Pobl y tir a phobl y môr
Cyhoeddi Rhifyn Gwanwyn 2020
I’w ryddhau: 10 Ebrill 2020
Hanes personol teulu morwrol, gofod newydd COVID-19, a dathlu’r weithred o gerdded yn yr awyr agored ...
Wrth i ni ddod i adnabod ein milltir sgwâr yn well yn ystod y pandemig, mae ein rhifyn Gwanwyn 2020 yn myfyrio ar gyfoeth y pethau bychain a’r pethau lleol yn ogystal â chodi ein golygon at y byd ehangach a’i le yn y cosmos.
Bywyd y môr sy’n cael sylw Ceridwen Lloyd-Morgan, mewn ysgrif am ei phrofiad fel merch i gapten llong. Trafoda pam fod yn well gan berchnogion llongau masnach o Brydain a thu hwnt gyflogi Cymry (roeddent ‘yn fodlon mynd i rywle, gydag unrhyw lwyth, gydag unrhyw griw’) a pham ei bod yn anodd i’w thad ‘symud o fyd cyfan gwbl wrywaidd ar fwrdd llong i fyd mwy “benywaidd” bywyd teuluol’.
Troi at gerdded mae Angharad Penrhyn Jones, sydd wedi bod yn crwydro llwybrau ei milltir sgwâr yn Sir Drefaldwyn. Myfyria ar y cysylltiad rhwng cerdded, creadigrwydd a’n canfyddiad o amser, effaith cerdded ar iechyd y meddwl a’r corff, a’r argyfwng yma yng Nghymru a achosir gan y bywyd eisteddog.
Mae Siân Melangell Dafydd hefyd yn dathlu ei chynefin yn ei cholofn natur newydd, gan drafod sut mae defnyddio’r planhigion bychain sy’n tyfu o dan ein traed, ‘yn y ffin rhwng trefn a gwylltineb’, i wneud pryd o fwyd yn fwy blasus.
Llŷr Gwyn Lewis sy’n mynd am dro â’r bardd a’r nofelydd Robert Minhinnick. Maent yn sgwrsio am dywod ei gynefin a sut y bu iddo dreiddio i waith Minhinnick, gan ‘sleifio rhwng y llinellau’; am ei gymhelliad dwfn i sgwennu am y llain hwn o dir a môr rhwng Porthcawl ac Aberogwr; a pham ei fod, er ei holl gyfnodau dramor, yn ‘berson eitha lleol fy ffordd’.
I dde-ddwyrain Asia mae Dyfan Lewis yn teithio, lle mae’n cnoi cil ar dwristiaeth ac yn darganfod ystyr dyfnach i’r geiriau ‘money talks’ o’r albym Bringin it all Back Home gan Bob Dylan. ‘Er i ni ddod o lefydd gwahanol,’ meddai, ‘a siarad ieithoedd gwahanol, y peth cyson a chyhafal yr oeddem yn ei rannu (heblaw am de) oedd cyfalafiaeth.’
Yn ei cholofn, gofynna Jan Morris, ‘Beth goblyn sydd wedi digwydd inni?’; Emyr Ll Gruffudd sy’n trafod dylanwad llenyddiaeth ar lofruddion; a Mihangel Morgan sy’n cofio plant ysgol yn cael chwip din.
Rydym yn falch o gyhoeddi’r colofnau arferol yn ogystal, gwaith creadigol newydd a thwr o adolygiadau. Hefyd yn y rhifyn hwn, mae Aled Jones Williams yn pendroni ynghylch ffawd; Mererid Puw Davies yn gofyn a oes angen ‘ffordd amgen o edrych ar bethau’ yn niwl yr argyfwng presennol; Grug Muse yn myfyrio ar ddefod; Karen Owen yn gwerthfawrogi ‘hen ddynion a’u hathroniaeth’; Casi Dylan yn cofio’r awdur athrylithgar o’r Alban, Alasdair Gray; a Morgan Owen yn trafod problemau Deallusrwydd Artiffisial yn y cyd-destun Cymreig. Cyhoeddir hefyd ysgrif gan Sioned Puw Rowlands ar COVID-19 a chyfrifoldebau personol brawychus y pandemig hwn.
Meddai Sioned Puw Rowlands, y Golygydd: ‘Wrth inni wynebu argyfwng iechyd ac economaidd byd-eang ac encil digynsail, gobeithiaf y bydd ein rhifyn gwanwyn yn gwmni dwys a difyr i’n darllenwyr, ac yn gyfle i deithio yn y dychymyg. Rydym yn ddiolchgar am ymddiriedaeth ein tanysgrifwyr, cyfranwyr a hysbysebwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gellir tanysgrifio neu archebu copïau unigol yn uniongyrchol trwy’n gwefan. Bydd cyflenwad o gopïau hefyd ar werth mewn nifer cyfyngedig o siopau bwyd ar draws Cymru a thrwy archeb yn Palas Print, Caernarfon a Siop Lyfrau Penrallt, Machynlleth.’
Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 40-48tt.
I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau i'r wasg, cysylltwch ag Angharad Penrhyn Jones – angharad@pedwargwynt.cymru / 07896 984858.
Nodiadau i’r Golygydd
• Mae O’r Pedwar Gwynt yn trafod ac yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Gwanwyn, Haf, Gaeaf – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
• Mae O'r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.