Dyna eiriau Saunders Lewis pan ofynnwyd iddo am ganiatâd i addasu Siwan yn opera. Cynhwyswyd y geiriau hynny yn rhaglen addasiad operatig newydd o Y Tŵr gan Gwenlyn Parry. Ond ai dewrder neu ffolineb oedd hynny?
Gan nad oes sicrwydd o hyd am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, teimlai’r gweisg Cymraeg sy’n aelodau o Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru y byddai’n dda cael o leiaf un digwyddiad sy’n denu pobl i drafod, darllen a phrynu llyfrau Cymraeg y tu allan i’r…
Ryw drigain mlynedd yn ôl, datgelwyd rhai o gyfrinachau Thomas Jones Pencerrig i'r byd. Daeth nifer o'i luniau ar y farchnad am y tro cyntaf - rheiny'n fychain eu maint, personol eu naws ac arloesol eu mynegiant. Delweddau digon diymhongar ar un…
Mae dwy gyfrol am yr hyfforddwr rygbi Carwyn James yn cynnig dwy weledigaeth wahanol iawn o Gymru - ac o'r berthynas rhwng magwraeth a diwylliant, chwaraeon a bywyd a chyfiawnder. Ai maes gwastad yw'r maes chwarae?
Roedd hi’n anodd gwybod ble i ddechrau wrth adolygu dwy gyfrol mor wahanol â’r rhain. ‘Yn Ffrainc, fis Mehefin diwethaf,’ fyddai’r cyngor amlwg, oherwydd dyna’r llinyn cyswllt rhwng y ddau lyfr. Ond mae i hynny broblemau, a hynny’n bennaf oherwydd…
Wrth dafoli ffurf yr ysgrif ac ymwneud awduron Cymraeg â hi, cyfeiriodd John Breese Davies at wireb honedig a ddeil mai ‘dawn at wneuthur gweithiau byrion ydyw dawn y Cymry’. Unllygeidiog fyddai cytuno â hynny, ond anodd yw peidio â sylwi ar y cnwd…
Ers degawdau olaf yr ugeinfed ganrif mae’r nofel neo-Fictoraidd wedi bod mewn bri ym Mhrydain – nofel, hynny yw, wedi ei gosod yn gwbl neu’n rhannol yn oes Fictoria, gyda’r nod o ddatgelu rhai o gyfrinachau’r oes honno a hefyd ddangos ei dylanwad ar…
Mae Celwydd a Choncwest yn affwysol, yn ddi-ildio, yn waradwyddus, yn dorcalonnus ac yn anfaddeuol o drist. Ond y mae hefyd yn llyfr angenrheidiol. Hynny yw, tra bydd Prydain, bydd y llyfr hwn yn parhau i fod yn angenrheidiol.
Roedd yn bleser digymysg i ni fel teulu fod gwasg Honno wedi penderfynu ailgyhoeddi Mae’r Galon wrth y Llyw. Er i fy mam, Kate Bosse-Griffiths, ysgrifennu storïau byrion yn dilyn cyhoeddi’r nofel hon yn 1957, ynghyd â llyfrau taith am yr Almaen,…
Dywedodd rhywun fod darllen Min Kamp fel agor dyddiadur rhywun arall a chanfod eich cyfrinachau eich hun. Dyna’n union fy mhrofiad innau. Efallai fod y cyfnod, y lleoliadau a’r bobl yn wahanol, ond bron na theimlwn fod Karl Ove wedi byw fel fi ...
Cwlwm o bechodau ac euogrwydd sy’n rhwymo nofel newydd Elen Wyn ynghyd, a greddfau mamol sy’n gyrru ei chymeriadau. Ond merched treisgar yw'r rhain; menywod sydd wedi crwydro yn eithaf pell o ystrydeb ‘mam Gymreig’ Dr Kate.
Bu cryn ddisgwyl am Abermandraw, cyfrol ryddiaith gyntaf y Prifardd Rhys Iorwerth. Elan Grug Muse sy'n cloriannu'r portread deifiol hwn o gymdeithas Gymraeg ddosbarth gweithiol ynghyd â chymeriadau benywaidd y dref ddychmygol.
Ganwyd Joseph Clancy (1928-2017) yn Efrog Newydd, lIe y daeth yn ddiweddarach yn Athro Saesneg a Drama yng Ngholeg Marymount, Manhattan. Ef bellach yw'r cyfieithydd mwyaf cynhyrchiol a chyson, dros gyfnod hir iawn, a gafwyd yng Nghymru erioed.
Ni chyhuddwyd Rhys Mwyn erioed o fod yn ddyn heb genhadaeth. Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Cam Arall i'r Gorffennol, yn chwilio arwyddocâd a dylanwad ein chwedlau a’n hanesion - ac yn ysgogi ein hadolygydd i weithredu!
Wrth syllu’n hir ar silffoedd siopau llyfrau sy’n gorlifo o gyfrolau o bob siâp, lliw a llun, mae dod o hyd i lyfr da i blentyn dan bump oed yn medru bod yn fwy o gamp na’r disgwyl.
Dyma ddwy gyfrol o straeon byrion gan awduron sy'n amlwg wedi ffoli ar y ffurf. Maent yn storïwyr profiadol — enillodd un o'r cyfrolau dan sylw Brif Wobr Llyfr y Flwyddyn yn Saesneg yn 2016 i Thomas Morris ac mae Jon Gower yntau yn gyn-enillydd…
Tudalen 29 o 31
Tanysgrifio