mwy am O’r Pedwar Gwynt

  • Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
  • Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
  • Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
  • Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
  • Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan gwmni annibynnol O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
  • Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
  • Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine;
  • Yn Hydref 2022 bydd cwmni O’r Pedwar Gwynt yn dechrau cyhoeddi llyfrau;
  • Cartrefir O’r Pedwar Gwynt yn y Senedd-dy, Machynlleth.