Y Wasg

Hud madarch a’r we fyd-eang

Rhifyn Haf 2021

04·08·2021

I'w ryddhau 7 Awst 2021

Hud madarch a'r we fyd-eang, creu arweinwyr ac awen i bawb ...

Mae Rhifyn Haf 2021 O’r Pedwar Gwynt yn tyrchu i fyd cyfareddol y ffyngau. Pam fod dealltwriaeth o ffyngau yn gynyddol berthnasol heddiw? Dyma 'rwydwaith dirgel sy'n cydio popeth byw mewn cyflawn we, a benthyg delwedd o un o gerddi enwocaf Waldo Williams,' meddai Marc Edwards. Nid dim ond y cyfansoddwr John Cage sydd wedi ei gyfareddu: mae cynllunwyr a phenseiri erbyn hyn yn prysur ddychmygu dinasoedd iwtopaidd sy'n seiliedig ar ffyngau. Ai dyma bolyester yr 21g?

Trafod disodli'r meddwl Cymraeg gan y meddwl Saesneg y mae Simon Brooks yn ei ysgrif 'Prydeindod'. Mae'n rhoi'r bai ar dwf cenedlaetholdeb sifig ac yn gresynu hefyd mai 'anoddefgarwch syniadol yw un o briodeleddau pennaf Homo Digitalis y Gymru gyfoes'. 

Mae'r gallu i greu dilynwyr i'w ddisgwyl gan wleidydd, ond faint o wleidyddion sydd â'r hyder i greu arweinwyr? Dadleua Angharad Penrhyn Jones yn ei theyrnged iddi fod Leanne Wood yn enghraifft berffaith o arweinydd oedd am weld eraill 'yn codi ar eu traed, yn darganfod eu llais'.

Beth fyddai gan Gwyn Thomas i'w ddweud am instagerddi a'r twf diweddar ym mhoblogrwydd barddoniaeth? Ai democrateiddio'r awen yw hyn? Elen Ifan sy'n darllen No one is talking about this gan Patricia Lockwood ochr yn ochr â gweithiau'r instafeirdd yn Gymraeg a Saesneg.

Yn ogystal â'r golofn arferol 'Darllen llun' sy'n trafod gwaith y ffotograffydd Tsiec Markéta Luskačová, ceir colofn newydd sbon y tro hwn yn trafod ffilm. Dylan Huw sydd wedi rhoi cychwyn arni ac mae'n dilyn creadigaeth y gwneuthurwr ffilm Tsai Ming-liang wrth iddo dramwyo'n osgeiddig-araf o Hong Kong i Marseille i Tokyo.

Yn eu colofnau hwythau, mae Dylan Foster Evans yn trafod fajitas, Siân Melangell Dafydd yn deffro ben bore i yfed diod effros, Huw L Williams yn gweld pwysicrwydd ansicrwydd, Mihangel Morgan yn cael clonc ar y gweleffon, Emyr Ll Gruffudd yn trafod Straeon Kinky a Ned Thomas yn gofyn beth petai'r cyfieithydd yn fradwr go iawn?

Ac yn ogystal â’r adolygiadau arferol, y gwaith cyfansoddi a’r croesair, mae gennym gyfweliad â Silvia Federici, un o sylfaenwyr y mudiad Wages for Housework yn nechrau'r saithdegau; mae R Gareth Wyn Jones yn darllen cyfrol ddiweddaraf James Lovelock, sy'n croesawu dyfodiad y cyborgiaid; Mererid Hopwood yn trafod troadau ieithyddol y cyfandir; Patrick Carlin yn dadansoddi'r berthynas rhwng trais gwleidyddol a llenyddiaeth yng Ngwlad y Basg; a Llewelyn Hopwood yn edrych ar sut mae ein canfyddiad o sain wedi newid ers cyfnod Dafydd ap Gwilym. Heb anghofio Derfel Clarke sydd wedi ei gynddeiriogi am iddo gael ei alw'n Gamon, a’r golofn sêr arferol sy’n gofyn beth yw sêr-ddewiniaeth wleidyddol?

Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 48tt.

Ceir casgliad o luniau yn y fan hon.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â cyfathrebu@pedwargwynt.cymru

Nodiadau i’r Golygydd

• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;

• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;

• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;

• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;

• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;

• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;

• Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.

Pynciau:

#Rhifyn 16