Y Wasg

Y gwastadedd a’r gwylltir

Cyhoeddi Rhifyn Haf 2020

06·08·2020

I’w ryddhau: 8 Awst 2020

Merched yn ôl yn y gegin yn ystod y cyfnod cloi, nepotistiaeth yng Nghymru, Affrica yn Ewrop, a chofio Iola Gregory a’i gwely yn y gwylltir ...

Mae rhifyn haf O’r Pedwar Gwynt yn agor gyda ‘Slwtsh gwraig tŷ’, ysgrif finiog gan Eluned Gramich ar yr ‘anghydraddoldeb sylweddol’ sy’n bodoli rhwng mamau a thadau o hyd. Trafodir ganddi ei phrofiad o fagu plentyn, o fod yn gaeth yn ystod y cyfnod cloi a pham fod ei chanfyddiad o amser wedi newid ers rhoi genedigaeth. Wrth i’r dyddiau o’i blaen ymestyn ‘fel paith, fel gwastadedd na ellir ei groesi’, dadleua y dylai’r gwaith domestig a wneir gan ferched ‘fod yn weladwy’ a chael ‘ei gydnabod a’i ystyried yn gyfartal â gwaith cyflogedig’.

Nepotistiaeth sydd wrth wraidd ‘ein hanallu fel diwylliant i fod yn agored i her a beirniadaeth’, yn ôl Rhianwen Daniel. Yn ei herthygl, mae hi’n craffu ar economi Cymru, ein sefydliadau gwleidyddol a’n cyrff cyhoeddus, gan gofio am wirioneddau My People Caradoc Evans. ‘Hyd nes bydd yr amharodrwydd hwn i gwestiynu yn cael ei ddiwygio,’ dadleua, ‘ni all y Cymry fod yn genedl ddemocrataidd mewn unrhyw fodd ystyrlon.’

Mewn ysgrif bersonol ac ingol, dyg Angharad Elen ei mam, Iola Gregory, i gof. Mae’r gwely lle bu’n gorwedd wrth farw, mewn llecyn yn ei chartref a arferai fod yn ‘jyngl’, yn ddechrau ar fyfyrdod sy’n ei harwain at La casa de los espíritus gan Isabel Allende: a dyma ‘[d]deffro’r enaid swrth gyda’r dychymyg’.

Beth yw hanfodion prifysgol? Fe wyddai Alwyn D Rees, yn ôl M Wynn Thomas. Ar drothwy ailagor neuadd Pantycelyn, mae’n talu teyrnged i un a weithiodd ‘mor ddiarbed i’w sefydlu, a hynny er mawr les i’r genedl gyfan’.

Caiff Ned Thomas y cyfle i deithio eto i bellafion Ewrop – o Mosco i Gibraltar – yng nghwmni Johny Pitts, awdur y llyfr taith anghyffredin, Afropean: Notes From Black Europe. Mae hon yn daith i gyfarfod â phobl dduon dinasoedd cyfarwydd, pobl sydd yn aml ‘yn crafu byw ar gyrion y gymdeithas sefydlog a chyfreithlon, mewn maestrefi neilltuedig, a’u llafur yn cadw’r canolfannau mawr i fynd’. Trafodir olion yr ymerodraethau gynt ar wledydd Ewrop ac

fe gawn ein hatgoffa mai nid hanes gorffenedig yw hyn: ‘Os yw’r rheibwyr gwreiddiol wedi mynd, mae Ewrop yn dal i elwa o’r hyn a ladratwyd.’

Bu Mererid Puw Davies hefyd ar y cyfandir, yn Fenis, wrth ailddarllen nofel eiconig Thomas Mann, Der Tod in Venedig. Gan Iwan Rhys Morus rhoddir inni ogwydd yr hanesydd ar ddamcaniaeth R Gareth Wyn Jones yn ei gyfrol arloesol, Energy: The Great Driver. Ac mae Iestyn Tyne yn dathlu cyfraniad Elin ap Hywel, bardd ‘a haeddai well, ac a adawyd yn rhy hir o lawer i ganu yng nghysgodion ein llên’.

Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys llawer mwy, a’r adolygiadau a’r colofnau arferol, ynghyd â stori fer brin gan Wiliam Owen Roberts. Rhoddir y gair olaf i Jan Morris sy’n trafod pwysigrwydd pum cydymaith ffeind: ‘Caredigrwydd, Parch, Hiwmor, Symlrwydd a Gobaith’.

Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 44tt.

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch ag Angharad Penrhyn Jones – angharad@pedwargwynt.cymru / 07896 984858.

Nodiadau i’r Golygydd

• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;

• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;

• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;

• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;

• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;

• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;

• Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.